Cymunedau Byw- Ymestyn y Gymraeg

Cymunedau Byw Cymdeithas yr Iaith: Ymestyn y Gymraeg / The Welsh Language Society Living Communities: Expansion of the Welsh language

Yn Prif Dudalen

Ddydd Gwener 10/08, 11:00, bydd grŵp o bobl sydd â diddordeb yn ymestyn yr iaith yn siarad fel panel ym mhabell Cymdeithas yr Iaith (ger Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd) fel rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol. Bydd Nia Llywelyn, Neil Rowlands, Lowri Jones, Medi James a Simon Chandler yn rhannu eu barn yn gryno…

On Friday 10/08, 11:00, a group of people with an interest in the expansion of the Welsh language will speak as a panel in the Cymdeithas yr Iaith tent (by the Norwegian Church, Cardiff Bay) as part of the National Eisteddfod. Nia Llywelyn, Neil Rowlands, Lowri Jones, Medi James and Simon Chandler will briefly share their views…

 

Nia Llywelyn, Pecyn Cymunedau Byw

Pwrpas y pecyn yw sbarduno a datblygu storfa o syniadau ymarferol i’w gweithredu o fewn eich cymuned. Mae’n cynnwys enghreifftiau a chanllawiau ond y prif amcan yw ei ddefnyddio fel arf i gychwyn trafodaeth gydag unigolion, busnesau, grwpiau neu gymdeithasau yn eich ardal chi o ran ehangu’r defnydd o’r Gymraeg. Y gobaith yw darganfod ‘sbardunwyr’ cymunedol fydd yn gallu mynd i’r afael â’r gwaith hollbwysig yma i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw – i’w gweld a’i chlywed yn eich cymuned a bod yna barhad i weithgareddau sy wedi’u gwreiddio yn y gymuned. Mae rôl bwysig iawn gan bobl sy’n dysgu’r iaith neu wedi dysgu’r iaith a’r nod yw gweld twf yn nifer y gweithgareddau lle mae’r Cymry Cymraeg a’r Cymry Cymraeg Newydd yn dod ynghyd er mwyn cryfhau’r Gymraeg.

The purpose of the pack is to stimulate and develop a store of practical ideas to be implemented within your community. It includes examples and guidelines but the main aim is to use it as a tool to start discussions with individuals, businesses, groups or societies in your area with the aim of extending the use of the language in your area. The hope is to identify community ‘champions’ who will be able to tackle this crucial work to ensure that Welsh is a living language – visible and heard in your community and ensure continuity of activities are rooted in the community. People who have learnt Welsh or are in the process of learning the language have a crucial role to play and the aim is to expand the activities that bring together Welsh Speakers and New Welsh Speakers to strengthen the language.

cymdeithas.cymru/pecyn


Neil Rowlands, Parallel.cymru

Mae pobl yn profi’r Gymraeg ar gontinwwm o alluoedd gwahanol, ond y ffordd draddodiadol o gynhyrchu deunydd yw mewn dull deuol. Trwy gyflwyno cynnwys unigryw ochr yn ochr, yn ‘paralel’, ac wedi’u graddoli yn ôl hyfedredd (Syml, Anffurfiol, Ffurfiol, Llenyddol), mae’r Gymraeg yn hygyrch i bawb.
Rydw i’n ddysgwr actif o Gaerdydd ac Abertawe, ac ar ôl dyfod siaradwr hyderus roeddwn i eisie darllen llawer mwy. Roeddwn i’n gwybod y gall gweld y ddwy iaith gyda’i gilydd wneud darllen yn fwy pleserus a gwnes i osod mae’r cylchgrawn hwn i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau darllen y Gymraeg. Rydw i’n mewn dyled i’r awduron, cyfieithwyr, tiwtoriaid a siaradwyr sydd wedi cyfrannu eu cefnogaeth.
People experience Welsh on a continuum of abilities, but the traditional way of producing material is as binary Welsh or English. By presenting unique content side by side, in parallel, sequenced by level of proficiency (Simple, Informal, Formal, Literary), the language is accessible to all.
I’m an active learner from Cardiff and Swansea, and after becoming a confident speaker I wanted to read a lot more. I knew that seeing both languages together can make reading more enjoyable, and set up this magazine to ensure everyone can enjoy reading Welsh.

