Dafydd Roberts Gogledd Dwyrain Cymru 1

Ardal Arbennig: Rhyfeddodau Gogledd Dwyrain Cymru 1 / The Marvels of North-East Wales 1: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy'n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw'n cynnwys geiriau wedi'u tanlinellu, fel y byddwch chi'n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.

This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.

Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru

Tybed ydych chi wedi clywed y pennill yma?

Pistyll Rhaeadr Yr Wyddfa fry
Yr yw yn Owrtyn yn eu llu
Clochdy Wrecsam a’r bont yn y Llan
Ffynnon Gwenffrwd,  Gresffordd a’u hyfryd gân

Wel, pennill yw e yn sôn am saith rhyfeddod Cymru, sef:

1. Pistyll Rhaeadr

Pistyll Rhaeadr

2. Clochdy Wrecsam

Clochdy Wrecsam

3. Yr Wyddfa

Yr Wyddfa

4. Coed Ywen Owrtyn

Coed ywen Owrtyn

5. Ffynhonnau Gwenffrwd Treffynnon

Ffynhonnau Gwenffrwd Treffynnon

6. Pont Llangollen

Pont Llangollen

7. Clychau Eglwys Gresffordd

Clychau Eglwys Gresffordd

Ydych chi’n gwybod beth sy gyda phob un mewn cyffredin? Wel, ar wahân i un, (Yr Wyddfa), maen nhw i gyd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru!

Seven Wonders of Wales

Mae’r pennill yn hen iawn. Beth am inni ddarllen am ryfeddodau eraill yn yr ardal yma?

Y Cae Ras, Wrecsam

Clwb pêl-droed Wrecsam yw’r clwb pêl-droed trydydd hynaf yn y byd. Dechreuodd y clwb yng ngwesty’r Turf yn 1864 gan aelodau clwb criced y dref. Roedden nhw’n edrych am gêm i’w chwarae yn ystod y gaeaf!

Hefyd, Y Cae Ras ydy’r stadiwm pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd.

Dyma fanylion gêm gyntaf Cymru ar y Cae Ras - mis ar ôl y cyfarfod i ffurfio Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yng Ngwesty’r Wynnstay, Rhiwabon, Wrecsam.

Gêm Gyntaf Tîm Pêl-Droed Cymru

  • Pryd: Mawrth 25 1876
  • Ble: Y Cae Ras, Wrecsam
  • Yn erbyn pwy: Yr Alban
  • Y sgôr:  Cymru 0 – Yr Alban 4
  • Yn nhîm Cymru: Dau gyfreithiwr, meddyg, gweinidog, clerc, glöwrdyn simnai a saer.

Dyma raglen y gêm:

Rhaglen- Gem gyntaf Cymru

Gem gyntaf Cymru

Cymdeithas Bêl-Droed Cymru     

  • Dechrau: Chwefror 22, 1876
  • Ble: Gwesty’r Wynnstay, Rhiwabon, ger Wrecsam
  • Cartref ar y dechrau: Wrecsam (1876-1986)
  • Cartref nawr: Caerdydd (1986 tan heddiw)

Ar y Cae Ras, cafodd y ffilm gyntaf o gêm bêl-droed ryngwladol ei saethu yn 1906. ‘Match of the Day 1906!!!’ Nefi wen!

Y ffilm gyntaf o gêm bêl-droed ryngwladol

  • Pryd: 1906
  • Ble: Y Cae Ras, Wrecsam
  • Y timau: Cymru a Gogledd Iwerddon
  • Y sgôr: 4 – 4

Gwyliwch uchafbwyntiau’r gêm yma: https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-wales-v-ireland-at-wrexham-1906-1906-online

Oeddech chi'n gwybod?

Gwesty’r Turf yw’r unig dafarn ym Mhrydain sy’n rhan o stadiwm pêl-droed. Tan yn ddiweddar, roedd hi’n bosibl gwylio’r gem o eisteddle bach yn y dafarn.

Gwesty’r Turf

Gwesty’r Turf Tua 1978 – edrychwch ar yr eisteddle bach ar ochr y dafarn!!

Traphont Pontcysyllte

Traphont Pontcysyllte

Dylai pawb fynd dros y draphont anhygoel yma o leiaf unwaith . Gallwch chi deithio ar droed neu mewn cwch. Cafodd y draphont ei hadeiladu gan Thomas Telford ac mae’n cludo Camlas Llangollen dros yr Afon Ddyfrdwy. Dyma rai ffeithiau diddorol am draphont Pontcysyllte:

  1. Agorodd hi yn 1805
  2. Costiodd hi £47,000 i’w hadeiladau (bron tair miliwn o bunnoedd yn arian heddiw!)
  3. Mae’r draphont yn ymestyn am 1,000 o droedfeddi ac mae hi dros 126 o droedfeddi o uchder.
  4. Mae’r draphont yn un o dri Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru. Y ddau arall yw Gwaith Haearn Blaen-afon, Gwent a Chestyll gogledd Cymru.
  5. Hon yw’r reid uchaf yn y byd y gallwch fynd arni mewn cwch camlas.

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk/cy

Plasty Erddig, Wrecsam

Plasty Erddig

Dyma un o dai hanesyddol mwyaf crand yng Nghymru. Cafodd y plasty ei adeiladu yn y 18fed ganrif gynnar. Dyw Downton Abbey yn ddim byd o’i gymharu ag Erddig. Dyma rai ffeithiau am y plasty:

  • Lawr llawr mae casgliad unigryw o luniau’r gweision oedd yn gweithio yn y plasty.
  • I fyny’r grisiau, mae trysorfa o hen ddodrefn, tecstilau a phapur wal.
  • Tu allan, mae llawer o adeiladau diddorol er enghraifft y stablau, yr efail, gweithdy’r saer a’r felin lifio.
  • Mae’r gerddi yn anhygoel. Yn y gerddi, mae pob math o goed ffrwythau a blodau
  • Teulu’r Yorke oedd yn berchen ar y tŷ ers dros 240 o flynyddoedd.
  • Enw pob aelod gwrywaidd o deulu’r Yorke oedd naill ai Simon neu Phillip.
  • Yn 1973, rhoddodd Phillip Yorke y tŷ i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Doedd dim plant gan Phillip na’i frawd Simon i’w etifeddu.
  • Roedd Phillip Yorke yn ddyn rhyfedd! Mae pobl Wrecsam yn cofio Phillip Yorke yn reidio hen feic peni ffardding o gwmpas y dref. Roedd e hefyd yn cadw defaid yn y plasty!!

Plasty Erddig

Prif arddwr y Plasty yn trafod y beic pennifardding gyda Phillip Yorke

Ewch i’r wefan: www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/erddig

Mwy o ryfeddodau’r gogledd ddwyrain i ddod y tro nesaf...


Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda'r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.

Y diweddaraf oddi wrth Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts