YGDCG Cynllun Siarad

Siarad: Cefnogi dysgwyr trwy ‘siarad’ gyda’n gilydd / National scheme matches Welsh learners with Welsh speakers

Yn Dysgwyr/Erthyglau

Bydd cyfle i ddysgwyr Cymraeg ym mhob cwr o Gymru ymarfer yr iaith a magu hyder newydd wrth i gynllun o’r enw ‘Siarad’ gael ei gyflwyno’n genedlaethol gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Welsh learners will be able to practise the language and gain new confidence as a scheme called ‘Siarad’ is introduced across Wales by the National Centre for Learning Welsh.

Nod y cynllun gwirfoddol, sy’n paru siaradwyr Cymraeg gyda dysgwyr, yw codi hyder dysgwyr trwy roi cyfle iddynt sgwrsio yn anffurfiol gyda siaradwyr rhugl. Peilotwyd y cynllun mewn pedair ardal yn gynharach eleni, ac yn dilyn yr ymateb brwd a gafodd, bydd yn cael ei gyflwyno’n genedlaethol o fis Medi ymlaen. Bydd parau yn ymrwymo i gwrdd am o leiaf 10 awr i sgwrsio ac ymarfer.  Bydd y dysgwyr hefyd yn cael eu cyflwyno i gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hardaloedd. Mae’r cynllun ar gyfer dysgwyr sy’n dysgu ar lefel Canolradd/Uwch y sector Dysgu Cymraeg.  Bydd yn cael ei weinyddu gan 10 o ddarparwyr y Ganolfan; mae pedwar Coleg Addysg Bellach yng Nghymru hefyd wedi ymrwymo i’r cynllun.

The aim of the voluntary scheme, which matches Welsh learners with Welsh speakers is to give learners a chance to practise speaking Welsh in an informal setting. Following a successful pilot held in four areas earlier this year, the scheme will be rolled out nationally from September onwards. Pairs undertake to meet for at least 10 hours of practice.  Learners will also be introduced to opportunities to use Welsh in their areas. The scheme is designed for learners at the Learn Welsh sector’s Intermediate/Higher levels.  It will be administered by 10 of the Centre’s providers; four Further Education Colleges in Wales have also committed to the scheme.

Meddai Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: / Eluned Morgan AM, Minister for Welsh Language and Lifelong Learning, said:

Mae gyda ni gyd gyfraniad i’w wneud i’r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae’r cynllun ‘Siarad’ yn ffordd wych o gefnogi dysgwyr ac agor y drws i brofiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.We all have a contribution to make to achieve the Welsh Government’s aim of a million Welsh speakers by 2050, and the ‘Siarad’ scheme is an excellent way of supporting learners and opening the door to experiences through the medium of Welsh.
Mae’n galonogol tu hwnt i glywed bod y cynllun eisoes wedi cynnig cyfle i gynifer o ddysgwyr a siaradwyr ddefnyddio a mwynhau’r iaith gyda’i gilydd mewn cyd-destun anffurfiol a chwbl naturiol.It’s extremely encouraging to hear the scheme has already offered opportunities to so many learners and speakers to use and enjoy the language together in an informal and natural context.
Rwy’n falch iawn bod modd i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ehangu’r cynllun o fis Medi er mwyn i ddysgwyr ar draws Cymru elwa o’r gefnogaeth.I’m delighted the National Centre for Learning Welsh is able to extend the scheme from September onwards so that learners across Wales can benefit from this support.

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: / Helen Prosser, Director of Strategy for the National Centre for Learning Welsh, said:

Mae’r ymateb i’r cynllun peilot wedi bod yn wych. We’ve had a great response to the pilot project.
Mae dysgwyr yn dweud eu bod nhw wedi dod i’r arfer o ddefnyddio’r Gymraeg wrth gymryd rhan yn y cynllun, a magu hyder i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth. Mae siaradwyr Cymraeg hefyd wedi gwerthfawrogi’r cyfle i gefnogi unigolion sy’n dysgu – mae pawb wedi elwa. Learners say they have become accustomed to using Welsh when taking part in the scheme, and have gained confidence to use the language outside the classroom. Welsh speakers have also welcomed the opportunity to support individuals who are learning - everyone has benefited from the scheme.
Mae creu cyfleoedd newydd a phrofiadau positif i ddysgwyr fwynhau’r Gymraeg yn rhan hollbwysig o waith y Ganolfan, ac edrychwn ymlaen at gyflwyno’r cynllun hwn ledled Cymru.Creating new opportunities and positive experiences for learners to enjoy the Welsh language is a vital part of the Centre’s work, and we look forward to introducing this scheme across Wales.

