Eisteddfod 2018 logo

Diweddariad yr Eisteddfod Genedlaethol Bae Caerdydd 2018: Dyma sut mae cyflwyno’r Gymraeg i gynulleidfa newydd / This is how you introduce Welsh to an unfamiliar audience

Yn Diweddariadau gan sefydliadau allweddol yng Nghymru/Prif Dudalen

Yn ei gyfarfod Cyngor yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 24/11, cyhoeddwyd bod yr Eisteddfod yng Nghaerdydd eleni wedi denu mwy o ymwelwyr nag erioed o’r blaen, gyda nifer fawr yn ymweld am y tro cyntaf.

At its Council meeting in Aberystwyth on Saturday 24/11, the National Eisteddfod announced that this year’s festival in Cardiff attracted more visitors than ever before, with many attending for the first time.

Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Ashok Ahir, “Mae llawer o sôn wedi bod am Eisteddfod ‘wahanol’ ac arbrofol’ Caerdydd, ond roedd yr ŵyl eleni’n torri tir newydd mewn nifer fawr o ffyrdd eraill. Drwy gael Maes agored, roedd yn groesawgar ac yn gynhwysol - roedd hon yn ŵyl oedd yn perthyn i bawb o Gaerdydd a Chymru, ac fe welwyd hyn yn glir yn ystod yr wythnos.Chair of the local Executive Committee, Ashok Ahir, said, “Much has been said and written about the ‘different and experimental’ Eisteddfod in Cardiff, but this year’s festival was ground-breaking in so many different ways. By having an ‘open’ Maes, the festival was welcoming and inclusive – it belonged to everyone from Cardiff and Wales, and this was clearly on show during the week.
“Roedd crwydro’r Maes yn brofiad gwych. Wrth gwrs, roedd y Gymraeg i’w chlywed yn amlwg, ond roedd ieithoedd o bob rhan o’r byd i’w clywed hefyd, ac roedd hyn yn wirioneddol braf ac yn dangos bod diwylliant Cymraeg yn hygyrch ac yn agored i bawb. Roedd hi’n Eisteddfod a greodd fwy o argraff arna i a miloedd o bobl eraill na’r un ŵyl o’i blaen.“Walking the Maes in Cardiff Bay was a fantastic experience. It was great to hear so many different languages spoken at an event promoting the Welsh language, showing that our culture is accessible and open to everyone. This was definitely an Eisteddfod which had a greater effect on me and thousands of other visitors than any previous festival.
“Dyma sut mae cyflwyno’r Gymraeg i gynulleidfa newydd; dyma sut mae newid agweddau at yr iaith – a dyma sut mae annog pobl i fynd ati i ddysgu a defnyddio’r iaith ym mhob agwedd o’u bywyd. Yn syml, dyma sut mae dangos i bawb bod y Gymraeg yn iaith ddeinamig, naturiol a pherthnasol. A dyma fydd gwaddol mawr Eisteddfod Caerdydd.“This is how you introduce Welsh to an unfamiliar audience; this is how you change attitudes towards the language – and this is how you encourage people to learn and use the language in all aspects of their lives. Put simply, this is how you show everyone that Welsh is a dynamic, natural and relevant language. And this will be the Cardiff Eisteddfod’s greatest legacy.
“Mae heddiw hefyd yn gyfle i ni ddiolch i bawb am eu holl waith caled. Roedd yn fraint arwain tîm mor frwdfrydig, egnïol a llawn syniadau, ac roedd hefyd yn braf gweld cynifer o bobl ifanc yn arwain ar y gwaith codi arian ar draws y ddinas. Mae ein dyled yn fawr i bawb a fu’n rhan o’r tîm dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”“Today is also an opportunity for us to thank everyone for all their work. It was an honour to lead such an enthusiastic and creative team, with so many young people involved in the fundraising work across the city. We are very grateful to everyone who was part of the team over the past two years.”
