Blog Dwyieithog Cymdeithas yr Iaith

Blog dwyieithog Cymdeithas yr Iaith: Rheoliadau addysg newydd yn peryglu’r miliwn / New education rules ‘endanger’ one million Welsh speakers target

In Updates by key organisations in Wales/Formal
Blog a newyddion dwyieithog gyda Saesneg / A bilingual blog and news with English (from the Welsh Language Society)

Mae mudiad iaith wedi rhybuddio y byddai perygl gwirioneddol o fethu targed y miliwn o siaradwyr petai Llywodraeth Cymru yn dilyn awgrym panel i beidio â gosod targedau i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion Saesneg.

A language group has warned that there would be real risk of missing the million Welsh speakers goal if the Welsh Government follows a panel’s suggestion not to set targets for expanding Welsh language teaching in English-medium schools.

Mae panel o dan arweiniad y cyn Aelod Cynulliad Aled Roberts wedi bod yn cynnal adolygiad o sefyllfa addysg Gymraeg yn genedlaethol, ac mae disgwyl iddynt gyhoeddi eu hargymhellion y mis yma. Fel rhan o’r gwaith, mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi rheoliadau addysg newydd a fydd yn pennu sut y dylai awdurdodau lleol gynllunio i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg drwy newid strwythur y cynlluniau addysg Gymraeg lleol – Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.A panel under the leadership of former Assembly Member Aled Roberts has been conducting a review of Welsh-medium education nationally, and are expected to publish their recommendations this month. As part of the work, the Welsh Government intends to publish new education regulations for councils on planning for the expansion of Welsh-medium education by changing the structure of local plans, known as ‘Welsh in Education Strategic Plans’ or WESPs.
Mewn cyfarfod ym mis Rhagfyr, cyflwynodd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith eu safbwynt gerbron panel y Llywodraeth. Dengys dadansoddiad ystadegol y mudiad y bydd angen i'r mwyafrif o blant 7 mlwydd fod mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2030 er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr.In a meeting in December, a delegation from Cymdeithas yr Iaith presented their views to the Government’s panel. The campaign group’s own research shows that the majority of 7 year olds will need to be in Welsh-medium education by 2030 to reach the million speakers target by 2050.
Mae’n debygol y bydd y panel yn argymell gosod targedau o’r canol i lawr ar awdurdodau lleol bob deng mlynedd ar gyfer cynyddu addysg Gymraeg. Fodd bynnag, mae’n ymddangos na fydd hynny’n cynnwys targedau i gynyddu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Saesneg ar hyn o bryd – rhywbeth sy’n hanfodol er mwyn cyrraedd y miliwn, yn ôl ymgyrchwyr iaith.It’s understood the panel will recommend setting targets for local authorities every ten years for the expansion of Welsh-medium education. However, it appears they will not include targets to increase teaching in Welsh in schools that are currently English-medium – something campaigners say is vital to reach the million speakers target.
Mewn llythyr at y panel wedi’r sesiwn dystiolaeth, dywed Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Mae strategaeth iaith y Llywodraeth yn gosod targed i sicrhau bod hanner y plant sy’n mynychu ysgolion Saesneg yn siarad Cymraeg yn rhugl erbyn 2050. Rydym yn pryderu nad oedd dim byd gan aelodau’r panel i'w ddweud am yr hyn fyddai’n arwain at gyrraedd y targed hwnnw: un sy’n gwbl ganolog i gynllun y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr…In a letter to the panel following the evidence session, Osian Rhys, Chair of Cymdeithas yr Iaith, says: “The Government’s strategy sets a target to ensure that half the children attending English-medium schools will leave school speaking Welsh fluently by 2050. We are concerned that the panel had nothing to say about ensuring that this target is met: a target that is absolutely central to the Government’s plan to reach a million speakers …
“Nodwyd y byddai gofyniad i gynghorau ‘nodi’ sut maen nhw’n mynd i wella dysgu drwy’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg. Fel y nodwyd gennym, pryderwn fod hynny’n llawer rhy debyg i'r drefn [bresennol] ... polisi sydd wedi arwain at fethiant llwyr. Byddai parhau â’r un polisi yn golygu y bydd argymhelliad yr Athro Sioned Davies yn adroddiad 2013 yn dal i fod heb ei weithredu…”“It was noted there would be a request for councils to ‘note’ how they are going to improve Welsh teaching in English-medium schools. As we said, we are concerned that that is far too similar to the current system ... which has been a complete failure. Continuing with the same policy would mean a key recommendation from Professor Sioned Davies’ 2013 report will still not have been implemented …”
Ychwanega’r llythyr: “Ar yr un pryd ag ymatal rhag cymryd camau ystyrlon i gymreigio ysgolion nad ydynt yn ysgolion penodedig Cymraeg ar hyn o bryd, ymddengys fod y panel yn mynd i dderbyn targedau cenedlaethol y Llywodraeth o ran ehangu addysg cyfrwng Cymraeg penodedig. Mae’r targedau hyn yn seiliedig ar dwf o gyfeiriad arall, sef y sector Saesneg. Heb sicrwydd bod twf yn mynd i ddod yn y sector Saesneg, byddai angen i'r twf yn y sector cyfrwng Cymraeg penodedig fod yn llawer iawn uwch …The letter adds: “At the same time as failing to take meaningful steps to normalise Welsh in schools that are not Welsh-medium at the moment, it appears that the panel is going to accept the Government’s national targets in terms of the expansion of Welsh-medium schools. Those targets are based on an assumption of growth from another direction, namely the English-medium sector. Without the certainty that growth is going to come from current English-medium schools, the growth in Welsh-medium schools would have to be much much higher …
“Mae’n rhaid i'r panel wneud dewis: naill ai amlinellu targedau ystyrlon a phenodol ar gyfer cymreigio ysgolion Saesneg a dwyieithog yng Nghymru; neu ofyn i awdurdodau lleol fynd uwchlaw’r targedau cenedlaethol a amlinellir yng nghynllun ‘Y Gymraeg mewn Addysg’ y Llywodraeth er mwyn gwneud iawn am y diffyg, neu'r ansicrwydd, am allu cyflawni’r targed ar gyfer y sector Saesneg. Teimlwn y byddai penderfyniad i geisio osgoi cyfrifoldeb yn esgeulus ac yn peryglu’r consensws trawsbleidiol o blaid cyrraedd y filiwn o siaradwyr.“The panel must make a choice: either to outline meaningful and specific targets for normalising Welsh in English-medium and bilingual schools in Wales; or ask councils to go beyond the national targets in the Government’s ‘Welsh in Education’ plan to make up the difference, or uncertainty, about the ability to deliver on the target for the English-medium sector. We feel that avoiding a decision on this would be negligent and would endanger the cross-party consensus which supports the million speakers target.
“Gadewch i ni fod yn glir: oni bai bod y panel yn sicrhau naill ai (1) bod targedau eglur i awdurdodau ar gyfer cymreigio’r sector cyfrwng Saesneg yn benodol, neu (2) fod targedau llawer uwch ar gyfer nifer y plant fydd yn mynd i'r sector cyfrwng Cymraeg, mae’n anochel y bydd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn cael ei fethu.“Let us be clear: unless the panel ensures that there are either (1) clear targets for authorities to normalise Welsh-medium education in the English-medium sector specifically, or (2) far higher targets for the number of children going to Welsh-medium schools, it is inevitable that the million Welsh speakers target by 2050 will be missed.
“Eto, dadleuwn ei bod yn fater o gyfiawnder cymdeithasol bod pob un plentyn yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg… Credwn fod sylwadau’r panel yn hyn o beth yn tanlinellu pwysigrwydd ein galwad am Ddeddf Addysg Gymraeg. Rydym yn gryf o’r farn mai dyna ddylai blaenoriaeth deddfu’r Llywodraeth fod o ran yr iaith. Wedi’r cwbl, mae deddfwriaeth addysg Gymraeg yn gwbl greiddiol i'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr.”“Again, we argue that it’s a matter of social justice that every child should leave school fluent in Welsh… We believe that the panel’s comments underline the importance of our call for a Welsh Language Education Act. We firmly believe that this should be the Government’s legislative priority for the language. After all, Welsh language education is absolutely central to the aim of reaching a million speakers.”

13/12/2018: Ad-drefnu’r Llywodraeth: y Gymraeg yn ôl yn y cabinet / Reshuffle – Welsh language back at cabinet table

Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymateb i benodiad Eluned Morgan fel Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol o fewn y cabinet. 

Language campaigners have responded to the appointment of Eluned Morgan as Cabinet Minister for the Welsh language and International Relations.

