Mae Helen a Tom Docherty, gwraig a gwr, creu llyfrau am blant gyda’i gilydd. Yma maen nhw’n siarad am eu gwaith, dysgu Cymraeg a delio gyda dyslecsia…
Helen and Tom Docherty, wife and husband, create books for children with each other. Here they talk about their work, learning Welsh and dealing with dyslexia…
Helen a Tom, chi’n gwraig a gwr, a dych chi’n gweithio gyda’i gilydd fel awdur a dylunydd. Ydy e’n rhamantus i greu straeon am y byd fel hyn? Helen: Sa i’n siŵr os fyddai ‘rhamantus’ y gair cywir! Ond ie, mae creu stori gyda’n gilydd yn hyfryd, wrth gwrs. Dyn ni’n gweithio ar lawer o bethau gwahanol hefyd, ac rhaid i ni dau weithio’n galed. Does dim llawer o amser yn y dydd, oherwydd mae dwy ferch ‘da ni sy’n mynd i ysgol gynradd. | Helen and Tom, you are wife and husband, and you work with each other as author and artist. Is it romantic to create stories for the world like this? Helen: I’m not sure if ‘romantic’ would be the right word! But yes, creating stories together is lovely, of course. We work on a lot of different things as well, and we both have to work hard. There’s not a lot of time in the day, since we have two daughters in primary school. |
Pa fath o oedran ydych chi’n ysgrifennu i, a pham yr oedran hwnna? Helen: Erbyn hyn, pob un o fy straeon (sy wedi cael ei gyhoeddi) yw llyfr lluniau, fel y Snatchabook; ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n odli. Ond ar hyn o bryd dw i’n trio ysgrifennu dwy stori wahanol ar gyfer plant henach. Pwy a ŵyr os fyddan nhw gael ei dderbyn gan unrhyw gyhoeddwyr...croesi bysedd! | What sort of ages do you write for, and why that age? Helen: Up till now, all of my stories (which have been published) have been picture books, like The Snatchabook; and most of them are in rhyme. But at the moment I’m trying to write two different stories for older children. Who knows if they’ll be accepted by a publisher...fingers crossed! |
Mae’n anodd ennill arian llawn amser fel awdur neu ddylunydd y ddyddiau ‘ma. Beth arall ydych chi’n gwneud sydd yn debyg i ysgrifennu a dylunio? Helen: Dyn ni’n ymweld â llawer o ysgolion cynradd, lle dyn ni’n gwneud gweithdai creadigol gyda’r plant. Weithiau, dyn ni’n helpu grwpiau o blant neu bobl ifanc i ysgrifennu straeon ac i’u darlunio nhw; ac wedyn, dyn ni’n cynhyrchu llyfrau ohonyn nhw, fel Antur Gyda Tad-cu (sy’n cael dau fersiwn: Saesneg a Chymraeg). | It's difficult to earn money full time as an author or designer these days. What else do you do that is similar to writing and drawing? Helen: We visit lots of primary schools, where we do creative workshops with the children. Sometimes, we help groups of children or young people to write stories and illustrate them; and then, we produce books from them, like An Adventure With Gramps (which has two versions: English and Welsh). |
Mae'r ddau ohonoch chi yn dysgu Cymraeg am safon Uwch nawr. Sut ydy'r iaith wedi newid eich bywyd teulu? Helen: Dw i’n falch iawn bod ni’n gallu siarad Cymraeg fel teulu, pan dyn ni’n moyn. Mae ein merched ni’n ei weld e fel rhywbeth arferol; so nhw’n gallu cofio pan ddoedden nhw ddim yn gallu siarad Cymraeg; er cafodd y ddwy ohonyn nhw ei geni yn Lloegr (symudon ni i Abertawe pan oedden nhw’n bedair a dwy oed). Mae Tom a fi’n dwlu ar wylio cyfresi drama ar S4C fel ‘Bang’ gyda’n gilydd a gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn fel iaith gyfrinachol: mae’n agor y drws i ddiwylliant gwahanol. A phan dyn ni’n mynd i Loegr neu rhywle arall, dyn ni’n gallu defnyddio Gymraeg fel cod! | The two of you are studying Welsh at the Higher level now. How has the language changed your life? Helen: I’m really proud that we can speak Welsh as a family, when we want to. Our daughters see it as something normal; they can’t remember when they didn’t speak Welsh, although they were both born in England (we moved to Swansea when they were four and two). Tom and I love watching drama series on S4C together, like Bang, and listening to Welsh music. Welsh is like a secret language; it opens the door to a different culture. And when we go to England or somewhere else, we can use Welsh as a code! |
Tom, rydw i’n deall mod ti’n dyslecsig. Dydw i ddim wedi clywed o rywun sydd yn dyslecsia ac sydd yn dysgu Cymraeg. Rydw i’n gallu dychmygu mae’n anodd iawn- oes unrhyw gyngor gyda ti am bobl eraill? Tom: Ydw, dw i’n dyslecsig. Mae pob math o broblemau yn gystilltiedig â’r dyslecsia, ond dw i wastad wedi cael problemau gyda’r sillafu, darllen, trefnu a deall pethau fel dyddiadau o amserlenni. Dw i’n arfer gwneud camgymeriadau pan dw i’n ysgrifennu yn Saesneg ac mae’n gwaeth gyda’r Gymraeg, ond ‘sdim ots. Y peth mwyaf pwysig i fi yw siarad â phobl, a does dim problem gyda fi o gwbl gyda hynny. | Tom, I understand that you are dyslexic. I've not heard from someone who is dyslexic and is studying Welsh. I can imagine that is very difficult- do you have any advice to give to other people? Tom: Yes, I’m dyslexic. They are all sorts of problems associated with dyslexia, but I have always had problems with spelling, reading, organising and understanding things like dates and timetables. I usually make mistakes when I write in English and it’s worse with Welsh, but never mind. The most important thing to me is talking to people, and I don’t have a problem with that at all. |
Diolch Tom a Helen am siarad am ei gwaith a'r lles o ddysgu Cymraeg; a diolch Tom am rannu dy brofiad gyda phobl eraill. | Thanks Tom and Helen for speaking about your work the benefits of learning Welsh, and thanks Tom for sharing your experience with other people. |
Mae’r Gymraeg yn fel iaith gyfrinachol: mae’n agor y drws i ddiwylliant gwahanol.