Ceri has been supporting the Welsh diaspora in North America since 2001 through the AmeriCymru site, and has now devised an innovative way to support Welsh learning online- through crosswords. Here, he explains more…
Oes ar y byd angen cwrs Cymraeg ar-lein arall? Mae’n amlwg ein bod ni’n credu bod hyn yn gywir, er bod llawer o adnoddau ardderchog eisoes ar gael. Wrth ddysgu, dw i wedi defnyddio (a byddwn i’n cymeradwyo) Americymraeg, Say Something In Welsh, Parallel.Cymru o blith eraill. Beth, felly, sy’n sbesial, newydd, neu wahanol am Croeseiriau Cymraeg? Pam dylech chi gael cip arni a dechrau’i defnyddio? | Does the world need another online Welsh language course? Clearly we think that it does even though there are many excellent resources already available. In the course of my own studies I have used (and would recommend) Americymraeg, Say Something In Welsh, Parallel.Cymru amongst others. So what does Croeseiriau Cymraeg bring to the table? What is new about this course and why should you check it out? |
Falle bydd tipyn bach o gefndir hanesyddol yn ddefnyddiol i chi yma. Cyn i fi allfudo i America, dw i wedi bod yn dysgu’r Gymraeg yng Nghaerdydd wrth ddefnyddio sawl adnodd ar-lein yn ogystal â rhai stafell ddosbarth. Fodd bynnag, pan gyrhaeddais i’r U.D., do’n i’n gwybod fawr o ddim am y Gymraeg. Es i i’r ysgol yn ne-ddwyrain Cymru yn y 70au, a ddysgais i ddim o’r Gymraeg yn yr ysgol. Ddim yr un wers! Pan adawais i’r ysgol ro’n i’n medru’r Lladin yn well na fy iaith fy hunan. Ar ôl i fi ddechrau’r wefan AmeriCymru yn 2008, daeth hi’n gliriach byth i fi fod rhaid i fi wella fy Nghymraeg. Ryw flwyddyn yn ôl nes i benderfynu y byddwn i’n dod yn rhugl dros gyfnod o ddwy flynedd. Cododd y cwestiwn ar unwaith- Beth ddylwn i ‘neud? | A bit of historical background might be useful at this point. Before I emigrated to America in 2001 I had been learning Welsh in Cardiff utilising a number of online and classroom based resources. My knowledge of Welsh was, however, rudimentary when I arrived in the U.S. Having been educated (miseducated?) in south east Wales in the 1970's I was not taught Welsh in school. Not a single lesson! I left with a better command of Latin than I had of my own language. After starting the AmeriCymru website in 2008 it became ever more clear to me that I had to improve my grasp of Welsh and about 12 months ago I committed to becoming fluent over a two year period. The question immediately arose- How should I proceed? |
Un o’r rhwystrau mwya i ddysgu iaith yw ymrwymiad, neu o leia’ dyna’r broblem fwya yn fy achos i. Dim ond rhy hawdd yw dweud – ‘Dw i wedi penderfynu dysgu’r Gymraeg, a sdim ots da fi faint o amser bydd hyn yn cymryd.’ Dyma agwedd gymeradwy i ddechrau, ond ym mhen tipyn byddwch chi’n dechrau ysu am amserlen a therfyn amser: dyddiad pan fyddwch wedi gorffen eich astudio. Nes i benderfynu trin y broblem ‘ma trwy ‘fy nal fy hunan’. Byddwn i’n mynd i ddysgu’r Gymraeg ar-lein, hynny yw ‘yn gyhoeddus’ dros gyfnod o ddwy flynedd. Nes i benderfynu hefyd groniclo fy natblygiad. Ro’n i’n meddwl gallwn i ddefnyddio hyn i lunio cwrs mynediad i ddysgwyr Cymraeg eraill yn y dyfodol. | One of the biggest barriers to language learning is commitment, or at least it is in my case. It is too easy to say - 'I am determined to learn Welsh and I don't care how long it takes me.' This attitude is all very well to begin with but after a while you begin to crave a schedule and a deadline: a date by which you will have completed your studies. I decided to confront this problem by 'trapping' myself. I resolved to learn Welsh online and in 'public' over a two year period. I further resolved to develop a record of my progress which might serve as an introductory course for future Welsh learners. |
Er mwyn gweld sut mae hyn yn gweithio’n ymarferol, dylech chi gael cip ar ein tudalen Y Gair Cymraeg Dyddiol sydd ar gael ar AmeriCymru, Facebook a Thrydar. Dyn ni bron â chwpla’r cwrs ‘syml’ a byddwn ni’n ychwanegu llawer o nodweddion newydd ar ôl i ni orffen y rhai sylfaenol. | To see how this works in practice I would advise checking out our Welsh Word of the Day feature which can be found on AmeriCymru, Facebook and Twitter. The 'bare-bones' course is nearing completion and we will be adding many new features once the basics are complete. |
Sut gall hyn helpu dysgwyr Cymraeg eraill? Yma, byddwn i’n lico disgrifio strwythur a nodweddion y cwrs, fel bydd darllenwyr/dysgwyr yn gallu penderfynu drostyn nhw’u hunain a fydd Croeseiriau Cymraeg yn ddefnyddiol iddyn nhw. | But, how might this be of use to other Welsh learners? At this point I should perhaps describe the course structure and features so that readers/learners can decide whether Croeseiriau Cymraeg is for them. |
Gyntaf, rhaid dweud mai cwrs dysgu’ch hunan yw hwn. Felly fydd dim rhaid i chi gwrdd â siaradwyr/dysgwyr eraill. Wrth gwrs, mae’n amhosib dod yn rhugl mewn unrhyw iaith heb ymarfer gyda siaradwyr eraill. Yn hyn o beth, dylech chi feddwl am Croeseiriau Cymraeg fel cwrs mynediad sy wedi’i lunio ar gyfer dechreuwyr llwyr. Dyn ni wedi cynnwys ffeiliau sain i‘ch helpu chi gydag ynganu, ond bydd yn rhaid i chi dalu am gwrs ar ryw adeg, yn fwy na thebyg. Wedi’r cwbl, fydd hi ddim yn bosibl dysgu sgiliau sgwrsio wrth eistedd o flaen sgrin. Wedi dweud hynny, os dych chi ddim yn barod eto i ymrwymo â chwrs llawn amser, ac os byddech chi’n lico cael blas ar yr iaith a dysgu geirfa i ddechrau, dylech chi ddarllen ‘mlaen. | Firstly it must be said that the course is for auto-didacts and will not necessarily involve contact with other Welsh speakers/learners. Of course it is impossible to achieve fluency in any language without practising with other speakers. To that extent Croeseiriau Cymraeg should be considered an introductory course which is designed very much with the beginner in mind. Although we have included soundfiles to help with pronunciation a paid course will almost certainly be necessary at some point. After all you cannot develop conversational skills sitting in front of a monitor. If, however, you are not yet ready to commit to a full time course and would like to get a feel for the language and accumulate some vocabulary first, then read on. |
Mae’r cwrs wedi’i rannu’n bedair adran, a phob un yn cynnwys sawl adran ramadegol fer, a chwe chroesair. Rhan hanfodol o strwythur y cwrs yw’r croeseiriau. Mae i bob un restr geiriau benodol fel y gallwch chi ddysgu geirfa newydd a’ch profi’ch hunan pan fyddwch chi wedi gorffen yr adran. Mae’r atebion ar gael ar-lein, a gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw’n hawdd o’r dudalen croesair (byddwch chi’n gallu darganfod y rhestrau geiriau fel hyn hefyd). Mae’n bosibl cwpla’r croeseiriau ar-lein neu, os bydd yn well da chi, trwy’u lawrlwytho nhw a’u datrys fel yn yr hen ddyddiau gan ddefnyddio pensil a phapur. Hefyd mae canllaw ‘Sut i Ddefnyddio’ ar y dudalen gartref i’ch helpu chi i fanteisio ar y cwrs. | The course is divided into four sections each of which consists of a number of short grammar sections and six crosswords. The crosswords are an essential part of the design and each comes with its own associated wordlist so that you can learn new vocabulary and test yourself when you're done. The solutions are posted and can be easily located from the crossword page (as can the wordlists). You can complete the crosswords online or, if you prefer, by downloading them and solving them in the old fashioned way with pen and paper. There is also a fairly comprehensive 'How to Use' guide on the home page to help you get the most out of the course. |
Rhan Un | Part One |
Yn yr adran hon, dyn ni’n cyflwyno ychydig ramadeg sylfaenol, yr amser presennol, ayyb, a dechrau dysgu geirfa. | In this section we cover some basic grammar, the present tense etc and start accumulating vocabulary. |
Rhan Dau | Part Two |
Yn yr adran hon, dyn ni’n cyflwyno gorchmynion, adferfau, a ffurf seml (gwmpasog) ar yr amser dyfodol. | In section two we cover commands, adverbs and a simple (periphrastic) form of the future tense. |
Yma, dyn ni’n cyflwyno sut i ddweud beth sy wedi digwydd – yr amser amherffaith, yr amser gorberffaith, yr amser perffaith (‘wedi’ a ‘bu’). | Here we delve into the past tense: imperfect, pluperfect, perfect (long and short forms). |
Rhan Tri | Part Three |
I gloi, dyn ni’n cyflwyno’r amser dyfodol cryno yn ogystal â sawl pwnc arall. | Finally we tackle the future tense amongst other things. |
Rhan Pedwar | Part Four |
Mae popeth yma’n hollol safonol, ond ydy? Wel, byddwn i’n cytuno. Ond, mae sawl nodwedd sy’n gwahanu Croeseiriau Cymraeg oddi wrth gyrsiau ar-lein eraill. Yn enwedig, byddwn i’n gofyn i chi ystyried y canlynol: | All fairly standard right? I would agree but there are a few nuances which separate Croeseiriau Cymraeg from other online courses. In particular I would ask you to note the following: |
1. Dyn ni wedi meddwl cryn dipyn am strwythur y cwrs. Mae yna strwythur ynddo, ond ddim gormod. Mae’n wir ein bod ni’n dweud wrthoch chi am (neu’ch annog chi i) ddarllen a meistroli’r adrannau gramadegol gyntaf. Ar ôl hyn, dylech chi ddysgu’r eirfa briodol a neud y profion croesair. Nodwedd bwysicaf y cwrs, fodd bynnag, yw’r brawddegau enghreifftiol a’r lluniau ar y tudalennau cerdyn gair [[??]]. Mae’r rhain wedi’u cysylltu â thudalennau geirfa eraill, ac ag adrannau gramadegol. Felly mae’r darlledwr/dysgwr yn cael ei annog i ‘bori’ yn y cwrs a dod o hyd i’w lwybr ei hunan drwy’r sawl elfen. | 1. A fair amount of thought has gone into the structuring of this course. It IS intended to be structured but only lightly so. Yes, you are instructed/encouraged to read and master the grammar sections first. Subsequently you are enjoined to learn the appropriate vocabulary and take the crossword tests. The main strength of the course is, however, in the sample sentences and pictures on the wordcard pages. These link to other vocabulary pages and grammar sections so that the reader/learner is encouraged to 'browse' the course and navigate their own path through its various components. |
Felly, mae’n wir bod yna strwythur, ond mae’n hyblyg iawn nes byddwch chi’n gallu’i addasu i siwtio’ch cyflymder neu’ch anghenion dysgu’ch hunan. | So … yes there is structure but nothing so rigid that it cannot be subverted, diverted or adapted to your own pace or learning requirements. |
