Warning: Parameter 2 to qtranxf_postsFilter() expected to be a reference, value given in /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php on line 324

Warning: Parameter 2 to qtranxf_postsFilter() expected to be a reference, value given in /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php on line 324

Warning: Parameter 2 to qtranxf_postsFilter() expected to be a reference, value given in /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php on line 324

Warning: Parameter 2 to qtranxf_postsFilter() expected to be a reference, value given in /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php on line 324

Warning: Parameter 2 to qtranxf_postsFilter() expected to be a reference, value given in /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php on line 324

Warning: Cannot modify header information - headers already sent by (output started at /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php:324) in /home/parallel/public_html/wp-includes/feed-rss2.php on line 8
Erthyglau Taireithog – Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog https://parallel.cymru Fri, 08 Nov 2019 09:50:46 +0000 cy hourly 1 https://wordpress.org/?v=6.8.3 https://parallel.cymru/wp-content/uploads/cropped-Square-URL-512-1-32x32.png Erthyglau Taireithog – Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog https://parallel.cymru 32 32 Sam Brown: Cyflwyno Cernyweg i bawb / Introducing the Cornish language to all https://parallel.cymru/cernyweg/ Fri, 01 Nov 2019 19:00:20 +0000 https://parallel.cymru/?p=21655

Yn ddiweddar mae'r iaith Gernyweg wedi dod yn fwy amlwg i bobl y tu allan i'r Ddugaeth. Yn 2010 adnabu Llywodraeth Prydain y Gernyweg fel iaith swyddogol yng Nghernyw; yn 2018 cymerodd Gwenno yr iaith i wledydd ynysoedd Prydain, i Ewrop a'r tu hwnt efo'i halbwm newydd Le Kov (Lle Cof); ac yn 2019 dan ni'n dathlu pythefnos o Wythnos Siaradwch Gernyweg sy'n dechrau efo gŵyl cerddoriaeth a barddoniaeth Fest Kernewek – y tro cyntaf i ŵyl o'r math hwn gael ei chynnal erioed.

Felly beth am ddysgu ychydig o'r iaith hon? Fel siaradwyr Cymraeg dach chi mewn lle perffaith i ddysgu Cernyweg yn hawdd ac yn gyflym gan fod yr ddwy iaith mor debyg â'i gilydd. Dros y misoedd a ddaw mi fydda i'n cyhoeddi nifer o wersi syml fydd yn dysgu rheolau syml yr iaith i chi, rhoi tipiau am ffyrdd eraill o ddysgu ac yn eich annog chi i fynd allan a defnyddio iaith arall y nefoedd.

Nodyn byr: Dwi'n defnyddio Ffurf Ysgrifenedig Safonol yr iaith yn y gwersi hyn. Ryw bwynt bydda i'n paratoi erthygl am y gwahanol fathau o sillafu'r iaith a sut mae newid o'r un i'r llall.

Lately the Cornish language has become more visible to people outside the Duchy. In 2010 the British Government recognised Cornish as an official language in Cornwall; in 2018 Gwenno took the language into countries of the British Isles, into Europe and beyond with her new album Le Kov (Place of Memory); and in 2019 we are celebrating a fortnight of Talk Cornish Week which begins with a festival of music and poetry, Fest Kernewek – the first time a festival of this kind has ever been held.

So what about learning a bit of this language? As Welsh speakers you are perfectly placed to learn Cornish easily and quickly because the two languages are so alike. Over the coming months I will be publishing a number of lessons which will teach you the simple rules of the language, giving tips on other ways of learning and encouraging you to go out and use the other language of heaven.

Short note: I use the Standard Written Form in these lessons. At some point I will prepare an article on the different ways of spelling the language and how to change from one to another.

Bord Cynnwys / Table of Contents


 

Dysgu Cernyweg: Gwers 1 – Ynganiad a Chyfarchiadau
Dyski Kernowek: Dyskans 1 – Leveryans ha Gorhemynadow
Learning Cornish: Lesson 1 – Pronunciation and Greetings

Un o'r pethau anoddaf wrth ddysgu iaith newydd ydy deud y geiriau'n iawn, ac fel pob iaith mae gan y Gernyweg seiniau syml yn ogystal â seiniau anghyfarwydd a chaled.One of the most difficult things in learning a new language is saying the words right, and like every language Cornish has simple sounds as well as unfamiliar and hard sounds.
Yn y tabl isod dwi'n dangos gwyddor y Gernyweg a sut mae deud pob llythyren mewn cymhariaeth â'r Gymraeg a'r Saesneg. Dwi'n cynnwys symbolau o'r Wyddor Seinegol Ryngwladol i helpu dangos yr ynganiad.In the table below I show the Cornish alphabet and how each letter is said as compared with Welsh and English. I include the symbols of the International Phonetic Alphabet to help show the pronunciation.
Dydy hyn ddim yn beth hawdd i ddysgu o bell felly peidiwch â phoeni os ydach chi'n drysu neu yn stryffaglu gwneud rhai o'r seiniau hyn ar y cychwyn. Bydd yn dod yn haws wrth i ni fynd yn ein blaen.It is not an easy thing to learn remotely so don’t worry if you are confused or struggle to make some of these sounds at the beginning. It will become easier as we go on.
Yr Wyddor / An Abecedari:The Alphabet
Yn yr enghreifftiau hyn dwi'n dangos enwau trwy ddefnyddio priflythrennau i helpu gwahaniaethu.In these examples I show nouns capitalised to help distinguish them.
Llythyren GernywegSain cyfartal yn GymraegSain cyfartal yn SaesnegEnghraifft (cyfieithiad)
Cornish letterEquivalent sound in WelshEquivalent sound in EnglishExample (translation)
A / a [a:]A - cathAh - cashKath (cath)
B / b [b]B - bisgedynB - abacusBora (gwawr)
C / c [s]S - wythnosS - smilecertan (sicr)
Ch / ch [ʧ]Tsi - tsieinaCh - changeChi (tŷ)
D / d [d]D - duD - daddu (du)
Dh / dh [ð]Dd - defnyddioTh - thisdhe (i)
E / e [ɛ]E - heE - envelopeewn (cywir)
F / f [f]Ff - fferyllfaF - fatherfast (sefydlog)
G / g [g]G - GwyneddG - gogwynn (gwyn)
H / h [h]H - hetH - hatHatt (het)
I / i [i:]I - gwinEe - teethMin (ceg)
J / j [ʤ]J - garejJ - jamJerkyn (siaced)
K / k [k]C - camCk - backKwilkyn (broga)
L / l [l]L - gloL - helplamma (neidio)
M /m [m]M - mamM - mumMena (bryn/mynydd)
N / n [n]N - henN - nopeNans (dyffryn)
O / o [ɔ]O - agorO - holdOlifans (Eliffant)
P / p [p]P - polynP - pepperPower (pŵer)
R / r [r]*R - rôlR - readyparys (parod)
S / s [z]S - sŵZ (meddal) - timesSeythen (wythnos)
T / t [t]T - tywelT - toadTren (trên)
Th / th [θ]Th - pethTh - thingOw thas (fy nhad)
U / u [y]W (byr) - wpsiU - orangutanBugh (buwch)
V / v [v]F - fodcaV - veryDha vamm (dy fam)
W / w [w]W - gwynOo - pooWolkom (croeso)
Y / y [ɪ]Y - gwynI - winbryntin (gwych)
* Gellir rolio'r r neu beidio. Yn bersonol dwi ddim, ond mae 'na rai o bobl sy'n ffafrio fo fel yn Gymraeg.* The r can be rolled or not. Personally I do not, but some people favour it as in Welsh.
Ymarfer 1 / Praktis 1:Practice 1:
Trïwch ddeud y geiriau ar y dde yn uchel. Mi fyddwch chi'n gweld rhai geiriau cyfarwydd i'r Gymraeg a'r Saesneg, a rhai geiriau hollol newydd. Peidiwch â phoeni os nad ydach chi'n gallu deud nhw'n iawn wrth gychwyn. Os ydach chi'n stryffaglu efo'r ynganiad, sbïwch ar yr enghreifftiau Cymraeg a Saesneg eto a'u deud nhw'n uchel cyn ceisio'r Gernyweg drachefn.Try to say the words on the right aloud. Again, if you come across any problems, look at the examples.
Deuseiniau / Diwvogalennow:Diphthongs:
Mae 'na hefyd sawl deusain yn y Gernyweg. Mae'r tabl isod yn dangos ychydig o'r rhai mwyaf cyffredin i chi.There are also several Cornish dialects. The table below shows you some of the most common ones.
Deusain CernywegSeiniau cyfartalEnghraifft (cyfieithiad)
Cornish DipthongEquivalent SoundsExample (translation)
gh [x]
(byth yn dod ar ddechrau geiriau)
fel loch yn Wyddeleg yr Albanlaghel (cyfreithlon)
eu [ø:]fel höher yn Almaeneg.Eus keus? (Oes 'na gaws?)
oo [o:]Ô - lônPoos (pwysau)
ou [u:]Ŵ - dŵrGour (gŵr)
ow [ɔʊ]fel 'oh dear' yn Saesneg.Kernow (Cernyw)
oy [ɔˑɪ]Oe - anhygoelOy (wy)
yw [ɪʊ]Iw - heddiwYth yw yeyn (mae'n oer)
Nodyn / Merkyans:Note:
Mae'r gh yn debyg iawn i'r ch yn Gymraeg, ond dwedir yn fwy meddal.Gh is very similar to ch in Welsh, but said more softly.
Ymarfer 2 / Praktis 2:Exercise 2:
Trïwch ddeud y geiriau ar y dde yn uchel. Eto, os dewch chi ar draws unrhyw problemau, edrychwch ar yr enghreifftiau.Try to say the words on the right aloud. Again, if you come across any problems, look at the examples.
Hyd llafariaid / Hys bogalennow:Vowel length:
Mae'r Gymraeg yn dangos hyd llafariaid trwy ddefnyddio toeau bychain, er enghraifft tap a tâp. Er mwyn dangos y wahaniaeth hon mae'r Gernyweg yn defnyddio cytseiniaid dyblyg, cymharwch tapp (tap) a tapa (tâp). Fel arfer mae hyn yn effeithio ar eiriau unsill, ond mae 'na eithriadau fel y dangosir isod.Welsh shows vowel length by the use of circumflexes, for example tap and tâp. To show this difference, Cornish uses double consonants: compare tapp (tap) and tapa (tape). As a rule this affects words of one syllable, but there are exceptions as is shown below:
Os oes un cytsain, mae'r llafariad yn hir. Os oes dau gytsain, mae'n fyr.If there is one consonant, the vowel is long. If there are two consonants, it is short.
Gall y geiriau Pel (pêl) a Pell (pell) achosi ychydig o drafferth i siaradwyr Cymraeg oherwydd yr L dyblyg. Mae'n rhaid cofio nad oes y sŵn ll [ɬ] yn bodoli yn y Gernyweg o gwbl a dim ond yn dangos hyd y llafariad maen nhw.The words Pel (ball) and Pell (far) can cause Welsh speakers a bit of trouble on account of the double L. It must be remembered the sound ll [ɬ] does not exist in Cornish at all, and the double l merely shows the length of the vowel.
Pan welir ll yn Gernyweg, dwedir fel l yn Gymraeg.When you see ll in Cornish, say it like l in Welsh.
Mewn geiriau deusill a mwy mae'r llafariaid yn fyr, er enghraifft: kavas (can), bogalen (llafariad), tapys (tapiau).In words of two syllables and more the vowel is short, for example: kavas (tin can), bogalen (vowel), tapys (tapes).
Eithriad i'r rheol hwn ydy geiriau deusill sy'n gorffen efo llafariad. Yn yr achosion hyn mae'r llafariad olaf wastad yn fyr, tra mae hyd y llafariad cyntaf yn dibynnu ar gytseiniaid dyblyg.An exception to this rule is words of two syllables that end in a vowel. In these cases the last vowel is always short, while the length of the first vowel depends on the double consonant.
Er enghraifft: tapa (tâp), apa (epa), kanna (can), ranna (rhannu).For example: tapa (tape), apa (ape), kanna (can), ranna (to share).
Ymarfer 3 / Praktis 3:Practice 3:
Dwedwch y geiriau canlynol gan gofio bod y cytseiniaid dyblyg yn byrhau hyd y llafariaid.Say the following words remembering that the double consonants shorten the length of the vowel.

glan (glan) / Glann (glan / ymyl afon)

Sten (tun)

Lann (llan)

Lamm (naid)

bras (mawr)

Snod (rhuban) / Snodow (rhubanau)

Gwen (gwên) / Gwenn (anws) – Mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng y ddau yma!

Unn (un) – wrth gyfrif.

Myttin (bore) – Wrth fyrhau mae sŵn yr i [i] yn newid i sŵn yr y [ɪ]. Felly [mɪtɪn].

Cyfarchiadau / Gorhemynadow:Greetings:
Felly rŵan dan ni wedi dysgu sut mae gwneud seiniau'r Gernyweg, dan ni'n barod i symud ymlaen i ail rhan y gwers hwn, sef y cyfarchiadau. Sbïwch ar yr geiriau a'r brawddegau isod a thrïwch lenwi'r bylchau wrth ddarllen nhw allan.As you can see from the examples above, a lot of words in Cornish are similar to Welsh and English, and some look wholly strange. You will see more of these similarities and differences as we learn more Cornish in the months to come.

Dydh da. Helô / Dydd Da (cyffredinol)
Lowenna dhis. Helô (unigolyn cyfarwydd)
Lowenna dhewgh. Helô (sawl person/ffurfiol)

Hou! S'mae
Yow.
Ha!

Myttin da. Bore da.

Dohajydh da. P'nawn da.

Gorthugher da. Noswaith da.

Fatla genes? Sut wyt ti?
Fatla genowgh? Sut dach chi?

Yn poynt da, meur ras. Yn dda iawn, diolch.
Da lowr. Yn iawn.
Na pur dha. Ddim yn dda iawn.

Pyth yw dha hanow? Beth ydy dy enw?
Pyth yw agas hanow? Beth ydy'ch enw?

... yw ow hanow. ... ydy fy enw.
Ow hanow yw... Fy enw i ydy...

A ble hwre'ta dos? I le wyt ti'n dod?
A ble hwrewgh hwi dos? O le dach chi'n dod?

My a dheu a-dhyworth... Dwi'n dod o...

Splann dhe'th metya. Neis i gwrdd â ti.
Splann dh'agas metya. Neis i gwrdd â chi.

Duw genes! Hwyl fawr! (unigolyn cyfarwydd)
Duw genowgh! Hwyl fawr! (sawl person / ffurfiol)

Dha weles yn skon! Gwela i di'n fuan!

Agas gweles a-vorow. Gwela i chi yfory!

Nos da. Nos da.

Mar pleg. Plîs.

Meur ras. Diolch.

Drog yw genev. Mae'n ddrwg gen i.

Gav dhymm. Esgusoda fi.
Gevewgh dhymm. Esgusodwch fi.

A allav vy mos dhe'n bisva mar pleg? Ga i fynd i'r tŷ bach plîs?
Gyllydh. Cei.
Gyllowgh. Cewch.
Na yllydh. Chei di ddim.
Na yllowgh. Chewch chi ddim.

Ple'ma'n privedhyow? Lle mae'r toiled?
A-dro dhe'n gornel. Rownd y gornel.

Ymarfer 4 / Praktis 4:Practice 4:
Trïwch greu cwpl o sgyrsiau byr trwy ddefnyddio'r geiriau a'r brawddegau uchod.Try to create a couple of short conversations using the words and sentences above.
Diwedd y gwers / Diwedh an dyskansEnd of the lesson
Fel gallwch chi weld yn yr enghreifftiau uchod, mae 'na lot o eiriau tebyg i'r Saesneg a'r Gymraeg yn y Gernyweg, a rhai sy'n edrych yn hollol estron. Byddwch chi'n gweld mwy o'r tebygrwyddau a'r gwahaniaethau hyn wrth i ni ddysgu mwy o Gernyweg dros y misoedd a ddaw.As you can see from the examples above, a lot of words in Cornish are similar to Welsh and English, and some look wholly strange. You will see more of these similarities and differences as we learn more Cornish in the months to come.
Mae'r gwers 'ma wedi bod yn weddol syml fel rhestr o eiriau ac ymadroddion i chi eu cofio, ond yn yr un nesaf bydda i'n dangos i chi sut mae adeiladu brawddegau a dysgu cwpl o eiriau defnyddiol eraill.This lesson has been fairly simple as a list of words and phrases for you to remember, but in the next one I will be showing you how to build sentences and teaching you a few other useful words.
Os ydach chi am barhau i ddysgu yn y cyfamser galla i awgrymu gwefan www.gocornish.org fel man cychwyn i ffeindio mwy am yr iaith. I chi sydd wedi dysgu Cymraeg efo Say Something in Welsh, mae 'na hefyd fersiwn Cernyweg!If you want to carry on learning in the meantime I can suggest the website www.gocornish.org as a starting point for finding out more about the language. For those of you who are learning Welsh with Say Something in Welsh, there is also a Cornish version!
Dwi'n byw yn ardal Caerfyrddin ac yn awyddus dechrau dosbarth Cernyweg sy'n cwrdd pob hyd yn hyn. Os ydach chi am fod yn rhan o hyn, anfonwch neges ata i trwy Drydar: @SamBrown1993I live in the Carmarthen region and am keen to start a Cornish class which will meet from time to time. If you want to be part of it, send a message to me via Twitter: @SamBrown1993
Mi fydda i'n ôl cyn bo hir efo mwy o Gernyweg, ond tan wedyn...I will be back before long with more Cornish, but until then...

