Ysgol y Cwm Eisteddfod Trefelin 2019

Gwion Elis-Williams o Ysgol y Cwm: Eisteddfod Trevelin 2019

Mae Eisteddfodau’n cael eu cynnal ledled cymunedau Cymraeg ym mhedwar ban y byd, ac un ohonyn nhw sy wedi bodoli am gyfnod tra hir, ac sy’n denu llawer iawn o gystadleuwyr, o’i chymharu â’r lleill, yw Eisteddfod Trevelin ym Mhatagonia. Yma, mae Gwion o Ysgol y Cwm yn sôn wrthym ni am ychydig o’i chystadlaethau a’i thraddodiadau, ac rydym ni’n cyflwyno gwaith cyfieithu buddugol gan Alwen Green.

Eisteddfods are held throughout Welsh-speaking comunities all around the world, and one of the longest-running and well-contested is that of Trevelin in Patagonia. Here Gwion of Ysgol y Cwm talks us through some of its competitions and traditions, and winning translation work by Alwen Green is presented.
Trevelin is a town in the Welsh settlement of Chubut of Patagonia; its name derives from the Welsh for ‘flour mill’.

Fe gychwynnodd y tymor newydd gyda llawer o gyffro, gan fod tri dosbarth a neuadd newydd yn barod i’w defnyddio, gan ddyblu maint yr ysgol! Mae’r gwaith yn parhau ar ddwy ystafell ddosbarth arall, a fydd yn agor yn fuan. Mae’r holl waith adeiladu yn dilyn yr holl waith caled gan aelodau Cymdeithas Gymreig Trevelin i werthu darnau o dir er mwyn ariannu’r prosiect. Mae’r ysgol yn ddiolchgar dros ben i’n holl ffrindiau o Gymru sydd wedi cyfrannu dros y blynyddoedd, ac sydd yn dal i gyfrannu hyd heddiw. Un o’n prif gymwynaswyr yw Cymdeithas Hoelion Wyth, sydd wedi casglu dros £15,000 hyd yn hyn drwy werthu gwin o’r Ariannin nol yng Nghymru a gweddill y DU.The new school term started with much excitement, as three of the five brand new classrooms were ready for teaching, as well as the new school hall, doubling the size of the school! Work is still underway on the completion of the unfinished classrooms, but they should be ready soon. The new classrooms are the fruits of the labour of Trevelin Welsh Association, who have been busy selling plots of land to finance the building work. The school is also very grateful to our friends in Wales who’ve contributed over the years, and still continue to do so. One of our biggest benefactors from Wales are Cymdeithas Hoelion Wyth, who’ve so far raised more than £15,000 for the school by selling imported Argentine Malbec wine in Wales and the rest of the UK.
Wedi llwyddiant gwin ‘Meibion y Mimosa’ y llynedd, bydd gwin arall ar gael i’w brynu yn fuan, sef gwin ‘Gwynt y Paith’. Bydd £2 o bob potel yn mynd tuag Ysgol y Cwm, ac mae cystadleuaeth yn cael ei gynnal i ddylunio clawr ar gyfer y gwin arbennig hwn. Mae’r holl fanylion ar gyfer y gystadleuaeth ar gael yma, felly os ydych chi’n gweld eich hun fel tipyn o arlunydd, rhowch gynnig arni! Mae ein gwefan hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth ar sut y gallech gyfrannu tuag at y gwaith adeiladu a thuag at gynnal a chadw’r ysgol o ddydd i ddydd. Following the success of the ‘Meibion y Mimosa’ wine last year, another wine – ‘Gwynt y Paith’ - will shortly be available to buy. £2 from each bottle going towards the school, and a competition is being held to design a label for the bottle, so if you fancy yourself as a bit of an artist – or know anyone who does – get cracking! Details of the competition and prize can be found here. Our website also contains details of how you can help the school by donating towards the on-going building work and the day-to-day running of the school.
Ar ddechrau’r tymor newydd daeth criw o athrawon newydd sbon i weithio gyda ni yn Ysgol y Cwm ac fe hoffwn ymestyn croeso cynnes i Gruff o Bwllheli, sydd wedi cymryd lle Athro Emyr eleni gyda’r Cyngor Prydeinig, ac hefyd i Sinead o Bontypridd, a fydd yn helpi drefnu digwyddiadau yn yr ysgol ac yn y gymuned, tan wyliau’r Gaeaf ym mis Gorffennaf. Croeso hefyd i Manon o Lanelli, a gyrhaeddodd yn ddiweddar i dreulio 3 mis yn gwirfoddoli yn yr ysgol. Mae’r ysgol hefyd wedi croesawu dwy ferch leol, sef Frances a Dana, a fydd yn gweithio fel cynorthwywyr iaith Gymraeg gyda’r ysgol. Mae’r ddwy ohonynt wedi bod yn dysgu Cymraeg gydag Ysgol Gymraeg yr Andes ers iddynt fod yn blant bach, ac maent bellach yn rhugl erbyn hyn. Byddent yn gweithio ar y cyd gyda gweddill y tîm dysgu Cymraeg yr ysgol, sef Gruff, Sinead, Nia, Jessica, Judith, Margarita, a Ximena. Croeso cynnes i bawb! The new term brought with it a new group of teachers, and we would like to give a warm Trevelin welcome to Gruff from Pwllheli, who’s taken the place of Athro Emyr with the