2. Dyn ni wedi meddwl yn galed am eich helpu chi i fagu hyder, ac felly wedi cadw pethau mor syml â phosib, yn enwedig yn yr adrannau cynnar. Er enghraifft: naethon ni benderfynu cyflwyno’r ffurf gwmpasog ar yr amser dyfodol (dwi’n mynd i…) yn gynnar yn y cwrs. O ganlyniad, erbyn diwedd Rhan Dau, bydd dysgwyr yn gallu siarad am bethau’n digwydd yn y presennol ac yn y dyfodol. Hefyd, byddan nhw wedi meistroli’r amser Perffaith fel y byddan nhw’n gallu sôn am bethau sy wedi digwydd, ac wedi gorffen, yn y presennol. | 2. A conscious effort has been made to build confidence by keeping things as simple as possible, particularly in the earlier sections. As an example of this we decided to introduce the periphrastic form of the future tense (dwi'n mynd i....) early on in the course. Consequently by the end of Rhan Dau learners will be able to express themselves with reference to both current and future actions or events. They will also have mastered the Perfect tense so they will be able to refer to events or actions which have been completed in the present . |
3. Ar ben hynny oll, wrth gwrs, dyna’r croeseiriau. Dyn ni’n gobeithio y bydd y rhain yn gadael i chi gael hwyl wrth neud y profion, fel bydd y dysgu’n llai o dalcen caled. | 3. Then of course there are the crosswords. These are intended to make test taking a bit more fun and less of a chore. |
Casgliad | Conclusion |
I gloi, licwn i ailadrodd y datblygwyd Croeseiriau Cymraeg fel cwrs mynediad i ddechreuwyr llwyr. Gellid hefyd gael ei ddefnyddio i ychwanegu at un o’r cyrsiau mwy sefydlog. | In conclusion I would like to repeat that Croeseiriau Cymraeg has been developed as an introductory course with the absolute beginner in mind. It could also be used as a supplement to one of the more established courses. |
Yn y bôn, dyn ni’n ei gynnig, yn rhad ac am ddim, i unrhyw un a all gael lles ganddo. Byddwn ni’n ychwanegu cynnwys a nodweddion newydd dros y flwyddyn nesa. Wedi dweud hynny, dw i’n amau na fydd y gwaith byth yn cael ei gwpla i’m boddhad llwyr. | Basically it is being offered, free of charge, to anyone who might benefit from it. New content and features will be added over the next twelve months and it will probably never be finished to my complete satisfaction. |
Cafodd Ceri Shaw B.A., P.G.C.E.(F.E.) ei fagu yng Nghaerdydd ac ymfudodd i Unol Daleithiau America yn 2001. Mae e’n gyn-athro, addysgwr oedolion a gwerthwr llyfrau prin ac arbenigol. Dechreuodd Ceri’r wefan AmeriCymru yn 2008 i “hyrwyddo Cymru yn yr UDA” ac i “darparu rhwydwaith cymdeithasol i Gymry, pobl o dras Cymreig a Chymruphiles ar draws y byd”. Mae’r cwrs Croeseiriau Cymraeg wedi’i greu gyda chefnogaeth a chymorth gan sawl siaradwr ac addysgwr.
Ceri Shaw B.A., P.G.C.E.(F.E.) was born in Cardiff and emigrated to the U.S.A in 2001. He is a former teacher, adult educator and rare & specialty book dealer. Ceri started the AmeriCymru website in 2008 to “promote Wales in the U.S.A.” and to “provide a social network for the Welsh, persons of Welsh descent and Cymruphiles all over the world”. The Croeseiriau Cymraeg course has been compiled with the assistance and input of a number of Welsh language speakers and educators.
Emyr Davies has been responsible for the Welsh for Adults exams at WJEC since 2001, and he is recognisable to many learners as the person who leads the annual presentation ceremony at the National Eisteddfod‘s Learners Pavilion. Here, he takes us behind the scenes to explain how the qualifications are prepared, and talks about their success in the context of improving and measuring linguistic skills across Europe. WJEC’s work in this field is financially supported by Welsh Government, through Qualifications Wales.
Prin yw’r bobl sy’n cael eu geni’n llawn uchelgais i weithio ym maes asesu. Bydd rhai (fel fi) yn dod i’r maes ar ôl gweithio fel tiwtor iaith; bydd pobl eraill yn dod i’r maes o gefndir ystadegol, gan fod cymaint o bwyslais ar ddadansoddi data asesu. Does dim llawer o gyfle i gael swyddi yn y maes hwn, felly mae’n anodd i neb wneud gyrfa ohono, heblaw am asesu Saesneg fel ail iaith. | Few people are born with a burning ambition to work in the field of assessment. Some (like me) come to the field after working as a language tutor; others come to the field from a statistical background, as there is currently so much emphasis on analysing assessment data. There aren’t many job opportunities in this field, so it’s difficult for anyone to make a career in it, except in the assessment of English as a second language. |
Hap a damwain oedd fy mod i wedi cael swydd yn y maes, ar ôl gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion am un mlynedd ar ddeg yng Nghaerfyrddin. Dod o gefndir dysgu iaith ydw i – mynd i’r coleg yn Aberystwyth i astudio’r Gymraeg i ddechrau, astudio Ieithyddiaeth yn Nulyn am flwyddyn yn ddiweddarach, cyn dechrau fel Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC yn 2001. Mae’r profiad o ddysgu Cymraeg i bobl eraill a’r cefndir mewn ieithyddiaeth wedi bod yn ddefnyddiol iawn ar hyd yr amser. | It was chance that led me to a job in the field, after working as a Welsh for Adults tutor for eleven years in Carmarthen. I come from a language teaching background – I went initially to college in Aberystwyth to study Welsh, later to study Linguistics in Dublin for a year, before starting as WJEC Welsh for Adults Examinations Officer in 2001. The experience of teaching Welsh to other people and the background in linguistics has always proved very useful. |
Roedd dau arholiad ar gael cyn i mi ddechrau yn y swydd, sef Defnyddio’r Gymraeg (Canolradd erbyn hyn), a Defnyddio’r Gymraeg: Uwch (yr arholiad Uwch heddiw). Y peth cynta roedd rhaid i mi ei wneud oedd datblygu dau arholiad newydd ar lefelau is a diwygio’r rhai cyfredol, fel bod cyfres o gymwysterau ar gael i’r sector Cymraeg i Oedolion. Nid ar chwarae bach y mae datblygu arholiadau iaith. Mae llawer o benderfyniadau a dewisiadau i’w gwneud, e.e. diffinio’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n cael eu hasesu, dewis fformat sy’n mynd i greu digon o dystiolaeth o allu’r ymgeiswyr, pwysoli’r sgiliau, sut mae dadansoddi’r data, hyfforddi’r tiwtoriaid, y cyfwelwyr llafar, y marcwyr, penderfynu ar feini prawf asesu... mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Erbyn hyn, mae cyfres o 4 cymhwyster wedi hen ymsefydlu yn y maes: | Two exams existed before I started in the post – Defnyddio’r Gymraeg (now ‘Canolradd’ or Intermediate) and Defnyddio’r Gymraeg: Uwch (today, the Advanced exam). My first task was to develop two new exams at lower levels and reform the current ones, so that we had a series of qualifications for the Welsh for Adults sector. Developing language exams is not a trivial enterprise. Many decisions and choices need to be made, e.g. defining the skills and knowledge which are being assessed, choosing a format which will elicit enough evidence of the candidate’s ability, weighting of skills, how to analyse the data, training tutors, interlocutors, the raters, deciding on assessment criteria... the list is endless. By today, a series of 4 qualifications are well established in the field: |
Defnyddio’r Gymraeg: Mynediad A1 Defnyddio’r Gymraeg: Sylfaen A2 Defnyddio’r Gymraeg: Canolradd B1 Defnyddio’r Gymraeg: Uwch B2 | Defnyddio’r Gymraeg: Mynediad A1 (Entry) Defnyddio’r Gymraeg: Sylfaen A2 (Foundation) Defnyddio’r Gymraeg: Canolradd B1 (Intermediate) Defnyddio’r Gymraeg: Uwch B2 (Advanced) |
Mae tua 1,400-1,500 o ymgeiswyr yn dewis sefyll un o’r arholiadau yma bob blwyddyn. Fel y gellir disgwyl, mae mwy’n sefyll yr arholiadau ar lefelau is (Mynediad a Sylfaen) na’r lleill. Dewis sefyll, sylwer... does dim llawer yn sefyll arholiad am fod rhaid iddyn nhw wneud. Yn ôl yr adborth sy’n dod gan ymgeiswyr, y ddau brif reswm dros sefyll unrhyw un o’r arholiadau yw (a) gosod nod, a (b) mesur cynnydd. Mae hyn ychydig yn wahanol i lawer o arholiadau eraill, e.e. arholiadau ysgol neu arholiadau iaith mewn gwledydd eraill, lle bydd ymgeiswyr yn sefyll arholiad er mwyn cael mynediad i rywbeth arall, e.e. swydd, prifysgol, dinasyddiaeth ac yn y blaen. | Approximately 1,400-1,500 candidates choose to take one of these exams every year. As might be expected, more take the exams at the lower levels (Mynediad and Sylfaen) than the others. Choose to take, notice... very few sit any of these exams because they have to do so. According to the feedback provided by candidates, the two main reasons for sitting any of the exams are (a) to give something to aim for, and (b) to measure progress. This is rather different to many other exams, e.g. school exams or language exams in other countries, where candidates take an exams in order to gain entry into something else, e.g. a job, university, citizenship and so on. |
Mae dysgwyr Cymraeg fel arfer yn dewis sefyll arholiad pan fyddan nhw’n barod i wneud hynny, am resymau mwy personol. Mae’r arholiadau’n adlewyrchu anghenion dysgwyr yn y sector Cymraeg i Oedolion, e.e. mae pwyslais mawr ar ‘siarad rhyngweithiol’ fel sgìl, ac ar draws y lefelau rhoddir y rhan fwyaf o’r marciau (70% fel arfer) am Siarad a Gwrando. Creu siaradwyr newydd yw cenhadaeth maes Cymraeg i Oedolion, ac mae’r arholiadau’n cefnogi’r genhadaeth honno. | Welsh learners usually choose to sit an exam when they’re ready to do do, for more personal reasons. The exams reflect the needs of learners in the Welsh for Adults sector, e.g. there’s great emphasis on ‘spoken interaction’ as a skill, and across the levels, most of the marks (usually 70%) are awarded for Speaking and Listening. The mission of the Welsh for Adults enterprise is to create new speakers, and the exams support that mission. |
Wrth gwrs, mae rhai tiwtoriaid yn amheus o asesu, gan feddwl ei fod yn llyncu amser dysgu go iawn ac yn gwthio’r dulliau dysgu i gyfeiriadau anghywir. Rhan o’m gwaith i fu argyhoeddi tiwtoriaid fod arholiadau’n gallu cael effaith gadarnhaol ar y dysgu ac ar y dysgwyr. Mae digon o dystiolaeth ar gael bellach o effeithiau pellgyrhaeddol asesu o ansawdd uchel, a gobeithio bod cyfres Defnyddio’r Gymraeg yn creu adlif cadarnhaol ym maes Cymraeg i Oedolion. | Of course, some tutors are suspicious of assessment, think that it devours real teaching time, and pushes teaching methods in wrong directions. A part of my work was to persuade tutors that exams can have a positive effect on learning and learners. There is now plenty of evidence of the far-reaching effects of high quality assessment, and I hope that the Defnyddio’r Gymraeg series produces positive backwash in the Welsh for Adults field. |