Duw genowgh!


Dysgu Cernyweg: Gwers 2 – Cyflwyniad i'r ferf bos
Dyski Kernowek: Dyskans 2– Kommendyans dhe verb bos
Learning Cornish: Lesson 2 – Introducton to the verb bos

Dach chi'n ôl - Dynnargh! (Croeso). Gobeithio mwynhaoch chi'r gwers cyntaf a dach chi'n teimlo'n hyderus wrth ynganu geiriau Cernyweg. Os nad ydach chi'n gyfforddus wrth greu'r seiniau eto, peidiwch â phoeni. Gallwch chi fynd yn ôl unrhyw bryd i adolygu'r gwers cyntaf, ond bydda i hefyd yn cynnwys geiriau newydd trwy'r gwersi o'ch blaen i roi help i chi.You’re back – Dynnargh! (Welcome). I hope you enjoyed the first lesson and that you are feeling confident with pronouncing Cornish words. If you are still not comfortable about creating the sounds, don’t worry. You can go back any time to review the first lesson, but I will also be presenting new words to help you in the lessons to come.
Cyn cychwyn, mae'n rhaid i mi gyfaddef bod 'na gwpl o bethau yn y gwers hwn efallai bydd yn eich dychryn. Ond peidiwch â phoeni a chymerwch eich amser wrth fynd trwyddo.Before we begin, I must confess that there are a couple of things in this lesson that may alarm you. But don’t worry, and take your time going through it.
Ta beth, ymlaen â ni i'r ail wers!Anyway, on with the second lesson.
Ddeud y gwir, dôn i ddim yn bositif beth rôn i am ei ddysgu i chi yn y gwers hwn. Ond dwi'n credu mod i wedi gwneud y penderfyniad cywir trwy ddewis cyflwyno un o'r berfenwau mwyaf defnyddiol yn y Gernyweg: bos (bod) a dechrau sôn am y treigliadau.Actually, I was not sure what I wanted to teach you in this lesson. But I think I have made the right decision in choosing to present one of the most useful verb-nouns in Cornish: bos (to be), and to start talking about the mutations.
Bos - Ffurf hir neu ffurf fer? / Bos - Furv hir po furv verr?:Bos - Long form or short form?:
Dan ni i gyd yn gyfarwydd â'r berfenw bos (bod) ym mhob iaith – defnyddies i ffurf ohono fo ar ddechrau'r frawddeg hon. Yn y Gymraeg mae'n anodd meddwl am unrhyw air sy'n fwy defnyddiol na bod, ac felly dyma fydd cynnwys y rhan hon.We are all familiar with the verb-noun bos (to be) in every language – I used a form of it at the start of this sentence. In Welsh it is hard to think of any word that is more useful than bod, and so this will be the content of this part.
Cyn i ni ddechrau, mae'n werth sôn am reol anghyfarwydd sy'n effeithio ar ddefnydd o'r berfenw bos yn Gernyweg, a hynny yw os ydy'n ffurf hir neu ffurf fer. Ond beth mae'r rhain yn golygu? A sut mae'n effeithio ar ddefnydd o ffurfiau'r ferfenw?Before we begin, it is worth mentioning a strange rule that affects the use of the verb-noun bos in Cornish, and that is that there is a long form or a short form. But what do these mean? And what effect do they have on the forms of the verbenw?
Edrychwch ar y tabl isod i gymharu'r ffurfiau hir a ber â'i gilydd:Look at the table below comparing the long and short forms with one another.
Ffurf hir / Furv hir / Long formFfurf fer / Furv verr / Short formCymraeg / Kembrek
Yth esov vyOv vyDw i
Yth esos taOs taWyt ti
Yma ev/hiYw ev/hiMae o/hi / yw o/hi
Yth eson niOn niDan ni
Yth esowgh hwiOwgh hwiDach chi
Ymons iYns iMaen nhw / ydyn nhw
Y brif wahaniaeth rhwng y ddwy ffurf 'ma yw defnydd ohonyn nhw. Dan ni'n defnyddio'r ffurfiau hir er mwyn llunio'r amseroedd parhaol, hynny yw defnyddio bos + berfenw, ac i ddangos lleoliad.The chief difference between these two forms is in the use of them. We use the long forms to denote duration of time, in this case using bos + verb-noun, and also to show location.
Cernyweg / KernowekCymraeg / KembrekSaesneg / Sowsnek
Yma hi ow tos.Mae hi'n dod.She is coming.
Yth esov vy ow tyski.Dwi'n dysgu.I am learning.
Yth esowgh hwi omma.Dach chi yma.You are here.
Cernyweg / KernowekCymraeg / KembrekSaesneg / Sowsnek
Diwedhes yw hi.Mae'n hwyr.It's late.
Medhyk ov vy.Meddyg ydwi.I'm a doctor.
Adhyskys yns i.Maen nhw'n addysgedig.They're educated.
Mae 'na eithriadau i'r rheolau hyn, ond fyddwn ni ddim yn poeni amdanyn nhw heddiw. Yn yr un modd fyddwn ni ddim yn cyffwrdd â'r ffurfiau hir tan wers hwyrach.There are exceptions to these rules, but we won’t worry about them today. In the same way, we won’t touch on the long forms till a later lesson.
Mae'n siŵr bod chi'n sgrechian ar ôl gweld y rheiny, ond peidiwch. Dwi ddim yn disgwyl i chi eu dysgu nhw yn syth. Yng ngweddill y rhan hon byddwn ni'n canolbwyntio ar y ffurfiau byrion.I expect that you are screaming after seeing these, but don’t. I don’t expect you to learn them straight away. In the remainder of this part we will concentrate on the short forms.
Y ffurfiau byrion / An furvow berrThe short-form verb-nouns
Fel dudes i uchod, dan ni'n defnyddio'r ffurfiau byrion ym mhob achos ond defnyddio berfenwau neu ddangos lleoliad, ac fel arfer maen nhw'n ymddangos efo enwau, ansoddeiriau ac rhangymeriadau y gorffennol.As I said above, we use the short forms in every case except with verb-nouns or to show location, and as a rule they appear with nouns, adjectives and past participles.
Dan ni'n gosod yr enwau/ansoddeiriau/rhangymeriadau o flaen ffurf fer o bos er mwyn llunio brawddegau.We put the nouns/adjectives/past participles in front of the short form of bos to form sentences.

Sam ov vy. Sam ydw i.
Ow howeth yw ev. Fy ffrind ydy o.
Oberoryon yns i. Gweithwyr ydyn nhw.

Yn anhebyg i'r Gymraeg gallwn ni ddefnyddio ansoddeiriau efo'r gystrawen hyn yn Gernyweg.Unlike in Welsh, in Cornish we can use adjectives with this construction.

Yeyn on ni. Dan ni'n oer.
Tanow os ta. Ti'n denau.
Lowen owgh hwi. Dach chi'n hapus.

Dyma'r ffurfiau byrion eto i chi.Here the short form verb-nouns again for you.
Cernyweg / KernowekCymraeg / KembrekEnghraifft / Ensampel Example
Ov vyDw iDyskador ov vy.Athro dw i.
Os taWyt tiLowen os ta. Ti'n hapus.
Yw ev/hiMae o/hi / yw o/hiMorwenna yw hi. Morwenna yw hi.
On niDan niSkwith on ni. Dan ni wedi blino.
Owgh hwiDach chiA-varr owgh hwi. Dach chi'n gynnar.
Yns iMaen nhw / ydyn nhwPeboryon yns i.Pobyddion ydyn nhw.
Mi allwch chi weld sut mae'r gystrawen 'ma yn perthyn i'r Gymraeg.You can see how this construction relates to Welsh.
Ymarfer 1 / Praktis 1:Practice 1:
Cyfieithwch y brawddegau isod i'r Gymraeg. Maen nhw i gyd yn defnyddio geiriau sydd naill ai wedi ymddangos mewn enghreifftiau yn y gwersi hyd yma neu sy'n gyfarwydd i chi fel siaradwyr Cymraeg.Translate the sentences below into Welsh. They all use words which have either appeared in examples in the lessons so far or which are familiar to you as Welsh speakers.
1. Gwynn yw hi.
2. Kembrek yns i.
3. Lowen ov vy.
4. Gwin yw ev.
5. Berr os ta.
6. Diwedhes on ni.
7. Du yw an gath.
8. Trist owgh hwi.
9. An ki yw lowen.
10. Dowr yw glas.
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
Peidiwch ag anghofio trïo darllen yr enghreifftiau uchod yn uchel.Don’t forget to try to read the above examples aloud.
Atebion ar ddiwedd y gwers.Answers at the end of the lesson.
Ymarfer 2 / Praktis 2:Practice 2:
Trïwch gyfieithu'r brawddegau isod i Gernyweg. Eto, mae'r geiriau hyn i gyd i'w gweld yn y gwersi hyd yma.Try to translate the sentences belwo into Cornish. Again, all the words can be seen in the lessons so far.
1. Athro ydy o.
2. Angharad dw i.
3. Dan ni'n hwyr.
4. Cath yw hi.
5. Dach chi'n oer.
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
Y Treigliadau / An TreylyansowMutations
Fel yr holl ieithoedd Celtaidd, mae treigliadau yn digwydd yn y Gernyweg, ac i fod yn onest mae 'na fwy o dreigliadau yn Gernyweg nag mewn unrhyw un o'r ieithoedd eraill. Ia, mae hynny'n meddwl bod 'na fwy nag yn Gymraeg!As with all Celtic languages, mutations occur in Cornish, and to be honest there are more mutations in Cornish than in any of the other lenguages. Yes, that means there are more than in Welsh!
Yn lwcus, mae lot ohonyn nhw yn cyfateb â threigliadau Cymraeg. Heddiw byddwn ni'n canolbwyntio ar y treiglad meddal, ond cyn hynny, dwi'n mynd i roi'r tabl treigliadau Cernyweg i chi gael ei weld a'i ystyried. Dwi ddim yn disgwyl i chi ddysgu'r rhain i gyd yn syth, a byddwn ni'n dod iddyn nhw yn y man.Luckily, a lot of them correspond to Welsh mutations. Today we will concentrate on the soft mutation, but before this, I am going to give the table of Cornish mutations for you to see and ponder. I don’t expect you to learn them all straight away, and we will come to them in due course.
1
Dim treiglad / Andreylyes
/ No mutation
2
Meddal / Medhel / Soft
3
Llaes / Hwethys / Aspiriant
4
Caled / Kales / Hard
5
Cymysgedig / Kemyskys

6
Ar ôl 'th / Wosa 'th / After 'th
BVBPFV
ChJChChChCh
DDhDTTT
G + (a, e, i, y)-G + (a, e, i, y)KHH
G + (o, u, ro, ru)WG + (o, u, ro, ru)KHwW
G + (l, r)-G + (l, r)KGG
GwWGwKwHwW
KGHKKK
MVMMFV
PBFPPP
TDThTTT
Dudes i fod 'na lawer! Mae modd arbennig o ddangos pryd mae'r treigliadau hyn yn digwydd, a hynny trwy cyfeirio at rif y treiglad ar ôl geiriau sy'n ei achosi.I did say there were a lot! There is a special way of showing when these mutations occur, and that is through referring to the number of the mutation after words which cause it.
Er enghraifft: ow3 (fy) neu yn5 (yn).For example: ow3 (fy) neu yn5 (yn).
Bydda i'n defnyddio'r system 'ma i ddangos pryd mae treiglad yn digwydd.I will use this system to show when a mutation occurs.
Treiglad Meddal / MedhelheansThe Soft Mutation
Yn Gernyweg mae 'na enwau gwrywaidd a benywaidd, ac fel yn Gymraeg mae treiglad meddal yn digwydd i enwau benywaidd unigol ar ôl y fannod benodol: An / 'n.In Cornish, nouns are masculine and feminine, and as in Welsh a soft mutation occurs in feminine singular nouns after the definite article: An/’n.
Er enghraifft: mowes (merch), an vowes (y ferch).For example: mowes (girl), an vowes (the girl).
Mae sawl enw yn Gernyweg efo'r un genedl ag enwau Cymraeg: kath (cath), an gath (y gath). Ond dydy hyn ddim wastad yn wir: pons (pont), an pons (y bont). Felly cymerwch ofal wrth ddysgu geiriau newydd.Many nouns in Cornish have the same gender as Welsh nouns: kath (cat), an gath (the cat). But this is not always true: pons (bridge), an pons (the bridge). So take care when learning new words.
Ymarfer 3 / Praktis 3:Practice 3:
Gan ddefnyddio'r tabl treigliadau uchod, treiglwch yr enwau benywaidd hyn.Using the table of mutations above, mutate these feminine nouns.
1. An + bugh (buwch)
2. An + benyn (menyw)
3. An + gwlas (gwlad)
4. An + kath (cath)
5. An + milva (sŵ)
6. An + gwedhen (coeden)
7. An + treveglos (pentref)
8. An + mamm (mam)
9. An + kowfordh (twnnel)
10. An + esedhva (lolfa)
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
Ymarfer 4 / Praktis 4:Practice 4:
Cyfieithwch y brawddegau isod gan ddefnyddio popeth dan ni wedi'i ddysgu heddiw.Translate the sentences below using everything that you have learned today.
1. Y gath yw hi.
2. Mae'r wlad yn oer.
3. Mae'r bont yn hir.
4. Gwyn yw'r ci.
5. Dach chi'n hapus.
6. Dyskador yw ev.
7. An medhyk yw adhyskys.
9. Oberoryon owgh hwi.
10. Skwith on ni.
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
...................................................
Diwedd y gwers / Diwedh an dyskans.End of the lesson
Dan ni wedi mynd dros lot o dir newydd yn y gwers hwn, ac mae'n siŵr bod chi'n llawn cwestiynau. Gobeithio nad ydwi wedi codi ofn arnoch chi. Yn y gwers nesaf byddwch chi'n dechrau defnyddio'r Gernyweg dwi wedi'i dysgu i chi yn fwy ac yn creu brawddegau eich hunain gan ddefnyddio popeth dan ni wedi dysgu hyd yma.We have covered a lot of new ground in this lesson, and no doubt you are full of questions. I hope I have not frightened you. In the next lesson you will begin to use the Cornish I have taught you more and to create your own sentences using everything we have learned so far.
Yn y cyfamser, teimlwch yn rhydd i fynd dros y ddau wers hyn cwpl o weithiau ac i ddefnyddio'r adnoddau arlein eraill i'ch helpu.In the meantime, feel free to go over the two lessons a few times and use other online resources to help you.
Dwi'n hapus i ateb unrhyw gwestiwn neu sylw sydd gynnoch chi, gallwch chi gysylltu â fi drwy Drydar: @SamBrown1993 a pheidiwch ag anghofio mod i am ddechrau dosbarth yn ardal Caerfyrddin.I am happy to respond to any questions or observations that you have, you can contact me on Twitter: @SamBrown1993 and don’t forget that I am looking to start a class in the Carmarthen area.
Agas gweles yn skon!
Atebion / Gorthebow / Answers
Ymarfer 1 / Praktis 1:Practice 1:
1. Gwynn yw hi.
2. Kembrek yns i.
3. Lowen ov vy.
4. Gwin yw ev.
5. Berr os ta.
6. Diwedhes on ni.
7. Du yw an gath.
8. Trist owgh hwi.
9. An ki yw lowen.
10. Dowr yw glas.
1. Mae hi'n wen / Gwen yw hi.
2. Cymreig ydyn nhw.
3. Dwi'n hapus.
4. Mae'n win / Gwin ydy o.
5. Ti'n fyr.
6. Dan ni'n hwyr.
7. Mae'r gath yn ddu.
8. Dach chi'n drist.
9. Mae'r ci yn hapus.
10. Mae dŵr yn las.
Ymarfer 2 / Praktis 2:Practice 2:
1. Dyskador yw ev.
2. Angharad ov vy.
3. Diwedhes on ni.
4. Kath yw hi.
5. Yeyn owgh hwi.
1. Athro ydy o.
2. Angharad dw i.
3. Dan ni'n hwyr.
4. Cath yw hi.
5. Dach chi'n oer.
Ymarfer 3 / Praktis 3:Practice 3:
1. An vugh
2. An venyn
3. An wlas
4. An gath
5. An vilva
6. An wedhen
7. An dreveglos
8. An vamm
9. An gowfordh
10. An esedhva
1. An + bugh (buwch)
2. An + benyn (menyw)
3. An + gwlas (gwlad)
4. An + kath (cath)
5. An + milva (sŵ)
6. An + gwedhen (coeden)
7. An + treveglos (pentref)
8. An + mamm (mam)
9. An + kowfordh (twnnel)
10. An + esedhva (lolfa)
Ymarfer 4 / Praktis 4:Practice 4:
1. An gath yw hi.
2. Yeyn yw an wlas.
3. Hir yw an pons.
4. Gwyn yw an ki.
5. Lowen owgh hwi.
6. Athro ydy o.
7. Mae'r meddyg yn addysgedig.
8. Mae'r nos yn ddu.
9. Gweithwyr dach chi.
10. Dan ni wedi blino.
1. Y gath yw hi.
2. Mae'r wlad yn oer.
3. Mae'r bont yn hir.
4. Gwyn yw'r ci.
5. Dach chi'n hapus.
6. Dyskador yw ev.
7. An medhyk yw adhyskys.
8. An nos yw du.
9. Oberoryon owgh hwi.
10. Skwith on ni.