Meddai Alex Sullivan, dysgwr yn y peilot: / Alex Sullivan, a learner in the pilot said:

Alex ydy fy enw a dros yr haf, cymerais i ran yn y cynllun Siarad er mwyn helpu fi gyda fy Nghymraeg. Alex is my name and over the summer, I took part in the Siarad scheme to help me with my Welsh.
Yn wreiddiol, daeth fy mam-gu o Frechfa ger Caerfyrddin, a chafodd hi ei magu yn y Gymraeg. Yn anffodus, symudodd hi i Gaerdydd fel plentyn ac wedyn colli ei Chymraeg. Dyna ran o'r rheswm pam penderfynais i ddysgu Cymraeg chwe blynedd yn ôl.Originally, my grandmother came from Brechfa near Carmarthen, and she was brought up in Welsh. Unfortunately, she moved to Cardiff as a child and then lost her Welsh. That is part of the reason why I decided to learn Welsh six years ago.
Rydw i'n dod o Gwmbrân ac fel siaradwr Saesneg o'r De-ddwyrain, mae'n gallu bod eitha anodd i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd.  Pob nos Fawrth rydw i'n mynd i fy nosbarth nos am dair awr er mwyn dysgu'r iaith ac unwaith gofynnodd fy nhiwtor os hoffwn i gymryd rhan yn y cynllun.  Eglurodd e fod y cynllun yn newydd ac wedi'i gynllunio i ddysgwyr i gwrdd â siaradwyr rhugl unwaith yr wythnos dros ddeg wythnos a jyst mynd allan yn y byd go iawn a gwneud pethau yn y Gymraeg.  Ro'n i'n meddwl bod e'n syniad gwych.I'm from Cwmbran and as an English speaker from South East Wales, it can be quite difficult to use Welsh every day. Every Tuesday, I go to my night class for three hours to learn the language and one evening my tutor asked if I would like to take part in the scheme. He explained that the scheme was new and designed for learners to meet fluent speakers once a week over ten weeks and just go out in the real world and do things in Welsh. I thought it was a great idea.
Es i i'r cyfarfod er mwyn cwrdd â fy mhartner am y tro cyntaf.  Cefais i fy mharu gyda dyn o'r enw Adam.  Ro'n i'n mor falch i fod gyda fe oherwydd roeddwn ni tua'r un oedran ac roedd yn ymddangos bod diddordebau tebyg gennym.I went to the meeting to meet my partner for the first time. I was paired with a fellow called Adam. I was so pleased to be with him because we were about the same age and we seemed to have similar interests.
Y tro cynta cwrddon ni oedd yn y bar Tiny Rebel yng Nghasnewydd. Cawson ni cwpl o wydron o gwrw a jyst siarad yn y Gymraeg. Roedd e'n brofiad gwych i fi i fod allan gyda rhywun doeddwn i ddim yn gwybod a dysgu amdanyn nhw trwy'r Gymraeg. Hefyd roedd y cwrw yn helpu!The first time we met was in the Tiny Rebel bar in Newport. We had a couple of glasses of beer and just spoke in Welsh. It was a great experience for me to be out with someone I did not know and learn about them through the medium of Welsh. Also the beer was helping!
Dros y wythnosau nesa, cwrddon ni lan ychydig mwy o weithiau, fel arfer yn y dafarn ac unwaith yn yr adfeilion Rhufeinig yng Nghaerwent.  Feindiais i fod y cynllun wedi helpu fi i ymarfer yr iaith tu fas i'r dosbarth.  Over the coming weeks we met a few more times, usually in the pub and once in the Roman ruins in Caerleon. I found that the scheme helped me to practice the language outside the classroom.
Ar ôl roedd y cynllun wedi gorffen, rydyn ni wedi parhau i fod yn ffrindiau ac aethon ni i'r Eisteddfod gyda'i gilydd.  Hefyd, cyflwynodd Adam fi i ei ffrindiau Cymraeg a oedd hefyd wedi helpu fi teimlo'n gyfforddus mas o'r dosbarth.After the scheme had finished, we have continued to be friends and we went to the Eisteddfod together. Adam also introduced me to his Welsh friends who also helped me feel comfortable out of class.