Mae’r gair ‘ansawdd’ yn arwain at agwedd arall o’m gwaith, sef ALTE. Un o ofynion y swydd o’r dechrau oedd sicrhau bod CBAC yn dod yn aelod o’r Gymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop neu ALTE. Mae 25 o ieithoedd Ewropeaidd yn cael eu cynrychioli yn ALTE, a 33 o sefydliadau, gan gynnwys yr ieithoedd ‘mawr’ fel Saesneg, Almaeneg a Ffrangeg ac ieithoedd ‘llai’ fel y Gymraeg, Basgeg a Gwyddeleg. | The word ‘quality’ leads to another aspect of my work, which is ALTE. One of the job requirements from the outset was to ensure that CBAC-WJEC would become a member of the Association of Language Testers in Europe, or ALTE. There are 25 European languages represented in ALTE, and 33 organisations, including the ‘bigger’ languages such as English, German and French, and ‘smaller’ languages, like Welsh, Basque and Irish. |
I fod yn aelod o ALTE, mae’n rhaid i unrhyw sefydliad ddangos ei fod yn cwrdd â safonau ansawdd uchel – safonau’n ymwneud â llunio’r profion, gweinyddu a logisteg, marcio a graddio, dadansoddi’r profion a chyfathrebu â rhanddeiliaid. Wedyn, mae ALTE’n trefnu archwiliad neu ‘awdit’ o’r safonau i gyd, a rhaid i’r sefydliad ddangos tystiolaeth ei fod yn cwrdd â nhw. Mae ALTE’n gwneud pethau eraill hefyd, gan gynnwys grwpiau sy’n canolbwyntio ar bwnc penodol, cynadleddau rhyngwladol ond yn bwysicach na hynny, mae’n gyfle i drafod â phobl eraill sydd ym maes asesu. Er bod cyd-destunau ieithoedd eraill a gwledydd eraill yn wahanol iawn i’w gilydd, mae llawer o’r un heriau yn ein hwynebu fel aseswyr ieithoedd. | To become a member of ALTE, any organisation must show that it can meet high quality standards – standards involving test construction, administration and logistics, marking and grading, analysing tests and communicating with stakeholders. Then, ALTE organises an ‘audit’ of all the standards and the organisation must provide evidence that it can meet them. ALTE is involved in other activities as well, including Special Interest Groups, international conferences, but more importantly, it’s an opportunity to discuss with others working in the assessment field. Although the contexts of other languages and other countries are very different, many of the same challenges face us as language testers. |
Un her sydd ddim yn effeithio ar y Gymraeg ond sy’n achosi llawer o bryder i aelodau ALTE ar draws Ewrop yw profion iaith ar gyfer mewnfudwyr. Mae tuedd gynyddol i wladwriaethau ddefnyddio profion iaith at ddibenion gwleidyddol, a’u defnyddio fel esgus i wahardd mewnfudwyr. Mae llawer o’r sefydliadau’n cael eu rhoi mewn lle anodd yn aml, ond safbwynt ALTE yw pwysleisio pwysigrwydd ansawdd yr arholi – fod y prawf yn ddilys, yn ddibynadwy, yn deg ac yn ateb anghenion yr ymgeiswyr. Gall fod canlyniadau difrifol i unigolion nad ydynt yn llwyddo, felly maen nhw’n arholiadau sy’n newid bywydau pobl. | One challenge which doesn’t affect Welsh, but is a cause of much concern for ALTE members across Europe is the provision of language tests for immigrants. There’s a marked increase in countries using language tests for political ends, and using them as an excuse to exclude immigrants. Many organisations are often put in difficult situations, but ALTE’s position is to emphasise the need for quality in testing – that the test is valid, reliable and fair, and that it meets the needs of candidates. There may be serious consequences for individuals who don’t pass, so they may be tests which change people’s lives. |
Nid oes y fath bwysau ar arholiadau Cymraeg i oedolion, ond wrth gwrs, i’r sawl sy’n eu sefyll maent yn golygu llawer iawn, ac yn ffrwyth buddsoddiad enfawr o ran amser ac arian. Felly, yr un yw’r cyfrifoldeb arnon ni i ddarparu arholiadau o ansawdd uchel. | The same high stakes don’t apply for the Welsh for Adults exams, but of course, for those taking them, they mean a great deal and are the result of a huge investment in time and money. Therefore, we have the same responsibility to provide high quality exams. |
Un o’r pethau y mae ALTE’n gofyn amdano gan ei aelodau yw tystiolaeth o gysylltiad â’r fframwaith. Os ydych chi’n honni bod eich arholiad chi’n perthyn rywsut i fframwaith, rhaid dangos tystiolaeth o hynny. Y fframwaith y mae pobl ar draws Ewrop (a thros rannau eraill o’r byd) yn cyfeirio ato yw’r CEFR, sef y Common European Framework of Reference. Dyma o ble daw’r ‘labeli’ a ddefnyddiwyd i gyfeirio at y lefelau uchod - A1, A2, B1 a B2. Fframwaith i gyfeirio ato yw’r CEFR, nid rhywbeth y mae’n rhaid i ddatblygwyr arholiad gydymffurfio ag ef. | One of the ALTE requires of its members is evidence of a link to a framework. If you claim that your exams are linked somehow to a framework, evidence must be provided. The framework which people across Europe (and other parts of the world) refer to is the CEFR, or the Common European Framework of Reference. This is where the ‘labels’ used above to refer to the levels come from – A1, A2, B1 and B2. The CEFR is a framework of reference, not something that test developers must conform to. |
Hynny yw, anghenion y dysgwyr ddylai ddod yn gyntaf, nid dilyn gofynion fframwaith yn slafaidd. Nid yw’n fframwaith ar gyfer un iaith benodol. Mae’r pwyslais ar ddisgrifio’r hyn y mae dysgwr unrhyw iaith (yn bennaf oedolion) yn gallu ei wneud ar lefelau gwahanol. Ceir nifer fawr o ddisgrifiadau ar ffurf datganiadau cadarnhaol yn dweud beth mae’r dysgwr nodweddiadol yn gallu ei wneud o nifer o safbwyntiau gwahanol. Ymhlith pethau eraill, mae’r fframwaith yn erfyn defnyddiol i helpu pobl sy’n datblygu arholiadau, ac sy’n rhoi meincnod cyffredin i ddefnyddwyr ar draws Ewrop. Felly, mae’r labeli cyffredinol hyn yn golygu rhywbeth, lle cynt roedd termau fel ‘Canolig’, ‘Dechreuwyr’, ‘Lefel 1’ ddim yn golygu pethau gwahanol ar draws cyd-destunau gwahanol. Nid yw perthyn i fframwaith fel hwn yn nod ynddo’i hun: gwerth perthynu â’r fframwaith yw gwella ansawdd, cryfhau statws yr arholiadau ac, yn anuniongyrchol, statws y Gymraeg. | In other words, the learners’ needs should come first, and not follow the framework requirements blindly. It isn’t a framework for one specific language. The focus is on describing what the learner of any language (primarily adults) can do at different levels. There are are a large number of descriptors in the form of positive statements which say what a typical learner can do at a certain level, from different viewpoints. Amongst other things, the framework is a useful tool to help exam developers, and which gives users across Europe a common benchmark. The level labels mean something, whereas terms like ‘Intermediate’, ‘Beginners’, or ‘Level 1’ mean different things in different contexts. Being linked to a framework such as this is not an end in itself: the value of linking is to improve quality, strengthen the status of the exams, and, indirectly, the status of Welsh. |
Mewn rhai cyd-destunau, mae asesu ffurfiol da yn dyngedfennol. Er enghraifft, Saesneg yw iaith rheolwyr traffig awyr a pheilotiaid, a chorff y CAA (Civil Aviation Authority) sy’n gyfrifol am yr arholiadau Saesneg iddyn nhw. Ymddangosodd adroddiadau yn y wasg yn Ebrill 2017 yn sôn am ddiffygion iaith rhai peilotiaid a’r peryglon a oedd yn dod yn sgil hynny. Pennawd yr Independent ar y pryd oedd Poor Spoken English Skills among Pilots Could Lead to Air Disasters. Mewn achosion fel hyn, does ond gobeithio bod yr arholiadau iaith o’r safon uchaf, a’r trothwy llwyddo yn uchel iawn. | In some contexts, good formal assessment is critical. For example, the language of international air traffic control and airline pilots is English, and the CAA (Civil Aviation Authority) is responsible for their English tests. Reports appeared in the press in April 2017 about the language deficiencies of some pilots, and the ensuing dangers. The headline in the Independent at the time was Poor Spoken English Skills among Pilots Could Lead to Air Disasters. In cases like these, we can only hope that the language tests are of the highest quality and the pass mark is very high. |
Felly, mae asesu’n bwysig. Mae pob tiwtor da’n asesu’n anffurfiol drwy’r amser, gan adnabod beth sydd angen sylw, rhoi adborth a chynnig ffyrdd o wella. Fodd bynnag, mae angen asesu ffurfiol a chymwysterau ffurfiol hefyd. Asesu o’r math hwn sy’n gyrru newid, sy’n tanio cymhelliant ac sy’n rhoi gwerth a statws i’r maes cyfan. Fel dywedodd un ymgeisydd mewn holiadur adborth: ‘Roedd pobl yn fy nghymryd i o ddifri fel dysgwr pan o’n nhw’n gwybod mod i’n sefyll arholiad yn yr iaith.’ | So assessment is important. Every good tutor assesses informally all the time, identifying what needs attention, giving feedback and offering means of improvement. However, formal assessment and formal qualifications are needed as well. This type of assessment drives change, fires motivation and gives value and status to the whole field. As one candidate said in a feedback questionnaire: ‘People took me seriously as a learner when they knew I was taking an exam in the language.’ |
Mae’r union ffaith fod arholiadau i gael, a bod rhywun yn barod i ymroi i sefyll arholiad ffurfiol ynddo’i hun yn cryfhau cymhelliant, ac yn rhoi statws a hygrededd i’r broses ddysgu ac i’r gwaith o ddysgu Cymraeg i Oedolion yn gyffredinol. Mae’n dangos ein bod ni o ddifri fel maes. Byddai’n dda pe bai mwy o gyflogwyr a sefydliadau eraill yn cymryd y gwaith o ddifri hefyd. Ychydig iawn o swyddi sy’n gofyn am gymhwyster yn y Gymraeg fel rhaganghenraid yn y sectorau cyhoeddus. Pe baen ni’n gwneud hynny, byddai ein dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion ni’n orlawn, a bydden ni gam yn nes at gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. | The very fact that exams exist, and that someone is willing to commit to taking a formal exam in itself reinforces motivation, and gives status and validity to the learning process and to teaching Welsh for Adults generally. It shows that we take our work seriously. It would be good if more employers and organisations took our work seriously as well. Few jobs ask for a qualification in Welsh as a prerequisite in the public sectors. If this were done, our Welsh for Adults classes would be overflowing and we would be a step closer towards achieving a million Welsh speakers by 2050. |
Mae’r union ffaith fod arholiadau i gael, a bod rhywun yn barod i ymroi i sefyll arholiad ffurfiol ynddo’i hun yn cryfhau cymhelliant, ac yn rhoi statws a hygrededd i’r broses ddysgu ac i’r gwaith o ddysgu Cymraeg i Oedolion yn gyffredinol.
