AUOB Caernarfon Gorymdaith

Gorymdaith AUOBCymru dros Annibyniaeth – Caernarfon / AUOBCymru March for Independence – Caernarfon 27/07/2019

en Noticias de organizaciones clave en Gales/Formal

Disgwylir i dyrfaoedd mawr gyrraedd strydoedd Caernarfon i orymdeithio dros Gymru annibynnol ar 27 Orffennaf. Yn dilyn digwyddiad Pawb Dan Un Faner Cymru (AUOBCymru) llwyddiannus yng Nghaerdydd ym mis Mai, bydd Caernarfon yn cynnal ei ddigwyddiad ei hun i ddangos bod momentwm yn cynyddu i bobl Cymru gymryd rheolaeth o'u dyfodol eu hunain. Gwelodd y gorymdaith yn y brifddinas nifer fawr o fynychwyr, gan chwalu disgwyliadau’r trefnwyr.

Large crowds are expected to hit the streets of Caernarfon to march for an independent Wales on 27 July. Following on from May's hugely successful All Under One Banner Cymru (AUOB Cymru) gathering in Cardiff, Caernarfon will host its own event showing momentum is gathering for the people of Wales to take control of their futures. The march in the capital city saw a huge turnout, smashing the expectations of organisers.

Disgwylir awyrgylch o garnifal yng nghanol Caernarfon. Mae ymgyrchwyr yn dweud ei bod yn gyfle i'r rhai sy'n angerddol am annibyniaeth, ac i'r rhai sy'n chwilfrydig ac am wybod mwy, i ddod allan i rannu syniadau, i ddysgu ac i gael hwyl.A carnival atmosphere is expected in the centre of Caernarfon. Campaigners say it is a chance for those who are passionate about independence, and for those who are 'indy-curious' and want to find out more, to come out to share ideas, learn and have some fun.
Bydd y tyrfaoedd yn clywed grŵp amrywiol o siaradwyr, o'r digrifwr a'r gweithredwr gwleidyddol o Albanwr, Hardeep Singh Kohli, i weithredwyr cymunedol, i feirdd a cherddorion.Crowds will hear a diverse group of speakers, from Scottish comedian and political activist, Hardeep Singh Kohli to community activists, to poets and musicians.
Dywedodd Mr Singh Kohli: "Mae'r troseddau parhaus a gyflawnir yn erbyn pobl Cymru yn niferus. O'r ymosodiad ar eu diwylliant hynafol a hardd, yr ymgais i ddiddymu'r Gymraeg dros y ddwy ganrif ddiwethaf, i ddigwyddiadau mwy diweddar fel gollwng Goldie Lookin Chain gan eu label recordio - dydy’n Cefndryd Celtaidd erioed wedi cael eu torri. Mae'n amser i Gymru, fel yr Alban, adfer ei hun fel cenedl. O Gastell y Fflint i Gas-gwent yn de, mae'n bryd i wlad y gân ganu eu cân unwaith eto."Mr Singh Kohli said: "The continual crimes committed against the people of Wales are legion. From the assault on their ancient and beautiful culture, the attempted crushing of the Welsh language over the last two centuries to more recent events like the dropping of Goldie Lookin Chain by their record label, while bowed our Celtic Cousins have never been broken. It is time for Wales, like Scotland, to become a nation restored. From Flint Castle to Chepstow in the south, it is time for the land of song to once again sing their own song."
Mae diddordeb mewn annibyniaeth i Gymru wedi bod yn chwyddo, gyda'r arolwg diweddaraf gan YouGov yn rhoi cefnogaeth i annibyniaeth ar 36%, a chefnogaeth i barhau o dan reolaeth gwleidyddion San Steffan yn disgyn o dan 50% am y tro cyntaf ers i bleidleisio ar y pwnc ddechrau.Interest in Welsh independence has been growing, with the latest YouGov poll putting support for independence at 36%, and support for leaving Westminster politicians in charge falling below 50% for the first time since polling on the subject started.