Meddai Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae’n dda gweld bod Gweinidog y Gymraeg bellach yn eistedd o fewn y cabinet. Rhan bwysig o’i gwaith fydd sicrhau bod pob un o’r gweinidogion eraill yn cymryd eu cyfrifoldeb dros y Gymraeg hefyd. Mae angen holl rym y Llywodraeth y tu ôl i strategaeth y miliwn. Mae’n hanfodol hefyd bod adran lawn, nid is-adran, o fewn y gwasanaeth sifil i’w chefnogi hi a’r Llywodraeth gyfan yn y gwaith mawr sydd o’u blaenau.

“Rydyn ni’n obeithiol y gwelwn ni newid agwedd yn y Llywodraeth gyda Mark Drakeford wrth y llyw. Roedden ni’n falch bod maniffesto arweinyddol y Prif Weinidog newydd yn canolbwyntio ar gyrraedd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Doedd dim sôn am y cynlluniau annoeth presennol i wanhau’r Ddeddf Iaith sy’n tynnu sylw oddi ar y gwaith o gyflawni’r strategaeth. Mae’n edrych yn fwy a mwy tebygol y bydd y cynlluniau deddfwriaethol hynny, a fyddai’n gwanhau hawliau iaith ac yn dileu swydd Comisiynydd newydd y Gymraeg, yn cael eu gollwng.”

Osian Rhys, Chair of Cymdeithas yr Iaith Gymraeg commented:

“It’s good to see the language get higher status at the cabinet table following the reshuffle. An important part of the Welsh Language Minister’s role now will be to ensure that every other minister takes their responsibility for the language as well. The whole weight of Government is needed behind the million Welsh speakers target. It is also vital now that the civil service has a full department, not just a minor unit, to support her and the whole of Government with the big job ahead of them.”

“We’re hopeful we will see a change of attitude under the leadership of Mark Drakeford. We were pleased that his manifesto concentrated on reaching the million Welsh speakers target. It didn’t mention the foolish plans to weaken the Language Act, which has been taking the Government’s eye off the ball. It looks increasingly likely that those legislative plans, that would weaken language rights and abolish the newly-appointed Commissioner’s job, will be dropped.”


26/11/18
‘Cywiro’ arwyddion ffyrdd Saesneg yn Wrecsam / Wrexham’s English-only road signs ‘corrected’ over weekend

Arwydd Ildiwch Wrecsam

Mae ymgyrchwyr iaith wedi gosod sticeri ar wyth deg o arwyddon ffyrdd Cyngor Wrecsam dros y penwythnos. Mae cannoedd o arwyddion ‘Ildiwch’ yn sefyll ar hyd a lled y sir wedi eu gosod yn uniaith Saesneg, ‘Give Way’, ac felly hefyd yn anghyfreithlon, yn ôl cadeirydd Cell Wrecsam o Gymdeithas yr Iaith, Aled Powell.