]]>
Helo! Fy enw i ydy Nicky Roberts. Dw i’n 36 oed a dw i’n dod o Gwm Rhondda yn wreiddiol, ond nawr dw i’n byw yn Aberystwyth, Ceredigion gyda fy ngwraig Lara. | Hello! My name is Nicky Roberts. I am 36 years old and I come from the Rhondda Valleys originally, but now I live in Aberystwyth, Ceredigion with my wife Lara. |
Dw i wedi bod yn siarad Gymraeg ers Nadolig 2016, rhedeg sianel YouTube gyda’r enw Learn Welsh with Nicky a hefyd ym mis Mai oeddwn i’n digon ffodus i gyrraedd yn y Rownd Derfynol Dysgwr y Flwyddyn fel rhan yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn ystod Mis Awst. | I have been speaking Welsh since Christmas 2016, running a YouTube channel named Learn Welsh with Nicky and in also in May I was fortunate enough to get through to the Final of the Learner of the Year competition as part of the National Eisteddfod in Cardiff during August. |
Rydym ni gyd fel siaradwyr yr iaith yn cofio ein sgwrs cyntaf trwy’r cyfrwng Cymraeg. Efallai gwnaethoch siarad gyda rhywun yn eich dosbarth nos, neu yn y dafarn lleol neu mewn siop Cymraeg tra oeddech trio prynu llyfr neu cylchgrawn. | We all, as speakers of the language, remember our first conversation through the medium of Welsh. Maybe you spoke with someone in your night class, or in the local pub or in a Welsh shop while you were trying to buy a book or a magazine. |
Mae lawer o bobl yn cofio yr eiliad gyda pleser ac atgofion melys, tra lawer o bobl edrych yn ôl at eiliadau fel hyn gyda ychydig bach o difaru. Efallai wnaethom nhw anghofio i ddweud rhywbeth oedden nhw eisiau ddweud neu wedi gwneud camgymeriadau ac doeddwn nhw ddim yn hapus gyda’r canlyniad. | Lots of people recall the moment with pleasure and sweet memories, while lots of people look back at moments like this with a bit of regret. Maybe they forgot to say something they wanted to say or made mistakes and they weren’t happy with the result. |
Un peth rydym ni gyd gallu fod yn sicr ydy mae gormod o bobl edrych at eiliadau fel hyn gyda ofnus pan does dim angen i boeni o gwbl yn gwirioneddol. | One thing we can all be sure of is that too many people look at moments like this with fear when there is really no need to worry at all. |
Dw i wedi dod i nabod llawer o dysgwyr yr iaith Cymraeg yn ystod yr amser dw i wedi bod yn dysgu’r iaith – ac un y phethau dw i wedi sylwi ydy jyst faint o bobl sydd gyda pryderon fel hyn. | I have come to know loads of learners of the Welsh language during the time that I have been learning the language – and one of the things I have noticed is just how many people there are with worries like this. |
Felly pan gwnes i cychwyn gweithio gyda’r tîm sydd yn rhedeg cymuned ar-lein welshspeakingpractice.slack.com, un o’r pethau oeddwn i eisiau gwneud oedd dechrau sesiwn ar gyfer dechreuwyr a dysgwyr newydd sbon yn unig. | So when I started working with the team that run the welshspeakingpractice.slack.com online community, one of the things I wanted to do was to run a session for starters and brand new learners only. |
Dw i wedi bod yn siarad gyda dysgwyr eraill ers amser maith ac un o’r pethau gwnes i sylweddoli bod llawer ohonyn nhw eisiau siarad gyda dysgwyr eraill – pobl sydd yn siarad yr un lefel fel nhw, pobl bod nhw yn gallu teimlo cyfforddus siarad o gwmpas. | I have been speaking with other learners for a long time and one of the things I realised is that lots of them wanted to speak with other learners – people that speak at the same level as them, people that they feel comfortable speaking around. |
“Does neb i siarad Cymraeg gyda fi - achos dw i'n byw yn Tasmania. Mae yna grŵp bach dysgwyr ar bwys i fi, ond mae nhw yn cwrdd unwaith y mis yn unig, ac mae nhw yn cwrdd tra dw i'n gweithio. Felly, Mae Welshspeakingpractice yn perffaith i fi. Wnes i dechrau dysgu Cymraeg mis Mawrth gyda SaySomethingInWelsh a doeddwn i ddim yn siwr sut i ymarfer siarad tan wnes i darllen am WSP ar y Fforwm SSiW. Nawr, mae dal llawer i fi dysgu, ond mae hi'n hawddach pan galla i ymarfer beth dw i'n dysgu.” Meddai Jack Dale, Tasmania – aelod o welshspeakingpractice.slack.com | “I have no-one to speak Welsh with me – because I live in Tasmania. There’s a small group of learners near me, but they only meet once a month, and they meet while I’m working. So, Welshspeakingpractice is perfect for me. I started learning Welsh in March with SaySomethinginWelsh and I wasn’t sure how to practice speaking until I read about WSP on the SSIW Forum. Now, there’s still a lot for me to learn, but it is easier when I can practice what I learn” says Jack Dale, Tasmania – member of welshspeakingpractice.com |
Mae yna amser cywir i ddechrau siarad gyda pobl sydd yn rhugl yn llwyr a hefyd mae yna amser i ddechrau siarad gyda dysgwyr gyda lefel uchaf o sgiliau gyda’r iaith. Ond... os dych chi yn un o’r pobl sydd yn teimlo yn nerfus iawn a dych chi yn poeni byddech teimlo yn embaras iawn – rhywbeth fel ein sesiynau bydd rhywbeth perffaith ar gyfer chi | There is a right time to start speaking to people that are completely fluent and there’s also a time to start speaking with learners that have a higher level of skills with the language. But.... if you are one of the people that feel very nervous and you worry that you’ll feel very embarrassed – something like our sessions will be something perfect for you. |
Mae gyda ni lawer o pobl o reit dros y byd i gyd. Mae gyda ni nifer o pobl sydd yn dod o Gymru, fel byddech disgwyl. Ond hefyd, mae gyda ni dyn o Awstralia sydd yn ymuno rhan mwyaf o ein sesiynau. Mae fe yn ymuno ein sesiynau bron bob wythnos – hyd yn oed mae rhaid i fe codi 4 o’r gloch yn y bore er mwyn cymryd rhan! Mor ardderchog, enwedig pan dych chi yn ystyried mae fe yn gweithio fel meddyg teulu! | We have lots of people from all over the world. We have a number of people that come from Wales, as you would expect. But also, we have a man from Australia who joins most of our sessions. He joins our sessions almost every week, even though he has to wake up at 4 o’clock in the morning in order to take part! So excellent, especially when you consider that he works as a GP! |
Beth dw i wedi bod yn trio gwneud gyda’r sesiynau ydy rhoi cyfle i dechreuwyr i cymryd rhan yn eu sgwrs cyntaf go iawn mewn amgylchedd diogel lle does dim angen iddo nhw poeni am gwneud camgymeriadau neu poeni am colli eu hyder a fynd yn ôl i Saesneg. | What I have been trying to do with the sessions is to give starters a chance to take part in their first real chat in a safe environment where there is no need to worry about making mistakes or worrying about losing their confidence and going back to English. |
Rydym dechrau allan gyda pethau eithaf syml – gwneud ffrindiau gyda’i gilydd – dweud helo i bawb, ffeindio allan pwy sydd yn pwy, o le mae pawb yn dod, lle mae nhw gyd yn fyw cyn symud ymlaen. | We start out with quite simple things – making friends with each other – saying hello to everyone, finding out who’s who, where does everyone come from, where they all live before moving along. |
Mae gyda ni ychydig o bobl hefyd sydd yn defnyddio y sesiwn fel modd i ymarfer eu sgiliau gwrando yn hytrach na cymryd rhan yn y sgwrs – ac mae hyn yn iawn perffaith. | We have a couple of people also that use the session as a way of practicing their listening skills instead of taking part in the conversation – and that is perfectly fine. |
Pob tro byddai’n dweud wrth pawb “Os dych chi eisiau ymuno hanner ffordd trwy, dych chi yn croeso ddechrau siarad pryd bynnag dych chi eisiau” ac mae hynny yn gweithio yn iawn erbyn hyn. | Every time, I’ll tell everyone “If you want to join half way through, you’re welcome to start talking whenever you want” and that has worked out fine since then. |
Wrth gwneud hyn, dw i eisiau pobl dechrau teimlo cyfforddus trafod pynciau arferol – eu bywydau, eu teulu, eu swydd, eu diddordebau, beth mae nhw yn hoffi gwneud ar y penwythnos, ble mae nhw yn bwriadu fynd ar eu gwyliau – pethau hollol arferol. Pryd dych chi yn gallu ddechrau trafod pethau arferol trwy’r cyfrwng Cymraeg, byddech ffeindio bod mae’r gweddill dod mor hawdd. | By doing this, I want people to start feeling comfortable discussing everyday subjects – their lives, their families, their job, their interests, what they like doing on the weekend, where they plan to go on their holiday – totally normal things. When you are able to start discussing normal everyday things through the medium of Welsh, you’ll find that the rest comes so easily. |
