Cynhadledd Cwlwm Celtaidd Logo

Wicimediwr Jason Evans: Trefnu’r Gynhadledd Cwlwm Celtaidd 2018 yn Aberystwyth / Organising the Celtic Knot Conference 2018 in Aberystwyth

In Articles/Formal

Mae Wikipedias, fel gwyddoniaduron mawr sy’n cael eu rheoli gan gyfranwyr, yn dod yn boblogaidd iawn mewn ieithoedd sy’n cael eu siarad gan lai o bobl fel ffyrdd o ddogfennu’r byd yn eu dewis iaith. Mae hyn yn achosi cyfleoedd a sialensau, ac mae cynhadledd ‘Cwlwm Celtaidd’ mis Gorffennaf 2018 yn dod â phobl at ei gilydd i drafod a datrys y rhain. Mae'r Wicimediwr Cenedlaethol, Jason Evans, yn gwahodd darllenwyr parallel.cymru…

Wikipedias, as massive user-curated digital encyclopedias, are becoming exceptionally popular throughout lesser-spoken languages as a way for anyone to document the world through their preferred language choice. This brings challenges and opportunities, and the Celtic Knot conference brings together people to discuss and solve these. Wales' National Wikimedian, Jason Evans, extends the invite to parallel.cymru readers...

Yn 2017, lansiodd Ewan McAndrew, Wicimediwr efo Mhrifysgol Caeredin, y gynhadledd Cwlwm Celtaidd (Celtic Knot) gyntaf. Fel mae’r enw'n awgrymu mai ffocws gwreiddiol y gynhadledd oedd y 6 Wicipedia iaith Geltaidd, gan gynnwys Cymraeg, Gaeleg, Llydaweg, Cernyw a Gwyddeleg. Ac er bod ieithoedd Celtaidd wedi'u cynrychioli'n dda, denodd y gynhadledd hefyd gynrychiolwyr o Norwy, Catalonia a Gwlad y Basg, i enwi ond ychydig.In 2017 Ewan McAndrew, the Wikimedian in Residence at the University of Edinburgh launched the first Celtic Knot conference. As the name suggests the original focus of the conference was the 6 Celtic language Wikipedias including Welsh, Gaelic, Breton, Cornish and Irish. And whilst Celtic languages were well represented, the conference also attracted delegates from Norway, Catalonia and the Basque country, to name but a few.
Mae'r materion, y sialensiau a'r cyfleoedd sy'n wynebu cymunedau ieithoedd llai ar Wicipedia yn aml iawn yn wahanol i Wici’s fawr fel y Wici Saesneg, sydd â chymuned fawr o gyfrannwr, cymuned cymorth dechnegol a 5.5 miliwn o erthyglau. Ond mae yna fanteision o weithio efo Wici’s llai, lle gall cymunedau symud yn gyflym i weithredu technoleg newydd, fel yr oedd yn wir gyda defnyddio technoleg Wikidata ar y Wici Cymraeg. Mae Cwlwm Celtaidd yn gweithredu fel man cyfarfod ar gyfer y cymunedau llai hyn er mwyn cydlynu a datblygu syniadau sy'n gyffredin i wikis llai.The issues, challenges and opportunities facing smaller language communities on Wikipedia are often very different from larger Wikipedias such as English, which has a large contributor base, technical support community and 5.5 million articles. There are also advantages whereby smaller wikis can move quickly and implement new technology, as has been the case with Wikidata and the Welsh Wicipedia. Celtic Knot acts as a meeting point for these smaller communities in order to coordinate and develop ideas common to smaller wikis.
Y llynedd cafwyd trafodaethau am y Wikipedia Gogledd Sami (davvisámegiella), sydd â dim ond 7,000 o erthyglau a llond llaw o olygyddion, a Wikipedia'r Cernyw (Kernowek) gyda 3,800 o erthyglau a llai na 1000 o siaradwyr brodorol. Sut allwn ni ymgysylltu â siaradwyr yr ieithoedd hyn â'u Wikipedias? A beth fyddai manteision ac effeithiau o wneud hyn yn llwyddiannus?Last year there were discussions about the Sami (davvisámegiella) Wikipedia, which has just 7000 articles and a handful of editors, and the Cornish (Kernowek) Wikipedia with 3,800 articles and less than 1000 native speakers. How can we engage the speakers of these languages with their Wikipedias? And what would be the benefits and impacts of doing this successfully?
Ar ben arall y sbectrwm mae Wikipedia Gwlad y Basg a'r Gatalonia sydd yn hynod lwyddiannus, gyda bron i 1 miliwn o erthyglau rhyngddynt. Beth sy'n gyrru eu llwyddiant? A beth all cymunedau llai dysgu oddi wrthynt? Mae Wicipedia Cymru yn cael ei ddysgu mewn ysgolion, ac mae'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru - a ellir dyblygu'r arfer da hwn yn rhywle arall yn llwyddiannus?At the other end of the spectrum are the hugely successful Basque and Catalan Wikipedias with nearly 1 million articles between them. What drives their success? And what can smaller communities learn from them? The Welsh Wikipedia is being taught in schools, and is being supported by the Welsh Government - can this good practice be replicated elsewhere successfully?
Bydd hyn a llawer mwy yn cael ei drafod yn ein cynhadledd yn Aberystwyth ar y 5ed a 6ed o Orffennaf 2018, a bydd parti a thwmpath i’r holl fynychwyr ar ben Consti ar y nos Iau! Mae 'na groeso mawr i bawb ymuno efo ni.All of these issues and much more will be discussed at our conference in Aberystwyth on the 5th and 6th of July 2018, and there will be a party and dancing on Constitution Hill for all deligates on the Thursday night. There is a warm welcome to all to join us.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at Gynhadledd Cwlwm Celtaidd 2018. Gall y rheini sy'n mynychu'r gynhadledd ddisgwyl cyflwyniadau a sgyrsiau am ddulliau arloesol o gefnogi a thyfu cymunedau ieithyddol, gan gynnwys manteisio addysg agored, gwybodaeth agored a data agored.
We are really excited about Celtic Knot Conference 2018. Attendees can expect to learn about and discuss innovative approaches to open education, open knowledge and open data that support and grow language communities.