British Council this year, as well as to Sinead from Pontypridd, who’ll be helping to arrange activities and social events both here in the school in in the wider community, until the winter holiday in July. Welcome also to Manon from Llanelli, who’ll be spending three months volunteering at the school, as well as our two new Welsh language assistants, Frances and Dana. Both Frances and Dana started attending Ysgol Gymraeg yr Andes when they were in primary school, and by now both are fluent Welsh speakers. They will be working alongside the rest of the Welsh language teaching team at Ysgol y Cwm: Gruff, Sinead, Nia, Jessica, Margarita and Ximena. So, a warm welcome to everyone!
Fel yr allwch ddychmygu, rydym wedi bod yn brysur iawn yma gyda gwahanol weithgareddau a digwyddiadau ers cychwyn y tymor newydd, gyda’r un cymysgedd lliwgar o ddiwylliannau Cymru a’r Ariannin! Nol ym mis Ebrill fe gynhaliwyd Parti Piws ar y cyd gydag ysgolion meithrin ledled Cymru, er mwyn dathlu pen-blwydd Dewin a’i gi ffyddlon Doti yn 10 oed. Cymeriadau’r Mudiad Ysgolion Meithrin ydi Dewin a Doti, ac mae’r ddau ohonynt yn boblogaidd iawn gyda phlant yr adran iau yn Ysgol y Cwm, a chafwyd diwrnod i’w gofio gyda phawb yn gwisgo piws! As you can imagine, we’ve been very busy here with all sorts of activities and events since the beginning of term, with the same colourful mix of Welsh and Argentine cultures as always! In April we held a Parti Piws, alongside schools from all over Wales, to celebrate the 10th birthday of the Dewin and Doti, who are characters from the Mudiad Ysgolion Meithrin (Nursery School Movement). Both Dewin and his loyal dog Doti are very popular with the Ysgol y Cwm nursery children, and everyone had a fantastic time celebrating, dressed in purple!
Cymeriad arall sydd yn hynod o boblogaidd yma yn Ysgol y Cwm yw Sali Mali, ac mae pawb yn edrych ymlaen yn arw at gael dathlu ei phen-blwydd yn 50 mis nesaf. Cadwch lygad allan am y lluniau ar ein tudalennau Facebook a Twitter! Another popular character here at the school is Sali Mali, and everyone is looking forward to celebrating her 50th birthday next month. Keep an eye out for the pictures on our Facebook and Twitter pages!
Mae plant blwyddyn tri wedi bod yn brysur yn ymarfer eu Cymraeg gydag ymwelwyr o Gymru drwy gydol y tymor newydd, ac wedi bod yn cymryd tyrnau i dywys unrhyw ymwelwyr o gwmpas yr ysgol – felly mae dyfodol tywyswyr twristiaid Trevelin mewn dwylo diogel! The Year 3 children have been busy practicing their Welsh skills with visitors from Wales throughout the new term, taking turns to guide the visitors around the school – so the future of tourist guides in Trevelin is in safe hands!
Roedd Eisteddfod Trevelin, a chafodd ei gynnal yn Ysgol y Rifleros unwaith eto eleni, yn llwyddiant enfawr unwaith yn rhagor. Yn ôl y traddodiad, cynhaliwyd diwrnod o gystadlu ar gyfer yr ysgolion ar y prynhawn Gwener, ac yn wir roedd gwledd o ddawnsio, canu ac adrodd, a oedd yn cynnwys criw cydadrodd Dosbarth 3 – Y chimangos - llawer o ddawnsio gwerin Gymreig ac Archentaidd, a hyd yn oed dawnsio llinell Americanaidd dan arweiniad un o rieni’r ysgol. Diolch o galon i bawb a gymerodd rhan. The Trevelin Eisteddfod, held once again at the Rifleros’ School at the end of April, was a sweeping success for all involved. As is tradition, all the local schools competed on the Friday afternoon, and truly was a feast of song, dance and recital, which included the Year 3 cyd-adrodd (group recital) gang – The Chimangos – as well as lots of Welsh and Argentine folk dancing, and even an American Line Dancing ensemble, under the guidance of one of the school’s parents.
Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn paratoi tuag at ddiwrnod Chwildro Mai, sy’n cael ei ddathlu’n flynyddol ar yr 25ain o Fai. Dyma’r dyddiad pan gychwynnodd yr Ariannin ar ei thaith i fod yn wlad annibynnol nol yn 1810. Bydd yr ysgol yn dathlu gyda seremoni arbennig yn y neuadd, gyda llond y lle o ddawnsio, canu a bwydydd traddodiadol, felly cadwch lygaid allan am y lluniau lliwgar yn y rhifyn nesaf! Ysgol y Cwm is preparing to celebrate the May Revolution, which is celebrated annually on 25th of May. This is the date when Argentina started its march towards independence back in 1810. The school will celebrate with a feast of singing, dancing and traditional foods, so keep your eyes peeled for the photos in the next edition of the newsletter.
Tan y tro nesaf felly! Until the next time, then – hwyl fawr!