Fy rôl yn y broses ydy cadw pawb yn hapus ac ymlacio. Pan mae sgwrs yn ddechrau dawel i lawr yn dipyn, byddai’n gofyn cwestiynau i bawb ac annog iddo nhw gofyn cwestiynau i bobl eraill. Byddai’n cynnig helpu i unrhyw un os dw i’n gweld nhw yn gwneud camgymeriadau enfawr – ond am y rhan mwyaf – dw i eisiau gadael y trafodaeth yn llif. | My role in the process is to keep everyone happy and relaxed. When the conversation starts to quieten down a bit, I’ll ask everyone questions and encourage them to ask questions to other people. I’ll offer help to anyone if I see them making massive mistakes – but for the most part, I like to let the conversation flow. |
Byddai’n ateb cwestiynau fel “Beth ydy’r gair am.......” neu “Sut ydw i’n defnyddio hyn...” neu “Beth ydy’r ffordd gorau i ddweud hyn...” Ond fel dwedais i gynharach, mae’n mwy bwysig i fi gadael i trafodaeth yn llif a chofio beidio dweud unrhyw beth fydda’i ddim wedi eisiau clywed fy hun pan oeddwn i’n ddechrau. | I’ll answer questions like “What is the word for...?” or “How do I use this...?” or “What is the best way to say this....?” But as I said earlier, it’s more important that I let the discussion flow and remember to not say anything that I wouldn’t like to have heard myself when I was starting. |
Byddech gwybod pan bydd gyda chi sesiwn llwyddiannus achos fydd dim llawer o pethau rhaid i chi ddweud er mwyn cadw y sesiwn yn fyw. | You’ll know when you’ll have a successful session because there won’t be a lot of things you have to do in order to keep the session alive. |
Mae’n mor hyfryd i gweld rhywun ddechrau yr sesiwn yn teimlo yn nerfus iawn gyda llais dawel iawn tra ffeindio fe anodd iawn i ddweud unrhyw beth o gwbl, mynd a troi popeth o gwmpas yn ystod yr awr a newid reit o’r blaen o eich llygad! | It’s so lovely to see someone start the session feeling very nervous with a very quiet voice while finding it very difficult to say anything at all, go and turn everything around during the hour and change right in front of your eyes! |
A dw i wedi gweld hyn yn digwydd llawer o tro cyn nawr – rhaid i chi stopio nhw am siarad pan oeddech trio gorffen y sesiwn ar y diwedd! | And I’ve seen this happen lots of times before now – you have to stop them from speaking when you’re trying to finish the session at the end! |
Mae cynllun gyda pobl sydd yn ymuno ein sesiynau ydy rhoi cyflwyniad cyflym iddo nhw, helpu nhw datblygu eu sgiliau siarad mewn amgylchedd diogel a mewn amser byr cyn symud iddo nhw ymlaen i’r sesiynau eraill rydym cynnig ar y cymuned – lle bydden nhw yn siarad gyda pobl sydd wedi bod yn siarad Cymraeg am gyfnod hirach na nhw. | The plan with the people that join our sessions is to give them a quick introduction, help them develop their speaking skills in a safe environment and in a short space of time before moving them along to the other sessions we offer on the community – where they will be speaking with people who have been speaking Welsh for a longer period of time. |
Mae gan y cymuned mwy na 250 o bobl sydd yn cymryd rhan yn sgwrsiau bob dydd. Y peth rydym wedi bod yn trio gwneud ydy rhedeg un sesiwn pob nos ar 7 o’r gloch gyda siaradwr profiadol sydd yn gallu rhedeg y sesiwn gyda hyder ac yn gwybod digon er mwyn helpu pobl allan os maen nhw eisiau gofyn cwestiynau. Y peth mwyaf pwysig rydym wedi ceisio gwneud ydy helpu | The community has more than 250 people who take part in chat sessions every day. The thing we have been trying to do is run one session every night at 7 o’clock with an experienced speaker who can run the session with confidence and know enough in order to help people out if they want to ask questions. The most important thing we have trïed to do is to help different people make contact with each other. |
Mewn diwrnod arferol, byddai’n siarad gyda bobl o Aberaeron, Caernarfon, Castell Nedd, a Chasnewydd – ond hefyd dw i’n siarad yn eithaf aml gyda pobl o Awstralia, Ffindir, Ffrainc ac Almaen! Pobl sydd yn gallu siarad Cymraeg yn anhygoel! | In a typical day, I’ll speak with people from Aberaeron, Caernarfon, Neath and Newport – but also I speak very often with people from Australia, Finland, France and Germany! People who can speak amazing Welsh! |
Cymryd rhan a chwarae rôl pwysig gyda camau gyntaf dysgwyr yn rhywbeth pwysig iawn i fi. Dw i’n cofio ffeindio fe anodd iawn i ffeindio adnoddau fel hyn pan oeddwn i newydd dechrau dysgu y Gymraeg ac os oedd rhywbeth fel hyn ar gael ar y bryd bysai wedi bod y person gyntaf i ymuno! | Taking part and playing an important role with the first steps of learners is something very important for me. I remember finding it very difficult to find resources like this when I was just starting to learn Welsh and if something like this was available at the time then I would have been the first person to join! |
Mae’r grŵp wedi bod yn agor ers 2-3 mis nawr, ond rydym wedi gweld pobl datblygu eu Gymraeg mewn ffordd enfawr mewn amser byr. | The group has been open for 2-3 months now, but we have seen people develop their Welsh in a big way in a short space of time. |
Beth sydd wedi bod yn braf i fi ydy gweld pobl swil dod mas a cymryd rhan yn sgwrsiau 1:1 gyda aelodau eraill heb cymryd rhan yn unrhyw hangouts enfawr gyda’r gweddill ohonyn ni. Dw i’n nabod un fenyw o’r ardal Machynlleth, byddai hi yn lladd fi os dw i’n rhoi ei enw allan.. ond mae hi wedi bod yn siarad a cwrdd mwy nag 120 aelodau eraill ers wnaeth hi ddechrau 2 mis yn ôl! | What has been nice for me is to see shy people come out and take part in 1:1 chats with other members without taking part in any massive hangouts with the rest of us. I know one lady from the Machynlleth area, she would kill me if I were to give her name out… but she has been speaking and meeting more than 120 other members since she started 2 months ago! |
“Ers gwnes i ymuno WSP, dw i wedi teimlo mwy hyderus siarad yn y Gymraeg, hyd yn oed yn y gwyllt. Hefyd, mae yn dda i gweld siaradwyr eraill ar gamera” Meddai John Young, aelod arall welshspeakingpractice.slack.com. | “Since I joined WSP, I have felt more confident speaking Welsh, even in the wild. Also, it’s good to see other speakers on camera” says John Young, another member of welshspeakingpractice.slack.com. |
Y peth gorau am bopeth? Mae cymuned yn agored i bawb, ac mae’n hollol am ddim! Os mwy o bobl ymuno’r cymuned – bydd llawer mwy o cyfleon i ffeindio rhywun i siarad gyda chi, does dim ots pa amser ydy hi neu ble dych chi yn byw. Ymunwch ni nawr! Gwna i rhoi’r tegell ymlaen. | The best thing about everything? The community is open to everyone and it is totally free! If more people join the community – there’ll be lots more opportunities to find someone to speak with you, no matter what time it is or where you live. Join us now! I’ll put the kettle on. |
Nodiadau Er mwyn cael mynediad i’r cymuned welshspeakingpractice.slack.com ewch e-bost at admin@saysomethingin.com gyda’r pwnc “WSP” gyda eich enw llawn. | Notes In order to access the welshspeakingpractice.slack.com community, send an email to admin@saysomethingin.com with the subject “WSP” with your full name. |
Er mwyn cael profiad gorau gyda’r sesiynau dw i’n awgrymu bod chi yn defnyddio: Gwe-cam (Does dim rhaid i chi defnyddio eich gwe-cam, ond y rhan mwyaf o bobl yn gwneud) USB Headset neu Handsfree kit ar gyfer ceir. (Maen nhw yn dod gyda rhan mwyaf ffonau symudol dyddiau hyn) Google Chrome porwr gwe. (Dw i wedi ffeindio bod Chrome yn gweithio lot gwell na’r eraill gyda’r rhaglen rydym defnyddio). | In order to get the best experience with the sessions I recommend that you use: Webcam (You don’t have to use your webcam, but most people do) USB Headset or a Handsfree kit for your car (They come with most mobile phones these days). |
Llawer o bobl defnyddio eu ffonau symudol neu tabled gyda’r apiau fel “Slack” a “Google Hangouts” – Mae hyn yn iawn hefyd. | Lots of people use their mobile phones or tablets with apps like “Slack” and “Google Hangouts” – This is fine also! |
Mewn diwrnod arferol, byddai’n siarad gyda bobl o Aberaeron, Caernarfon, Castell Nedd, a Chasnewydd – ond hefyd dw i’n siarad yn eithaf aml gyda pobl o Awstralia, Ffindir, Ffrainc ac Almaen! Pobl sydd yn gallu siarad Cymraeg yn anhygoel!
Ymwadiad / Disclaimer
Ysgrifennwyd rhai o’r erthyglau ‘Dysgwyr’ gan bobl sydd eisoes wrthi’n dysgu Cymraeg. Efallai y dewch ar draws rhai camgymeriadau ieithyddol yn y Gymraeg o bryd i’w gilydd.
Some of the ‘Learner’ articles have been written by those who are still learning Welsh. You may therefore come across some linguistic errors in the Welsh from time to time.