 

Gweithdai Cymraeg neu themau Cymreig / Welsh-language or themed workshops

A Digital Survival Kit for Your Language

Gareth Morlais, Welsh Government

Oherwydd bod cymaint o ieithoedd yn cael eu cynrychioli yn y Celtic Knot, mae hwn yn gyflwyniad sydd wedi ei anelu at ieithoedd lleiafrifol brodorol, gan edrych ar y gwneuthurwyr polisi adnoddau mae technolegwyr a chynllunwyr iaith angen eu cynllunio er mwyn helpu i osgoi difodiant digidol a hyrwyddo ffyniant eu hiaith. Bydd y rôl y gall cynnwys a data Wikipedia a Wikimedia ei chwarae wrth greu’r cynlluniau hyn yn cael ei phwysleisio. Mae’r Pecyn Goroesi Digidol yn cynnwys adnoddau iaith naturiol ar gyfer testun a lleferydd. Trafodir trwyddedu agored a data hyfforddi. Cyffyrddir yn ogystal â’r posibiliadau sy’n cael eu cynnig gan WikiData amlieithog wrth labelu Rhyngrwyd Pethau (‘the Internet of Things’). Hefyd, edrychir ar sut i ddwyn ynghyd y Pecyn Goroesi Digidol ar gyfer eich iaith chi. Y pum prif faes a gynhwysir fydd: Adnoddau Iaith, Dadansoddi Testun, Llafaredd, Cyfieithu, Cefnogaeth gan brif gwmnïau.

The role Wikipedia and Wikimedia content and data can play in making these plans will be highlighted. The Digital Survival Kit includes natural language resources for text and speech. Open licencing and training data will be discussed. The possibilities offered by multilingual WikiData in labelling ‘the Internet of Things’ will also be touched upon. There’ll also be a look at how to actually bring the Digital Survival Kit together for your language. The five main areas covered will be Language resources, Text Analytics, Speech, Translation, Support by major companies.

Bywgraffiad: Fel arbenigwr technoleg iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd, mae Gareth yn datblygu polisi, yn gweithedru grantiau a chronfeydd datblygu ac arloesi ac yn ceisio darbwyllo cwmnïau mawr i wneud mwy ar gyfer ieithoedd llai fel y Gymraeg

Biography: As Welsh language technology specialist at the Welsh Government in Cardiff, Gareth develops policy, funds innovation and development and tries to persuade big companies to do more for smaller languages like Welsh.

melynmelyn

Gwaith WiciMôn o fewn Addysg / WiciMôn’s work within Education

Aaron Morris, Wikimedian in Residence, Menter Iaith Môn

Bwriad y prosiect unigryw hwn yw cael pobol ifanc i gyfoethogi a phoblogeiddio cynnwys ar y Wicipedia Cymraeg er mwyn codi statws yr iaith Gymraeg yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a hynny drwy brosiect hanesyddol, gwyddonol ac ieithyddol. Gobeithiwn y bydd y prosiect yn creu mwynhad a gwefr drwy alluogi pobl ifanc i gynhyrchu deunyddiau gwyddonol Cymraeg fydd yn cael eu cyhoeddi ar Wicipedia, a thu hwnt. Er ei fod yn canolbwyntio ar Ynys Môn, y gobaith yw y bydd y cynnwys o ddefnydd cenedlaethol. Yn sgil y prosiect hwn, fe fydd pobl ifanc yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd, a chymryd rhan mewn profiadau Cymraeg positif, a fydd wedyn yn cyfrannu tuag at eu datblygiad personol. Ein gobaith yw y byddant yn defnyddio eu sgiliau newydd, ac yn magu hyder gan fynd ati i gyfrannu at weithgareddau lleol a chymunedol eraill – byddwn yn parhau i’w cefnogi i fod yn arweinyddion yn eu hardaloedd lleol, a hyn drwy gydweithio â mudiadau a grwpiau perthnasol eraill i hyrwyddo cyfleoedd cymdeithasol a gwirfoddol eraill sydd ar gael yn lleol.

