Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Parc Cenedlaethol Eryri (‘tir yr eryr’) yw’r trydydd parc cenedlaethol mwya ym Mhrydain. Mae’n ymestyn o Fae Ceredigion yn y Gorllewin i Ddyffryn Conwy yn y Dwyrain ac o’r Afon Dyfi yn y De hyd at dref Conwy yn y Gogledd. Mae llawer o drefi a phentrefi adnabyddus yn y Parc – Beddgelert, Aberdyfi, Tywyn, Cricieth, Y Bala, Betws y Coed, Llanberis, Bethesda, Rhyd Ddu a Blaenau Ffestiniog i enwi ond rhai.
Mae’r Parc yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd trwy gydol y flwyddyn – ond pam?
Y Mynyddoedd
Mae’r Parc yn enwog am ei fynyddoedd – Yr Wyddfa (mynydd uchaf Cymru a Lloegr), Cadair Idris, Crib y Ddysgl, Carnedd Dafydd a’r Glyder Fawr i enwi ond rhai. Yn wir, mae mwy na 90 copa dros 2,000 o droedfeddi a 15 copa dros 3,000 o droedfeddi! Mae’r ffosiliau cregyn ar ben Yr Wyddfa yn profi i’r mynyddoedd yma fod o dan y môr amser maith yn ôl! Ond os dydych chi ddim yn mwynhau mynydda, beth am ddal trên bach ‘Yr Wyddfa’, sy’n mynd i fyny ac i lawr y mynydd bob dydd. Mae canolfan groeso newydd sbon ar y copa.
Y Llynnoedd
Mae dros gant o lynnoedd yn y Parc, o Lyn Ogwen yn y gogledd i Dal-y-llyn yn y de. Llyn Tegid ger tref y Bala yw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Dyna leoliad Gwersyll yr Urdd Glan-llyn. Mae’r llynnoedd yn boblogaidd dros ben gyda’r rhai sy’n hoff o chwaraeon dŵr.
Bywyd Gwyllt
Mae amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid pwysig yn y Parc. Mae’r blodyn Lili’r Wyddfa sy’n tyfu ar ben y mynyddoedd yn unigryw i’r Parc. Hefyd, Llyn Tegid ydy’r unig le yn y byd ble mae’r gwyniad (pysgodyn o’r Oes Iâ diwetha tua 10,000 mil o flynyddoedd yn ôl) yn byw. Rhybudd – os daliwch chi un, peidiwch â’i fwyta. Dyw e ddim yn flasus o gwbl!!
Atyniadau
Mae’r trenau bach yn y Parc yn dyddio o’r oes diwydiannol. Roedden nhw’n cludo llechi o’r chwareli i’r porthladdoedd. Heddiw, maen nhw’n cludo twristiaid. Gallwch chi ddal trenau bach o Gaernarfon, Ffestiniog, Llanuwchllyn, Y Friog, Tywyn a Llanberis.
Os ydych chi’n teimlo’n anturus, mae’n bosibl mentro o dan y ddaear i weld sut roedd y chwareli llechi yn gweithio dros ganrif yn ôl. Y chwarel fwya enwog yw chwarel Y Llechwedd, Blaenau Ffestiniog. Os ydych chi’n glawstroffobig, gallwch chi fynd i amgueddfa’r diwydiant llechi yn Llanberis.
Ydych chi’n hoffi hanes Cymru? Wel, mae llawer o gestyll yn y Parc – cestyll Cymreig fel Castell y Bere ger Abergynolwyn, Castell Criccieth a Chastell Dolbadarn ger Llanberis. Hefyd, mae cestyll y Brenin Edward 1af fel y rhai yn Harlech, Conwy a Chaernarfon.
Oeddech chi’n Gwybod?
- Roedd Syr Edmund Hillary (y dyn cyntaf i gyrraedd copa Everest) yn ymarfer ym mynyddoedd Eryri.
- Pob mis Hydref, mae ras o gwmpas troed Yr Wyddfa. Enw’r ras yw Marathon Yr Wyddfa.
- Mae’n bosibl cerdded i mewn i un mynydd – mynydd Elidir, ble mae gorsaf drydan enfawr – Gorsaf Dinorwig. ‘Y Mynydd Trydan’ neu’r ‘Mynydd Gwefru’ yw llysenw’r mynydd.
- Mae sawl ffilm enwog wedi’i lleoli yn yr ardal yma er enghraifft ‘Dragonslayer’, ‘Tomb Raider’ a ‘The Black Cauldron’.
- Cafodd y rhaglen deledu eiconig ‘The Prisoner’ ei ffilmio ym mhentref Eidalaidd Portmeirion ger Porthmadog yn y 60au.
- Cafodd y ffilm gyntaf yn yr iaith Gymraeg, ‘Y Chwarelwr’ ei gwneud yn ardal Blaenau Ffestiniog (https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-y-chwarelwr-1935-online)
Parc Cenedlaethol Eryri – Digon i’w weld ac i’w wneud.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.