]]>
Kerstin is a German who has learnt English, French, a little of Spanish and Italian, some Russian, and now she is learning Welsh. She runs the website Fluent, which gives advice to people about learning languages, and the podcast Fluent Show. Here she shares her experience…
Pan dych chi’n dysgu eich iaith dramor gyntaf, mae popeth yn teimlo yn od. Rhywle yn eich meddwl chi, mae’n teimlo’n bonkers medru defnyddio’r iaith ‘na yn hyderus un diwrnod. | When you are learning your first foreign language, everything feels bizarre. Somewhere in your mind, it seems nuts that you might know that language confidently one day. |
Dych chi’n ystyried pobl amlieithog, dych chi'n edrych ar ychydig o fideos ar YouTube, dych chi’n darllen ychydig o erthyglau ar-lein. Mae’n amlwg bod pobl allan yno sy’n dysgu ieithoedd. Maen nhw’n dysgu mwy nag un iaith - mae rhai pobl hyd yn oed yn gwybod 10 iaith! | You start to look around at multilingual people, you watch a few YouTube videos, read a few blog articles. There are clearly people out there who are learning languages. They seem to know more than just one or two - some people know more than 10 languages! |
Fi, dw i’n mwynhau dysgu iaith. Mae hyn wedi bod yn hobi am flynyddoedd. Dw i’n siarad Almaeneg, Saesneg, Ffrangeg, ychydig o Sbaeneg ac Eidaleg, peth Rwsieg, ac wrth gwrs dw i’n dysgu Cymraeg hefyd! | Me, I enjoy learning languages. It has been my hobby for years. I speak German, English, French, a little of Spanish and Italian, some Russian, and of course I'm learning Welsh as well! |
Y flwyddyn ddiwethaf, cyflwynais i weithdy am ddysgu ieithoedd, a gofynnodd un o’r aelod o'r gynulleidfa gwestiwn diddorol iawn: | Last year, I presented a workshop on learning leanguages, and one of the audience members asked a very interesting question: |
Ydy e'n dechrau dod haws pan rwyt ti'n dysgu mwy o ieithoedd? | Does it get easier when you are learning more languages? |
Yr ateb byr yw “Ydy”- yn bendant. Dyma’r pethau sydd yn wahanol ac yn helpu pan ti’n dysgu dy seithfed iaith. | The short answer is "yes"- it definitely does. Here are the things that are helpful, relevant, and different when you are learning your seventh language. |
1) Dych Chi'n Gwybod Pa Strategaeth Sy’n Gweithio I Chi | 1) You Know What Language Learning Strategy Works For You |
Pan ddechreuais i ddysgu ieithoedd, roedd un ffynhonnell o wybodaeth oedd wedi dweud wrtha i sut i ddysgu ieithoedd: fy athro. Doedd neb wedi dweud wrtha i am y dull Goldlist, Anki neu'r Wyddor Ffonetig Ryngwladol. | When I first started learning languages, there was one source of information that told me how to learn languages: my teacher. No one told me about the Goldlist method and Anki or the International Phonetic Alphabet. |
Mae'n swnio fel ces i lawer o gyfleoedd i fynd yn anghywir, cywir? Ond roedd un peth da am fod yn fy swigen ynysu iaith: ces i'r rhyddid i ddatblygu strategaeth dysgu sydd wedi gweithio i fi. | Sounds like I had all the chances to mess up, right? But my language isolation bubble had a silver lining: I had the freedom to develop a learning strategy that works for me. |
Gwnes i roi'r gorau i bethau sydd yn gwastraffu fy amser, a gwnes i berffeithio’r rheiny o ni eu hangen. Gwnaeth fy Mam fwynhau gweld taflenni geirfa ar y drych yn yr ystafell ymolchi. Gwnes i drio, profi a thyfu fy nghynllun, a dysgu i ymddiried yn fy ngreddf. | I simply discarded the things that waste my time, and perfected those that I needed. I amused my Mum with vocab sheets taped to the bathroom mirror. I tried, tested, and grew my own masterplan, learning to trust my instincts. |
Os dych chi'n dilyn blogiau dysgu ieithoedd, dych chi'n gwybod bod lot o ddulliau ar gael. Mae blogwyr fel Benny Lewis yn hybu siarad yn gyflym iawn yn y broses; mae eraill fel Gabe Wyner yn siarad am feistroli ynganiad. Beth dych chi'n darganfod dros gyfnod o sawl blwyddyn o ddysgu ieithoedd yw dych chi wastad yn gwneud e yn gywir. Mae'r amheuaeth o os dych chi'n defnyddio'r "modd cywir" yn diflannu. | If you follow language learning blogs, you know that there are many methods out there. Bloggers like Benny Lewis advocate speaking very early in the process, others like Gabe Wyner talk about pronunciation above all things. What you discover over the course of many language learning years is that you are always doing it right. The doubt of whether you are using "the best method" simply goes away. |
Y gyfrinach i ddysgu unrhyw iaith yw: Peidiwch stopio! | The big secret to learning any language is this: Just don't stop! |
2) Dych Chi'n Dechrau Datblygu Hyder Am Eich Sgil Dysgu Iaith | 2) You Become Confident About Your Language Learning Skill |
Wrth i bobl ddysgu iaith yn yr ysgol, maen nhw'n aml yn dysgu iaith mewn bocs. Maen nhw ar y cwricwlwm, felly maen nhw'n cael eu haddysgu mewn dosbarth a phrin maen nhw'n cael eu defnyddio tu fas y dosbarth. Mae'r syniad bod cymunedau sydd yn byw eu bywydau mewn geiriau gwahanol yn swnio’n eithaf neis... ond beth ydy hynny i wneud gyda chi? | When people learn a language in school, they often experience languages in a box. They are on the curriculum, so they're taught inside a classroom and rarely used outside of one. The idea that there are whole communities in the world actually living their lives in different words seems kinda nice...but what's it got to do with you? |
Hyd yn oed adegau arholiad, dych chi'n cael eich profi ar theori a sgil haniaethol. Mae'r papurau arholiad yn berthnasol i ramadeg a geirfa gywir. Mae hyn yn bwysig iawn, ond mae'n colli ma's ar y rhan gorau o ddysgu iaith: sef sylweddoli dych chi'n gallu creu cysylltiad arbennig, nawr. | Even at exam times, you're tested on theory and abstract skill. The exam papers are about correct grammar and vocabulary. That's undoubtedly important, but it misses out on the greatest part of learning a language: realising that you can make an amazing connection, right now. |
Pan dych chi'n dechrau gyda'ch iaith gyntaf, neu hyd yn oed gyda’ch ail neu’ch trydedd, mae cwestiwn tu fewn: "Ydw i wir yn gallu gwneud hyn?" | When you start out with your first language or even your first two or three, there is that lurking question inside: "Am I really able to do this?" |
Ond wrth i chi aros gyda'r broses, dyma beth sydd yn newid: mae'n gorffen bod yn rhywbeth i’r dosbarth yn unig. Does neb sydd yn dysgu eu pumed neu chweched iaith wedi cyrraedd yna heb ffeindio sbarc sydd yn tynnu eu hiaith allan o’r bocs. Mae'r sbarc yn wahanol i bob ohonom ni, ond unwaith mae’r sbarc gyda chi, dych chi'n gwybod dydy'r nod ddim yn ‘berfformiad da". Mae am gysylltu â rhoi ffydd yn y broses. | But as you stick with the process, here is what changes: It stops being a classroom exercise. No one who is learning a 5th or 6th has got there without finding a spark that brings their language out of the box. The spark is different for all of us, but once you've got it, you know that "good performance" isn't the point. It's all about connection and trusting the process. |
Nawr, dydw i ddim yn gofyn os dw i'n gallu gwneud hyn. Dw i'n gwybod fy mod i, gydag amser ac ymdrech, dw i'n gallu dysgu unrhyw iaith i safon uchel iawn. Y rheswm am hyn yw achos mod i'n gwybod does dim ots – bydda i wastad yn gwneud hyn i fy hunan, hefyd. Dyna beth wnaeth y sbarc i fi. | I no longer ask myself if I can do this. I know that, given time and dedication, I can learn any language to a very high level. And the reason I know this is because I know that it doesn't matter - I will always be doing this for myself, too. That's what the spark did for me. |
3) Dych Chi'n Sylweddoli Bod Mwy O Ieithoedd I’w Dysgu | 3) You Realise There Are Always More Languages to Learn |
Does dim ots os dych chi wedi dysgu un, saith neu ugain: bydd wastad mwy o ieithoedd i ddysgu. Mae bod yn ddysgwr iaith cynhyrchiol yn ymrwymiad bywyd - tipyn bach fel newid ffordd o fyw. Dw i newydd sylweddoli mod i ddim yn mynd i ddysgu pob iaith ar fy rhestr, achos bydd y rhestr yn parhau i dyfu. | No matter if you have learnt one language, or seven, or 20: there will always be more languages to learn. Being a prolific language learner is a lifetime commitment- a little like a lifestyle change. I have now realised that I am never going to learn all the languages that are on my list, because that list is forever going to grow. |
Mae cymaint o amrywiaeth yn ein planed ac yn yr hil ddynol. Rydym wedi ein bendithio â miloedd o ieithoedd, systemau cyfathrebu a sgriptiau. Unwaith dych chi'n dechrau dysgu un neu ddwy o'r ieithoedd rheiny, dych chi'n dod i mewn i’r byd anhygoel o gyfathrebu dynol. Ac erbyn iaith saith, byddwch chi wrth eich bodd gyda’r arfer o gyfathrebu. | Our planet and the human race are so wonderfully diverse. We are blessed with thousands of languages, communication systems and scripts. Once you dive into learning one or two of those languages, you enter this amazing world of human communication. And by language number seven, you'll have caught the communication bug. |
Mae hyd yn oed y bobl fwyaf amlieithog yn y byd yn gwybod llai na 100 o ieithoedd. Ac yn sicr, dydyn nhw ddim wedi cwpla. Hyd yn oed nawr, dydyn nhw ddim wedi cwpla. Mae’n rhaid i fi weithio’n galed o hyd i ddysgu iaith newydd, a dw i'n dal yn teimlo fel dydw i ddim yn gwybod dim byd. Dylech chi ennill rhuglder mewn sawl iaith- bydd yn agor eich meddwl i beth dydych chi ddim yn gwybod! | Even the most multilingual people in the world know fewer than 100 languages. They're certainly not done. I still have to work hard to learn a new language, and I still feel like I know nothing. Achieve fluency in many languages - it will open your mind to what you don't know! |
4) Chi'n Gwybod, Dydy Bod Yn Amlieithog ddim yn arbennig | 4) You Know Being a Polyglot Isn't Special |
Mae dysgu ieithoedd tramor yn hobi anarferol, ac mewn diwylliannau uniaith fel y DU mae'n brin iawn. Ar yr un pryd, mae'r rhan fwya o bobl wedi cyffwrdd rhan o iaith dramor - digon i wybod ei fod yn gallu gwneud i’ch ymennydd roi dolur. Felly, mae pobl yn dod i'r casgliad bod angen sgil benodol i ddysgu iaith (efallai ymennydd gwahanol?). | Learning foreign languages is an unusual hobby, and in monolingual cultures like most of the UK, it's even more of a rarity. At the same time, most people have had some contact with a foreign language- enough to know that it can make your brain hurt. So the conclusion people draw becomes that it takes a special language gift (perhaps a different brain?). |
Dw i'n credu bod dysgu sawl iaith dramor yn gampwaith anhygoel. Mae'r gwaith, ymrwymiad, ffocws ac ymdrech sydd gan ddysgwyr iaith cynhyrchiol yn anhygoel. | I believe that learning many foreign languages is a wonderful and incredible achievement. The work, commitment, focus, and dedication of prolific language learners are incredible. |
Ond dylech chi wybod nid oes genyn iaith, neu ymennydd amlieithog. Mae'r un fath o allu gyda rhywun sydd yn gwybod sawl iaith ag sydd gyda chi. Unwaith dych chi ar iaith rhif pump neu ddeg, dych chi'n fwy effeithiol, ac yn gwybod mwy am eich hoff ddulliau. Ond mae dal yn waith caled. | But know that there is no language gene, or polyglot brain. You have just the same kind of ability as someone who knows many languages. When you are on language number five or ten, you're more efficient, knowing more about your own favourite methods. But it's still hard work. |
Felly dyma fy mhrif bwynt: dylech chi ddysgu iaith achos bydd yn dangos pethau anhygoel i chi am eich gallu eich hun. Does dim byd arbennig iddo fe a dweud y gwir, dim byd nad yw e gyda chi’n barod beth bynnag. | So here's my main point: you should learn a language because it will show you incredible things about your own capabilities. There's nothing to it, really; nothing you've not got already, anyway. |
Y gyfrinach i ddysgu unrhyw iaith yw: Peidiwch stopio!