The aim of this unique project is to get young people to enrich and popularize content on the Welsh Wikipedia to raise the status of the Welsh language nationally and internationally through a historical, scientific and linguistic project. We hope the project will create enjoyment by enabling young people to produce Welsh scientific materials that will be published on Wikipedia, and beyond. Although focused on Anglesey, it is hoped that the content will be of national use. We hope that they will use their new skills, and build confidence in contributing to other local and community activities.

Bywgraffiad: Aaron Morris ydw i. Rydw i’n gweithio i Menter Iaith Môn a fy rôl i o fewn y fenter yw Swyddog Prosiect WiciMôn. Rydw i wedi bod yn y swydd ers mis Mawrth 2017.

Biography: I'm Aaron Morris. I work for Menter Iaith Môn and my role within the initiative is WiciMôn’s Project Officer. I have been in the post since March 2017.

MonWici

 

Wici Caerdydd

Gwenno Griffith, Menter Iaith Caerdydd

Sgwrs yn trafod pam a sut dechreuwyd Wici Caerdydd. Trafodir yn ogystal pa mor llwyddiannus yw'r grwp gwirfoddol hwn gan ddisgrifio rhai o ddigwyddiadau mae Wici Caerdydd wedi bod yn rhan ohono.

A talk about how Wici Caerdydd was started and why. The success of this voluntary group is discussed, including a description of some of the events in which Wici Caerdydd has been involved.

Bywgraffiad: Mae Gwenno yn dod o Lwyndyrys yn wreiddiol ond erbyn hyn yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Mae hi’n ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Bu iddi orffen ei gradd ymchwil yno y llynedd, a oedd yn ymchwilio i newid ymddygiad ieithyddol a thechnoleg Gymraeg. Flwyddyn yn ôl, sefydlodd hi a’i ffrind Eiri Angharad, Clwb Wici Caerdydd, ar ôl iddynt gael eu hysbrydoli mewn cynhadledd ar dechnoleg iaith rai misoedd ynghynt. Gyda’r nod o gynyddu nifer yr erthyglau Cymraeg ac annog eraill i gyfrannu, maent yn cynnal gweithdai amrywiol ac yn cynnal sesiynau agored i’r cyhoedd.

Biography: Gwenno is originally from Llwydyrys, but by now lives and works in Cardiff. She is a lecturer in the School of Welsh, Cardiff University. She completed her research degree there last year, which studied the change in language behaviour and Welsh language technology. A year ago, she set up Clwb Wici Caerdydd with her friend, Eiri Angharad, after being inspired in a conference on language technology a few months previously. They hold numerous workshops and open sessions for the public with the aim of increasing the number of Welsh articles, and encouraging others to contribute.

gwennoelin1

Parallel.cymru: Creu cylchgrawn digidol. erthyglau ac adnoddau Cymraeg – Saesneg ochr yn ochr / Creating side-by-side Welsh-English digital magazine articles and resources

Neil Rowlands, parallel.cymru

Sefydlais y cylchgrawn digidol parallel.cymru ym mis Tachwedd 2017 er mwyn gwneud darllen Cymraeg yn gynhwysol ac yn fwynhad i bawb. Mae deunydd darllen yng Nghymru bron bob amser yn cael ei ddarparu naill ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg, ond mae cyflwyno’r un cynnwys mewn dwy iaith ochr yn ochr wedi sefydlu ei hun mewn nifer o barau o ieithoedd Ewropeaidd. I bobl sydd â rhywfaint o brofiad yn y Gymraeg, ond sydd ddim yn teimlo’n hollol rugl, mae hyn yn gwneud deall a gwella'r gallu darllen yn heriol. Mae darllen cyflin yn gwneud yr iaith yn agored i unrhywun, ac yn darparu ffordd gynhwysol i bobl gamu i mewn i’r iaith a’r diwylliant. Byddaf yn esbonio sut y mae paralel.cymru’n gweithio ac yn arwain trafodaeth ar beth allwn ni i gyd ddysgu am sut mae ieithoedd eraill sy'n llai poblogaidd yn defnyddio dulliau cynhwysol tebyg.

I launched the digital magazine parallel.cymru in November 2017 to make reading Welsh inclusive and enjoyable for all. Reading matter in Wales is almost always provided in a binary Welsh or English option, but presenting the same content side by side, in parallel, is established in many European language pairs. For people who have some experience in Welsh but don't feel fully fluent, this makes understanding and improving reading ability challenging. Parallel reading opens the language up to anyone, and provides an inclusive way for people to step into that language and culture. I'll explain how parallel.cymru works and lead a discussion on what we all can learn about how other lesser-used languages use similar inclusive approaches.

Bygraffiad: Rydw i’n ddysgwr gweithgar gyda Chymraeg i Oedolion gyda phrofiad o redeg a chefnogi prosiectau bychain a chynllunio gwefannau. Rwy’n edrych ymlaen at gael trafodaethau diddorol gyda chi i gyd!

Biography: I'm an active Welsh for Adults learner with experience of running and supporting small projects and designing websites. I look forward to interesting discussions with all of you!

parallel_cymru