FySanauuu

Fy Sanauuu: Adloni’r Byd Cymraeg ar Drydar / Entertaining the Welsh-speaking World on Twitter

Mae cymuned fawr Gymraeg ei hiaith ar Drydar, ac mae ysmaliwr newydd yn sirioli llawer o bobl bob dydd drwy gyfansoddi cerddi am ... 'sanau! Er ei bod hi'n cyfansoddi'n ddienw, mae'n falch o esbonio mwy am ei gwaith FySanauuu wrth ddarllenwyr parallel.cymru...

There is a large Welsh-speaking community on Twitter, and a new humorist is brightening many people's days by composing poetry about ... socks! Although composing anonymously, she is happy to explain more about her work FySanauuu to parallel.cymru readers...

Ers diwedd mis Mawrth, rwyf wedi bod yn hybu sanau drwy gyfrwng cymdeithasol, Trydar. Trwy gerddi a sawl arddull gwahanol, rwy’n dangos sanau ar eu gorau ac yn gwneud hynny drwy’r Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae gen i 470 o ddilynwyr, sydd, yn amlwg, yn joio direidi sanau a phopeth sydd ganddyn nhw i gynnig, er nad ydwi’n datgelu fy hunaniaeth.Since the end of March I have been promoting socks via social media. Through poems and a number of different forms, I am showing socks at their best and doing this through Welsh. As of now I have 470 followers, who are, evidently, enjoying the mischief of socks and everything that they have to offer, although I am not revealing my identity.
Bwriad y cyfrif @FySanauuu yw i ddyrchafu golygon pobl am sanau. Mae sanau yn cael eu gweld fel anrheg dieisiau Nadolig, ac felly, drwy’r cyfrif rwy’n dangos i bobl nad yw golwg arwynebol yn cynrychioli y bendithion yma. Drwy hiwmor, hoffwn ddangos fod yr eitem gyffredin hon yn gallu hybu’r iaith Gymraeg a’r blatfform eang fel trydar. Rwyf ar ben fy nigon yn defnyddio’r Gymraeg mewn modd mor hwyliog â sanau.The aim of the @FySanauuu account is to raise everyone's profile of socks. Socks get seen as unwanted Christmas presents, and so, through the account, I am showing everyone that this superficial view of them is not representative of the blessings they bring. I would like, through humour, to show that this common item can serve to promote the Welsh language on the platform of the World Wide Web. I am in clover using Welsh on such a fun subject as socks
Mae @FySanauuu wedi denu llawer o ddiddordeb ar draws y byd, o’r U.D.A i Sweden. Mae hi’n amlwg fod fy sanau yn ennyn chwilfrydedd byd-eang. Rwyf wrth fy modd yn cyfarthrebu gyda fy nilynwyr, drwy greu pleidleisiau i gwblhau’r odl, neu ofyn pa seleb cymraeg sy’n cuddio yn y sanau. Ynghyd â phobl o bedwar ban byd, rwyf wedi cael ychydig o gyfrifon enwogion Cymru yn ymuno yn y sbort. Rhai o’r enwau cyfarwydd yw Stifyn Parri, Anni Llŷn, Tommo ac Eilir Owen Griffiths.@FySanauuu has attracted much interest throughout the world, from the USA to Sweden. It is evident that my socks are kindling worldwide enthusiasm. I take great pleasure in communicating with my followers, in creating polls on how to complete the rhyme, or asking what Welsh celebrity is hiding in the socks. Alongside people from the four corners of the globe, I am getting a few famous Welsh accounts joining in the sport. Some of the familiar names are Stifyn Parri, Anni Llŷn, Tommo and Eilir Owen Griffiths.
Rwyf hefyd yn hoff o ddefnyddio themâu cyfoes, fel Brecsit, y Sîn Roc Gymraeg a Phêl-Droed Cymru. Un o fy arddulliau mwyaf poblogaidd yw cerddi ac odl. Er nad yw’r cerddi o hyd yn fanwl gywir, maent yn denu sylw tuag at draddodiadau Cymreig ac, yn bennaf, sanau. Hefyd, rwyf wedi gwneud cystadleuaeth i ennill parau o sanau ac wrth fy modd yn cyfieithu’r gair ‘sanau’ i nifer o ieithoedd gwahanol, e.e. Ffineg, Gwyddeleg a Fietnameg.I am also fond of using contemporary themes, like Brexit, the Welsh rock scene and Welsh football. One of my most popular forms is poems or rhymes. Although the poems are not always rigorous, they draw attention to Welsh traditions and, in particular, to socks. Also, I have launched a competition to win pairs of socks, and I take pleasure in translating the word 'socks' into a number of different languages e.g. Finnish, Irish and Vietnamese.
Wrth gwrs, rwy’n hoff iawn yn ysgrifennu am sanau yn y Gymraeg a nifer o ieithoedd eraill, a dangos fod yr eitem bob dydd yma, sy’n cael eu taflu yn eich “droriau gorlawn” heb unrhyw ofal, yn wir, yn “ogoneddus”. Rwyf yn edrych ymlaen i weld sut wnaiff y cyfrif ddatblygu a pha gyfleon eraill sydd i ddod yn y dyfodol a chofiwch wisgo eich sanauuu â balchder!Of course, I am very fond of writing about socks in Welsh and a number of other languages, and showing that everyday items, which get thrown so carelessly into your overflowing drawers, are really objects worthy of celebration. I look forward to seeing how the account develops and what other opportunities arise in future, and remember to wear your socks with pride!

Rwyf yn edrych ymlaen i weld sut wnaiff y cyfrif ddatblygu a pha gyfleon eraill sydd i ddod yn y dyfodol a chofiwch wisgo eich sanauuu â balchder!

Eto, mae’r hydref wedi dod
Mae fy sanauuu wedi dyfod!!
Be bynnag a ddaw
Yn eira neu glaw,
Mae sanauuu cynnes yn hanfod!!

Gennyf sanauuu gwlanog
Sy’n andros o batrymog
Gyda lliwiau godidog,
Maent yn hollol ardderchog!!

Gwrandaf ar diwns yn fy sanauuu,
Yws Gwynedd, Gwilym ac y Cledrau!!
Heddiw, beth am Adwaith neu Calan??
Yn fy sanauuu i, rhaid canu cân!!

Pob wythnos, rydym ni
Yn mwynhau ysgrifennu
Pennillion a cherddi
Am sanauuu diri,
Allech chi gael go arni??

Lle mae’r sanauuu wedi crwydro i heddiw??

FySanauu Llun y dydd

Yr Odliadur Newydd

FySanauu a'r Odliadur

Y diweddaraf oddi wrth Introducing Poetry