Rhea Seren Phillips is a PhD student at Swansea University, who is investigating how the Welsh poetic forms and meter can be used to reconsider and engage with contemporary Welsh cultural identity. Here, she explains how literature can help us connect with our cultural identity…
Ymddangosodd y fersiwn Saesneg o’r erthygl hon yn wreiddiol yn The Conversation, gyda chyfres o erthyglau sydd yn cynnwys Cymru yma.
The English version of this article originally appeared in The Conversation, with a series of articles that feature Wales here.
Beth yw ystyr bod yn Gymreig heddiw? Ai cael eich geni yng Nghymru, dod o deulu Cymreig, neu ddim ond byw yno sy’n bwysicaf? Mae’n gallu bod yn anodd i rywun o unrhyw ddiwylliant ddiffinio’n benodol sut y ffurfir ei hunaniaeth. Ond, o ran y Cymry – sydd a chanddynt ganrifoedd yn ogystal â haenau amryfal o ddiwylliant i’w gweithio trwyddynt – mae’n gallu bod yn eithriadol o anodd. | What does it mean to be Welsh today? Is it being born in Wales, having Welsh family, or simply a matter of living there? It can be hard for a person of any culture to specifically define what makes up their identity but, for the Welsh – who have hundreds of years as well as multiple layers of culture to work through – it can be particularly tricky. |
Un agwedd o ddiwylliant Cymraeg y byddai pawb yn cytuno amdani yw’r cysylltiad cryf rhwng y wlad a’i llenyddiaeth. Mae’r Gymraeg yn iaith delynegol, oslefol, sy’n ymgynnig yn dda ar gyfer canu a barddoni ers canrifoedd – yn gymaint felly nes ei bod wedi’i gwau â hunaniaeth y werin, a ydynt yn sylweddoli hyn neu beidio. | One defining aspect of Welsh culture that all would agree on is the country’s strong relationship with its literature. Wales’s rolling, lyrical language is one that has lent itself well to song and poetry for centuries – so much so that it has become interwoven with the people’s identity, whether they realise it or not. |
Mae hanesyddion yn gallu disgrifio llawer o’r digwyddiadau sy wedi gwneud y wlad fel y mae hi heddiw. Ond nid mor syml yw diffinio beth sy wedi arwain at hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig gyfoes. Felly er mwyn archwilio’r syniad hwn, rwy’n defnyddio ffurfiau barddonol a mesurau Cymraeg. | Historians can point to a lot of the events that have made the country what it is today. But defining what has led to the contemporary Welsh cultural identity is not quite so simple. So, to explore this idea, I am using Welsh poetic forms and metre. |
Mae barddoniaeth wedi bod yng nghalon diwylliant Cymreig er yr Oesoedd Canol, ac mae’r enghreifftiau cynharaf yn dyddio o’r bumed a’r chweched ganrif. Roedd beirdd yn yr Oesoedd Canol yn ennill parch gyda’u gwaed a thrwy eu geiriau – nid gwahanol oedd yr awduron Cymraeg Aneirin a Taliesin. Yn bennaf roedd eu cerddi’n darlunio clod a threchiad mewn brwydr, wrth iddynt ddilyn eu noddwr brenhinol i ryfela. | Poetry has been at the heart of Welsh culture since medieval times, with the earliest known examples dating back to the fifth and sixth century. Poets of the medieval period earned their respect in blood and words – and the Welsh writers Aneirin and Taliesin were no different. Their poetry chiefly depicted glory and defeat in battle, as they followed their royal patron to war. |
Ceir, er enghraifft, y llinellau hyn o Marwnad Owain ab Urien, gan Taliesin, sy’n cael eu cyfieithu’n fras fel, “The wide host of England sleeps with the light in their eyes”: | Take, for example this line from from Marwnad Owain ab Urien, by Taliesin, which roughly translates to, “The wide host of England sleeps with the light in their eyes”: |
Cysgid Lloegr llydan nifer a |
|