Welsh language campaigners have placed stickers on eighty of Wrexham Council’s road signs over the weekend. Hundreds of ‘Give Way’ signs across the county are in English only and have therefore been erected illegally, according to Aled Powell, chair of the Wrexham branch of Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Daw’r newyddion cyn i gynghorwyr drafod adroddiad damniol gan Gomisiynydd y Gymraeg ddydd Mercher yma ynghylch methiannau cyson y Cyngor i godi arwyddion ffyrdd sy’n ddwyieithog. Yn siarad am y weithred, dywedodd Aled Powell:The news comes as local councillors prepare to discuss a damning report by the Welsh Language Commissioner this Wednesday into consistent failures by the council to keep to legal duties to erect bilingual signage. Speaking about the action, Aled Powell commented:
“Ers cyn i Gyngor Wrecsam cael ei ffurfio ym 1996, mae dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau yng Nghymru i osod arwyddion ffyrdd yn y Gymraeg a’r Saesneg.“Since before Wrexham Council was formed in 1996, there has been a legal duty on each authority in Wales to ensure road signs are in both Welsh and English.
“Ond pan symudais i fyw yn ardal Wrecsam sylwais fod un math o arwydd yn sefyll ym mhobman heb air o Gymraeg, fel creiriau o hen oes a fu pan roedd rhai pobol yn credu mai Saesneg oedd yr unig iaith o unrhyw werth.”“But when I moved to live in the Wrexham area I noticed one type of sign stood all over the place without any Welsh, like relics of a distant past when some people believed English was the only language of any worth.”
Mae ymgyrchwyr wedi gosod sticer ar ddwsinau o’r arwyddion fel eu bod nawr yn cynnwys y Gymraeg, ‘ILDIWCH’. Cyn newid i drefn ei safonau Cymraeg newydd yn 2015, roedd gan Gyngor Wrecsam bolisi o roi’r Saesneg yn gyntaf ar arwyddion ffyrdd, yn wahanol i nifer o siroedd eraill.Campaigners have placed a sticker on dozens of the signs so they now have the missing Welsh ‘yield’ instruction: ‘ILDIWCH’. Before changing to its new Welsh language standards in 2015, Wrexham Council’s policy was to put the English first on road signs, different to many other Welsh counties.
Esboniodd Aled Powell pam fod un math o arwydd wedi ei drin yn wahanol: “Dyw siâp unigryw'r arwyddion hyn ddim yn caniatáu gosod y gair Cymraeg islaw’r term Saesneg felly roedd yn rhaid i Gyngor Wrecsam gwneud eithriad i'w gynllun iaith Gymraeg.Aled Powell explained why one type of sign has been treated differently: “The unique shape of these particular signs means there’s not enough space to place the Welsh word, ‘ildiwch’, beneath the English term, ‘give way’, so Wrexham Council had to make an exception to their Welsh language policy.
“Ond yn hytrach na rhoi’r Gymraeg yn gyntaf, penderfynodd y Cyngor peidio â rhoi’r Gymraeg o gwbl. Mae swyddog Cymraeg y Cyngor yn honni i'r awdurdod fod wedi derbyn cyfarwyddiadau gan awdurdod uwch yn eithrio’r arwyddion hyn o ddeddfwriaeth am y Gymraeg.“But rather than place the Welsh first, the Council decided not to put the Welsh at all. The Council’s Welsh language officer claims the authority had received direction from a higher authority exempting these particular signs from Welsh language legislation.
“Dw i wedi ysgrifennu a gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg, i Lywodraeth Cymru ac i Swyddfa Cymru'r llywodraeth yn San Steffan a does dim un wedi medru cadarnhau esboniad y Cyngor.”“I’ve written and asked the Welsh Language Commissioner, the Welsh Government and the Wales Office of the government in Westminster and not one has been able to confirm the Council’s explanation.”
Roedd gwybodaeth am yr arwyddion hyn yn destun apêl tribiwnlys cafodd ei ddwyn yn erbyn y Comisiynydd Gwybodaeth gan Mr Powell yn 2015. Dan arweiniad y Barnwr Robin Callender Smith, daeth panel y tribiwnlys yn unfrydol i'r penderfyniad i ganiatáu apêl Mr Powell wedi iddi ddod i'r amlwg bod penderfyniad y Comisiynydd Gwybodaeth wedi ei wneud yn seiliedig ar honiadau anghywir gan Gyngor Wrecsam, a oedd wedi gwadu bod ym meddiant cofnodion lleoliadau ei arwyddion ‘Ildiwch’.Information regarding these signs was the subject of a tribunal appeal brought against the Information Commissioner by Mr Powell in 2015. The tribunal panel, led by Judge Robin Callender Smith, came to the unanimous decision to allow Mr Powell’s appeal as it became apparent the Information Commissioner’s decision had been based on false claims by Wrexham Council, whom had denied having record of the locations of any of their ‘Give Way’ signs.
Cafodd Cyngor Wrecsam ei orfodi gan y barnwr i ymuno fel parti ychwanegol i'r achos cyfreithiol ac yna gwnaeth yr awdurdod newid y stori roedd wedi cadw iddi dros y pedwar mis ar ddeg blaenorol. Cofnododd y Barnwr Smith ym mhenderfyniad y tribiwnlys: “Mae’r Cyngor wedi cyfaddef ei fod mewn gwirionedd yn dal y wybodaeth hon ac mai amryfusedd pur oedd awgrymu nad oedd yn ei dal.”Wrexham Council was directed by the judge to join legal proceedings as an additional party and subsequently changed the story it had stuck to for the previous fourteen months. Judge Smith recorded in the tribunal’s decision: “The Council conceded that it did actually hold this information and that it had been a genuine oversight to suggest it was not held.”

05/11/2018
Ffermwr yn gorfod talu costau am wrthod talu’r ffi drwydded / Farmer sentenced to pay costs for refusing to pay TV licence

Mae ffermwr o Ynys Môn wedi cael ei ddyfarnu i orfod talu £220 mewn gwrandawiad llys yng Nghaernarfon heddiw fel rhan o ymgyrch i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru ar 5ed Tachwedd 2018.

A farmer from Ynys Môn has been sentenced to pay £220 for refusing to pay his TV licence as part of a campaign for Welsh broadcasting powers at a court hearing in Caernarfonon the 5th November 2018.