Dysgu Cernyweg: Gwers Tri – Ffurfiau hirion o bos
Dyski Kernowek: Dyskans Tri – Furvow hir a bos

Helô eto, a keslowena (llongyfarchiadau) ar gyrraedd gwers tri! Gobeithio bod chi wedi joio'r gwersi hyd yma ac yn teimlo fel bod chi'n dysgu lot. Fel yn y gwersi blaenorol, dwi'n eich annog i ddarllen yr holl enghreifftiau Cernyweg yn uchel er mwyn helpu'ch tafod ddod i afael efo'r holl seiniau. Bydd yn dod yn haws bob tro dach chi'n gwneud hwn.

Adolygu / Dasweles:

Yng ngwers dau dysgon ni am y ferf bos (bod) a'r ddwy ffordd mae hon yn cael ei defnyddio. Felly i ddechrau heddiw, dwi eisiau i chi gyfieithu'r brawddegau dilynol. Cofiwch y defnyddir ffurfiau byrion o bos efo enwau ac ansoddeiriau.

Ymarfer un / Praktis onan:

Teimlwch yn rhydd i edrych ar wers 2 os nad ydach chi'n gallu cofio'r holl eiriau neu batrymau hyn.

  1. Dan ni'n hapus. .....................................
  2. Maen nhw'n wyn. .....................................
  3. Athro dach chi. .....................................
  4. Mae'r ci yn hwyr. .....................................
  5. Rwyt ti'n fyr. .....................................
  6. An gath yw melyn. .....................................
  7. Hen yw an karr. .....................................
  8. Berr os ta. .....................................
  9. Kembrek owgh hwi. .....................................
  10. Lowen on ni.       .....................................

Ffurfiau hirion o bos / Furvow hir a bos:

Prif rhan y gwers hwn fydd dysgu mwy am ffurfiau hirion o bos. Dyma'r tabl i chi eto i ddangos y ffurfiau hirion.

Ffurf hir / Furv hir Cymraeg / Kembrek
Yth esov vy Dw i
Yth esos ta Wyt ti
Yma ev/hi Mae o/hi
Yth eson ni Dan ni
Yth esowgh hwi Dach chi
Ymons i Maen nhw / ydyn nhw

Mae'r ffurfiau hirion hyn yn cael eu defnyddio er mwyn llunio'r amseroedd parhaol (lle defnyddiwn bod + yn + berfenw yn Gymraeg a to be + -ing yn Saesneg) ac i ddangos lleoliad. Heddiw mi fyddwn ni'n canolbwyntio ar ddangos lleoliad, ac yn edrych ar ddefnydd o'r ffurfiau hyn â berfau eraill yn y gwers nesaf.

Er mwyn dangos lleoliad, gosodwch adferf neu arddodiad efo'r ffurf hir. Er enghraifft:

  • Yth esov vy omma - Dwi yma.
  • Yma ev tre - Mae o adref.
  • Yth esowgh hwi y'n chi – Dach chi yn y tŷ.

Edrych ar yr eirfa hon. Dwi wedi dewis geiriau tebyg yn y Gymraeg a'r Gernyweg.

Cymraeg/Kembrek Cernyweg/Kernowek
Yma / fa'ma Omma
Yno / fa'na Ena
Fan'cw Hons
Yn/mewn Yn
Yn y/yr Y'n
Adref Tre
O gwmpas A-dro


Ymarfer dau / Praktis dew:

Gan ddefnyddio'r geiriau hyn, cyfieithwch y brawddegau hyn:

  1. Dan ni yma.
  2. Mae'r ci adref.
  3. Dach chi yn y tŷ.
  4. Dwi o gwmpas.
  5. Maen nhw fan'cw.
  6. Mae'r gath yma.
  7. Maen nhw adref.
  8. Mae'r dŵr fa'na.
  9. Dwi yn y dŵr.
  10. Rwyt ti fan'cw.

Ymarfer tri / Praktis tri:

Cyfieithwch y dilynol i Gymraeg:

  1. Yth esos ta a-dro.
  2. Yma'n ki y'n karr.
  3. Yth esowgh hwi tre.
  4. Ymons i hons.
  5. Yth eson ni ena.

Yn y gwers blaenorol cyflwynes i'r treigliadau i chi gan ganolbwyntio ar y treiglad meddal neu medhelhean. Ceir hwn mewn geiriau benywaidd ar ôl y fannod benodol, er enghraifft, benyn (benyw) – an venyn (y fenyw).

Ymarfer pedwar / Praktis peswar:

Treiglwch y rhain:

  1. An + kath
  2. An + tre
  3. An + davas (dafad)
  4. An + loor
  5. An + bugh

Mae'r treiglad meddal hefyd yn digwydd mewn ansoddeiriau sy'n disgrifio enwau benywaidd.

An venyn goth (Yr hen fenyw)
An gath dew (Y gath dew)
An gowfordh dewal (Y twnnel tywyll)

Ymarfer pump / Praktis pymp:

Treiglwch y dilynol:

  1. Kath + koth
  2. An + tre + gwag
  3. An + gwedhen + gwyrdh
  4. An + mamm + lowen
  5. Esedhva + bras (mawr)

Nodyn pwysig: Ni cheir treiglad meddal mewn ansoddeiriau sy'n dilyn enwau sy'n gorffen efo -S neu -Th.

An yeth Kernowek – Yr iaith Gernyweg
An eglos bras – Yr eglwys fawr

Ond mae'r treiglad yn dal i ddigwydd ar ddechrau'r enwau hyn.

An dreveglos bras – Y pentref mawr

Ymarfer chewch / Praktis hwegh:

Cyfieithwch y rhain:

  1. Y ddafad wen.
  2. Yr hen eglwys.
  3. Benyw fawr.
  4. Y gath dew.
  5. Y ci du.
  6. Yr iaith Gymraeg.
  7. Y bont wan.
  8. Y dŵr glas.
  9. Yr athro hapus.
  10. Y nos dywyll.

Gosod popeth â'i gilydd / Gorra pubtra war-barth:

Erbyn hyn dan ni wedi dysgu lot. Edrychwch ar y rhain i weld sut mae popeth yn cyd-fynd â'i gilydd.

Yma kath bras y'n chi. Mae cath gawr yn y tŷ
Yth esov vy y'n dowr glas. Dwi yn y dŵr glas
An venyn velyn yw lowen. Mae'r fenyw felyn yn hapus
Yeyn owgh hwi hedhyw. Dach chi'n oer heddiw
Yth eswogh yn le yeyn. Dach chi mewn lle oer
Leun ha tew yw an ki. Mae'r ci'n llawn ac yn dew
Yma'n fleghes hons. Mae'r plant fan'cw

Ymarfer saith / Praktis seyth:

Cyfieithwch y brawddegau isod:

  1. An dowr glas yw yeyn.
  2. Yma kath tew y'n gegin.
  3. An dyskador yw trist.
  4. Gwann yw an pons koth.
  5. Yma ki omma.
  6. Mae'r gegin yn wag.
  7. Mae'r hen fenyw yn drist.
  8. Maen nhw yn y dŵr oer fan'cw.
  9. Dach chi'n hapus a thrist.
  10. Rwyt ti'n hen.

Diwedd y gwers / Diwedh an dyskans:

Gobeithio ar y pwynt yma dach chi'n teimlo'ch Cernyweg yn cryfhau. Byddwch chi'n dysgu mwy o eiriau a gramadeg defnyddiol. Os oes gynnoch chi syniadau am themâu i wersi a ddaw cysylltwch â fi drwy Twitter - @sambrown1993.

Agas gweles an nessa tro!


Atebion Gwers Tri / Gorthebow Dyskans Tri

Ymarfer un / Parktis onan:

  1. Lowen on ni.
  2. Gwynn yns i.
  3. Dyskador owgh hwi.
  4. Diwedhes yw an ki.
  5. Berr os ta.
  6. Mae'r gath yn felyn.
  7. Mae'r car yn hen.
  8. Rwyt ti'n fyr.
  9. Dach chi'n Gymreig.
  10. Dan ni'n hapus.

Ymarfer dau / Praktis dew:

  1. Yth eson ni omma.
  2. Yma'n ki tre.
  3. Yth esowgh hwi y'n chi.
  4. Yth esov vy a-dro.
  5. Ymons i hons.
  6. Yma'n gath omma.
  7. Ymons i tre.
  8. Yma'n dowr ena.
  9. Yth esov vy y'n dowr.
  10. Yth esos ta hons.

Ymarfer tri / Praktis tri:

  1. Rwyt ti o gwmpas.
  2. Mae'r ci yn y car.
  3. Dach chi adref.
  4. Maen nhw fan'cw.
  5. Dan ni yno.

Ymarfer pedwar / Praktis peswar:

  1. An gath
  2. An dre
  3. An dhavas
  4. An loor
  5. An vugh

Ymarfer pump / Praktis pymp:

  1. Kath koth
  2. An dre wag
  3. An wedhen wyrdh
  4. An vamm lowen
  5. Esedhva vras

Ymarfer chwech / Praktis hwegh:

  1. An dhavas gwynn.
  2. An eglos koth.
  3. Benyn vras.
  4. Yan gath tew.
  5. An ki du.
  6. An yeth Kembrek.
  7. An pons gwann.
  8. An dowr glas.
  9. An dyskador lowen.
  10. An nos tewal.

Ymarfer saith / Praktis seyth:

  1. Mae'r dŵr glas yn oer.
  2. Mae cath dew yn y gegin.
  3. Mae'r athro yn drist.
  4. Mae'r hen bont yn wan.
  5. Mae ci yma.
  6. Gwag yw an gegin.
  7. Trist yw an venyn goth.
  8. Ymons i y'n dowr yeyn hons.
  9. Lowen ha trist owgh hwi.
  10. Koth os ta.

 

A verwis hi?
A farwodd hi?
Did it die?

Y'n jydh hedhyw y hwodhyn ni bos nebes 500 kernowegor freth ha moy es teyr mil a wor temmik a'n yeth, kyn hwor peub a Gernow styryans an ger “Kernow”. Yma lyvrow-termyn ha lyvrow ow pos dyllys, yma towlennow pellwolok ha radyo kevadow rag kowsoryon a dyskadoron an yeth, ha Konsel Kernow re dhyllas aga thowlen teyr bledhen rag fatel vynnons skoodhya'n yeth. Grondyes war an re ma yth yw diogel dhe leverel bos an yeth Kernowek bew y'n kensa kansvledhen warn ugens. Mes ny veu desedhans an yeth pub prys mar gler, nyns esa saw yn 2010 y chanjyas UNESCO aga hlassans a'n yeth a varow dhe beryllys yn sevur. Ytho y'n erthygel ma y fynnav dadhla onan a gavylekka testennow yn istori an Kernowek, ha henna yw a verwis an yeth?Y dyddiau hyn dan ni'n gwybod bod 'na dua 500 o siaradwyr rhugl eu Cernyweg a dros tair mil sy'n gallu ychydig o'r iaith, er bod pawb o Gernyw yn gwybod ystyr y gair “Kernow”. Mae cylchgronau a llyfrau yn cael eu cyhoeddi, mae 'na raglenni teledu a radio ar gael i siaradwyr a dysgwyr yr iaith, ac mae Cyngor Cernyw newydd gyhoeddi cynllun tair blwyddyn am sut maen nhw am gefnogi'r iaith. Ar sail hyn mae'n saff i ddeud bod yr iaith Gernyweg yn fyw yn yr unfed canrif ar ugain. Ond dydy sefyllfa'r iaith ddim wastad wedi bod mor glir, dim ond yn 2010 newidiodd UNESCO eu dosbarthiad o'r iaith o farw i mewn perygl difrifol. Felly yn yr erthygl hon dwi am drafod un o bynciau mwyaf dadleuol yn hanes y Gernyweg, sef a farwodd yr iaith?These days we know that there are about 500 fluent speakers of Cornish and over three thousand more who know a little of the language, although everyone in Cornwall knows the meaning of the word ‘Kernow’. Books and magazines are being published, there are television and radio programmes available to speakers and learners of the language, and the Cornish Council have recently published a three-year plan of support for the language. On the basis of this it is safe to say that the Cornish language is alive in the twenty-first century. But the prospects for the language have not always been so bright, it was only in 2010 that UNESCO changed its classification of the language from ‘dead’ to ‘in serious danger’. So in this article I want to discuss one of the most controversial subjects in the history of Cornish, that is, did the language die?
Yn kensa yma res gul mencyon a vernans yethow. Pyth yw mernans yeth, ha fatel geskelm henna dhe'n Kenowek? Y hyllir deskrifa mernans yeth avel hemm: Yn yethonieth y hwer mernans yeth pan gell yeth hy howser genesik finek (rag moy gwelewgh: https://www.thoughtco.com/what-is-language-death-1691215). Mar tevnydhyn an deskrifans ma gans an Kernowek yma res bos kowser genesik finek. Ytho piw o an person ma? Mars esons i vyth oll.Yn gyntaf mae'n rhaid sôn am dranc ieithoedd. Beth yw tranc iaith, a sut mae hynny yn perthyn i'r Gernyweg? Gellir disgrifio tranc iaith fel hyn: Ym maes ieithyddiaeth mae tranc iaith yn digwydd pan golla iaith ei siaradwr brodorol olaf (Am fwy gweler: https://www.thoughtco.com/what-is-language-death-1691215). Os defnyddiwn ni'r diffiniad hwn efo'r Gernyweg mae'n rhaid bod wedi bod siaradwr brodorol olaf. Felly pwy oedd y person hwn? Os bodolon nhw o gwbl.First, we must talk about the death of languages. What is the death of a language, and how does this relate to Cornish? The death of a language can be described thus: In the field of linguistics the death of a language takes place when a language loses it last native speaker (for further details see: https://www.thoughtco.com/what-is-language-death-1691215). If we apply this definition to Cornish, there must have been a last native speaker. So who was this person? If they existed at all.
Yma unn hanow re deuth aswonys dre vos junyes gans mernans an Kernowek, henn yw Dolly Pentreath. Gwerther puskes a-dhyworth Porthenys y'n 1700ow o Dolly a gowsis Kernowek. Yth esa hi a vri rag sevel orth kowsel Sowsnek ha leverel: “Me ne vidn cewsel Sawznek!” ('My na vynn kowsel Sownsek' y'n Furv Skrifys Savonek). Y tevnydh tus bledhen hy mernans 1777 avel dydhans mernans an yeth yn fenowgh. Mes yma nebes dout yn-kever hemma. Mamm o Dolly, ytho yth yw certan hi dhe basya tamm a'n yeth dhe's flogh, John, ha tus erel y'n gemeneth a's onderstondyas. Onan aral a lavaransow a vri Dolly o “kronek hager du” a leveris hi dhe'n filosofer David Barrington. Ytho gwirhaval yw Dolly dhe waynya titel an kowser finek dre vos gnas bras na vynnas gweles hy mammyeth mones dhe goll yn le an Kernowegor genesik finek gwir.Mae un enw wedi troi'n enwog trwy gael ei gysylltu â marwolaeth y Gernyweg, sef Dolly Pentreath. Gwerthwr pysgod o Mousehole yn y 1700au oedd Dolly a siaradodd y Gernyweg yn rhugl. Roedd hi'n adnabyddus am wrthod siarad yn Saesneg trwy ddeud: “Me ne vidn cewsel Sawznek!” ('My na vynn kowsel Sowsnek' yn Ffurf Ysgrifenedig Safonol yr iaith. 'Dwi ddim eisiau siarad Saesneg'). Yn aml defnyddia pobl flwyddyn ei marwolaeth 1777 fel dyddiad tranc yr iaith. Ond mae 'na ychydig o amheuaeth ynglŷn â hyn. Mam oedd Dolly, felly mae'n rhaid iddi fod wedi pasio rhyw faint o'r iaith ymlaen i'w phlentyn, John, ac roedd pobl eraill yn y gymuned yn ei dallt hi. Un arall o ddywediadau enwog Dolly oedd “kronek hager du” ('llyffant hyll du') a ddwedodd hi wrth yr athronydd David Barrington. Felly mae'n debyg yr enillodd Dolly deitl y siaradwr olaf trwy fod yn dipyn o gymeriad nad oedd am weld ei mamiaith fynd ar goll yn lle y siaradwr brodorol olaf go iawn.