Un o’n prif gymwynaswyr yw Cymdeithas Hoelion Wyth, sydd wedi casglu dros £15,000 hyd yn hyn drwy werthu gwin o’r Ariannin nol yng Nghymru a gweddill y DU

Traducción del galés: Adultos expertos:
Stori i’r plant lleiaf  (Tro Da Dico-Do)- cyfieithiad gan Alwen Green

Un buen gesto de Dico DoTro Da Dico-Do
Dico-do era un pollito negro con muy mala suerte. Siempre estaba metido en problemas. Ningún otro pollo podía jugar con él porque siempre hacía daño. Una vez fue a la laguna de los patos y casi se ahoga. Estuvo sentado al sol mucho rato esperando que sus plumas se sequen.Cyw bach du oedd Dico-do a welsoch ´rioed un mwy anlwcus. ´Roedd mewn rhyw helbul byth a beunydd. ´Chai neb o´r cywion eraill chwarae ag o am ei fod yn gwneud rhyw ddrwg o hyd. Unwaith aeth at lyn yr hwyaid, a bu bron iawn iddo foddi. Bu yn eistedd yn hir yn yr haul yn aros i´w blu sychu.
Se fue de paseo a ver a Pegi, el pony castaño. Pegi estaba comiendo de un balde. Dico saltó al fondo del balde y casi se lo come. Aeth am dro i weld Pegi y poni brown. ´Roedd Pegi yn bwyta cinio o fwced. Neidiodd Dico i lawr i´r fwced a bu bron gael ei fwyta.
Otras veces venía calladito a picar al gato cuando ésta dormía plácidamente. Luego corría a toda carrera a esconderse.Dro arall byddai yn dod yn slei bach a phigo pwsi pan fyddai honno yn cysgu yn braf. Wedyn rhedai nerth ei draed i guddio.
Tampoco Pero, el perro, era muy amigo del pollito negro. Dico venía con demasiada frecuencia a comer del plato de Pero. ´Doedd Pero´r ci ychwaith, ddim yn ffrindiau mawr hefo´r cyw du. Doi Dico i fwyta o ddysgl Pero yn llawer rhy aml.
Una mañana el perro corría al gato, ya que peleabana menudo, y el gato entró a la lechería seguido por Pero.Un bore rhedai y ci ar ôl y gath, byddai´r ddau yn ffraeo o hyd, ac aeth pwsi i fewn i´r tŷ llaeth a Phero ar ei hôl.
Allí estaba investigando Dico-do. Debido al susto, Minino encima de la jarra de leche la que se desparramó por todo el piso. Luego escapó y Pero lo siguió. Dico-do estaba parado a la puerta empapado. Pwy oedd yno yn busnesa ond Dico-do. Yn ei braw neidiodd pws i ben jiwg yn llawn o laeth a cholli´r llefrith ar hyd y llawr. Yna rhuthrodd allan a Phero ar ei hôl. Wrth y drws safai Dico-do, yn wlyb swp.
Pero lo miró. Tenía un aspecto lamentable, lamió la leche de sus plumas y el pollito se fue a un rincón abrigado a secarse.Edrychodd Pero arno. ´Roedd golwg druenus ar y cyw bach du. Llyfodd Pero y llaeth i ffwrdd oddi ar ei blu ac aeth â´r cyw bach i gornel gynnes i sychu.
Al día siguiente Pero se fue al bosque a perseguir un conejo y se divertió hasta que éste desapareció en un agujero.´Roedd Pero druan wedi colli´r ras a daeth adre yn ddigon diflas. Yn un peth ´roedd ei droed yn brifo, ac ´roedd yn raid iddo gerdded ar dair troed yn lle pedair.
Pobre Pero había perdido la carrera y regresó de mal humor a casa. Por un lado le dolía la pata, y tenía que caminar con tres patas en vez de cuatro. Dico vió al perro acercarse lentamente y rengueando, debía estar atento por si Pero venía enojado, pero Pero no le prestó atención, él sólo miraba su pata. Gwelodd Dico y ci yn dod tuag ato yn araf a chloff. ´Roedd yn raid iddo fod yn ofalus rhag ofn bod Pero yn flin, ond chymerodd Pero ddim sylw ohono, dim ond edrych ar ei droed.
Dico se dio cuenta que el perro tenía algo en su pata y se arriesgó a acercarse. Estiró su pico y sacó una espina de la pata de Pero, y así se ganó un buen amigo de por vida.Sylwodd Dico fod rhywbeth yn nhroed y ci a mentrodd yn nes. Estynnod ei big ymlaen a thynnu draenen o droed Pero, fel yr enillodd Dico-do ffrind da am weddill ei oes.

ysgolycwm.com / CwmYsgol

 


Yr Iaith Gymraeg yn y Wladfa

Y diweddaraf oddi wrth Informal