Am lawer mwy o wybodaeth am hyfforddi a mynedfa i lawer o becynnau cymorth a thaflenni gwaith, defnyddiwch fy llyfr ‘The Vocab Cookbook’ ac ewch i’r Cylchlythyr Iaith Rugl heddiw – methu aros i ddweud helo i chi arno fe!
For more information about coaching and access to lots of free toolkits and worksheets, check out my book ‘The Vocab Cookbook’ and hop onto the Fluent Language Newsletter today – can’t wait to say hello to you on there!
Featured image: Kerstin’s notes from a course at Welsh for Adults- Glamorgan
The course Welsh for English Speakers on Duolingo has reached 1 million users in April 2018, but it was only launched in August 2016. How has it been so successful? Jonathan Perry, one of the course leaders, explains more…
Mae'r cwrs Welsh for English Speakers ar Duolingo wedi cyrraedd miliwn o ddefnyddwyr ym mis Ebrill 2018, a dim ond ym mis Awst 2016 y cafodd ei lansio. Sut mae e wedi bod mor llwyddiannus? Mae llwyddiant y cwrs Duolingo oherwydd pa mor hawdd y mae ymuno a dysgu â’r ap neu’r wefan am ddim. Dim ond munud mae’n gymryd i ymuno â’r cwrs a 5 munud y dydd i ddefnyddio’r cwrs. Ble bynnag ydych chi, beth bynnag dych chi’n wneud, os oes 5 munud sbâr gyda chi mae’r ap ar y ffôn yn eich bag/poced, ar y tabled ar eich desg, ar y porwr ar eich cyfrifiadur. Mae e’n hawdd dysgu ar Duolingo. Dych chi’n gosod eich targed eich hunan a gweithio at hynny bob dydd. Os dych chi’n cyrraedd eich targed dych chi’n ennill Lingots ac XP. Mae Duolingo wedi troi dysgu iaith yn gêm sy’n apelio at oedolion a phlant. Efo 1,000 o bobl newydd yn ymuno â’r cwrs a 7,000 o bobl yn defnyddio’r cwrs bob dydd, mae’n amlwg bod y Gymraeg yn denu sylw mawr ledled y byd. | The course Welsh for English Speakers on Duolingo has reached 1 million users in April 2018, but it was only launched in August 2016. How has it been so successful? The course’s success on Duolingo is down to how easy it is to join the course and learn Welsh on the app or website totally free. It only takes a minute to join the course and 5 minutes a day to use it. Wherever you are, whatever you’re doing, if you have a spare 5 minutes the app is on the phone in your bag/pocket, on the tablet at your desk, in the browser on your computer. It’s easy to learn on Duolingo. You set your own target and work towards it every day. If you reach your target you win Lingots and XP. Duolingo has turned language learning into a game which appeals to both adults and children. With 1,000 new people joining the course and 7,000 individuals using the course every day, it’s obvious that Welsh is attracting attention all over the world. |
Beth sydd yn denu cymaint â hynny o bobl i’w ddefnyddio – beth dych chi’n ei gynnig sydd yn wahanol i gyrsiau eraill? Yn wahanol i gyrsiau eraill, dim ond 5 munud bob dydd mae Duolingo’n gymryd ac mae’r cwrs cyfan am ddim. Mae’r ap ar gael ar Android, iOS, Windows ac mae’r cwrs ar gael ar-lein ar duolingo.com. Hefyd, mae’r ap yn erfyn da i addysgwyr. Mae’n bosib creu dosbarthiadau ar schools.duolingo.com, gosod gwaith cartref a dilyn cynnydd eich dysgwyr. | What attracts that amount of people to using it- what do you offer that is different to other courses? Unlike other courses, it only takes 5 minutes a day to use Duolingo and the whole course is free. The app is available on Android, iOS, Windows and the course is available on-line at duolingo.com. The app is also a useful tool for educators. It’s possible to create classes at schools.duolingo.com, set homework and follow your students’ progress. |
Pa fath o ddemograffig sydd gyda chi- ai pobl o’r tu fas i Gymru yn bennaf sydd yn ei ddefnyddio? Mae 40% o’n dysgwyr yn y Deyrnas Unedig, 33-40% yn yr Unol Daleithiau a’r gweddill ledled y byd. | What sort of demographic do you have- is it mainly people outside of Wales that use it? 40% of our learners are in the United Kingdom, between 33-40% in the United States and the rest all over the world. |
Mae'r cwrs wedi cael ei greu gan wirfoddolwyr yn unig. Pa fath o gefndir a phrofiad sydd gan eich cyfrannwyr? Mae amrywiaeth o brofiad gyda ni ar y tîm ond y peth sy’n ein cysylltu ni i gyd yw gweledigaeth cael cwrs Cymraeg ar gael am ddim i bawb ledled y byd. Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n diwtoriaid Cymraeg i Oedolion profiadol ac yn dysgu’r Gymraeg i gannoedd o bobl bob wythnos mewn dosbarthiadau yn y gymuned. Dyn ni’n defnyddio’r sgiliau sy gyda ni fel tîm i ddatblygu, cadw a hyrwyddo’r cwrs ar Duolingo’n wirfoddol yn ein hamser sbâr. | The course has been created by volunteers only. What sort of background and experience do your contributors have? There is a variety of experience on the team but what connects us all is the vision of a Welsh course available to everyone anywhere in the world for free. Most of us are experienced Welsh for Adults tutors and teach hundreds of people each week in community-based classes. We use our skills as a team to develop, maintain and promote the Duolingo course voluntarily in our spare time. |
Wrth ddysgu iaith, mae'n bwysig iawn ei defnyddio hi, ond mae'n anodd i rai o ddefnyddwyr Duolingo fynd i ddosbarthiadau a gweithgareddau. Sut mae pobl sydd yn dysgu gyda chi yn defnyddio'r iaith? Mae hyn yn her sy’n wynebu pob cwrs ar Duolingo. Ar y wefan, mae labordy Duolingo Events ar gael lle mae’n bosib sefydlu grŵp lleol a gwahodd i bobl ymuno â chi er mwyn ymarfer iaith. Does neb wedi dechrau un yn Gymraeg eto, ond mae’ hollol bosib y bydd hynny’n digwydd yn y flwyddyn nesaf. I unrhyw ddefnyddiwr yng Nghymru, mae sawl digwyddiad Cefnogi Dysgwyr yn cael ei drefnu gan y canolfannau lleol ac os ydyn nhw am fynd i’r rhain, dylen nhw fynd i dysgucymraeg.cymru ac edrych ar dudalen eu canolfan leol. Mae Dysgu Cymraeg Gwent yn cynnig dosbarthiadau Skype hefyd ac mae gyda ni sawl dysgwr/dysgwraig dramor sy’n cysylltu â thiwtor i ddysgu ac ymarfer eu Cymraeg yn rheolaidd. Wrth gwrs, mae Cymru’n lle braf am wyliau a dw i’n siŵr y byddai croeso mawr i unrhyw un sy’n dysgu’r iaith ddod i ymweld â ni yma yng gwlad y gân. | When learning a language, it's very important to use it, but it's awkward for some Duolingo users to go to classes and events. How do people who are learning with you use the language? This is a challenge facing every course on Duolingo. On the website, there is a lab called Duolingo Events where people can set up a local Group and invite people to practice a language. There aren’t any for Welsh yet but it’s very possible that this will happen in the next year. For any users in Wales, many Learner Support events are organised by their local centres and if they’d like to attend any of these, they should go to learnwelsh.cymru and look at their local provider’s page. Dysgu Cymraeg Gwent also offer Skype lessons and we have several learners living abroad who regularly Skype our tutors to learn and practice their Welsh. Of course, Wales is a great holiday destination and I’m sure anyone learning the language would receive a great big welcome if they were to visit us here in the land of song. |
Mae yna lawer o bobl sydd eisiau cynyddu nifer siaradwyr. Fel prosiect llwyddiannus dros ben, pa gyngor sydd gyda chi i sefydliadau eraill? Peth pwysicaf yw defnyddio’r offer iawn i’ch cynulleidfa a bod yn hyblyg. Â Duolingo, dyn ni wedi gallu cyrraedd bedwar ban y byd mewn llai na 2 flynedd. Hefyd, mae’r ap yn teilwra’i hun i’ch dull dysgu personol wrth i chi ei ddefnyddio, po fwya dych chi’n ei ddefnyddio, y gorau mae’n eich nabod. Mae’n hollbwysig bod ni yng Nghymru’n gwneud y Gymraeg yn hygyrch, hwyl a hawdd ei weld yn gyhoeddus. Â’r technoleg sydd ohoni, mae mynediad i’r Gymraeg a dysgu’r Gymraeg yn nwylo bron pawb ac mae’n rhaid i ni gymryd mantais o hynny er mwyn sicrhau bod ni’n cyrraedd y cynulleidfa mwyaf posib. | There are lots of people who want to increase the number of speakers. As a very successful project, what advice can you give to other organisations? The most important thing is using the right tools for your audience and being flexible. With Duolingo, we’ve been able to reach around the world in less than 2 years. Also, the app tailors itself to your own learning style, the more you use it the better it knows you. It’s vital that we in Wales make the Welsh language accessible, fun and publicly visible. With the technologies that exist, the Welsh language and a way to learn it is in nearly everyone’s hands and we must take advantage of that to ensure that we reach the widest possible audience. |