Dorothy Pentreath, Last Native Speaker of Cornish

There is one name that has become famous for its connection with the death of Cornish, namely Dolly Pentreath. Dolly was an 19th century fishwife from Mousehole and spoke Cornish fluently. She was well known for refusing to speak English, saying: “Me ne vidn cewsel Sawznek!” ('My na vynn kowsel Sowsnek' in the standardised form of the language. ‘I do not want to speak English’). Frequently people use the year of her death, 1777, as the date of the death of the language. But there is some doubt about this. Dolly was a mother, so she must have passed some amount of the language on to her children, and other people in the community could understand her. Another of Dolly’s famous sayings was ‘kronek hager du’ (ugly black toad) which she said to the philosopher David Barrington. So it is likely that Dolly gained the title of last speaker by being a bit of a character who did not want to see her mother tongue lost, rather than being the actual last native speaker.
Hogen mar pe Dolly an Kernowegor genesik finek, yth esa an yeth hwath owth eksistya ha bos devnydhyes gans niver a dus yn Kernow a dhysksa'n yeth – temmik avel an Manawek esa passyes dhe dhyskoryon gans Ned Madrell, an Manawegor genesik finek. Hag avel gans an Manawek y hyllyn leverel y kwithas an dhyskoryon ma an yeth Kernowek ow pewa.Hyd yn oed os oedd Dolly y siaradwr Cernyweg brodorol olaf, roedd yr iaith yn dal i fodoli a chael ei defnyddio gan nifer o bobl yng Nghernyw oedd wedi dysgu'r iaith – tipyn bach fel y Fanaweg a basiwyd ymlaen i ddysgwyr gan Ned Madrell, y siaradwr brodorol olaf. Ac fel efo'r Fanaweg gallwn ni ddeud bod y dysgwyr hyn wedi cadw'r iaith Gernyweg yn fyw.Even if Dolly was the last native speaker of Cornish, the language continued to exist and be used by a number of people in Cornwall who had learnt the language – a bit like Manx which was passed on to learners by Ned Maddrell, the last native speaker. And as with Manx we can say that these learners have kept the Cornish language alive.
Yn 1776, bledhen kyns Dolly dhe verwel, yth omdhiskwedhas lyther yn Kernowek gans pyskador henwys William Bodinar, keffrys a Borthenys. Y'n lyther ma y teskrif fatel dhyskas an yeth a-dhyworth pyskadoryon erel pan o va yowynk, mes herwydh ev yth esa le ha le a dus orth hy devnydhya dhe'n pols na. William a aswonnas Dolly hag i a gowsis yn fenowgh. A-barth dhe Dolly y leveris William ev dhe aswon pymp person aral y'n dreveglos a wodhya kowsel Kernowek. Y halsa hemm styrya bos tus yn leow erel a wodhya kowsel Kernowek.Ym 1776, blwyddyn cyn i Dolly farw, ymddangosodd llythyr yn Gernyweg gan bysgotwr o'r enw William Bodinar, hefyd o Mousehole. Yn y llythyr hwn mae'n disgrifio sut dysgodd yr iaith oddi wrth bysgotwyr eraill pan oedd yn ifanc, ond yn ei ôl o roedd llai a llai o bobl yn ei defnyddio y dyddiau hynny. Roedd William yn nabod Dolly ac roedden nhw'n siarad yn aml. Yn ogystal â Dolly roedd William yn deud ei fod yn nabod pump o bobl eraill yn y pentref a oedd yn gallu siarad Cernyweg hefyd. Gallai hyn olygu bod pobl mewn llefydd eraill yn gallu siarad y Gernyweg.In 1776, the year before Dolly died, a letter appeared in Cornish from a fisherman called William Bodinar, also from Mousehole. In this letter he describes how he learnt the language from other fishermen when he was young, but according to him fewer and fewer people were using it these days. William knew Dolly and they often spoke. As well as Dolly, William said he knew five other people in the village who could also speak Cornish. This could mean that people in other places could speak Cornish.

Llythyr William Bodinar

Y merwis William yn 1796, hag awos hemma yth yw possybyl leverel nag esa'n yeth dhe's klowes war an stretys yn fenowgh erbyn dalleth an nownjekves kansvledhen. Ny styr hemma na veu'n yeth ow pos kowsys vytholl, mes yth o kalessa dhe's trovya. Unn Kernowegor aswonys a'n oos ma o'n tiek John Davey a Voswydnek a veu genys yn 1812. Y tyskas John an Kernowek a-dhyworth y das hag y hwodhya klappya yn-kever themys sempel herwydh nebes pennfentynnyow, kyn nyns yw kler yn poran pes a'n yeth esa dhodho. Byttegyns John a gemer kresys rag skrifa Rim an Grankan, an gan Gernowek hengovek mogha a-dhiwedhes. Y merwis John yn 1891, mes erbyn an poynt ma y tallathsa akademogyon kovadha'n yeth ha dalleth an hyns dhe's dasserghi. Dyllas A Sketch of Cornish Grammar gans Edwin Norris yn 1859 gans Gwask Pennskol Resoghen avel merkyansow dhe weres tus orth redya dornskrifow yn Kernowek hengovek.Bu farw William ym 1796, ac oherwydd hyn mae'n bosib deud mai erbyn dechrau'r pedwaredd canrif ar bymtheg doedd yr iaith ddim i'w chlywed ar y strydoedd yn aml. Dydy hyn ddim yn golygu na siaradwyd yr iaith o gwbl, dim ond ei fod yn anos i'w ffeindio. Y siaradwr adnabyddus o'r adeg hon oedd y ffermwr John Davey o Boswednack a anwyd ym 1812. Mi ddysgodd John y Gernyweg oddi wrth ei dad ac roedd yn gallu sgwrsio am themâu syml yn ôl rhai ffynonellau, er nad ydy'n glir yn union faint o'r iaith oedd gynno fo. Serch hynny mae John yn derbyn y clod am fod wedi ysgrifennu Odl y Cranken, y gan ddiweddaraf yn y Gernyweg draddodiadol. Bu farw John ym 1891, ond erbyn y pwynt hwn roedd academyddion bellach wedi dechrau cofnodi'r iaith a dechrau ar y ffordd i'w hadfywio. Cyhoeddwyd A Sketch of Cornish Grammar gan Edwin Norris ym 1859 gan Wasg Prifysgol Rhydychen fel nodiadau i helpu pobl wrth ddarllen llawysgrifau yn Gernyweg draddodiadol.William died in 1796, and because of this it is possible to say that by the beginning of the nineteenth century the language was not often to be heard on the streets. This does not mean that the language was not spoken at all, only that it became harder to find. A well-known speaker at this time was the farmer John Davey of Boswednack, who was born in 1812. John learnt Cornish from his father and according to some sources could converse on simple subjects, although it is not clear how much of the language he had. In spite of this John gets the credit for having written Odl y Cranken (the Cranken Rhyme), the last song in traditional Cornish. John died in 1891, and by this point academics had now begun to record the language and started on the road to reviving it. A Sketch of Cornish Grammar by Edwin Norris was published in 1859 by the Oxford University Press as notes to assist people in reading manuscripts in traditional Cornish.

Odl y Grancen

Mar mynnyn leverel y merwis yeth awos mernans hy howser genesik finek, yma keffrys res mires war styryans a gowser genesik. Deskrif Leonard Bloomfield kowsoryon enesik avel: pobel a veu gorrys yn kerghynnedh yeth a-dhia bos genys (Language, 1994). Y hyllyn styrya hemma avel nebonan a dhyskas yeth y'n chi ha/po a-dhyworth y dewgerens. Ny wra'n deskrifans ma mencyon a frethder an gowsoryon ma, hag ytho y kas temmik a wedhynder orth aswon Kernowegoryon enesik.Os dan ni am ddeud bod iaith wedi marw achos marwolaeth ei siaradwr brodorol olaf, mae hefyd yn rhaid ystyried beth yw siaradwr brodorol. Diffinia Leonard Bloomfield siaradwyr brodorol fel: pobl sydd wedi'u rhoi mewn amgylch iaith ers ei enedigaeth (Language, 1994). Gallwn ni ddehongli hwn fel rhywun sydd wedi dysgu iaith wrth yr aelwyd a/neu oddi wrth ei rieni. Dydy'r disgrifiad hwn ddim yn sôn am rhuglder y siaradwyr hyn, ac felly mae'n caniatáu tipyn o hyblygrwydd wrth adnabod siaradwyr brodorol o'r Gernyweg.If we are to say that the language died with the death of its last speaker, we must also consider what a native speaker is. Leonard Bloomfield defines a native speaker thus: a person who has been in the environment of a language from birth. We can interpret this as someone who has learnt a language at home and/or from his parents (Language, 1994). This description says nothing about the fluency of these speakers, and so we may allow ourselves a little flexibility in recognising native speakers of Cornish.
A-dhia ban dhallathas tus leverel bos an yeth ow merwel, y feu derivasow di-niver a bobel a wodhya temmigow a'n yeth, ha tus a wodhya kowsel yn freth ynwedh. An re ma a gomprehend fleghes a wodhya'n Pader ha tavosethow y'n Kernowek a veu dyskys y'n skol, y'n chi hag a-dhyworth aga dewgerens. Ytho hag ow tevnydhya'n styryans a-ugh, y hyllyn leverel bos an re ma kowsoryon enesik hag ytho ny verwis an Kernowek.Ers i bobl ddechrau deud bod yr iaith yn marw allan, mae 'na wedi bod adroddiadau di-rif o bobl a oedd yn gwybod pytiau o'r iaith, a phobl oedd yn gallu siarad yn rhugl hefyd. Cynhwysa'r rhain blant oedd yn gwybod Gweddi'r Arglwydd ac idiomau yn y Gernyweg a ddysgwyd yn yr ysgol, y cartref ac oddi wrth eu rhieni. Felly gan ddefnyddio'r diffiniad uchod, gallwn ni ddeud mai siaradwyr brodorol oedd y rhain ac felly ni farwodd y Gernyweg.Since people began saying that the language was dying out, there have been countless reports of people who knew a little of the language, and also people who could speak it fluently. This includes those children who knew the Lord’s Prayer and Cornish expressions that they had learnt at school, at home and from their parents. So by using the broadest definition, we can say that they were native speakers and so Cornish did not die.
Niverow a gowsoryon yethow a janj dre'n tremyn oll, treweythyow y kressons, treweythyow yth iselhons, ha nyns yw an Kernowek dyffrans. Istori an yeth ma re varyas meur ha hi ow kelli ha kavos kowsoryon nowyth. Yn anfeusik nyns a'n erthygel ma dhe vanylyon yn-kever istori kowethasek an yeth awos nag usi saw komendyans dhe'n govyn a vernans (sopposyes) an Kernowek. Mar krysowgh y merwis an yeth po na, an dra bosek dhe bethi kov anodho yw bos an Kernowek bew y'n jydh hedhyw. Hi a gowsir gans kansow (mar na milyow) a dus ha pob bledhen yma'n niverow a's kows ow kressya. Yma hogen kowsoryon a's dyskas y'n chi. Ha honna yw yeth bew mar kovynnowgh dhymm!Mae niferoedd o siaradwyr ieithoedd wastad yn newid, weithiau maen nhw'n cynyddu, weithiau maen nhw'n lleihau, a dydy'r Gernyweg ddim yn wahanol. Mae hanes yr iaith hon wedi amrywio lot wrth iddi hi golli a chael siaradwyr newydd. Yn anffodus dydy'r erthygl hon ddim yn mynd mewn i fanylder am hanes cymdeithasol yr iaith gan mai dim ond cyflwyniad i'r cwestiwn o dranc (tybiedig) y Gernyweg ydy hi. Os credwch chi y marwodd yr iaith neu beidio, y prif beth i'w gofio ydy bod y Gernyweg yn fyw y dyddiau hyn. Siaredir hi gan gannoedd (os na filoedd) o bobl a bob blwyddyn mae'r niferoedd a'i sieryd yn cynyddu. Mae 'na hyd yn oed siaradwyr sydd wedi'i dysgu yn y cartref. A dyna iaith fyw os gofynnwch i mi!The number of people who speak languages is constantly changing, sometimes increasing, sometimes becoming less, and Cornish is no different. The history of the language has varied a good deal as it has lost and gained new speakers. Unfortunately this article cannot go into details about the social history of the language, since it is merely an introduction to the question of the (supposed) death of Cornish. Whether or not you believe that the language died, the main thing to remember is that Cornish is alive today. It is spoken by hundreds (if not thousands) of people and every year the number it is spoken by increases. There are even speakers who have learnt it at home. And that, if you ask me, is a living language!
My a wayt hwi dhe dhyski neppyth yn-kever isotri an Kernowek ha mernans yeth. Mar mynnowgh trovya moy, yma lyvrow hag erthyglow kevadow a omles war an poynt ma.Gobeithio bod chi wedi dysgu rhywbeth am hanes y Gernyweg a thranc iaith. Os ydach chi am ddarganfod mwy, mae 'na lyfrau ac erthyglau ar gael sy'n ehangu ar y pwnc hwn.I hope that you have learnt something about the history of Cornish and the death of a language. If you want to discover more, there are books and articles which expand on this subject.

 

Sam Brown Moddau Dysgu

Moddau Dysgu Ieithoedd: Fy mhrofiad i o ddysgu Cymraeg, Cernyweg & Almaeneg
Methods of Learning Languages: My experience of learning Welsh, Cornish & German