Bellach mae Cymru’n cael ei hymosod llai, ond mae cymynrodd parhaol y 24 o’r ffurfiau barddonol Cymraeg yn dal i gysylltu’r wlad â’r gorffennol. Llinell cynghanedd, er enghraifft– mesur barddonol sy’n unigryw i’r Gymraeg wedi’i seilio ar batrymau rhythmig neilltuol yr iaith, ac ar ailadrodd cytseiniaid- sy’n hanes byw, ac nid dim ond o ran y geiriau wedi’u defnyddio ynddi. | Now, Wales is going through a less embattled time, but the lasting legacy of the 24 Welsh poetic forms still connects the country to the past. A line of cynghanedd, for example– a poetic metre unique to Welsh which uses the language’s consonantal repetition and syllabic stress– is a living history, and not just in terms of the words that are set to it. |
Cyfieithu mesur Mae’n ddihareb am ba mor anodd yw ceisio defnyddio pob un o’r ffurfiau a’r mesurau Cymraeg yn Saesneg – mewn gwirionedd, mae llawer yn credu nad yw’n bosibl cyflawni hyn yn iawn na’n fanwl gywir. Fe fyddent yn dadlau’n gall, ond nid cywirdeb yw’r peth mwyaf pwysig yma. Yn hytrach, rwy’n ymddiddori mewn dysgu’r grefft a deall nodweddion y ffurfiau barddonol a’r mesurau Cymraeg sy’n dangos mai rhai Cymraeg ydynt. | Translating metre Each of the Welsh poetic forms and metre is notoriously difficult to write in the English language – in fact many believe that writing these forms and metre in English is almost impossible to accomplish well or accurately. They would have a sound argument, but accuracy is not the most important thing here. Rather, it is engagement with the learning of the craft and the characteristics of Welsh poetic forms and metre which identify them as Welsh. |
Mae barddoniaeth Eingl-Gymreig wedi’i sefydlu fel rhan o hanes barddoniaeth Cymru, ac yn cynnwys cyfraniadau oddi wrth feirdd Saesneg yn ogystal ag ysgrifenwyr rhyngwladol sy wedi ymgartrefu yng Nghymru. Er enghraifft, bardd o’r Ariannin oedd Lynette Roberts, a ddefnyddiai ffurfiau barddonol a mesurau Cymraeg yn ei cherddi. Efallai bod y gerdd Fern Hill gan Dylan Thomas yn un o’r enghreifftiau mwy adnabyddus o farddoneg Gymraeg yn Saesneg: | Anglo-Welsh poetry is an established part of Welsh poetic history and includes contributions from English poets as well as international writers who have settled in Wales. Lynette Roberts, for example, was an Argentinian poet who used Welsh poetic forms and metre in her poetry. Perhaps one of the more well known examples of Welsh poetics in the English language, is Dylan Thomas’s Fern Hill: |
“Though I sang in my chains like the sea.” |
|
Yn debyg i’r beirdd sy wedi defnyddio cynghanedd mewn cerddi Saesneg, rwy’n credu’n frwd ei bod yn bosibl defnyddio amrywiadau ar ffurfiau barddonol a mesurau Cymraeg i lunio barddoniaeth yn Saesneg, a’i bod yn bwysig dechrau annog mwy o gerddi Saesneg sy’n defnyddio cynghanedd. | Like the poets who have used cynghanedd in English poems, I strongly believe that it is possible to use variations of Welsh poetic forms and metre to create poetry in the English language, and that it is important that we start encouraging more English poems using cynghanedd. |
Fe all y grefft o ddefnyddio ffurfiau barddonol a mesurau Cymraeg arwain y gwrandäwr ar daith trwy hanes, tirwedd, diwylliant a mytholeg Cymru. Trwy’i defnyddio mewn cerddi Saesneg, mae’n bosibl ailddiffinio llais barddonol cenedlaethol ar gyfer Cymru yn y byd sydd ohonom, a ellir ei ddefnyddio mewn sawl iaith. Nid datblygu llais barddonol heb ei debyg a ystyrir i fod yn Gymreig yw nod y prosiect hwn. Yn hytrach gobeithiaf y bydd beirdd yn gallu edrych trwy lens fydd yn eu cysylltu â gwreiddiau cyfrannol y wlad, lens y gallant ffocysu eu profiadau o hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig trwyddi. | The craft of Welsh poetic forms and metre has the potential to take the listener on a journey through the history, landscape, culture and mythology of Wales. By using it in English poems, it is possible to redefine a contemporary national Welsh poetic voice that can be used in several languages. It is not about developing a singular poetic voice that is considered to be Welsh, but giving poets a lens which links them to the country’s collective roots through which they can focus their experiences of Welsh cultural identity. |