Y ffermwr sy'n 56 mlwydd oed o Fodorgan yn Ynys Môn, William Griffiths, yw'r ail unigolyn i gael ei ddyfarnu gan lys am wrthod talu'r ffi drwydded deledu fel rhan o'r ymgyrch. Dedfrydwyd aelod arall o Gymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf, mewn achos yn Aberystwyth fis diwethaf. Mae dros saith deg o bobol yn gwrthod talu am eu trwyddedau teledu mewn ymdrech i drosglwyddo rheolaeth dros ddarlledu o San Steffan i Gymru.The 56 year-old farmer from Bodorgan on Ynys Môn, William Griffiths, is the second person to receive a court sanction for refusing to pay his TV licence as part of the effort to devolving broadcasting to the Senedd in Cardiff. Another member of Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf, was sentenced in Aberystwyth last month. There are over seventy people currently refusing to pay their TV licence fees as part of a campaign to devolve control over broadcasting from Westminster to Wales
Yn ôl arolwg barn gan YouGov a gyhoeddwyd y llynedd, mae 65% o bobl Cymru yn ffafrio datganoli darlledu i'r Senedd yng Nghymru.According to a YouGov opinion poll published last year, 65% of people in Wales favour devolving powers over broadcasting to the Senedd in Cardiff.
Yn siarad gerbron y llys, dywedodd Williams Griffiths:Speaking in court, Williams Griffiths commented:
"Mae rheolaeth dros ddarlledu yn rhywbeth sydd i mi yn hawl sylfaenol i unrhyw wlad. Mae hyn yn bwysig o ran sut da ni'n gweld y byd ag am i'r byd ein gweld ni. Hefyd mae'n hanfodol er mwyn gwarchod darlledu yn y Gymraeg."Control over broadcasting is something that is a basic right for any country. It's important in terms of how we see the world and how the world sees us. It's also vital to protect Welsh language broadcasting.
"Yn ogystal mae datganoli darlledu yn bwysig o ran democratiaeth yng Nghymru. Yn yr etholiad cyffredinol diwethaf er enghraifft, roedd y newyddion Llundeinig yn ein boddi gyda Theresa May yn dweud hyn am iechyd, Corbyn yn dweud y llall am addysg. Mae hyn i gyd yn amherthnasol i ni yng Nghymru. Yr un fath gyda refferendwm Brexit. Ni chafwyd trafodaeth ar lawr gwlad Cymru. Beth bynnag fo'ch barn ar Brexit a pha bynnag liw gwleidyddol ydych, mae hybu democratiaeth yn hollbwysig."Devolving broadcasting is also important in terms of democracy in Wales. At the last general election for example, the London-based news swamped us with Theresa May talking about health and Corbn talking about education. That's all irrelevant to us in Wales. The same with the Brexit referendum. The wasn't a Wales-focussed discussion. Whatever your opinion about Brexit and whatever political party you support, promoting democracy is essential.
"Rhaid gofyn y cwestiwn: pa fath o wlad sy'n mynnu rheolaeth dros ddarlledu mewn gwlad arall? Mae'r ymgyrch yma yn hollbwysig i gael gwell dyfodol i bobol Cymru.""We must ask the question: what type of country would want control of broadcasting in another country? This campaign is vital for a better future for the people of Wales."
Anerchodd y bardd a'r canwr Geraint Lovgreen rali o flaen y llys cyn gwrandawiad Mr Griffiths. Dywedodd Mr Lovgreen:The poet and musician Geraint Lovgreen addressed a rally outside the court ahead of Mr Griffiths' hearing. Mr Lovgreen said:
"Diolch o galon i William am ei safiad. Rydw i, fel nifer o bobl eraill, hefyd yn gwrthod talu am fy ffi drwydded deledu nes bod penderfyniadau dros ddarlledu yng Nghymru yn cael eu gwneud gan bobl Cymru. Mae'r Gymraeg a democratiaeth Cymru yn dioddef yn ddifrifol o ganlyniad i gyfundrefn ddarlledu sy'n cael ei rheoli o San Steffan ar hyn o bryd. Byddai rheoli ein cyfryngau ein hunain yng Nghymru yn rhoi cyfle i ni weld ein hunain a'r byd drwy lygaid Cymreig.""Many thanks to William for his bravery. I, like growing numbers of other people, are also refusing to pay for my TV licence until decisions about broadcasting in Wales are made by the people of Wales. The Welsh language and Welsh democracy are seriously suffering as a result of the Westminster-run broadcasting system at the moment. Controlling our own media in Wales will give us a chance to see the world through Welsh eyes."
Y llynedd, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith eu syniadau nhw ar sut y dylid mynd ati i ddatganoli darlledu a sut y byddai ei ariannu. Yn ôl eu dogfen 'Datganoli Darlledu i Gymru', gellid denu llawer mwy o gyllid i ariannu darlledu yng Nghymru wrth nid yn unig ddatganoli'r ffi drwydded ond hefyd trwy osod ardoll ar gwmnïau mawr sydd yn gwneud arian o weithredu yng Nghymru – cwmnïau fel Netflix, YouTube a Facebook.Last year, campaign group Cymdeithas yr Iaith presented their proposals for a devolved system of broadcasting. They claim that tens of millions of pounds extra would be available to invest in Welsh content on TV, radio and online through devolution with control over the licence fee and a new tax on big new media businesses like Netflix, YouTube and Facebook.