Gall y proses o ddysgu ieithoedd godi ofn mewn pobl, yn enwedig ar ddechrau'r daith. Rwyf yn gwybod hyn gan fy mod i wedi dysgu tair iaith yn rhugl, ac rwyf yn dysgu pytiau o ieithoedd eraill o hyd. Felly, yn yr erthygl hon byddaf yn cynnig mewnwelediadau personol o wahanol foddau o ddysgu ieithoedd a byddaf yn trio rhoi cwpl o dipiau am sut i wneud y proses o ddysgu yn haws. Yr ieithoedd yr ydw i wedi eu dysgu i lefel dda o ruglder yw: Almaeneg, Cymraeg a Chernyweg, ac fel mae'n digwydd dysgais i nhw i gyd mewn ffyrdd gwahanol. Felly byddaf yn defnyddio fy storïau personol o ddysgu'r rhain i sôn am dri modd o ddysgu iaith, sef: mynd i ddosbarthiadau, cyrsiau clywed, a dysgu o lyfrau.The process of learning languages can scare people, especially at the start of the journey. I know this as I have learnt to speak three languages fluently, and am still learning bits of other languages. So, in this article, I will be offering personal insights of different methods of learning languages and will try and give a few tips on how to make the learning process easier. The languages that I have learnt to a good level of fluency are: German, Welsh and Cornish, and as it happens I learnt each of them in a different way. So I will be using my personal stories of learning these to discuss three ways of learning languages: going to classes, audio courses, and learning from books.
I gychwyn rwyf am sôn am fy nhaith o ddysgu Almaeneg a ddechreuodd yn yr ysgol uwchradd, aeth â fi i'r brifysgol, ac wedyn i'r Almaen ei hun. Os nad oeddech chi'n gwybod yn barod, mae eithaf lot o ramadeg gan yr Almaeneg ac nid yw hwn wastad yn hawdd i'w ddeall (mae'n siŵr bod chi wedi clywed am y cyflyrau gramadegol). Un o'm hatgofion cynharach o ddysgu'r iaith hon yw eistedd yn yr ystafell ddosbarth ac yn adrodd y gwahanol fanodau penodol – mae 16 ohonynt yn Almaeneg! Cefais dipyn o drafferth wrth ddysgu yn wreiddiol, ni chefais ond gradd C yn fy arholiad TGAU, ac E y tro cyntaf sefais yr arholiad Lefel AS (sefais yr arholiad hwnnw tairwaith yn cael C isel ac wedyn C uchel). Pan gyrhaeddais i'r brifysgol roedd gennyf Lefel A ar radd C. Ond os neidiwn ymlaen pedair blynedd, dyna fi yn graddio yn yr Almaeneg â rhagoriaeth mewn sgiliau cyfathrebu. Felly, beth a ddigwyddodd? Dim ond mewn gwersi ffurfiol roeddwn i wedi dysgu'r iaith, felly beth a newidiodd? A yw'r stori hon yn dangos methiant yn y dull dysgu mewn dosbarth? A yw'n dangos llwyddiant?To begin with I want to mention my journey in learning German, which began when I was in secondary school, took me to university and then to Germany itself. If you didn't already know, German has quite a lot of grammar and this isn't always simple to understand (I'm sure you've heard of the grammatical cases). One of my earliest memories of learning this language is sitting in the classroom and repeating the various definite articles – there are 16 of them in German! I had a bit of trouble learning initially, I only got a C grade for my GCSE, and an E the first time I sat my AS Level exam (which I took three times, getting a low C and then a high C). When I arrived at university I had a C grade A Level. But if we jump forwards four years, there I am graduating with a degree in German with a distinction in oral communication. So, what happened? I had only ever learnt the language by attending formal lessons, so what changed? Does this story show a failure in classroom based learning? Does it show a success?
Wel, mae'n dangos y ddau i raddau achos yr hyn na ddywedais yn y paragraff uchod oedd sut yr oeddwn i yn ymddwyn yn y dosbarthiadau. Y prif beth a newidiodd wrth symud ymlaen yn yr Almaeneg oedd fy oed. 13 mlwydd oed oeddwn i pan ddechreuais ddysgu Almaeneg. Nid oedd diddordeb gennyf mewn dysgu o gwbl. Roeddwn yn casáu'r ysgol, ac yr unig beth yr oeddwn amdano oedd gadael. Oherwydd hyn, nid oeddwn yn talu sylw mewn gwersi ac nid oeddwn yn gwneud fy ngwaith cartref byth! Ond roeddwn yn gwybod pa mor bwysig oedd cael iaith ar fy CV a daliais ati i ddysgu nes imi sylweddoli sut cymaint yr oeddwn wrth fy modd ag ieithoedd. Erbyn cyrraedd y brifysgol roeddwn am ddysgu. Dechreuais ofyn cwestiynau fel rhan o'r dosbarth, gorffennais fy ngwaith cartref bob dydd. Yn ystod fy mlwyddyn olaf yno, fi oedd yr un cyntaf (ac weithiau'r unig un) i roi fy llaw yn yr awyr i ateb cwestiynau gan y tiwtoriaid.Well, it shows both to a degree as what I didn't tell you in the above paragraph was how I behaved during the classes. The main thing that changed as I progressed in German was my age. I was 13 years old when I began learning German, and I wasn't interested in learning at all. I hated school, and the only thing I wanted was to leave. Because of this I didn't pay attention in classes and I never did my homework! But I knew how important it was to have a language on my CV and I kept at it until I realised how much I loved languages. By the time I arrived at university I wanted to learn. I started asking questions in lessons, I finished my homework every day. During my final year there, I was first one (and sometimes the only one) to put my hand up and answer the tutors' questions.
Mae'n wir beth a ddywedir; rydach yn cael allan ohono'r hyn a roddwch mewn iddo. A dyna'n union sut mae cael y gorau allan o fynychu dosbarthiadau iaith (ac mae hyn yn gweithio ar gyfer unrhyw iaith, nid Almaeneg yn unig). Os eisteddwch yno heb ymrwymo â'r dosbarth, hyd yn oed os ydach chi'n cymryd nodiadau manwl, ni fydd eich sgiliau iaith yn gwella cystal â phobl eraill. Os ydach yn mynd i ddosbarth iaith, trïwch roi eich llaw yn yr awyr, cynigiwch fwy o atebion, a gwnewch eich gwaith cartref. Wrth gwrs, rwyf yn deall nad yw pawb yn gyffyrddus wrth wneud pethau fel hyn o flaen pobl eraill (mae yn ddychrynllyd wrth gychwyn!) ac nid ydwyf yn dweud bod yn rhaid ichi wneud hyn yn unig er mwyn dysgu siarad iaith yn well. Gwnewch yr hyn yr ydach yn gyffyrddus â fe.It's true what they say; you get out what you put in. And that's exactly how to make the most of attending language lessons (and this works for any language not just German). If you sit there without engaging in the classwork, even if you take detailed notes, your language skills won't improve as much as others. If you go to a language class, try putting your hand up, offer more answers, and do your homework. Of course, I know that not everyone is comfortable with doing things like this in front of other people (it's horrible at the start!) and I'm not saying that you have to do this alone to be able to speak a language better. Do what you're comfortable with.
Euthum i'r brifysgol ym Mangor, Gwynedd, a chyn imi symud yno ar ôl gorffen fy Lefelau A penderfynais fy mod i'n mynd i ddysgu Cymraeg er mwyn gallu siarad â phobl leol. Ond sut y medrai Cernywiaid 18 oed ddysgu iaith leiafrifol heb fod wedi symud i'r ardal lle y siaradir eto? Yr ateb – Say Something in Welsh (SSiW)! Dyma oedd yn ôl yn 2011 ac roedd y platfform hynod boblogaidd hwn yn ei ieuenctid o hyd. Pan ymunais â'r wefan, nid oedd ond un cwrs ar gael a wnaed o 26 o wersi unigol ac ychydig wersi ychwanegol i ddysgu cyfrif, y lliwiau, ac yn y blaen. Roedd y fforwm mor dda ag erioed, ond nid oedd mor brysur neu fawr fel y mae'r dyddiau hyn. Ar ôl gorffen y cwrs hwnnw a chyrraedd ym Mangor roeddwn yn gallu cynnal sgyrsiau eithaf hir yn y Gymraeg a chefais neidio dros y lefel gyntaf pan ddechreuais gwrs Wlpan â Chymraeg i Oedolion. O fewn i dri mis roeddwn wedi cwblhau pob gwers a oedd gan SSiW ar y pryd a dysgu digon o'r iaith i siarad yn fwy hyderus na phobl oedd wedi'i dysgu yn yr ysgol!I went to university in Bangor, Gwynedd, and before moving there after finishing my A Levels I decided that I was going to learn Welsh to be able to speak with locals. But how could an 18 year old Cornishman learn a minority language without having moved to the area it's spoken in yet? The answer – Say Something in Welsh (SSiW)! This was back in 2011 and this popular platform was still in its youth. When I signed up with the website, there was only one course available which consisted of 26 individual lessons and some extra classes to learn counting, colours, etc. The forum was as good as always, but it wasn't as busy or large as it is these days. After finishing the course and arriving in Bangor I was able to hold quite long conversations in Welsh and I was able to skip the first level when I started the Cwrs Wlpan with Welsh for Adults. Within three months I had finished every lesson that SSiW had at the time and I had learnt enough of the language to speak more confidently than people who had learnt at school!
Llwyddais wrth wneud hwn trwy dorri dau o brif reolau'r cyfrwng; 1) ni chymrais fe'n araf, a 2) ysgrifennais eiriau i lawr. Ond cyn ichi fynd i ffwrdd a dechrau anwybyddu rheolau a chanllawiau SSiW, gadewch imi esbonio. Yn y cwrs roeddent yn awgrymu mai tuag unwaith yr wythnos oeddech chi i fod yn gwneud y cwrs i adael digon o amser i'r wybodaeth setlo yn eich meddwl. Ar y pryd nid oeddwn yn gweithio ac felly roedd gennyf bob dydd yn rhydd. Golygodd hyn fy mod i'n gallu codi yn y bore, gwneud gwers nesaf SSiW, ac wedyn defnyddio gweddill y dydd i ganolbwyntio ar y wers honno a dysgu'r patrymau a geiriau, ayyb. I succeeded in doing this by breaking two of the medium's main rules; 1) I didn't do it slowly, and 2) I wrote down words. But before you go off and start ignoring SSiW's rules and guidelines, let me explain. In the course it was recommended that you did around one lesson per week to allow enough time for the information to settle in your mind. At the time I wasn't working and so I was free every day. This meant that I was able to get up in the morning, do the next SSiW lesson, and then use the rest of the day to focus on that lesson and learn the patterns and words, etc.
Weithiau gwrandawais ar yr un wers mwy nag unwaith, weithiau dwywaith y dydd, weithiau un dydd ar ôl y llall. Nid ysgrifennais eiriau i lawr o gwbl wrth wrando ar y wers. Yn lle hynny arhoswn i nes imi ei gorffen ac wedyn copïwn i'r geiriau oddi ar wefan mewn llyfr nodiadau. Ar ôl gwneud hyn cuddiwn i'r geiriau a thrïwn eu cofio heb sbïo arnynt. Roedd yn waith caled, ac am y tri mis hynny roedd yn swydd lawn amser imi. Ni fuaswn i'n awgrymu i unrhyw un drio hyn os maent yn brysur, ac os ydach chi am drio'r modd hwn allan, cofiwch pa mor bwysig yw cymryd egwyliau ac ymlacio trwy edrych ar y teledu, darllen llyfr da, neu drwy fynd am dro.Sometimes I listened to the same lesson more than once, sometimes twice a day, sometimes two days in a row. I didn't write down words at all whilst listening to the lesson. Instead of that I would wait until finishing and then I would copy down the words from the website into a notebook. After doing this I would hide the words and try to remember them without looking. It was hard work, and for three months that was my full-time job. I wouldn't recommend that anyone try this if they're busy, and if you do want to try this out, remember the importance of taking breaks and relaxing by watching TV, reading a good book, or going for a stroll.
Mae Say Something in Welsh wedi newid lot ers imi ei wneud saith mlynedd yn ôl. Felly lle roedd yn rhaid imi fynd i ddosbarthiadau Cymraeg er mwyn parhau wrth ddysgu'r iaith, nid oes rhaid y dyddiau hyn. Mae gennyf sawl ffrind sydd wedi llwyddo i ddysgu'r Gymraeg yn rhugl trwy ddefnyddio SSiW yn unig a hynny heb ddefnyddio fy null rhyfedd i. Mae SSiW yn dda iawn os ydach am ddysgu siarad yr iaith yn gyflym heb orfod mynd i wersi ffurfiol, er nad ydwyf yn sicr ynglŷn â dysgu darllen ac ysgrifennu â'r cyfrwng hwn yn 2018. Efallai gallai rhywun gynnig y wybodaeth hon imi?Say Something in Welsh has changed a lot since I used it seven years ago. So where I had to go to lessons to continue learning Welsh, you no longer have to now. I have many friends who have succeeded in learning Welsh fluently by only using SSiW and that's without employing my weird method! SSiW is really good if you want to learn to speak quickly without going to formal classes, though I'm not sure about reading and writing with this medium in 2018. Perhaps someone could offer this information to me?
Cernywiaid ydw i, a thrwy gymdeithasu a dod i adnabod Cernywiaid eraill sydd yn byw yng Nghymru, rwyf wedi darganfod rhywbeth diddorol iawn... Mae sawl un ohonynt wedi dysgu'r Gymraeg (neu wedi dangos diddordeb mewn dysgu) er mwyn teimlo'n agosach at eu cartref, hynny yw Cernyw. Fi oedd un o'r rhain, i raddau, ond ar ôl blwyddyn o fyw yng Nghymru roedd fy hiraeth wedi cynyddu gormod ac roedd yn rhaid imi wneud rhywbeth amdano. Roeddwn wedi darllen yn rhywle bod tua 70% o eiriau Cymraeg a Chernyweg yn dod o'r un lle. A chan ddefnyddio hyn fel man cychwyn dechreuais wneud tipyn o ymchwil ar y we. Dyma bryd penderfynais fynd ati a dysgu iaith fy hun, Cernyweg.I'm a Cornishman, and through socialising and getting to know other Cornishmen who live in Wales, I have discovered something really interesting... Many of them who've learnt Welsh (or have shown interest in learning Welsh) want to do so to feel closer to their home, that is Cornwall. I was one of these, to a degree, but after a year of living in Wales my hiraeth had risen too much and I had to do something about it. I had read somewhere that about 70% of Welsh and Cornish words come from the same root. By using this as a starting point I began researching online. This is when I decided to set to it and learn my own language, Cornish.
Wel, os oedd yn anodd dysgu Cymraeg tra fy mod i'n byw yng Nghernyw, roedd yn mynd i fod yn fwy neu lai amhosib i ddysgu Cernyweg yng Nghrymu. Dyna beth yr oeddwn yn ei feddwl beth bynnag. Euthum yn syth i Amazon ac ar ôl chwilio am oddeutu awr roeddwn yn sicr fy mod i wedi ffeindio'r llyfr perffaith i ddysgu'r Gernyweg: Skeul an Tavas (Ysgol y Tafod). Cefais fy siomi ychydig pan gyrhaeddodd y llyfr o'r diwedd gan ei fod mor denau. Ond roeddwn am ei ddefnyddio i ddysgu beth bynnag, a dyna'r hyn a wneuthum.Well, if it was difficult to learn Welsh whilst living in Cornwall, it was going to be nearly impossible to learn Cornish in Wales. That's what I thought anyway. I went straight to Amazon and after searching for about an hour I was certain I had found the perfect book to learn Cornish: Skeul an Tavas (The School/Ladder of the Tongue). I was a bit disappointed when the book came at last as it was so thin. But I wanted to use it to learn anyway, and that's what I did.
Bob dydd cwblheais bennod yn y llyfr, gan ddechrau â chenedl geiriau a gorffen â brawddegau llawn, er eu bod nhw'n fyr. Ond nid oedd y llyfr bach hwn yn ddigon imi- roedd eisiau mwy arnaf. Dyma le mae'r stori hon yn mynd mewn cyfeiriad gwahanol i'r ddwy flaenorol. Nid oedd cymaint o lyfrau neu adnoddau ar gael i ddysgwyr Cernyweg yr adeg honno, ond roedd geiriadur ar-lein, cymuned wych ar Facebook, a chwant siarad yn rhugl yn fy nghalon. Every day I finished a chapter in the book, starting with noun genders and finishing with full sentences, albeit short ones. But this book wasn't enough for me- I wanted more. This is where this story deviates from the previous two. There weren't as many books or resources available to Cornish learners at the time, but there was an online dictionary, a great Facebook community, and a desire to speak fluently in my heart.
Y dacteg a ddefnyddiais oedd cyfieithu. Erthyglau byrion ar Wicipedia yn gychwynnol ac wedyn symudais ymlaen at bethau hirach a hirach nes imi ddechrau cyfieithu straeon y Brodyr Grimm. Wrth edrych yn ôl arnynt roedd fy nghyfieithiadau cynnar yn ofnadwy. Roedd yr amseroedd yn anghywir, roeddwn wedi camsillafu sawl gair, ac weithiau roeddwn wedi creu geiriau newydd ac wedyn anghofio beth y golygasant. Ond trwy wneud hyn cryfheais fy sgiliau Cernyweg nes imi ddeall fy nghamgymeriadau ac ailddysgu sut i dynnu fy ngeiriau ffug i ddarnau.The tactic I used was translating. Short articles on Wikipedia to begin with, then I moved on to longer and longer texts until I started translating some of the Grimm Brothers' Fairy Tales. Looking back at some of my early translation is cringe-worthy. The tenses were all wrong, I had misspelt several words, and on occasion I had created some new words and then forgotten what they meant. But by doing this I strengthened my Cornish until I understood my mistakes and re-learnt how to pull my fake words apart.
Her feunyddiol oedd hon, yn enwedig gan ystyried y dysgais heb fynd i ddosbarth ac nad oedd llawer o lyfrau gennyf. Felly'r tip gorau yr ydwyf yn gallu ei argymell ichi a ddysga drwy'r modd hwn yw dewis testunau yr ydach yn eu hoffi. Nid oes unrhyw beth gwaethaf na chyfieithu pethau nad ydach yn hoff ohonynt (rwyf yn cael ôl-fflachiau i wersi cyfieithu yn y brifysgol). Mae'n gwneud i'r proses yn llawer mwy hwyliog os ydach yn ymddiddan â'r testun ar fwy nag un lefel. Mae straeon byrion yn fan cychwyn da!This was a daily challenge, especially considering that I learnt without attending any classes and that I didn't have many books. So the best tip I can offer to those who want to learn like this is choosing texts you like. There's nothing worse than translating things you aren't fond of (I'm having flashbacks to translation classes at university). It makes the process way more fun if you engage with the text in more than one way. Short stories are a good place to start!
Fel soniais amdano yn gynharach; rydach yn cael allan o ddysgu ieithoedd yr hyn a roddwch mewn i'w dysgu, a dyma fy mhrif dip ichi gael manteisio ar y geiriau hyn... Defnyddiwch eich ieithoedd. Bob dydd. Trwy'r amser. Pan ewch i'r archfarchnad, newidiwch iaith y peiriannau hunanwasanaeth i Gymraeg (gellir hyd yn oed gwneud hyn mewn bwytai McDonalds yn Lloegr), neu yn well na hynny, ffeindiwch aelod o staff a sieryd eich iaith darged. Ysgrifennwch ar Facebook ynddi, darganfyddwch ffilmiau a cherddoriaeth ynddi, darllenwch nofelau yn eich iaith newydd. Manteisiwch ar eich sawl tafod!As I mentioned earlier; you get out of language learning what you put in, and this is my main tip for you to get the most out of these words... Use your languages. Every day. All the time. When you go to the supermarket, change the language of the self-service machines to Welsh (you can even do this in McDonalds restaurants in England), or even better, find a member of staff who speaks your target language. Write on Facebook in it, discover films and music in it, read novels in your new language. Make the most of you many tongues!
Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau darllen fy narn yma ac rydach yn teimlo wedi'ch ysbrydoli! Ond mae'n fwy tebyg byddwch chi wedi blino erbyn cyrraedd y pwynt hwn, yn enwedig os ydach chi wedi darllen fy Nghymraeg academaidd (sori am honno). Felly cymerwch egwyl fechan â phanad poeth braf ac ymlaciwch.Hopefully you've enjoyed reading my piece and you are feeling inspired! But it's more than likely that you're tired having gotten to this point, especially if you have read my academic Welsh (sorry for that). So take a short break with a lovely warm cuppa and relax.