O bosibl y byddai archwilio hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig trwy ddefnyddio’r fath hon o farddoniaeth yn hyrwyddo sgwrs newydd, genedlaethol am hunaniaeth ddiwylliannol. Trwy hybu’r ffurfiau a’r mesurau, fe allwn ddechrau ymosod ar y dadymafael diwylliannol a’r arwahanu sy’n bod oddi mewn i rai unigolion a grwpiau sy’n byw yng Nghymru. Efallai y helpai hyn i greu llwyfan lle y cyfrannai safbwyntiau gwahanol at drafod hunaniaeth ddiwylliannol mewn ffordd sy’n cyd-fynd yn well â Chymru fodern, amlddiwylliannol. | Exploring Welsh cultural identity using this type of poetry could potentially facilitate a new, national conversation about cultural identity. By promoting the forms and metre, we can begin to address the cultural disengagement and isolation which exists within certain individuals and groups who live in Wales. It could help to create a platform where different perspectives could contribute to a discussion on cultural identity that is more in keeping with a modern, multicultural Wales. |
Mae’n bosibl y bydd y fath hon o drafodaeth yn herio’n syniadau ynglŷn â hunaniaeth ddiwylliannol trwy feithrin gwreiddiau y tu hwnt i’r Gymraeg, er mwyn cofleidio’r rhai sy’n bodoli ar ei hymylon. Trwy gyfuno diwylliant cyfoes Cymreig â thraddodiadau hynafol o farddoni, fe all Cymru groesawu’i hunaniaeth genedlaethol gyfnewidiol, wrth anrhydeddu’r oes o’r blaen o hyd. | These kinds of discussions have the potential to challenge our ideas of cultural identity by nurturing roots outside of the Welsh language in order to embrace those who exist on its borders. By melding modern Welsh culture with the ancient traditions of rhyme and verse, Wales can embrace its changing national identity while still honouring its past. |
Un agwedd o ddiwylliant Cymraeg y byddai pawb yn cytuno amdani yw’r cysylltiad cryf rhwng y wlad a’i llenyddiaeth.
Mae Patrick Jemmer wedi creu’r fersiwn Cymraeg i parallel.cymru / Patrick Jemmer has created the Welsh version for parallel.cymru
]]>
Rhea Seren Phillips is a PhD student at Swansea University, who is investigating how the Welsh poetic forms and meter can be used to reconsider and engage with contemporary Welsh cultural identity. Here, she introduces the Welsh 24 poetic forms and four metres…
Ymddangosodd y fersiwn Saesneg o’r erthygl hon yn wreiddiol yn The Conversation, gyda chyfres o erthyglau sydd yn cynnwys Cymru yma.
The English version of this article originally appeared in The Conversation, with a series of articles that feature Wales here.
Fe fyddai byd heb farddoniaeth yn lle enbyd yn wir. O’r gerdd Fy Ngwlad gan Gerallt Lloyd Owen am arwisgiad Charles fel Tywysog Cymru i Trafferth mewn Tafarn gan Dafydd ap Gwilym, mae ffurf y fath ysgrifennu, yn ogystal â’r geiriau a’r ymadroddion ynddo, wedi dod yn rhan fawr o’n hanes a diwylliant llenyddol ni. | A world without poetry would be a dire thing indeed. From Dylan Thomas’s famous villanelle Do not go gentle into that good night to Shakespeare’s famous love sonnet parody, Sonnet 130, the forms of these writings, just as much as the words and phrases, have become a large part of literary history and culture. |
Er mai adnabyddus yng Nghymru oedd arddulliau cymhleth cerddi Saesneg, dros y canrifoedd datblygai gwerin Cymru set unigryw o batrymau barddonol oedd yn perthyn dim ond i’w hiaith eu hunain. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o ffurfiau Saesneg, mae’r rhai Cymraeg yn pwysleisio seiniau oddi mewn i linell, a’r adleisiau wedi’u gadael ar eu holau, yn hytrach na chanolbwyntio ar y geiriau’n unig. | As well-known as these intricate styles may be, over many centuries the people of Wales developed a unique set of patterns all of their own. Unlike most English language forms, these focus on the sounds produced within a line and the echoes left after, rather than just on the words themselves. |