Cymdeithas yr Iaith

Colofn mis Hydref 2018 / October 2018 Column

Mudiad sy’n ymgyrchu dros y Gymraeg ers 1962 yw Cymdeithas yr Iaith. Heledd Gwyndaf yw Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith, ac yma fel dechrau o blog dwyieithog unigyryw, mae’n esbonio pam aeth hi i’r llys i alw am bwerau darlledu i gael eu rhedeg yng Nghymru…

Cymdeithas yr Iaith is a movement that has been campaigning for Welsh language rights since 1962. Heledd Gwyndaf is the Chairperson of the Cymdeithas yr Iaith Digital Group, and here as the beginning of a unique bilingual blog, she explains why she went to court to call for broadcasting powers to be managed in Wales…

Rwyf wedi derbyn cosb gan lys am wrthod talu’r ffi drwydded teledu er mwyn datganoli pwerau darlledu i Gymru. A hoffwn dalu teyrnged i'r holl bobl sy'n cefnogi'r ymgyrch hon, yn enwedig y bobl sy'n rhan o'r boicot. Cryfder yr ymgyrch yw’r ffaith bod grŵp mawr ohonon ni bellach yn boicotio’r ffi drwydded deledu, a byddwn yn annog pobl i ystyried gwneud hyn. Ewch i cymdeithas.cymru/devolvebroadcasting.I have been sentenced by a court for refusing to pay my TV licence in order to devolve powers over broadcasting to Wales. And I would like to thank all the people who are supporting the campaign, especially the people who are part of the boycott. Our strength is that there is now a large group of us who are refusing to pay the fee, and I would encourage other people to consider joining us by going to cymdeithas.cymru/devolvebroadcasting.
Mae gwir angen symud y grymoedd darlledu o San Steffan i Gaerdydd: nid yw ein democratiaeth na'n hiaith yn gynaliadwy fel arall. Oni bai bod amrwyiaeth o ddarlledwyr cryf yn craffu ar ein Llywodraeth a gwleidyddion cenedlaethol, ni fydd y system yn atebol i, nac yn cael ei ddeall gan, y cyhoedd. Ac nid oes modd i'r Gymraeg ffynnu o fewn cyfundrefn ddarlledu Brydeinig – bellach mae cannoedd o sianeli Saesneg, ond dim ond un sianel Gymraeg o hyd. Dim newid ers bron i bedwar degawd.The powers need transferring from Westminster to Wales: our fragile democracy and language are not sustainable otherwise. Unless there are a variety of strong broadcasters to scrutinise our national Government, Senedd and politicians, the system will not be answerable to, or understood by, the public. And the Welsh language will not prosper in a British broadcasting system – there are now hundreds of English channels, but still only one Welsh language channel. That's no change in almost forty years.
Ers i gyfundrefn ddatganoledig gael ei sefydlu yng ngwladwriaeth Sbaen ar ddiwedd y saithdegau, mae grymoedd wedi bod gan Catalwnia a Gwlad y Basg dros ddarlledu. Mae effaith yr hunan-reolaeth hynny ar ddatblygiad darlledu yn y ddwy wlad honno i'w gweld yn glir. Mae gan Gatalonia dair gorsaf radio a chwe sianel deledu – pob un yn y Gatalaneg - ac yng Ngwlad y Basg mae'r sefyllfa yn lled-debyg gyda phum gorsaf radio a chwe sianel deledu. Mae'n sefyllfa drawiadol o wahanol i Gymru.Since the establishment of devolution in the Spanish state at the end of the seventies, Catalonia and the Basque Country have had powers over broadcasting. The impact of that autonomy on the development of broadcasting in both of these nations is clear to see. Catalonia has three radio stations and six television channels – every one broadcasting in the Catalan language – and in the Basque Country the situation is broadly similar with five radio stations and six television channels. It's a strikingly different situation to ours in Wales.