Cernywiaid ydw i, a thrwy gymdeithasu a dod i adnabod Cernywiaid eraill sydd yn byw yng Nghymru, rwyf wedi darganfod rhywbeth diddorol iawn... Mae sawl un ohonynt wedi dysgu'r Gymraeg (neu wedi dangos diddordeb mewn dysgu) er mwyn teimlo'n agosach at eu cartref, hynny yw Cernyw.

Map o enwau llefydd Cernyweg

Map o enwau llefydd Cernyweg / A map of Cornish place-names

Gwaun Bodmin

Gwaun Bodminm ger prentre Minions / Bodmin Moor, near the village of Minions

anblogkernowek.blogspot.com / sambrown1993

Merkyans rag Kernowegoryon – mar kwelowgh nebes kammgemeryansow y'n erthygel ma, po mars eus poyntys dhewgh ragov dh'aga frederi, yth esov moy es lowen dhe addya po chanjya homma grondyes war agas kampollow.

]]>
Sara Borda Green: Auf tour- Côr Dre yn yr Almaen / Auf tour – Côr Dre en Alemania / Auf tour – Côr Dre in Germany https://parallel.cymru/sara-borda-green-cor-dre-yn-yr-almaen/ Sun, 07 Jul 2019 14:16:43 +0000 https://parallel.cymru/?p=22520

Mae Sara yn dod o'r Wladfa, ac wedi astudio MA yn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, ond erbyn hyn yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn canolbwyntio ar ffilmiau, rhaglenni dogfen a llenyddiaeth am Batagonia, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dyma bwt yn Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg ar gyfer canu gyda Côr Dre yng Nghaernarfon ac ymweld ag Almaen...

Sara is from Patagonia, and has studied an MA in Welsh and Celtic Studies at Cardiff University, but now is a researcher at Bangor University and is focussing on films, documentary programmes and literature about Patagonia, in Welsh and English. Here is a trilingaul item about singing with Côr Dre in Caernarfon and visiting Germany...

Me mudé a Bangor en octubre del 2018 y no pasó mucho tiempo antes de que mi amiga Gwawr me invitara a cantar en Côr Dre, un coro de Caernarfon. Al principio no estaba muy segura de ir, había pasado mucho tiempo de mis años en Côr Glesni, el coro de niños que dirigía Sylvia Baldor en Cwm Hyfryd. Symudais i Fangor ym mis Hydref 2018, ac yn fuan ces i wahoddiad gan fy ffrind Gwawr i ymuno â Chôr Dre yng Nghaernarfon. Doeddwn i ddim yn siŵr ar y dechrau gan nad oeddwn i wedi canu mewn côr ers fy mlynyddoedd ifanc yng Nghôr Glesni yng Nghwm Hyfryd, y Wladfa, dan arweiniad Sylvia Baldor. I moved to Bangor in October 2018, and I was soon invited by my friend Gwawr to join Côr Dre in Caernarfon. I wasn't sure at first as I hadn't been in a choir since my childhood at Côr Glesni, led by Sylvia Baldor in Cwm Hyfryd, y Wladfa.
Ahora me alegra haberme animado porque me divierto mucho en los ensayos de los jueves en el vestri de la capilla Salem y cada vez que subimos al escenario. Sin embargo lo que no esperaba en absoluto era la oportunidad que se presentó de conocer Alemania gracias al viaje que organizaron Siân Wheway, la directora de Côr Dre, y la infatigable comisión del coro.Nawr rwy'n falch iawn fy mod wedi mentro - rwyf wedi bod yn cael llawer o hwyl pob nos Iau wrth ymarfer yn festri Capel Salem a phob tro ry’n ni wedi bod ar y llwyfan. Ond yr hyn nad oeddwn i’n disgwyl o gwbl oedd cael y cyfle i fynd i’r Almaen am y tro cyntaf, diolch i’r trip a drefnwyd gan y cyfarwyddwr Siân Wheway a phwyllgor gweithgar y côr. Now I'm glad I ventured, I have loads of fun every Thursday in the practice in Capel Salem’s vestry, just as every time we’ve been on stage. But what I didn't expect at all was to have the opportunity to go to Germany for the first time thanks to the trip organized by the director, Siân Wheway, and the choir's hard-working committee.
Salimos en colectivo el viernes 24 de mayo a la noche, y luego de cruzar el Eurotúnel a las 4.30 llegamos a Kronenburg a media mañana. Allí probamos una sopa de verduras deliciosa y la primera pinta del viaje. A la tarde tuvo lugar nuestro primer concierto en Haus für Lehrerfortbildung junto con una banda de vientos y un coro del lugar.Fe gychwynom nos Wener y 24ain o Fai ar y bws, ac ar ôl croesi’r Eurotunnel tua 4.30 y.b. cyrhaeddom Kronenburg yn y bore. Yno cawsom gawl llysiau bendigedig a pheint cynta’r daith. Yn y p’nawn cafodd ein cyngerdd cyntaf ei gynnal yn Haus für Lehrerfortbildung, ynghyd â chôr a band pres lleol. The bus started Friday night 24th May, and after crossing the Eurotunnel around 4.30 am we arrived at Kronenburg in the morning. There we had some wonderful vegetable soup and the first pint of the trip. In the afternoon our first concert was held in Haus für Lehrerfortbildung, along with a choir and a brass band from Kronenburg.
La mañana siguiente tuvimos que madrugar porque a las 11.30 nos esperaban en Saulheim, donde cantaríamos con Chor iNCognito Saulheim en la iglesia Evangelische Kirche. Disfrutamos tanto la música local como la comida, porque al finalizar la presentación nos ofrecieron una mesa llena de delicias caseras. Tan deliciosas como el vino que probamos esa tarde en Laufenselden luego del concierto en la iglesia St. Philipus und Jakobus Laufenselden. Allí también participó un coro de Laufenselden y su directora, Viola, cantó Llongau Caernarfon mientras nosotros acompañábamos en el estribillo.Y bore wedyn roedd yn rhaid i ni godi'n gynnar, oherwydd am 11:30 roeddem i fod yn Saulheim, lle roedd Chor iNCognito Saulheim yn canu hefo ni yn yr Evangelische Kirche. Yno, fe wnaethon ni fwynhau'r gerddoriaeth leol cymaint a'r bwyd a gawson ni ar ôl canu, sef bwrdd llawn bwyd cartref Almaeneg hynod flasus! Mor flasus â'r gwin gwyn y gwnaethom roi cynnig arno yn Laufenselden yn y p’nawn ar ôl y gyngerdd yn eglwys St. Philipus und Jakobus Laufenselden. Yno cymerodd Côr Laufenselden hefyd ran, ac mi ganodd Viola, eu cyfarwyddwr, Llongau Caernarfon, gyda ninnau’n ymuno yn y cytgan. The next morning we had to get up early because at 11:30 we were to be at Saulheim, where the iNCognito Saulheim Chorus would also sing at Evangelische Kirche church. There we enjoyed the local music as well as the food - after the concert we had a table full of German homemade food, it was so tasty! As tasty as the white wine we tried at Laufenselden in the afternoon after the concert in St. Philipus und Jakobus Laufenselden church. The Laufenselden Choir also took part, and Viola, its director, sang Llongau Caernarfon while we joined in the chorus.
El lunes, nuestro último día, visitamos Schloss Vollrads, uno de los viñedos más antiguos de la zona de Rheingau. Comimos los espárragos de temporada y bebimos su reconocido vino blanco. Nuestro último concierto fue esa noche en el restaurante y cervecería Mainlust, en Frankfurt. Esta vez fue Louie, el anfitrión, quien cantó Calon Lân, y otra vez nos unimos en el estribillo.Ar ddydd Llun, ein diwrnod olaf yn yr Almaen, buom yn ymweld â Schloss Vollrads, hen winllan yn ardal Rheingau, lle cawsom flasu'r asbaragws tymhorol ac yfed eu gwin gwyn lleol. Y noson honno cynhaliwyd ein cyngerdd olaf ym mwyty a bragdy Mainlust yn Frankfurt, ac y tro hwn Louie, perchennog y lle, ganodd Calon Lân a ninnau’n ymuno unwaith eto yn y cytgan.On Monday, our last day in Germany, we visited Schloss Vollrads, an old vineyard in the Rheingau area. There we tried the seasonal asparagus and their white wine. That evening we held our last concert at Mainlust, a restaurant and brewery in Frankfurt, and this time it was Louie, the owner, who sang Calon Lân and once again we joined in the chorus.
Todos en Alemania fueron muy generosos y amables, y apreciaron especialmente nuestro repertorio completamente en galés (excepto por Baba Yetu, una canción en suajili). Presentamos canciones folklóricas como Y Deryn Pur y Marwnad yr Ehedydd, clásicas como Ave María y Ubi Caritas, pop como Gorwedd Gyda’i Nerth, tradicionales como Pantyfedwen y Tangnefeddwyr, e incluso gospel como O Hapus Ddydd. Buodd pawb yn yr Almaen yn groesawgar a charedig iawn, ac yn gwerthfawrogi ein repertoire cyfan gwbl Gymraeg (heblaw am Baba Yetu, sef cân yn Swahili). Roedd ‘na ganeuon gwerinol fel Y Deryn Pur a Marwnad yr Eheddyd, clasurol fel Ave Maria ac Ubi Caritas, pop fel Gorwedd Gyda’i Nerth, traddodiadol fel Pantyfedwen a Tangnefeddwyr, a gospel hyd yn oed, fel O Hapus Ddydd. Everyone in Germany was very welcoming and kind, and appreciated our entire repertoire in Welsh (apart from Baba Yetu in Swahili). We sang folk songs such as Y Deryn Pur and Marwnad yr Ehedydd, classical like Ave Maria and Ubi Caritas, pop like Gorwedd Gyda’i Nerth, traditional like Pantyfedwen and Tangnefeddwyr and even gospel like O Hapus Ddydd.
Tuvimos el privilegio de tener a Máth Roberts al piano, a Dafydd M. Roberts con varios instrumentos, y a la solista mezzo-soprano Erin Fflur. También fue fundamental la presencia de Manon quien presentó al coro en cada uno de los eventos y explicó al público el contenido de las canciones. Era muy divertido ver sus caras cada vez que llegaba a Rhyfeddod, una canción que habla de ¡una serpiente que empuña una pistola y una gallina que despelleja a un gato!Cawsom y fraint o gael Máth Roberts yn cyfeilio ar y biano, Dafydd M. Roberts yn ein cefnogi gyda gwahanol offerynau, a’r unawdydd mezzo-soprano Erin Fflur yn cyd-ganu hefo ni. Yn hanfodol hefyd buodd bresenoldeb Manon a weithiodd yn galed i’n cyflwyno yn Almaeneg ac esbonio cynnwys y caneuon i’r gynulleidfa. Roedd yn ddoniol gweld eu hwynebau bob tro roedd hi’n cyflwyno Rhyfeddod - mae’n sôn am neidr sy’n handlo gwn ac iâr sy’n blingo gath!We had the privilege of having Máth Roberts accompanying in the piano, Dafydd M. Roberts with various instruments, and the mezzo-soprano soloist Erin Fflur. Manon's presence was essential as well, she introduced us and explained the content of each song to the audience in German before each performance. It was funny to see their faces every time she got to Rhyfeddod - it’s about a snake that handles a gun and a hen that flays a cat!
Lo bueno dura poco, dicen, y nuestro colectivo partió de regreso temprano el martes 28. Para ser honesta, atravesar Europa por tierra resultó eterno, pero aunque llegamos a la una de la madrugada del día siguiente cada hora valió la pena jugando a adivinar personajes, al UNO, a juegos de cartas o a cualquier cosa que estuviera a mano para matar el tiempo. Por último, como bonus a la música y la diversión del viaje, mi vocabulario en alemán se ha ampliado. Judit, una amiga de Munich con quien comparto casa, aprueba tanto ein bier, bitte? como dankeschön.Rhaid i bopeth da ddod i ben, fel mae nhw’n dweud, a chychwynodd y bws nôl ar yr 28ain. I fod yn onest buodd yn ddydd Mawrth hir iawn, wrth groesi Ewrop a chyrraedd adre am un y bore y diwrnod wedyn. Ond roedd y daith yn werth chweil bob awr o chwarae ‘pwy wyt ti’, UNO, gemau cardiau neu beth bynnag oedd wrth law i basio'r amser. Ac yn olaf fel bonws i’r canu a’r hwyl i gyd rwyf wedi ehangu fy ngeirfa yn Almaeneg - mae Judit, fy nghyd-letywr o München, yn cymeradwyo ein bier, bitte? a dankeschön.All good things must come to an end, as they say, and the bus began the journey back to Wales on the 28th. To be honest it was a very long Tuesday crossing Europe and arriving home at one in the morning the next day, but the trip was worth every hour of playing ‘who are you’, UNO, card games or whatever was at hand to pass the time. Finally, as a bonus to the singing and all the fun, I've also expanded my vocabulary in German - Judit, my housemate from Munich, approves both ein bier, bitte? and dankeschön.
]]>
Joe Mitchell: Creu’r geiriadur Cymraeg-Gwyddeleg cyntaf / Creating the first Welsh-Irish dictionary https://parallel.cymru/joe-mitchell-creur-geiriadur-cymraeg-gwyddeleg-cyntaf/ Sat, 06 Oct 2018 06:46:45 +0000 https://parallel.cymru/?p=12223

Mae Joe Mitchell wedi dysgu Cymraeg a Gwyddeleg, a thrwy ddymuniad i helpu defnyddiwr a dysgwyr o'r ddwy iaith mae e wedi gweithio am dros 20 mlynedd yn paratoi geiriadur unigryw- Cymraeg i Wyddeleg. Yn eang ei olwg ac yn tynnu ar ffynonellau llafar a llenyddol, y mae’r Geiriadur Cymraeg - Gwyddeleg yn cynnwys 12,500 o eiriau Cymraeg wedi eu trin a myrdd o enghreifftiau defnyddiol, ceir ynddo hefyd adran ramadeg i hwyluso gwell dealltwriaeth siaradwyr ac ysgrifenwyr y naill iaith a’r llall. Yma, mewn erthygl tairieithog unigryw, mae'n esbonio mwy...

Joe Mitchell has learned Welsh and Irish, and through a wish to help other users and learners of both languages he has worked for over 20 years preparing a unique dictionary- Welsh to Irish. The Geiriadur Cymraeg - Gwyddeleg presents a wealth of vocabulary, expression and grammar with a broad scope and wide range of sources, both colloquial and literary. Comprised of over 12,500 headwords with thousands of examples of use, it also contains a grammar section to promote better understanding between speakers and writers of the two languages. Here, in a unique trilingual article, he explains more...

D’fhoghlaim Joe Mitchell an Ghaeilge agus an Bhreatnais agus d’oibrigh sé breis le 20 bliain chun an fhoclóir Breatnais – Gaeilge sainiúil seo a chur le chéile. Le réimse fairsing agus foinsí inmadúla, idir chaighdeánach agus chanúnach, pléann sé le níos mó ná 12,500 ceannfhocal Breatnaise, agus lear mór samplaí den úsáid. Faightear rannóg ghramadaí ann a chuireann ar a gcumas do chainteoirí na dá theanga h sé seo an-úsáideach do chainteoirí agus do scríbhneoirí mar a céanna...