Rwy’n dychmygu bod gyda chi gynlluniau i ymestyn beth mae Duolingo yn ei gynnig. Beth sy’n digwydd nesaf a sut all pobl gyfrannu? Mae cynlluniau gyda ni a cham nesaf ein taith yw cydweithio â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i sicrhau bod ein cwrs ni’n cyd-fynd â’r cyrsiau newydd sbon fydd yn cael eu cyhoeddi dros y blynyddoedd nesaf a chysylltu ein hadnoddau er mwyn creu’r profiad dysgu gorau posib i bawb. Hoffen ni weld mwy o athrawon a thiwtoriaid yn defnyddio Duolingo i greu dosbarthiadau eu hunain er mwyn cefnogi’u dysgwyr pa bynnag lefel y maen nhw. Mae croeso i unrhyw un sydd gan ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu sy eisiau mwy o wybodaeth gysylltu â ni drwy dudalen y cwrs, neu ar Drydar @Welsh_Duolingo neu ar ein tudalen Facebook Duolingo Welsh Learners. | I can imagine that you have plans to extend what Duolingo offers. What is coming up and how can people contribute? We have plans and the next step in our journey is to work with the National Learn Welsh Centre to ensure that our course works with the brand-new courses that will be released in the coming years and connect our resources in order create the best possible learning experience for everyone. We’d like to see more teachers and tutors creating their own classrooms on Duolingo to support their learners whatever their level. Anyone with interest in volunteering or just looking for more information is welcome to contact us through the course page, on Twitter @Welsh_Duolingo or on our Facebook page Duolingo Welsh Learners. |
Myra Awodey, Lead Community Specialist at Duolingo, played a key role in overseeing the Welsh course development and contributed:
Mae cyrraedd miliwn o ddysgwyr Cymraeg ar Duolingo yn garreg filltir arbennig, yn arbennig wrth gofio bod Llywodraeth Cymru wedi gosod ei darged, ddwy flynedd yn ôl, o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. | Reaching one million Welsh learners on Duolingo is an incredible milestone, especially given the fact that two years ago, the Welsh government announced its goal to reach one million speakers of the language by 2050. |
Hyd yn oed cyn i ni ddechrau datblygu ein cwrs Cymraeg, roedden ni’n gweld llawer o alw am yr iaith. Roedden ni hyd yn oed wedi clywed yn uniongyrchol oddi wrth Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, ac eraill, a ysgrifennodd atom ni i sôn am bwysigrwydd amddiffyn a lledaenu’r iaith. Mae’n ein calonogi ni bod ein cwrs wedi rhoi cyfle i gymaint o bobl dros y byd i gyd i ddysgu’r iaith bwysig ac arbennig yma. | Even before we began developing our Welsh course, we saw quite a lot of demand for the language. We even heard directly from Carwyn Jones, the First Minister of Wales, and others who wrote to us about the importance of preserving and spreading the language. It's very encouraging to know that our course has given so many people worldwide the opportunity to learn this important and special language. |
Mae’n hollbwysig bod ni yng Nghymru’n gwneud y Gymraeg yn hygyrch, hwyl a hawdd ei weld yn gyhoeddus.
Dyma fideo dysgwr yn siarad Cymraeg ar ôl defnyddio Duolingo am ddim ond 3 wythnos:
Here’s a video of a learner speaking Welsh after learning on Duolingo for just 3 weeks:
The Gŵyl Ddewi Arall (Another Festival) is a jam-packed weekend of literature, music and art in Caernarfon to celebrate St David’s Day and Welshness. Here, Dani Schlick, an applicant who reached the final round of the 2017 Learner of Year competition, speaks about her experience of visiting there…
Unwaith eto dôth ddydd Gŵyl Dewi i Gaernarfon. Mi ddôth â thywydd oer iawn eleni, ond unwaith eto dôth Ŵyl Ddewi Arall i Gaernarfon i roi croeso cynnes i bawb – pobl leol neu o bell i ffwrdd, Cymry Cymraeg a dysgwyr. | Once again it was time for Gŵyl Ddewi Arall to come to Caernarfon. It brought cold weather this year, but again it came to Caernarfon to give a warm welcome to everybody – local people and people from far away, Welsh native speakers and learners. |
Bob blwyddyn bydd sgyrsiau difyr, teithiau diddorol a nosweithiau hwyliog yn ystod Gŵyl Ddewi Arall. A phob blwyddyn rydw i’n edrych ymlaen at y penwythnos hwnnw. | Every year it offers interesting talks and walks and entertaining evenings. And every year I am looking forward to that weekend. |
Eleni es i i wrando ar Bob Morris, hanesydd o Benygroes ger Caernarfon, yn siarad am chwedl Madog a hanes John Evans Waunfawr. Mae gwybodaeth eang iawn o hanes Cymru gan Bob Morris. | This year I went to listen to Bob Morris, a historian from Penygroes near Caernarfon, speaking about the legend of Madog and the story of John Evans Waunfawr. Bob Morris has such a wide knowledge of Welsh history. |
Sgwrs ddiflas a sych am ffeithiau hanesyddol, dach chi’n meddwl? Naci, sgwrs hynod o ddiddorol a ddoniol am chwedl Tywysog Madog oedd yn darganfod America (wrth gwrs!) a John Evans Waunfawr oedd yn teithio drwy America gan chwilio am yr Indiaid Coch Cymraeg (wrth gwrs). Chafodd o mo hyd i’r Indiaid Coch Cymraeg- tybed ai chwedl oedd hyn? Beth bynnag, mae’r byd Cymraeg mor fach, hyd yn oed ar gyfandir mawr America. | So, a boring talk about historic facts, you think? No, an absolutely interesting and funny talk about Prince Madog, who found America (of course!), and John Evans Waunfawr, who travelled through America looking for the Indians who were speaking Welsh (of course). He didn’t find them- I wonder if this was just a legend? Anyway, the Welsh world is small, even on the huge American continent. |
Ar ôl gwrando ar Bob Morris yn siarad am chwedlau a hen hanes Cymru, caethon ni’r pleser mawr o wrando ar Dewi Llwyd yn siarad am ei waith fel cyflwynydd radio a theledu ac am ddigwyddiadau Cymru a’r byd heddiw. | After Bob Morris’ talk about legends and old Welsh history, we had the big pleasure of listening to Dewi Llwyd talking about his work as a radio and TV presenter and about what is happening in Wales and in the world today. |
Fel rhan o’i waith mae Dewi Llwyd yn teithio ledled Cymru ac i wledydd ar draws y byd i wneud yn siŵr y byddwn ni’n gwybod beth sydd yn ei ddigwydd. Rydw i’n nabod Dewi Llwyd o Radio Cymru gan fod i’n gwrando ar Post Prynhawn bob dydd ar y ffordd adra o’r gwaith. Dyn go ddifrif ydy o ar y radio, person sydd yn cyflwyno’r newyddion a’r digwyddiadau mewn ffordd wrthrychol a theg. | Part of Dewi Llwyd’s work is travelling across Wales and to countries all over the world to make sure we get to know what is happening. I know Dewi Llwyd from Radio Cymru, because I listen to Post Prynhawn every day on my way home from work. He is a serious person on the radio, somebody who will present the news and events in an objective and fair way. |
Am syndod gweld yr un dyn yn rhoi sgwrs i ni mewn ffordd hollol hamddenol a ddigrif! Mi gaethon ni gipolwg bach o’i waith cyflwyno’r rhaglen Pawb a’i Farn. Ac wrth gwrs siaradodd o am ei waith ysgrifennu ei lyfr cyntaf o’r un enw. Ces i gymaint o hwyl gwrando ar y straeon difyr iawn- well i mi ddechrau darllen y llyfr rŵan! | What a surprise to see this same man giving a talk being completely relaxed and funny! He gave us a glance of his work presenting the programme Pawb a’i Farn. And of course he spoke about his work writing his first book bearing the same title. I had so much fun listening to his entertaining stories- I’d better start reading the book now! |
Ac am hwyl gaethon ni yn y nos! Roedd sesiwn “Mezze a chwis” ymlaen yn y bwyty Groegaidd “Ouzo ac Olewydd”. Mae’r sesiwn yn gyfle da i gael sgwrs efo pob math o bobl ddiddorol, gan drafod cwestiynau’r cwis heriol. Mae ambell i wydriad o win Groegaiddyn helpu efo hyn, gyda llaw. A’r bwyd? Am flasus! | And what fun the night was! The “Mezze and Quiz” session in the Greek restaurant “Ouzo and Olives” is a great chance to chat with all sorts of interesting people, while discussing the questions of the rather challenging quiz. A glass or two of Greek wine help, by the way. And the food? Delicious! |
Rydw i’n mwynhau Gŵyl Ddewi Arall achos mae hi’n cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau difyr i bawb. Fel dysgwraig Gymraeg mae’n fraint werthfawr i mi gael cymryd rhan mewn digwyddiadau Cymraeg, cael bod yn rhan o ddiwylliant Gymraeg a Chymreig. Rydw i’n medru dilyn sgyrsiau mor ddiddorol ym mamiaith y siaradwyr a chael eu hiwmor a’u straeon. Felly, amdani i ddysgu Cymraeg! A daliwch ati! | I enjoy Gŵyl Ddewi Arall because it offers a variety of interesting events for everybody. As a Welsh learner it is a great privilege for me to take part in Welsh language events, to be part of the Welsh speaking culture of Wales. I can follow fascinating talks in the speakers’ mother tongue getting their humour and stories. So, go for it and learn Welsh! And keep at it! |
Mae’r Gŵyl Ddewi Arall yn cael eu rhedeg gan y tîm sydd yn rhedeg Gŵyl Arall (twitter.com/GwylArall), gŵyl enfawr yng Nghaernarfon pob mis Gorffennaf.
Gŵyl Ddewi Arall is run by the same team that runs Gŵyl Arall (twitter.com/GwylArall), an enormous festival in Caernarfon every July.
Yn y lluniau isod, mae e grŵp gyda Rhys Mwyn, darlith gan Bob Morris ac wedyn sgwrs a chynulleidfa gyda Dewi Llwyd.
In the pictures below, there is a group with Rhys Mwyn, a lecture by Bob Morris and then a chat and audience with Dewi Llwyd.
]]>