Mae cyfanswm o 24 o ffurfiau barddonol Cymraeg, ynghyd â phedwar mesur. Mae’r ffurfiau’n tueddu i fod yn eithaf byr – er enghraifft, roedd milwyr yn arfer defnyddio Englyn Milwr i afon negesau byrion adref yn ystod y Rhyfel Mawr. Rywbryd cyfeirir ato fel haicw Prydeinig, ac mae i bob pennill dair llinell, pob un ohonynt sydd yn cynnwys saith sillaf, ac maent i gyd yn odli gyda’i gilydd. O ganlyniad i’r llinellau mynegol ymddengys yr Englyn braidd yn debyg i’r dull Japaneeg, ond wedi dweud hynny, mae i’r englyn hunaniaeth dra Chymraeg. Mae odli’n agwedd hanfodol o ffurfiau barddonol Cymraeg. Felly yn wahanol i’r haicw, pob un o’r tair llinell mewn pennill sydd ar un odl. | In total, there are 24 Welsh poetic forms and four metres. The forms have a tendency to be quite short – an Englyn Milwr, for example, was a form used by soldiers to send short messages home during World War I. Sometimes referred to as a British haiku, every verse is composed of three lines, each seven syllables long, all of which rhyme with each other. Though the expressive lines do lend it certain similarities to the Japanese style, the Englyn has a very Welsh identity. Rhyme is an integral aspect of Welsh poetic forms and so, unlike the haiku, each of a verse’s three lines is monorhymed, that is they end in the same rhyme. |
Llinellau persain Er mwyn creu a chadw cytgord oddi mewn i linell, ffurfiau o farddoniaeth gaeth Gymraeg, sef ‘cynghanedd’, a ddefnyddir. Mae cynghanedd yn fwy tebyg i gerddoriaeth nag i farddoniaeth draddodiadol Saesneg, ac yr un fath â chyfansoddiad cerddorol maent yn cynnwys mwy nag yr un nodyn. A dweud y gwir, er mwyn gwerthfawrogi llinell cynghanedd yn llwyr, rhaid i chi’i darllen hi’n uchel a gwrando ar yr haenau o sain sy’n llifo o’r tafod. | Harmonious lines To create and maintain harmony within a line, strict Welsh metres, known as “cynghanedd”, are used. The cynghanedd have more in common with music than traditional poetry, and like a piece of music it is made up of more than just one note. In fact, in order to fully appreciate a line of cynghanedd you should read it aloud and listen to the layers of sounds that roll off the tongue. |
Mae cynghanedd mor bersain gan ei bod yn arfer ‘cyseinedd’, hynny yw, cysondeb rhwng y cytseiniaid. Unigryw i Gymru yw’r ffurf hon o gyseinedd am fod yr iaith yn defnyddio cynghanedd yn ddiymdrech mewn bywyd pob dydd: mae cyseinedd yn rhan o dirwedd yr iaith Gymraeg. | They achieve this lyrical metre by practising something called “consonantal harmony”. This is unique to Wales because the language effortlessly uses cynghanedd in everyday life: consonantal repetition is part of the landscape of the Welsh language. |
Ysgrifennir llinell o gynghanedd gyda thoriad anweladwy neu want yn ei chanol sy’n rhannu’r llinell, er enghraifft, ceir: X X X | X X X X. Yn draddodiadol mae saith sillaf mewn llinell o gynghanedd, ac yma mae ‘X’ yn cynrychioli pob un ohonynt. | A line of cynghanedd is written with an invisible break or caesura in the middle that divides the line, for instance: X X X | X X X X. The cynghanedd is traditionally made up of seven syllables, so here “X” represents each syllable in a line. |
Yn y Gymraeg mae ar bob gair acen sillafog gref, fel arfer ar y goben, hynny yw, y sillaf olaf ond un. Ystyrier y llinell ganlynol o englyn gan R Williams Parry, er enghraifft: “Rhowch wedd wen dan orchudd iâ.” | Welsh is a heavily syllabic language with the stress usually falling on the penultimate syllable. Consider the following line from an englyn by R Williams Parry, for example: “Rhowch wedd wen dan orchudd iâ.” |