Dywedodd Gwyn Llewelyn, un o drefnwyr yr orymdaith: "Mae hyn wir yn mynd o nerth i nerth fel dewis amgen i’r hen wleidyddiaeth ddiflas sydd wedi ein siomi cymaint o'r blaen. Byddwn yn argymell i unrhyw un sydd eisiau dyfodol gwell i'w teulu a'u cymuned ymuno â ni yn yr orymdaith am annibyniaeth yng Nghaernarfon, gofyn y cwestiynau anodd a chymryd rhan yn llunio dyfodol ein gwlad."Gwyn Llewelyn, one of the organisers of the march, said: "This is really taking off as a real alternative to the stale politics that has failed us so often before. I would say to anyone who wants a better future for their family and community to join us at the march for independence in Caernarfon, ask the hard questions and get involved in shaping our country's future."
Yn diddanu'r tyrfaoedd ar Faes y Dref fydd y pencampwr o fît-bocsiwr Ed Holden a'r canwr chwedlonol, Dafydd Iwan.Entertaining the crowds on the town's Maes will be world championship beat boxer Ed Holden and legendary singer, Dafydd Iwan.
Dywedodd Mr Iwan: "Mae traddodiad hir o ralïau ar Faes Caernarfon, ac rwy'n falch fod y Rali Annibyniaeth yn digwydd yno, a hynny dan faner amhleidiol a chydbleidiol sy'n adlewyrchu'r ysbryd newydd cadarnhaol sy'n tyfu yng Nghymru y dyddiau hyn."Mr Iwan said: "There is a long tradition of rallies on the Maes in Caernarfon, and I’m thrilled that the Independence Rally is happening there, under a non-political and cross-party banner, which reflects the positive new spirit that is growing in Wales these days."
Dywedodd Mr Holden: "Fel artist sy'n arbenigo mewn rap a barddoniaeth Gymraeg, mae’n bwysig adlewyrchu'r pynciau sy'n agos at fy nghalon - ac mae annibyniaeth yn sicr yn un o'r pynciau. Dwi'n defnyddio'r iaith Gymraeg mewn diwydiant tu allan i Gymru felly 'sgin i'm dewis ond i fod yn annibynnol. Wrth gadw agwedd bositif dwi wedi llwyddo i greu llwybr fy hyn mewn diwydiant Saesneg. Dwi isho gweld Cymru yn creu llwybr ei hun."Mr Holden said: "As an artist who specialises in rap and Welsh poetry, it is important to reflect the subjects that are close to my heart - and independence is certainly one of those subjects. I use the Welsh language in an industry outside of Wales so I have no option other than to be independent. While maintaining a positive attitude I have managed to create my own path in an English language industry. I want to see Wales creating its own path."
Bydd pobl yn dechrau ymgynnull o tua 11 y.b., a bydd yr orymdaith yn dechrau'n brydlon am 1 y.p. o Faes Parcio Doc Fictoria. Yna bydd yn mynd i Balaclafa, ar hyd Stryd Pedwar a Chwech at Stryd y Plas, o amgylch y castell a gorffen ar y Maes ble bydd rali mawr yn digwydd.People will start gathering from around 11am, and the march will start promptly at 1pm from Victoria Dock Car Park. It will then make its way to Balaclava Road, along Northgate Street on to Palace Street, around the castle and finish up on Castle Square where a large rally will take place.
Mudiad llawr gwlad yw Pawb Dan Un Faner Cymru, sy'n dwyn ysbrydoliaeth gan fudiad All Under One Banner yn yr Alban. Mae'n cael ei gefnogi gan nifer o grwpiau sydd â'r nod o sicrhau annibyniaeth, ac nid yw'n ymochri ag unrhyw blaid wleidyddol nac yn gysylltiedig â nhw.AUOBCymru is a Welsh grassroots movement taking inspiration from the All Under One Banner movement in Scotland. It is supported by a number of groups who share the aim of securing an independent Wales, and is not aligned with or affiliated to any political party.

 

Gorymdaith dros Annibyniaeth 11-05

12/05/2019:
Miloedd yn gorymdeithio dros Annibyniaeth i Gymru yng Nghaerdydd
Thousands march for Welsh Independence in Cardiff

Cynhaliwyd yr orymdaith gyntaf erioed ar gyfer Annibyniaeth i Gymru ddoe, ddydd Sadwrn 11 Mai, yng Nghaerdydd. Daeth dros tair fil o bobl allan i'r orymdaith a drefnwyd gan AUOBCymru (Pawb Dan Un Faner Cymru).

The first ever March for an Independent Wales took place yesterday, Saturday 11th May, in Cardiff. Over three thousand people turned out for the march organised by AUOBCymru (All Under One Banner Cymru).