Nôl yng Nghymru, mae'r angen hwn am ddatganoli darlledu yn amlwg i bobol ar lawr gwlad - yn ôl arolwg barn a gyhoeddwyd gan YouGov llynedd, mae 65% o bobl Cymru yn ffafrio datganoli grymoedd darlledu i'r Senedd yng Nghymru gyda dim ond 35% yn erbyn. Mae'r bobl yn deall yr angen, ond mae'r Sefydliad yn dewis ei anwybyddu.To people out and about in Wales, the need to devolve broadcasting is obvious – according to an opinion poll by YouGov published last year, 65% of people in Wales favour devolving broadcasting to the Senedd in Wales, with only 35% against. The people understand the need for it, but the establishment chooses to feign ignorance.
Nid oes gwir angen ail-adrodd yr holl broblemau gyda'r gyfundrefn ddarlledu fel y rheolir gan San Steffan ar hyn o bryd, ond dyma ambell i ffaith sy'n amlygu'r broblem:There is no need to list here all the failings of the broadcasting system as it is currently governed by Westminster, but here are a few facts that highlight some of the problems:
• Yn ôl arolwg barn yn 2014, mae llai na hanner poblogaeth Cymru yn sylweddoli bod cyfrifoldeb dros y gwasanaeth iechyd wedi ei ddatganoli: sut mae cynnal democratiaeth ystyrlon yn ein gwlad gyda'r fath anwybodaeth am bwy sy'n atebol am wasanaeth mor bwysig?• According to a 2014 opinion poll, less than half of the population of Wales realise that responsibility for the health service is devolved: how can we maintain a meaningful democracy in our country when people don't even know who is responsible for such an important service?
• Mae oriau darlledu ITV Cymru nad sydd yn newyddion wedi syrthio o 4 awr i 1.5 awr yr wythnos dros y blynyddoedd diwethaf;• ITV Wales' non-news broadcasting hours have fallen from 4 hours to 1.5 hours a week;
• Rhwng 2010 a 2015, gwnaed toriadau o 36% i gyllideb S4C gan Lywodraeth Prydain – arbedodd Llywodraeth Prydain 94% o gyllid yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd;• Between 2010 and 2015, the UK government made cuts of 36% to S4C's budget – they withdrew 94% of the funding that used to be given to the world's only Welsh language television channel;
• Mae Llywodraeth Prydain nawr yn bwriadu cwtogi cyllid S4C ymhellach dros y blynyddoedd nesaf ac yna diddymu ei grant i'r sianel yn llwyr gan ddisgwyl i'r holl arian ddod o'r ffi drwydded o 2022 ymlaen – dyna fydd diwedd S4C fel darlledwr annibynnol;• The UK Government now intends to make further cuts to S4C over the next few years and plans to abolish its grant to the channel by 2022 with all the funding coming from the licence fee from then onwards – that will be the end of S4C as an independent broadcaster;
• Mae Cymru yn llawer rhy ddibynnol ar y BBC o ran darlledu cyhoeddus – gyda'r sefyllfa yn gwaethygu wrth i'r gorfforaeth gymryd camau bwriadol i draflyncu S4C, er enghraifft drwy leoli hanner staff y sianel yn swyddfa newydd y BBC yng Nghaerdydd;• Wales is far too dependent on the BBC for public service broadcasting – the situation is worsening as the corporation takes deliberate steps to take over S4C, for example by locating half of the channel's staff in the BBC's new Cardiff offices;
Prin iawn mae sianeli teledu a gorsafoedd radio masnachol lleol yn darparu rhaglenni Cymraeg, gyda Radio Ceredigion a Radio Carmarthenshire, yn canoli eu darlledu yng Nghaerdydd a Made in North Wales TV yn darlledu dim ond 3% o'u rhaglenni yn Gymraeg.There are very few commercial TV channels and local radio stations providing programs in Welsh, with Radio Ceredigion and Radio Carmarthenshire centralising their broadcasting in Cardiff, and Made in North Wales TV broadcasting only 3% of their output in Welsh.
Mwy o gynnwys Cymraeg a Chymreig gyda Datganoli More Welsh content with Broadcasting Devolution
Mae gyda ni yn y Gymdeithas gynllun am sut y gellid sefydlu system ddatganoledig o ddarlledu yn ein papur – Darlledu yng Nghymru.Cymdeithas has a plan about how a devolved system could work in our paper – Darlledu yng Nghymru (Broadcasting in Wales: The Case of Devolving Broadcasting).