Rydym yn gallu cymharu hon gyda’r llinell Saesneg o’r gerdd Fern Hill gan Dylan Thomas, lle mae’r seiniau ‘th’ ac ‘s’ yn creu’r cysondeb: | We can compare this with the line in English from the poem Fern Hill by Dylan Thomas, where the sounds ‘th’ and ‘s’ make up the harmony: |
“Though I sang in my chains like the sea.” |
|
Wrth gwrs mae’r Gymraeg yn gallu bod yn iaith anodd ei meistroli. Serch hynny, rwy wedi cynnwys yr enghraifft hon er gwaethaf nad ydym yn gwybod heb amheuaeth fod Thomas yn deall na’n defnyddio cynghanedd. Eto i gyd, mae’r llinell yn enghraifft gref o’r ffurf hyd yn oed os un anfwriadol ydy. Dyma enghraifft arall o gynghanedd go iawn yn Gymraeg, o’r gerdd Cefn Gwlad gan Dic Jones: | As Welsh can be a tricky language to master, this example is included despite the fact that Thomas’s knowledge of the cynghanedd is debatable. Still, the line is a strong if unintentional example of the metre. A true Welsh language cynghanedd example for comparison would be the following, from Dic Jones’s poem Cefn Gwlad: |
“I fyw yn glos wrth gefn gwlad.” |
|
Gadwech inni nodi nad yw’r fersiwn Saesneg llythrennol, sef, “To live close to nature”, yn cynhyrchu’r un effaith o gwbl. | Translated into English, the line reads, “To live close to nature”, which doesn’t have quite the same effect. |
Mae pedwar math o gynghanedd, sef cynghanedd lusg, cynghanedd draws, cynghanedd sain, a chynghanedd groes. Maent i gyd yn gweithio’n wahanol i’w gilydd, ond yn y bôn mae’r egwyddor yr un peth mewn pob achos: rhaid i’r cytseiniaid yn rhan gyntaf y llinell ymddangos yn yr un drefn yn ail ran y llinell (gweler uchod). | There are four types of cynghanedd or metres: cynghanedd lusg (echoing harmony), cynghanedd draws (bridging harmony), cynghanedd sain (sonorous harmony) and cynghanedd groes (criss-cross harmony). Although they achieve the metre in different ways, their principles are basically the same: the consonants that appear in the first part of the line must appear in the same order in the second, as shown above. |
Hanes trwy gerddi Mae’r ffurfiau barddonol hyn yn aros yn boblogaidd iawn yng Nghymru, ond i ddeall pam mae rhaid defnyddio’r fath gymhlethdod, pwysig ydy deall beth yw eu tarddiad: maent yn perthyn yn annatod i’r iaith Gymraeg. Tra oedd y Gymraeg yn datblygu, fe ddatblygent hwythau gyda hi, gan ddechrau cael eu haeddiant yn y 12fed ganrif yn enwedig. | History through verse These forms remain widely popular in Wales, but to understand why such complexity is necessary, it is important to understand where the poetic forms and metres originate from: they are intrinsically intertwined with the Welsh language. As Welsh developed so did they, coming into their own particularly during the 12th century. |
‘Penceirddiaid’ oedd yr enw arbennig ar feirdd oedd wedi meistroli cynghanedd yn ystod y ganrif hon. Byddent yn treulio tua naw mlynedd i feistroli’r ffurfiau a’r mesurau angenrheidiol. Er mwyn dynodi ei statws, rhoddid i’r pencerdd gadair neilltuol yn y llys. Roedd hefyd swyddi eraill i feirdd yn y cartref brenhinol, megis ‘bardd teulu’ – swyddog y llys a fyddai’n perfformio ei waith i’r frenhines. Cerddor oedd enw ar y safle isaf. | Poets who had mastered the cynghanedd during this century were hailed as “pencerdds”, chiefs-of- song. It would take approximately nine years to master the forms and metres required. In recognition of his position, the pencerdd was granted a special chair in the royal court. There were other poetic positions within the royal household, too, such as bardd teulu – poet to the household – an officer of the court tasked with the duty of performing his work to the queen. The lowest position was that of the musician, the cerddor. |