Dywedodd Llywelyn ap Gwilym, llefarydd ar ran AUOBCymru: “Roeddem wedi gobeithio gweld niferoedd yn y miloedd ac nid oeddem yn siomedig. Er gwaethaf y dechrau cynnar i’n cefnogwyr oedd yn teithio o ogledd ein gwlad a thu hwnt, roedd pawb mewn ysbryd da. Roedd yn wych gweld y baneri a'r fflagiau, i glywed y gerddoriaeth a'r canu, ac i fod yn dyst i'r diwrnod hanesyddol hwn. Er ein bod am ddod â'r ddadl annibyniaeth oddi ar y cyfryngau cymdeithasol i’r strydoedd, roeddem hefyd am i bawb gael diwrnod gwych. Rwy'n credu y gallwn ddweud ein bod wedi llwyddo yn y ddau gyfrif! Rydym wrth ein bodd gyda'r ffordd yr aeth y diwrnod."Llywelyn ap Gwilym, a spokesperson for AUOBCymru said: “We had hoped to see a turnout in the thousands and we weren’t disappointed. Despite the early start for those supporters travelling from the north of our country and from further afield, everyone was in high spirits. It was fantastic to see the flags and banners, to hear the music and singing, and to bear witness to this historic day. While we wanted to bring the independence debate off social media and onto the streets, we also wanted everyone to have a great day out. I think it’s safe to say we succeeded on both counts! We’re delighted with the way the day went.”
Dechreuodd cefnogwyr gynnull o dan heulwen gwanwyn o tua hanner dydd. Dechreuodd yr orymdaith am 1.30yp, dan arweiniad band pibau, baner fawr yn datgan “Annibyniaeth IndyWales”, a thair baner enfawr arall, yn dilyn llwybr drwy ganol Caerdydd, drwy strydoedd o siopwyr a thwristiaid. Ychydig dros awr yn ddiweddarach, ar ddiwedd yr orymdaith, rhoddwyd nifer o areithiau, yn briodol yng nghysgod y cerflun o John Batchelor, y “Friend of Freedom”, lle cafwyd derbyniad rhyfeddol. Dechreuodd Cadeirydd YesCymru, Sion Jobbins, y gweithgareddau drwy arwain y dorf yn siantio “what do we want - independence - when do we want it - now”, a gadawyd i Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ddod a’r rali i ben:Supporters began congregating under the spring sunshine from about midday. The march stepped off at 1.30pm, led by a pipe band, a large banner declaring “Annibyniaeth IndyWales”, and three other huge flags, following a route through the centre of Cardiff, past shoppers and onlookers. A little over an hour later, at the end of the procession, a number of speeches were given, fittingly in the shadow of the statue to John Batchelor, the “Friend of Freedom”, to a rapturous reception. With YesCymru chair Sion Jobbins kicking off proceedings, leading the crowd in call and response of “what do we want - independence - when do we want it - now”, it was left to Adam Price, the leader of Plaid Cymru, to bring things to a close:
“Pan ysgrifennir y stori fawr am annibyniaeth ein cenedl, yn y dyfodol agos iawn, y genhedlaeth hon fydd yn gallu dweud ‘we got there because we marched.’ Unedig yn ein nod. Wedi ein hanwybyddu yn ein hangerdd. Pawb o dan un faner. Yn ein calonnau. Yn ein meddyliau. Yn rhydd yn barod.”“When the great story of our nation’s independence is written, in the very near future, it is this generation that will be able to say ‘we got there because we marched.’ United in our goal. Ignited in our passion. All under one banner. In our hearts. In our minds. Already free.”
Ychwanegodd Llywelyn ap Gwilym: “Ni fyddem wedi cael gorymdaith mor llwyddiannus heb gymorth grŵp mawr o wirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi mynd y tu hwnt i'r hyn y gellid yn rhesymol ei ddisgwyl. Rydym hefyd wedi cael cefnogaeth wych gan Heddlu De Cymru a Chyngor Caerdydd, yr ydym yn ddiolchgar iawn iddynt. Ond ni fyddem ni wedi cael digwyddiad mor llwyddianus heb bob un a ddaeth i’r rali. Diolch o’r galon.”Llywelyn ap Gwilym added: “We wouldn’t have had such a successful march without the help of a large group of dedicated volunteers who have gone above and beyond what could have reasonably been expected. We’ve also had great support from the South Wales Police and Cardiff Council, to whom we are very grateful. But most of all we wouldn’t have had such a wonderful event without each and every person who turned up. Diolch o’r galon.”

AUOBCymru

 

Cefnogir yr Orymdaith gan YesCymru, AWokEN Cymru, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cefnogwyr Pêl-droed dros Annibyniaeth, Llafur dros Annibyniaeth, Gellir Gwell!, Undod ac All Under One Banner yr Alban.

The march is supported by YesCymru, AWokEN Cymru, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Welsh Football Fans for Independence, Labour for an Independent Wales, Yes is More, Undod and All Under One Banner Scotland.