Meddai Adam Pearce, siaradwr yn y peilot: / Adam Pearce, a speaker in the pilot said:

Roeddwn yn awyddus iawn i gymryd rhan yng nghynllun Siarad. Un o’r rhwystrau mwyaf sydd gan y Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd cymharol Saesneg fel Gwent, yw dod o hyd i gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau anffurfiol, naturiol. Mae hyn yn arbennig o wir i oedolion, lle mae’r cyfleoedd i siarad y Gymraeg yn brinnach fyth (os nad oes llawer o Gymraeg yn eich gweithle) oherwydd y canolbwyntio sydd wedi bod ar gynnig cyfleoedd i blant.I was very eager to take part in the Siarad scheme. One of the biggest barriers to the Welsh language, especially in English-speaking areas such as Gwent, is to find opportunities to use Welsh in informal, natural contexts. This is especially true for adults, where the opportunities to speak Welsh are scarce (if there is not much Welsh in your workplace) because of the focus that has been placed on offering children opportunities.
Mae’r cynllun felly’n gyfle i unigolion sy’n siaradwyr Cymraeg gwneud cyfraniad ystyrlon i ffyniant yr iaith heb fod angen iddynt fod yn athrawon, yn swyddogion iaith neu’n gyfieithwyr ac ati – dim ond drwy dreulio amser â rhywun yn cymdeithasu a mwynhau.The scheme is therefore an opportunity for Welsh-speaking individuals to make a meaningful contribution to the prosperity of the language without the need to be teachers, language officers or translators, etc. - just spending time with someone- socialising and enjoying.
O safbwynt personol, roeddwn wedi symud i’r ardal yn gymharol ddiweddar ac roedd y cynllun felly’n gyfle i mi wneud ffrind newydd mewn ardal lle’r oeddwn i ddim yn adnabod llawer o bobl eraill y tu allan i’r gwaith, yn enwedig siaradwyr Cymraeg. Oherwydd bod ei Gymraeg mor dda bu’n hawdd iawn i ni fwynhau trafodaethau naturiol a phrofiadau cyffredin fel mynd i’r dafarn neu am dro cerdded, neu i’r Eisteddfod, ac i mi ei gyflwyno i rai o fy ffrindiau Cymraeg eraill. Dydy siarad ag Alex byth yn teimlo fel ‘gwaith’, er gwaethaf bwriad difrifol y cynllun, ac mae wedi troi’n ffrind da.From a personal perspective, I had moved to the area relatively recently and the scheme was therefore an opportunity for me to make a new friend in an area where I did not know many other people outside of work, especially Welsh speakers. Because his Welsh language was so good we could enjoy natural discussions and common experiences such as going to the pub or for a walk, or to the Eisteddfod, and to introduce him to some of my other Welsh friends. Speaking to Alex never feels like 'work', despite the serious intention of the plan, and has become a good friend.
Dwi’n bendant eisiau cyfrannu at y cynllun eto yn y dyfodol, ac yn annog eraill i wneud hynny hefyd.I definitely want to contribute to the scheme again in the future, and encourage others to do that too.

Helen Prosser, Adam Pearce ac Alex Sullivan yn y lansiad yn yr Eisteddfod Gendlaethol, Bae Caerdydd, Awst 2018
Cynllun Siarad Helen Adam Alex

Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn y lansiad
Cynllun Siarad Efa Gruffudd Jones

I gymryd rhan yn y cynllun – fel siaradwr neu ddysgwr Canolradd + – ebostiwch [email protected] neu ewch i https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/siarad/

To take part in the scheme – as a Welsh speaker or learner at Intermediate/Canolradd + level – please email [email protected] or go to https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/siarad/

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol logo

 

Lawrlwythwch yr erthygl fel PDF / Download the article as PDF