Roedd un brif ddyletswydd ar ddalwyr y swyddi hyn i gyd: croniclwyr ac archifwyr oeddent. Eu cyfrifoldeb nhw oedd gwneud yn siŵr y cofid gorchestion y brenin, a’i frwydrau oll, ac y’u hailadroddid am amser maith ar ôl iddo farw. Dim ond yr ychydig breintiedig a fwynhâi ddarllen ac ysgrifennu, ac felly roedd rhoddi straeon i lawr yn alwedigaeth anodd. Roedd ailadrodd seiniau’r gynghanedd yn sicrhau bod y cerddi’n gofiadwy. | All of these roles had one very important function: they were chroniclers and archivists. It was their responsibility to ensure that the great feats of the king and all his battles were remembered and recited long after he had passed. Reading and writing were enjoyed by a privileged few which made passing down stories a tricky profession. The repetition of sounds in the cynghanedd ensured the poetry was memorable. |
Mynd ymlaen â chynghanedd Bron yn unigryw i’r Gymraeg yw’r modd y mae cynghanedd yn gweithredu i lunio cerdd. Fe fyddai’n eithriadol o anodd ail-greu yn union yr un cysondeb rhwng y cytseiniaid mewn llinell o farddoniaeth naill ai yn Saesneg, neu ynteu mewn unrhyw iaith arall. | Continuing cynghanedd The way that the metre forms each poem connects it almost exclusively to the Welsh language: it would be very difficult to recreate the same harmony and balance between a line’s consonants in English or any other language in exactly the same way. |
Mae ffurfiau a mesurau barddonol Cymraeg yn rhwysgfawr, beiddgar, a dwys; a dyna nodweddion ardderchog ar gyfer canu clod brenin ac adrodd hanesion. Mae barddoniaeth fodern wedi symud y tu hwnt i’r fath hon o gyfansoddi wedi’i seilio ar strwythurau ffurfiol a bellach yn defnyddio arddull fwy agored. Wedi’r cwbl, nid llawer o bobl sy’n dymuno darllen cerdd lle y gallant ddyfalu’r odl nesaf. Serch hynny, mae lle o hyd i’r ffurfiau a mesurau barddonol hyn yn y wlad. Bob blwyddyn yn y Brifwyl, sy’n dal i fod yn rhan bwysig o ddiwylliant Cymraeg, fe fydd beirdd yn anadlu bywyd i gerddi wedi’u hysgrifennu’n draddodiadol. | Welsh poetic forms and metres are grandiloquent, challenging and dense, which is great for praising a king and narrating stories. Modern poetry has moved beyond this form-led poetry to a more open style – after all, not many want to read a poem where they can guess the next rhyme – but these poetic forms and metre still have their place in the country. Each year, the words and lines of these poems are brought to life at the National Eisteddfod music and poetry festival, which remains a large part of Welsh culture. |
Mae disgwyliadau’r oes fodern ynghylch barddoniaeth Saesneg wedi newid, ond mae’r cerddi Cymraeg sy’n bodoli ers canrifoedd yn pwysleisio pa mor hynafol yw crefft eu cyfansoddi. Fe allant fywiogi chwedlau am ddyddiau a fu, lle na allai unrhyw dafod arall byth lwyddo i ddwyn y maen i'r wal. | The modern expectations of English poetry have changed, but the centuries-old Welsh poems emphasise that their writing is an ancient craft, and can bring life to the tales of times long ago in a way no other tongue ever could. |
Mae’r cerddi Cymraeg sy’n bodoli ers canrifoedd yn pwysleisio pa mor hynafol yw crefft eu cyfansoddi. Fe allant fywiogi chwedlau am ddyddiau a fu, lle na allai unrhyw dafod arall byth lwyddo i ddwyn y maen i’r wal.
Mae Patrick Jemmer wedi creu’r fersiwn Cymraeg i parallel.cymru / Patrick Jemmer has created the Welsh version for parallel.cymru
]]>
Rhea Seren Phillips is a PhD student at Swansea University, who is investigating how the Welsh poetic forms and meter can be used to reconsider and engage with contemporary Welsh cultural identity. Here, she delves deeper into the story of the last Welsh Princess of Wales…
Ymddangosodd y fersiwn Saesneg o’r erthygl hon yn wreiddiol yn The Conversation, gyda chyfres o erthyglau sydd yn cynnwys Cymru yma.
The English version of this article originally appeared in The Conversation, with a series of articles that feature Wales here.