An Foclóir
Ba rud thar a bheith dána dom é ná tabhairt faoi dhá theanga a chur i bhfoclóir dátheangach agus gan ceachtar acu mar chéad teanga agam. Ach is é bun agus barr an fhoghlaim é, glacadh agus scrúdú a dhéanamh ar na botúin chun an teanga a shealbhú go cruinn, agus míniú beacht agus bríomhar mar sprioc. Buíochas le Dia faoin slua ceartóirí agus faoi obair eagarthóireachta Diarmuid Johnson, chomh flaithiúil a chomhairle, agus faoin thriadisiúin foclóireachta sa Bhreatnais agus sa Ghaeilge. Bhí siad go léir ann mar chrann taca.
Y Geiriadur
Roedd mynd ati i lunio geiriadur dwyieithog mewn dwy iaith, y naill na’r llall yn famiaith i mi, yn fwriad a oedd yn gofyn am gryn hyfdra. Mae dysgu derbyn a dadansoddi cywiriadau sy’n cael eu cynnig yn rhywbeth creiddiol er mwyn dysgu’n drylwyr ac i anelu at gywirdeb. Diolch byth i’r llu o gywirwyr ac am waith y golygydd Diarmuid Johnson a oedd mor hael ei gyngor, ac am y traddodiad o eiriaduro sydd yn bodoli yn y Gymraeg a’r Wyddeleg. Roedd y rhain i gyd yno i bwyso arnynt.
The Dictionary
Setting out to compile a bilingual dictionary in languages neither of which are my mother tongue took quite some cheek. Learning to accept and to analyse corrections that are offered is essential for thorough learning and aiming for accuracy. Thank goodness for the host of correctors, for the work of the Editor Diarmuid Johnson, so generous in his advice, and for the lexicographic traditions that exist in Welsh and Irish. These were all there was to lean on.
Cibé daol a bhuail mé, tá sé ar intinn agam sult a bhaint as an dá theanga agus aithne a chur ar a bealaí rúnda. Ba é sin a spreag an triocha bliain seo de chóiriú ar théacs an fhoclóra. Ní raibh foclóir Breatnais – Gaeilge le fáil sna nóchadaí agus é ag teastáil uaim an chéaduair. Tá ga le scríobh agus foilsiú fhoclóirí dátheangacha eile i gcónaí, agus tá súil agam nach mbeidh moill triocha bliain eile sara bhfeicfear foclóir Gaeilge – Breatnais ar an seilf leabhar. Cead faoi foclóir Breatnais – Arabais? Tá sé i bhfad Éireann níos éasca teanga a fhoghlaim agus an foclóir scríofa sna teangacha is fearr le haghaidh na hoibre.Mae gen i ysfa i fwynhau’r ddwy iaith ac i ymbalfalu yn eu cuddfannau a dyna wnaeth yrru’r deng mlynedd ar hugain o addasu cynnwys y geiriadur. Doedd dim geiriadur Cymraeg – Gwyddeleg ar gael yn y 1990au pan oeddwn ei angen gyntaf. Ar hyn o bryd mae cynhyrchu a chyhoeddi geiriaduron dwyieithog Cymraeg mewn ieithoedd eraill yn fater pwysig. Gobeithio na fydd rhaid aros deng mlynedd ar hugain arall cyn cael geiriadur Gwyddeleg – Cymraeg. Beth am eiriadur Cymraeg – Arabeg? Mae dysgu iaith gymaint yn haws os ydy’r geiriadur yn yr iaith fwyaf addas.I have a bee in my bonnet for enjoying these languages and searching out their secret places and this is what has driven the score and ten years of selecting and adapting the contents of the dictionary. There was no Welsh – Irish dictionary to be had when I first needed it. At present the production and publication of other bilingual Welsh dictionaries is a pressing issue. I hope it won’t take another 30 years for an Irish – Welsh dictionary to appear. What about a Welsh - Arabic? Learning a language is so much easier if the dictionary is in the most appropriate language.
Tá agusín san fhoclóir agus trácht ann ar na briathra Gaeilge rialta agus neamhrialta, chomh maith le córas a páirteanna rúnda, díochlantaí agus rialacha séimhiú / urú, is ar éigean is fiú iad a lua! Sa réamhrá freisin tá cur síos as Ghaeilge ar séimhiú agus urú na Bhreatnaise. Is áis iontach é teacsleabhar Gaeilge an Dr. Ian Hughes, Dysgu Gwyddeleg, leagan Breatnais ar leabhar Mícheál Ó Siadhail, Learning Irish. Ach san fhoclóir nua, tá cur sios ar 12,500 ceannfhocal Breatnaise ann, agus réimse leathan idir an chaint agus an litríocht. Ceir gramadeg yn atodiad fy ngeiriadur i ddangos y berfau Gwyddeleg rheolaidd ac afreolaidd, ffurfdroadau ei rhannau cudd a’i rheolau treiglo bondigrybwyll! Mae gwerslyfr dysgu Gwyddeleg Ian Hughes, Dysgu Gwyddeleg, cyfieithiad o werslyfr Mícheál Ó Siadhail, Learning Irish yn cynnwys geirfa Cymraeg – Gwyddeleg. Ond mae’r geiriadur newydd yn llawer mwy ac yn fwy eang ei gwmpas gyda 12,500 o eiriau Cymraeg yn cael eu trin.The appendix to my dictionary has a grammar showing the regular and irregular Irish verbs, declensions of its secret parts and the barely mentionable rules of mutation! There is an Irish learners’ textbook by Ian Hughes, Dysgu Gwyddeleg, a translation of Mícheál Ó Siadhail’s Learning Irish which includes a Welsh – Irish vocabulary. The new dictionary though is much bigger and more comprehensive with 12,500 Welsh headwords dealt with.
Abererch, Caerdydd agus Aberystwyth
Sna chéad ranganna Gaeilge a bhí mé páirteach ann i 1989, bhí na Breatnaigh thar a bheith sásta leis an gcaoi ar tharraing ár múinteior Barra Tóibín aird na ranga ar ghnéithe coiteanta idir an dhá theanga: struchtúir na habairte, agus an briathar ag freagairt na cheiste; foclóir gaolmhar idir Chlaiseacach agus Cheilteach; míreanna na hainmbriathra ag freagairt dá chéile, -io as Breatnais agus -áil as an Ghaeilge. Thairis sin bhíodh ciorcal léamh maidin Sathairn á réachtáil aige, cruinnithe ceoil agus comhrá mar a bheifí in ann úsáid a bhaint as an teanga. Níor dhiúltaigh sé éinne, agus bhí na foghlaimeoirí in ann misneach a bhaint as: spreag sé sinn chun pinn, chun astriú agus chun foilsiú agus d’inis sé stair na nGael i Gaerdydd duinn.
Abererch, Caerdydd ac Aberystwyth
Yn y gwersi Gwyddeleg cyntaf i mi fynd iddyn nhw yng Nghaerdydd yn 1989 roedd Cymry’r dosbarth yn gwirioni ar allu’r tiwtor, Barry Tobin i dynnu sylw at y tebygrwydd rhwng y ddwy iaith: strwythur cyfarwydd y frawddeg gyda berf yn ateb cwestiwn; geiriau Clasurol a Cheltaidd cyffredin, ac ôl-ddodiaid y berfenwau -áil a -io yn cyfateb. Ond trefnai Barry foreau darllen, cyfarfodydd sgwrsio a sesiynau canu lle caed cyfle i ddefnyddio’r iaith. Dyna athro a wyddai’r ffordd i gymell dysgu a chyfathrebu: anogodd ni i gyhoeddi ac ymarfer cyfieithu a chododd ymwybyddiaeth o hanes y Gwyddelod yng Nghaerdydd.
Abererch, Cardiff and Aberystwyth
The Welsh contingent in the first Irish classes I attended in Cardiff in 1989 feasted on Barry Tobin’s tutoring as he pointed out the common core between the two languages: familiar sentence structure with verb answering questions; common Classical and Celtic vocabulary, verb noun endings -io and -áil corresponding. But Barry would organise reading mornings, chat sessions and singalongs you could get the opportunity to use the language. He was a tutor who knew how to inspire learning and communication: he encouraged us to publish and translate and he created interest in the history of the Irish in Cardiff.
Agus ba stair í a bhain le chuid dom shinsear féin. Fuair mo athair a chuid teagaisc ó scoil na mBráthar Chríostaí sa chathair sna triochadí, agus tháinig mo shin-seanmháthair ó Chorcaigh i mbád oscailte ina leanbhín óg de shliocht teifieach aimsir na Górta Mór. Bhraitheas go raibh mé in ann an stair a thuiscint agus an teanga a shealbhú de réir mar a bhí na focail agus na frásaí á bhailliú agam taobh le chéile i gcomhair an fhoclóra.A hanes rhai o’m cyndeidiau oedd hyn, gyda fy nhad wedi bod trwy ddwylo’r Brodyr Dysgu yn y ddinas yn yr 1930au a fy hen-nain wedi dod draw o Gorcaigh mewn cwch agored yn fabi bach i ffoaduriaid o’r Newyn Mawr. Teimlais ryw berchnogaeth a pherthyn i’r ieithoedd wrth gasglu geiriau ac ymadroddion ochr yn ochr ar gyfer y geiriadur. And this was the history of some of my ancestors, my father having been through the hands of the Teaching Brothers in the 1930s and my great-grandmother having came across from Cork as a baby in an open boat with refugees from the Great Hunger. I feel an ownership and a belonging in these two languages from having compiled these words and phrases side by side in the dictionary.
Ach ní amháin ar fhoclóir dátheangach nach bhfuil mórán clú air a mhairfidh an duine. Bhí an mhúinteoireacht i ndán dom, agus rinne mé gach iarracht sna scoileanna feabhas a chur ar an Bhreatnais a d’fhoghlaim mé den chéad uair sa naoiscoil in Abererch Pwllheli. Bhuail mé le mo bhean, Breatnach ó Bow Street nuair a bhíomar inár n-ábhar múinteórí sa Sean Choláiste in Aberystwyth i 1990 agus is í mo eagarthóir neamhoifigiúil go fóill. Bhí mo Bhreatnais labhartha beagáinín ró liteartha i dtús na nóchadaí, ach le himeacht aimsire d’éirigh mé cleachtadh uirthi féin agus a ceartú agus a gléasanna!Ond nid ar eiriadur dwyieithog prin ei apêl y bydd dyn byw. Mynd i ddysgu oedd fy ffawd a bachais bob cyfle yn yr ysgolion y bûm i’n gweithio ynddynt i fireinio’r Gymraeg roeddwn wedi’i dysgu gyntaf yn Ysgol Feithrin Abererch Pwllheli. Pan oeddwn yn gyw athro yn 1991 ffeindiais fy mhriod yn yr Hen Goleg. Cymraes o Bow Street ydy hi a’m golygydd answyddogol o hyd. Tamaid bach yn rhy lenyddol oedd fy Nghymraeg i yn ôl yn y 90au, ond o dipyn i beth deuthum yn fwy cyfarwydd â hi a’i chywiriadau a’i chyweiriau! But man cannot live on a niche appeal dictionary alone. Fated to be a teacher I seized every opportunity to perfect the Welsh I had first learned at Infant School in Abererch, Pwllheli. While doing teaching practice in 1991 I found my wife at the Old College. She has Welsh as her first language and she is still my unofficial editor. In the 90s my Welsh was a rather literary but I gradually got familiar with her corrections and registers!
Tá buntáistí ag baint le Aberystwyth mar áit chun an fhoclóir a fhorbairt: leabhair go leor san Ollscoil, múinteóirí ag múineadh cursa MA i nGaeilge, scata de chainteóirí sásta an teanga a úsáid, agus aer úr chun stuaim a choimeáid ar an fhoighid, mar a ritheann an gaineamh san orláiste arís agus arís eile agus an caisleán digiteach ag éirí inár dtimpeall. Faoi seo tá Russel Foley, mac léinn i Roinn na dTeangach in Ollscoil Aberystwyth, ag tabhairt faoin fhoclóir a chur in oiriúint le haghaidh an tIdirlíon.Roedd datblygu’r gwaith yn Aberystwyth yn dod â sawl mantais: llond y brifysgol o lyfrau ac athrawon i ddysgu cwrs MA Gwyddeleg i mi, nifer o siaradwyr parod i ddefnyddio’r ieithoedd, ac awyr iach i borthi’r amynedd sydd eisiau tra bod tywod amser yn llithro drwy’r gwydr drosodd a thro a thra codwyd y castell digidol o’n cwmpas. Developing the work in Aberystwyth had its advantages: a university full of books and teachers to teach me an MA in Irish, lots of speakers willing to use the languages, and the sea air to feed the endless patience needed while sand slipped over and over again through the hourglass and while the digital castle was built around us.
Buntáiste? Cad mar bhuntáiste?
Tá tionachar na foclóirí Geraint Lewis agus Niall Ó Dónaill le feiceáil ar leagan amach na hoibre nua, ach tá samplaí úr nua ann chomh maith. Is é sin an rud atá nua amach is amach san obair seo, go féidir leat bogadh caol díreach idir an Bhreatnais agus an Ghaeilge gan a bheith ceangailte leis an Bhearla a úsáid mar dhroichead.
Mantais? Pa fantais?
Mae’r geiriadur Cymraeg - Gwyddeleg yn dilyn patrymau a welir yng ngeiriaduron D. Geraint Lewis ac Ó Dónaill ac yn ogystal â hynny mae ynddo fyrdd o gyfuniadau gwreiddiol sy’n tynnu ar gasgliadau helaeth y geiriadurwyr Gwyddeleg a Chymraeg proffesiynol ac ar lafar a thestun y siaradwyr ac ysgrifenwyr cyfoes. Beth sydd wir yn dir newydd yn y gwaith hwn yw’r hwylusdod o fedru cyfeirio’n uniogyrchol at eiriadur Cymraeg - Gwyddeleg heb orfod pontio drwy Saesneg.
Advantage? What advantage?
The layout of the Welsh - Irish dictionary borrows from the dictionaries of D. Geraint Lewis and Ó Dónaill and in addition to these there are countless original examples drawn from the extensive collections of Irish and Welsh professional lexicographers and from the speech and texts of contemporary speakers and writers. What is essentially new in the dictionary is the facility of being able to refer directly to a Welsh – Irish dictionary without the need to use English as a bridge.
Is trua nach bhfuil bogearraí aistriúchán agus láithreáin gréasáin is féidir braith orthu go hiomlán, mar geall ar an teanga lochtach nó na botúin a tharlaíonn sna haistriúcháin sin go minic, ach tá an ríomhaistriúchán ag feabhasú agus bíonn frásaí úsáideach le chomhréir le fáil ar líne. Tá áis thar barr, saor in aisce ar fáil ar líne. Is é lexicelt.org é, cúrsa Breatnaise trí mheán na Gailge agus cúrsa an Gaeilge trí mheán na Breatnaise, le ceachtanna agus samplaí fuaime.Yn anffodus ni fedrwn ddibynnu gymaint â liciwn ar y safleoedd cyfieithu a’r gwefannau dysgu iaith gan fod nhw’n cynnig cyfieithiadau anghywir ac anaddas ar brydiau, ond mae cyfieithu digidol yn gwella ac mae ymadroddion defnyddiol mewn cyd-destun i’w cael ar lein. Mae adnodd ar lein rhagorol i ddysgu Gwyddeleg drwy’r Gymraeg a Chymraeg trwy’r Wyddeleg yn lexicelt.org, gwefan sydd yn cynnwys cwrs dysgu â samplau sain.Unfortunately we cannot depend as much as we would like on computer translation and language-learning websites since they offer inaccurate and inappropriate translations at times, though digital translation is improving and there are useful in context phrases to be found on line. There is an excellent web resource for learning Irish through Welsh, and Welsh through Irish in lexicelt.org, a site with a learners’ course which includes audio samples.
Taca
Bhí mo bhean ag dul as a meabhair leis an fhuaim as an chlóscríobhán sna nóchadaí luath. Ansin bhí an t-ádh liom i 1995 gur smaoinigh Dr Willy Mahon ar seift chliste. Thug dáréag tacaí deich bunt an duine síos chun cóip den fhoclóir a fháil saor in aisce tráth a thiocfadh sé amach, agus caitheadh an t-airgead ar ríomhaire chun próiseáil a dhéanamh ar na focail. Chodail an bhean níos fearr fós nuair a thug Cumann na Múinteóirí Breatnaise leath chead punt don togradh. D’íoc Iontaobhas Pantyfedwen as costas mo cursa céim mháistreachta sa Ghaeilge. Míle buíochas do ghach uile cheann acu.
Nawdd
Roedd sŵn clecian fy nheipiadur yn y nawdegau cynnar yn gyrru’r wraig o’i cho’. Yna yn 1995 roeddwn i’n ffodus fod Dr Willy Mahon wedi meddwl am ateb. Rhoddodd dwsin o gefnogwyr ddeg punt yr un i gael copi o’r geiriadur yn rhad ac am ddim ar ôl iddo ddod allan, ac aeth yr arian at brynu cyfrifiadur i brosesu’r geiriau. Cysgodd y wraig hyd yn oed yn well ar ôl i UCAC roi £50 at yr achos. Talodd Ymddiriedolaeth Pantyfedwen ffioedd fy nghwrs MA Gwyddeleg. Can diolch i bob un.
Sponsorship
The sound of my typing in the early nineties was driving my wife up the wall. Then fortunately in 1995 Dr Willy Mahon thought of a solution. A dozen people donated ten pounds each for free copy of the dictionary when it appeared, and the money went towards buying a computer for word processing. The wife slept even better when the teacher’s Union UCAC donated £50 to the cause. Pantyfedwen Trust paid my fees for my MA course in Irish. Thanks a million to all.
Bhí costas ag baint leis an eagarthóireacht, roinnt cácaí milise agus cúpla céad punt. Ach ba í flaithiúlacht, saothair deonach agus staidéir an Dr Diarmuid Johnson ba chionsiocair leis an obair a chur i gcríoch.Roedd y gwaith golygu wedi costio sawl cacen ffrwythau a chant neu ddau o bunnoedd. Ond haelioni, llafur cariad a dyfalbarhad Dr Diarmuid Johnson oedd wedi mynd â’r maen i’r wal. Editing the work cost a number of fruitcakes and a few hundred pounds. But it was the generosity, labour of love and fortitude of Dr Diarmuid Johnson as that secured the success of the work.
Tar éis dom an obair ghrafaidh a dhéanamh agus téacs an fhóclóra a leagan amach le haghaidh Preas Gomer, chuaigh Ystwyth Books">Siopa Leabhair Ystwyth agus mé féin i bhfiontar ar na costais phriontála. Seoladh an leabhar i bhialann Medinas in Aberystwyth, agus rinneadh beart de réir an bhriathair. Tháinig mé amach as an chéiliúradh yn blasu’r melysder yn y gwynt. Ag blaiseadh na milseachta ar an ghaoth.Ar ôl i mi wneud y graffeg a gosod testun y geiriadur ar gyfer y wasg, mentrodd Ystwyth Books">Siop Lyfrau Ystwyth a minnau dalu am agraffu gyda Gomer. Lawnsiwyd y llyfr yn nhŷ bwyta Medinas yn Aberystwyth a gwireddwyd y gair. Deuthum allan o’r dathlu, ag blaiseadh na milseachta ar an ghaoth: Yn blasu’r melysder ar y gwynt. After I’d done the graphics and and prepared the text of the dictionary for Gomer Press, Ystwyth Books shared with me the printing costs. The book was launched in Medinas restaurant in Aberystwyth and the words became a reality. I came out of the party, ag blaiseadh na milseachta ar an aer: Tasting the sweetness in the wind.