parallel.cymru/neil-rowlands-how-i-created-parallel-cymru/

 


Lowri Jones, Radio Beca

O’n diwylliant a’n ffordd o fyw y daw’r iaith Gymraeg. Trwy ei gwaith gyda mudiad Radio Beca yn y gorllewin, mae Lowri yn mynd ati i ysgogi cymdogaethau i drafod eu hanghenion a’u potensial, ac yn eu galluogi i ddefnyddio darlledu er mwyn gwneud gwahaniaeth. Ein diwylliant sy’n sail i’r gweithredu hwn: mae’n gweithredu cwbl gynhwysol a chyfranogol. Mae Radio Beca a mudiadau tebyg yn rhoi mwy na chyfle i bobl ddefnyddio’r Gymraeg- mae’n rhoi rheswm iddynt ei defnyddio.

The Welsh way of life is the foundation of the Welsh language. Through her work with Radio Beca in the west of Wales, Lowri encourages communities to discuss their needs and potential, and enables them to use broadcasting as a means to make a difference to society. Radio Beca follows the principles of inclusivity and participation, and its aim as an organisation is to give people more than an opportunity to use their Welsh- but to give them a reason to use it.

radiobeca.cymru


Medi James, Cletwr (Siop & Caffi cymunedol, Tre’r-ddol, ger Machynlleth)

  • Pwysigrwydd pwyso ar siaradwyr Cymraeg yn ‘u hardaloedd – maint eu cyfrifoldeb nhw i ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Sut mae gwneud y Gymraeg yn glywadawy mewn llefydd cyhoeddus.
  • Cael adrannau perthnasol y Llywodraeth i sylweddoli mai trwy ddefnyddio pobl i hyrwyddo a pherswadio wyneb yn wyneb ydy’r gamp ac nid trwy anfon datganiadau a thaflenni i weithluoedd yn aml sydd a dim clem am y Gymraeg.
  • The weight on Welsh speakers in their areas – the size of their responsibility to use Welsh.
  • How to make the language clear in public places.
  • Get the relevant Government departments to realise that through using people to promote and persuade face-to-face is the goal and not send statements and worksheets to workplaces that don’t understand the Welsh language.

cletwr.com


Simon Chandler, Cwmnïaith

Hoffwn gychwyn menter o’r enw ‘Cwmnïaith’ gyda’r nod o ddod â dysgwyr a siaradwyr brodorol hŷn ynghyd. Y cysyniad yw y byddai pob dysgwr yn cael ei ‘baru’ gyda siaradwr hŷn am gyfnod penodedig ac yn ymweld ag ef yn rheolaidd. Fy ngobaith yw y byddai hynny o fudd i bawb ar ffurf ymarfer sgwrsio da i’r dysgwyr, cwmnïaeth i’r siaradwyr hŷn a chyfoethogiad i’r gymdeithas yng Nghymru’n gyffredinol trwy sicrhau bod diwylliant Cymru’n cael ei basio ymlaen.

I would like to start an initiative, called ‘Cwmnïaith’ and aimed at bringing learners and older native speakers together. The concept is that every learner would be ‘matched’ with an older speaker for a specified period and would visit him or her regularly. My hope is that this would benefit everyone in the form of good conversational practice for the learners, companionship for the older speakers and the enrichment of Welsh society in general by ensuring that Welsh culture is passed on.

Dydd Gwener 10/08 @ 11:00
Pabell Cymdeithas yr Iaith (ger Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd)

cymdeithas.cymru/steddfod   /    cymdeithas.cymru/pecyn

 

Cymdeithas yr Iaith Digwyddiadau yr Eisteddfod

Cymdeithas yr Iaith logo

Cwis y Flwyddyn Cymunedau Byw