Wedi rhoddi i lawr y teitl ‘Tywysog Cymru’ y mae cenhedloedd o deulu brenhinol Lloegr – ac yn ddiweddarach, rheolwyr y Deyrnas Unedig – er y 13eg ganrif. Maen nhw’n anrhegu’r aer aparawnt â fe, er nad oes raid i’r aer ei ddal. | The title “Prince of Wales” has been passed down through generations of England’s – and later the United Kingdom’s – royals since the 13th century. It is granted to the heir apparent, though it is not a requirement that the next in line to the throne holds it. |
Ond nid breninoldeb ‘gwir’ Cymru mo’r tywysogion hyn. Cafodd y teitl ei ddwyn ym 1301 oddi wrth frenhinoedd olaf Cymru, ar ôl y frwydr dros annibyniaeth Gymreig. Ail-grëwyd e ar gyfer Edward o Gaernarfon, oedd i fod yn Edward yr 2ail yn nes ymlaen. Dyma oedd y tro cyntaf yr arwisgen nhw fab hynaf Brenin Lloegr fel ‘Tywysog Cymru’. | But these princes are not the “true” royals of Wales. The title was taken in 1301 from the last monarchs of Wales following the battle for Welsh independence, and recreated for Edward of Caernarfon, the future Edward II. This was the first time that the eldest son of the King of England was invested as “Prince of Wales”. |
Ers hynny, mae ‘Tywysoges Cymru’ wedi bod y teitl ar wragedd tywysogion Cymru. Yr un gyntaf oedd Joan o Gaint. Derbyniodd hi’r teitl pan briododd Edward o Woodstock, y Tywysog Du – yr ail yn y llinell o dywysogion Cymru a ddeuai o Loegr – ar y 10fed o Hydref 1361. Efallai mai Diana, Tywysoges Cymru, yw’r person mwyaf adnabyddus o bawb sy wedi dal y teitl brenhinol bellach. Wedi dweud hynny, er mwyn cael hyd i wir dywysoges Cymru olaf, hynny yw, y person a anwyd gynt gan frenhinoedd Cymru oedd mewn grym ar y pryd, mae rhaid inni fynd yn ôl i’r 13eg ganrif i ddatguddio hanes Gwenllian. | The wives of the princes of Wales have since been known as “Princess of Wales”. The first was Joan of Kent, who took the title upon her marriage to Edward of Woodstock, the Black Prince – second in the English line of princes of Wales – on October 10 1361. Though Diana, Princess of Wales is now perhaps the most well known of all those to have held the royal title, to find the last true princess of Wales, that is, the last person to be born to the reigning monarchs of Wales, one needs to go back to the 13th Century, and uncover the story of Gwenllian. |
Tywysoges Cymru Nid tywysoges nodweddiadol mo Gwenllian – ni thriniwyd hi fel un ‘chwaith. Cafodd hi ei geni ym 1282, yn unig blentyn i Llywelyn ap Gruffudd ac Eleanor de Montfort, y llywiau olaf i deyrnasu yng Nghymru. Bu farw mam Gwenllian yn fuan ar ôl genedigaeth y ferch, tra berwai’r brwydro dros annibyniaeth Gymreig a ddygai fywyd ei thad yn yr un flwyddyn hefyd. | Princess of Wales Gwenllian was not a typical princess – nor was she treated like one. Born in 1282, she was the only child of Llywelyn ap Gruffudd and Eleanor de Montfort, the last sovereign royals of Wales. Gwenllian’s mother died shortly after childbirth, amid the fight for Welsh independence which also took the life of her father the same year. |
Yn blentyn, cafodd Gwenllian ei rhoi o dan ofal ei hewythr, Dafydd ap Gruffudd, ond cafodd e’i ddal ac yn hytrach ei ddienyddio, a hithau’n ddim ond un oed. Wedyn, rhoddwyd y dywysoges ifanc o dan nawdd coron Lloegr. Dim ond yn ystod misoedd cyntaf ei bywyd y byddai Gwenllian yn byw yng ngwlad ei genedigaeth. | Baby Gwenllian was put under the protection of her uncle, Dafydd ap Gruffudd, but he was captured and later executed when she was just one year old. The young princess was then passed into the guardianship of the English crown. The first months of Gwenllian’s life were to be her only time residing in the country of her birth. |
Pan oedd hi’n groten, fe dalodd y Brenin Edward y 1af y cyfanswm o £20 y flwyddyn i Sempringham, lleiandy yn Swydd Lincoln, i guddio Gwenllian rhag golwg, ac, yn fwyaf pwysig, i’w chadw hi’n ddietifedd. Deallodd y brenin pe bai hi’n esgor ar etifedd, byddai teitl Tywysog Cymru mewn dadl. | When she was a toddler, King Edward I paid Sempringham, a convent in Lincolnshire, the grand sum of £20 a year to keep Gwenllian hidden from view and, most importantly, childless. The king understood that if she produced an heir, then the title of the Prince of Wales would be in dispute. |