Mae diogelwch ymwelwyr yn hollbwysig i’r Eisteddfod, a chyda Maes agored, di-ffens a gwahanol, bu’n rhaid buddsoddi’n helaeth mewn swyddogion ac elfennau diogelwch eraill er mwyn sicrhau bod pawb yn ardal yr Eisteddfod yn teimlo’n saff yn ystod yr wythnos. Roedd hyn yn gost ychwanegol i’r sefydliad, gan arwain at ddiffyg ariannol gweithredol o £290,139 eleni, ac mae hon yn gost sydd wedi’i hysgwyddo gan yr Eisteddfod ei hun.The safety of visitors is paramount to the Eisteddfod, and with an open, fence-free and different Maes, the organisation had to invest greatly in safety officers and other safety element to ensure the safety of everyone in the Eisteddfod area. This was an additional cost for the organisation, which led to a deficit of £290,139 this year, which has been covered by the Eisteddfod itself.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Betsan Moses, “Ein gweledigaeth a’n penderfyniad ni oedd cynnal gŵyl agored, ddi-ffiniau a chynhwysol. Drwy gynnig mynediad i ran helaeth o’r Maes yn rhad ac am ddim, roedd eleni’n fuddsoddiad strategol yn yr iaith gennym ni, ac fe ddaeth yr ymwelwyr cyfarwydd a newydd i gefnogi.Chief Executive Betsan Moses said, “It was our vision and decision to hold an open, fence-free and inclusive festival. By offering free entry to most of the Maes, this year was a strategic investment in the Welsh language, which attracted regular and unfamiliar supporters.
“Yn ôl rhai amcangyfrifon, daeth hanner miliwn o bobl i’r Maes yn ystod yr wythnos, sydd tua 350,000 yn fwy na’r niferoedd sy’n arfer ymweld. Felly, am gost o lai na £1 ychwanegol i’r Eisteddfod am bob ymwelydd newydd, llwyddwyd i ddenu cannoedd o filoedd o bobl i brofi gŵyl sy’n ddathliad eclectig a chyfoes o’n hiaith a’n diwylliant.“According to some estimates, up to half a million people came to the Maes during the week, which is an increase of 350,000 on numbers usually expected at the festival. So, for an additional cost of less than £1 to the Eisteddfod for every new visitor, we managed to attract hundreds of thousands of people to experience a festival which is a modern and eclectic celebration of our language and culture.
“Roedd cynnal Eisteddfod arbrofol yn heriol ac yn risg. Nid ar chwarae bach mae trefnu gŵyl agored fel hyn, ac roedd yn wahanol iawn i’n profiad ni fel trefnwyr fel rheol.“Holding an experimental Eisteddfod was challenging and a risk. It’s not easy to organise an open festival on this scale, and was a very different experience to that of organising a ‘regular’ Eisteddfod.
“Wrth gwrs, roedd gallu defnyddio adeiladau parhaol eiconig fel y Senedd, Pierhead a Chanolfan Mileniwm Cymru yn wych, ond roedd creu Maes Eisteddfod o amgylch yr adeiladau hyn yn waith cymhleth a hir. Ond braf yw edrych nôl erbyn hyn a gweld cymaint oedd y llwyddiant.“The ability to utilise permanent buildings like the Senedd, Pierhead and the Wales Millennium Centre was great, but creating an Eisteddfod Maes around these buildings was a long and complex process. However, as we look back at the week, we see that the experiment and the hard work paid off.
“Doedd y Gymraeg ddim yn rhwystr o gwbl, ond yn hytrach, roedd yn gyfle i werthu’r iaith, ein diwylliant a’n gwlad ar eu gorau. Mae hwn yn fuddsoddiad sydd wedi, ac sy’n parhau i newid agweddau pobl y brifddinas a thu hwnt tuag at yr iaith. Ac fe fyddwn yn falch o fod wedi gallu cynnal Eisteddfod arbrofol a gwahanol yn y Bae am byth oherwydd hyn.”“It gave us an opportunity to sell the language, our culture and our country at their best. It was an investment which has, and continues to change attitudes towards the Welsh language in the capital and further afield. We will always be proud that we held a different and experimental festival in Cardiff Bay and hope that the fantastic legacy it left will continue for many years to come.”

eisteddfod.cymru / eisteddfod / ashokahir