Mae'r ymchwil yn dod i'r casgliad y byddai modd gwario dros £60 miliwn yn fwy ar ddarlledu cyhoeddus a sefydlu tair sianel deledu a thair gorsaf radio Gymraeg, os caiff y pwerau eu datganoli i'r Senedd. Byddai tua £190 miliwn y flwyddyn yn dod yn sgil datganoli'r ffi drwydded i Gymru gyda modd codi ardoll newydd ar gwmnïau megis Google, Sky a Facebook a allai godi hyd at £30 miliwn y flwyddyn, gyda ffigwr tebyg o arian ychwanegol drwy drosglwyddo pwerau i Gymru.The paper comes to the conclusion that it would be possible to spend over £60 million more on Welsh public service broadcasting, and to establish three Welsh-language television channels and three radio stations, if powers were devolved to the Senedd. Around £190 million a year would come to us as a result of devolving the licence fee to Wales, with opportunities to raise a new levy on companies such as Google, Sky and Facebook that could raise up to £30 million a year, with a similar sum from Barnett consequentials.
Yn ogystal, byddai modd creu Awdurdod Darlledu newydd i Gymru a fyddai'n rheoleiddio'r cyfryngau yng Nghymru, a fyddai â phwerau a swyddogaeth i normaleiddio'r Gymraeg ar bob llwyfan cyfryngol; i gryfhau'r cyfryngau cymunedol gan arfogi pobol i greu mwyfwy o ddeunydd yn lleol; i gryfhau cynnwys digidol ynghyd â gwella craffu ar ddemocratiaeth Gymreig.In addition, it would be possible to create Awdurdod Darlledu Cymru, a broadcasting authority for Wales, that would regulate the media, with powers and functions to normalise the Welsh language across all media platforms; strengthen community media and empower people to create an increasing amount of content locally; strengthen digital content; and improve the scrutiny and accountability of Welsh democracy.
Byddai budd mawr felly o gymryd rheolaeth yng Nghymru er mwyn llunio system ddarlledu a fyddai'n rhoi anghenion Cymru yn ganolog i'w trefniadau. Dyna pam mae polisi Cymdeithas yr Iaith yn glir: dylid datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yn ei gyfanrwydd i'r Cynulliad, sef grym rheoleiddio'r holl sbectrwm darlledu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros ffi'r drwydded.There is a substantial devolution dividend, with the prize of a broadcasting system that would put the needs of Wales front and centre. That's why Cymdeithas' policy is clear: responsibility for broadcasting in its entirety should be devolved to the Assembly, namely the power to regulate the whole broadcast spectrum, including responsibility for the licence fee.
Mae’r frwydr hon yn frwydr dros briod iaith Cymru, dros ddemocratiaeth pobol Cymru a thros ein rhyddid ni fel cenedl. Mae sawl ffordd y gallwch chi gefnogi’r ymgyrch:This battle is a battle for our language, our Welsh democracy and for our freedom as a nation. There are several ways to support the campaign:
• Cyfrannu at y gronfa ariannol: http://cymdeithas.cymru/cyfrannu• Make a contribution here: http://cymdeithas.cymru/cyfrannu
• Anfon neges at y Prif Weinidog: http://cymdeithas.cymru/negesdarlledu• Send a message to the First Minister: http://cymdeithas.cymru/negesdarlledu
• Ymuno â ni ar ein taith gigs dros ddatganoli darlledu: http://cymdeithas.cymru/taithdarlledu• Join us in one of our gigs: http://cymdeithas.cymru/taithdarlledu
• Ymuno â’r boicot o’r ffi drwydded deledu yma: http://cymdeithas.cymru/datganolidarlledu• Refuse to pay your TV licence fee: http://cymdeithas.cymru/devolvebroadcasting
Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Grŵp Digidol, Cymdeithas yr IaithHeledd Gwyndaf, Chairperson of the Digital Group, Cymdeithas yr Iaith

Mae’r frwydr hon yn frwydr dros briod iaith Cymru, dros ddemocratiaeth pobol Cymru a thros ein rhyddid ni fel cenedl.

cymdeithas.cymru / cymdeithas

Logo Cymdeithas yr Iaith