Yn ofalus y dewisodd Edward Sempringham. Nid dim ond lleiandy oedd e, ond ar ben hynny, un a berthynai i Urdd Gilbert, sect seciwlar a gadwai ei hun ar wahân i’r byd. | Edward’s choice of Sempringham was a careful one: it was not just a convent, it was of the Gilbertine Order, a secular sect that kept itself isolated from the world. |
Daeth Gwenllian yn gysgod a dim ond pan fyddai reidrwydd y câi hi ei hatgyfodi -- pryd bynnag yr oedd angen arian ar y lleiandy, er enghraifft. Fe fyddai’r Brenin Edward y 1af yn atgoffa’r Pab am y fenyw roedd Sempringham yn ei gwarchod – er y byddai’n fwy priodol dweud ei bod yn garcharor. | Gwenllian became a shadow only to be resurrected during great need – when the convent needed money, for example. King Edward I would remind the Pope who Sempringham was a guardian of – although the more appropriate word would have been prisoner. |
Bu Gwenllian fyw nes iddi gyrraedd ei 54 oed. Dim ond ychydig rydym ni’n ei wybod am ei phersonoliaeth, neu hyd yn oed am ei gwedd hi. Doedd hi ddim yn gwybod ei henw cywir ei hun hyd yn oed: mae cofnodion y priordy’n ei rhestru hi fel ‘Wencilian’ tra oedd hi’n defnyddio’r llofnod ‘Wentliane’ – a llygredigaethau Saesneg yr ynganiad cywir ydyn nhw ill dau. Un o golledigion Cymru ydy hi, wedi’i chladdu yn anialdir Lloegr, bell oddi cartref. | Gwenllian lived until the age of 54. Little is known of her personality and even her appearance. She didn’t even know her true name: priory records have her listed as “Wencilian” while she used the signature “Wentliane” – both English corruptions of the correct pronunciation. She is a lost figure of Wales, buried in the wilderness of England, far from home. |
Hanes wedi’i golli Ni lwyddodd cynllun Edward y 1af o ran Gwenllian yn llwyr, fodd bynnag. Er nad hanes Chymru na Lloegr sy’n ei chrybwyll hi lawer erbyn hyn, mae atgof y dywysoges golledig o Gymru wedi llwyddo i oroesi, yn rhannol o ganlyniad i grŵp anarferol o gynghreiriaid, sef, beirdd. | Lost history Edward I’s plans for Gwenllian did not succeed entirely, however. Though little mention is to be found now in the history of either Wales or Britain, the memory of the lost Welsh princess has managed to survive, partly thanks to an unusual group of allies: poets. |
Ychydig bach a ysgrifennwyd am Gwenllian tra oedd hi’n cael ei chuddio. Wedi’r cwbl, gan mwyaf roedd beirdd Cymru yn y Canol Oesoedd yn gwneud â chadw atgof y brenin yn fyw, nid atgof gwraig ddibwys. Ond, fe oroesai eiliwiau ei hanes, diolch i glerddynion. | Very little was written about Gwenllian during her imprisonment, after all the poets of medieval Wales were mostly concerned with preserving the memory of the king, and not that of a mere woman. But glimmers of her story lived on thanks to wandering bards. |
Mae beirdd Cymraeg wedi dal i gadw ei chof hi’n fyw yn yr oes fodern. Ym 1997 yr adfywiwyd hanes Gwenllian pan ddewisodd y Brifwyl hi fel ei thema y flwyddyn honno – ac wrth gwrs, yr ŵyl fwyaf o ran cerddoriaeth a barddoniaeth yn Ewrop yw’r Eisteddfod Genedlaethol. Ers hynny dim ond wedi blodeuo mae ei dylanwad, gan ddadebru dychymig Cymru – ac o ganlyniad, mae’n sicr y bydd gwir dywysoges Cymru olaf yn dal i fyw o hyd. | Welsh poets have continued to preserve her memory into the modern age. In 1997, Gwenllian’s story was revived when the princess was chosen as the theme for that year’s National Eisteddfod – the largest music and poetry festival in Europe. Her influence has only blossomed since, reinvigorating Wales’s imagination – and so ensuring that the last true princess of Wales lives on. |
Ynom ni mae Gwenllïan, | Within us is Gwenllian, |
O Yn Sempringham gan Mererid Hopwood. |
Mwy am Princess Gwenllian | ![]() |
Mae Patrick Jemmer wedi creu’r fersiwn Cymraeg i parallel.cymru / Patrick Jemmer has created the Welsh version for parallel.cymru