Roedd datblygu’r gwaith yn Aberystwyth yn dod â sawl mantais: llond y brifysgol o lyfrau ac athrawon i ddysgu cwrs MA Gwyddeleg i mi, nifer o siaradwyr parod i ddefnyddio’r ieithoedd.

Joe Mitchell- Creu'r geiriadur Cymraeg-Gwyddeleg cyntaf

Joe Mitchell- Creu'r geiriadur Cymraeg-Gwyddeleg cyntaf

Y Geiriadur

Y mae’r drefn hwylus sydd i’r dewis geiriau, y nodiadau a’r ymadroddion yn galluogi’r darllenydd i weld ystyr a chyd-destun yn rhwydd. Dyma’r casgliad mwyaf cynhwysfawr o’i fath mewn print. Caiff groeso cynnes yn y prifysgolion ac ar aelwydydd pob un sydd am agor drysau ar y naill ochr a’r llall o Fôr Iwerddon a thu hwnt. Mynnwch gopi. Mae’r gyfrol yn elwa’n arbennig o olygyddiaeth ymgynghorol Dr. Diarmuid Johnson - Y Gwyddel o Geredigion.

Comprehensive in its recording modern vocabulary and expression, it stands on the shouders of the Irish and Welsh scholars as a unique work of word and phrase in context, compiled clearly and well annotated. It will surely be welcomed by students from both sides of the Irish sea and beyond. Editorial accuracy was provided by the consultative editor Dr. Diarmuid Johnson, Y Gwyddel o Geredigion.

Joe Mitchell

Yn enedigol o Gaerfyrddin, wedi’i fagu yn Abererch a Gogledd Caerdydd, dysgodd Joe Mitchell yr Wyddeleg gyntaf yng Nghaerdydd gyda Barry Tobin. Enillodd radd MA mewn Gwyddeleg yn Aberystwyth gyda’r Athro Patrick Sims-Williams, Dr. Willy Mahon, Dr. Diarmuid Johnson a Dr. Ian Hughes. Y mae ei waith cyfieithu yn cynnwys straeon byrion a thraethodau Martín Ó Cadhain. Y mae’r geiriadur hwn yn ffrwyth llafur dros 30 o flynyddoedd o gasglu a chofnodi. Bydd y gyfrol o ddefnydd mawr i ddysgwyr a defnyddwyr y ddwy iaith.

Born in Carmarthen and raised in Abererch and North Cardiff, Joe Mitchell first learned Irish in Cardiff with Barry Tobin. He graduated with an MA in Irish at Aberystwyth University in 2005 under Prof. Sims-Williams, Dr. Will Mahon, Dr. Diarmuid Johnson and Dr. Ian Hughes. His translations of Irish texts include short stories and essays by Martín Ó Cadhain. This publication represents the fruit of 30 years of learning Irish: a comprehensive Welsh - Irish dictionary which will promote the study and use of both languages.

geiriadurgwyddeleg.com

Geiriadur Cymraeg-Gwyddeleg

Geiriadur Cymraeg-Gwyddeleg tudalen 1


Erthygl ar gael i lawrlwytho ar Apple Books, PDF & Kindle / Article available to download on Apple Books, PDF & Kindle:

Apple Books logo

PDF logo

Kindle logo

]]>
Dani Schlick: Cymraeg ac Almaeneg- Beth sydd gan iaith Gwlad Beirdd a Chantorion yn gyffredin ag iaith Gwlad Beirdd ac Athronwyr? / Welsh and German- What do the language of the Land of Poets and Singers and the language of the Land of Poets and Philosophers have in common? https://parallel.cymru/dani-schlick-cymraeg-ac-almaeneg/ Tue, 20 Mar 2018 15:00:15 +0000 http://parallel.cymru/?p=7112 Dyma’r dechrau o gyfres gyffrous newydd- cymharu Cymraeg i ieithoedd eraill- ond mewn fformat tairieithog! Mae Dani Schlick, sydd yn dod o Saxony a Berlin yn cyflwyno tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng y Gymraeg ac Almaeneg…

Here is the start of an exciting new series- comparing Welsh to other languages- but in a trilingual format! Dani Schlick, who is from Saxony and Berlin, presents similarities and differences between Welsh and German…

Walisisch und Deutsch – Was haben die Sprache des Landes der Dichter und Sänger und die Sprache des Landes der Dichter und Denker gemeinsam?

 

Ydy hi’n anodd dysgu Cymraeg?
Mae llawer o bobl yn gofyn i mi. Wel, mae’n anodd dysgu unrhwy iaith. Mae’n her ac yn waith caled weithiau. Ond hefyd mae’n agor drysau i galonau’r bobl ac i ddiwylliant, mae’n ehangu’r gorwelion a mae’n agoriad llygaid weithiau.
Is it difficult to learn Welsh?
That’s what many people ask me. Well, it’s difficult to learn any language. It’s a challenge and sometimes hard work. But it also opens doors to the people’s hearts and to the culture, it widens your horizons and sometimes it’s an eye opener.
Ist Walisisch eigentlich schwer zu lernen?
Fragen mich viele Leute. Es ist immer schwierig, eine Sprache zu lernen. Es ist eine Herausforderung und manchmal auch harte Arbeit. Aber es öffnet auch Türen zu den Herzen der Menschen und zur Kultur, es erweitert den Horizont, und manchmal öffnet einem es auch die Augen.
I mi fel Almaenes mae yna lawer o bethau sydd yn fy helpu dysgu Cymraeg. Mae’r Gymraeg - fel yr Almaeneg - yn ffonetig, sef mae yna un ffordd o ynganu bob llythyren. Mae yna eithriadau, wrth gwrs, ond mae hyd yn oed yr eithriadau yn dilyn trefn. Mae yna system yn y ddwy iaith. A diolch byth am hynny!For me as a German, there are many things that help me learn Welsh. It is – like German – phonetic, there is one way of pronouncing each letter. There are exceptions, of course, but even the exceptions follow a rule. There is a system in both languages. Thank God for that!Für mich als Deutsche gibt es viele Dinge, die mir helfen, Walisisch zu lernen. Walisisch ist – wie Deutsch auch – phonetisch. Für jeden Buchstaben gibt es eine Aussprache, mit Ausnahmen, natürlich, aber sogar die folgen einer Regel. Beide Sprachen haben System. Zum Glück!
Ia, rydan ni’n Almaenwyr yn hoff iawn o gael system a threfn ar bethau. A mae’n rhaid i mi gyfaddef un peth: Mae’r Gymraeg yn fwy systematig fyth na’r Almaeneg!Yes, we Germans like to have a system and order with things. And I have to admit one thing: Welsh is even more systematic than German!Ja, wir Deutschen haben gern System und Ordnung in allem. Dabei ich muss eines zugeben: Walisisch ist sogar noch systematischer als Deutsch!
Er nad oes treigladau yn yr Almaeneg, rydan ninnau’n ffeindio ffyrdd o wneud i’r iaith lifo pan ydan ni’n siarad. Rydan ninnau’n cwtogi geiriau ac yn rhoi geiriau ynghyd, e.e. mae’r geiriau am “wyt ti wedi...?” “hast du ...?” yn troi i “haste...?” – fel “ti ‘di...?”. Although there are no mutations in German, we, too, find ways of making the language flow when we are speaking. We, too, shorten words and join them together, e.g. the words for “have you..?” “hast du...?” become “haste...?”. Obwohl es im Deutschen keine Lenierungen gibt, finden auch wir Wege, die Sprache fließen zu lassen. Auch wir verkürzen Wörter und fügen sie zusammen, so wird z.Bsp. aus “hast du..?” (walsisch: “wyt ti wedi..?”) “haste...?” (walisisch: ‘ti ‘di...?”).
Tafodieithoedd
Mae hynny yn amrywio rhwng y tafodieithoedd hefyd. A sôn am dafodieithoedd. Mae yna lwyth ohonyn nhw yn yr Almaen. Casgliad o deyrnasau a thywysogaethau bychan ydy’r wlad yn y pendraw. Diolch i Martin Luther mae yna iaith Almaeneg mae pawb yn siarad heddiw, er efo acenau gwahanol. A mae llawer o’r tafodieithau yn dal yn fyw. Martin Luther oedd y cyntaf i wynebu’r amrywiaeth o ieithoedd yn y gwledydd Almaenig pan gyfiethodd o’r beibl o’r Lladin i’r Almaeneg – i Almaeneg doedd ddim yn bodoli cyn hynny.
Dialects
This even varies between the dialects. Speaking about dialects, there are loads of them in Germany. The country is an accumulation of small kingdoms and principalities in the end. Thanks to Martin Luther there is a German language today that everybody can speak, although with different accents. And many dialects are still very much alive. Martin Luther was the first to face the variety of languages in the German countries when he translated the bible from Latin into German – into a German that had not existed before then.
Dialekte
Das variert dann auch noch zwischen den Dialekten. Apropos Dialekte. Die gibt es in Deutschland zu hauf. Letztendlich ist das Land eine Ansammlung von kleinen Königreichen und Fürstentümern. Martin Luther ist zu verdanken, dass es heute eine deutsche Sprache gibt, die alle sprechen, wenn auch mit unterschiedlichen Akzenten. Und viele der Dialekte sind noch immer lebendig. Martin Luther stellte sich als erster der Vielzahl der Sprachen in den deutschen Ländern, als er die Bibel aus dem Lateinischen ins Deutsche übersetzte – ein Deutsch, dass es vorher nicht gab.
Yn yr Almaen, mae’r tafodieithoedd yn newid efo’r tirwedd. Yn y gogledd ar lan y môr lle mae’r tir yn fflat iawn, mae’r iaith yn eithaf meddal. Pellaf ewch chi i’r de ac uchaf mae’r mynyddoedd, caletaf eith yr iaith. In Germany the dialects change with the landscape. In the north by the sea where the country is flat, the language is rather soft. The further south you go and the higher the mountains are, the harder the language becomes. In Deutschland varieren die Dialekte mit der Landschaft. Am Meer im Norden, wo das Land flach ist, ist die Sprache eher weich. Je weiter man nach Süden kommt und je höher die Berge werden, desto härter wird die Sprache.
Mae dysgu iaith hefyd y golygu dysgu defodau a dysgu am enaid y bobl sydd yn siarad yr iaith. Yn yr Almaen rydan ni’n dweud pethau yn reit uniongyrchol. Rydan ni’n ymarferol ac yn effeithlon iawn. Wel, i fod. Yng Nghymru ac yn y Gymraeg, y teimlad a’r bobl a’r gymuned sydd yn bwysig, a’r pethau sydd ddim yn cael eu dweud. Learning a language also means learning about traditions and about the soul of the people who speak the language. In Germany we say things rather directly. We are pragmatic and efficient. Well, supposedly. In Wales and in Welsh it’s the feeling, the people and the community that are important, and the things that are not said. Eine Sprache zu lernen, heißt auch, Sitten und Bräuche und die Seele der Menschen zu begreifen, die die Sprache sprechen. In Deutschland sagen wir die Dinge recht direkt. Wir sind pragmatisch und effizient. Naja, irgendwie. In Wales und in der walisischen Sprache sind es Gefühle, die Menschen und die Gemeinsachaft, die wichtig sind, und die Dinge, die nicht gesagt werden.
Yr her mwyaf i mi, gan symud rhwng yr ieithoedd, ydy cael teimlad, cael enaid yr iaith. Yn anffodus, dydy hyn ddim yn dŵad dros nos. Mae’n cymryd amser ac yn amlach na pheidio mae’n golygu dweud a gwneud pethau od. Wel, rydw i’n dweud pethau od yn aml iawn – dim ond fel rhan o fy addysg Gymraeg, wrth gwrs! Moving between languages - the greatest challenge for me is getting the feeling, the soul of the language. Unfortunately, this does not come overnight. It takes time and – more often than not – it involves saying and doing odd things. Well, I quite often say odd things – only as part of my Welsh education, of course! Im hin und her zwischen den Sprachen ist für mich die größte Herausforderung, das Gefühl, die Seele der Sprache zu erfassen. Leider kommt das nicht über Nacht. Das braucht Zeit und ziemlich oft heißt das auch, komische Dinge zu tun und zu sagen. Nun ja, ich sage sehr oft komische Dinge – natürlich nur im Rahmen meiner walisischen Ausbildung!
Hyd yn hyn rydw i’n falch iawn o gael y teimlad iawn ran fwyaf o’r amser – fwy neu lai. A rydw i’n edrych ymlaen at gael mwy fyth!So far I am very happy that I am getting the right feeling most of the time – more or less. And I am looking forward to getting more!Ich bin sehr stoltz darauf, inzwischen zumindest meistens das richtige Gefühl zu haben. Und ich freue mich auf mehr!
Beth am y farddoniaeth a’r gerddoriaeth?
Gwlad Beirdd a Chantorion ydy Cymru, wedi’r cwbl. Er na fedra i gynganeddu, rydw i wrth y modd â’r llif mae o’n rhoi i’r iaith. I mi mae’r Gymraeg yn llifo fel tonnau’r môr. A mae hyn yn adlewyrchu yn y gerddoriaeth hefyd.
What about poetry and music?
Wales is the land of poets and singers. Although I can’t do cynghanedd, I love the flow that it gives to the language. To me Welsh flows like waves in the sea, which reflects in the music as well.
Wie steht es um die Poesie und Musik?
Schließlich ist Wales das Land der Dichter und Sänger. Obwohl ich die Kunst des cynganeddu nicht beherrsche, liebe ich den Fluss, den es in die Sprache bringt. Für mich fließt die walisische Sprache wie Wellen im Meer. Und das zeigt sich auch in der Musik.
Yn yr Almaeneg mae yno gerddi sydd yn cynnwys elfenau’r cynghanedd ac yn defnyddio offer gwahanol er mwyn chwarae efo’r iaith i gefnogi syniad y gerdd. Enghraifft dda ydy’r gerdd “Der Panther” gan Rainer Maria Rilke sydd yn cynnwys defnydd arbennig cytseiniau ac odl mewnol yn debyg iawn i’r gynghanedd. Ac wrth gwrs, mae gynnon ni gerddorion fel Beethoven, Bach, Mozart a Wagner. In German there are poems that have elements of cynghanedd and use different means in order to play with the language and to support the idea behind the poem. A good example is the poem “Der Panter” by Rainer Maria Rilke and its special use of consonants and internal rhyme which is very similar to cynghanedd. And we have got composers like Beethoven, Bach, Mozart and Wagner. Deutschland ist das Land der Dichter und Denker. Und es gibt dort Gedichte, die Elemente des cynganeddu enthalten und Metren verwenden, um mit der Sprache zu spielen und die Intention des Gedichtes zu unterstützen. Ein gutes Beispiel dafür ist das Gedicht “Der Panther von Rainer Maria Rilke, das auf besondere Weise Konsonanten und innere Reime verwendet, die dem cynghanedd sehr ähnlich sind. Und wir haben Komponisten wie Beethoven, Bach, Mozart und Wagner.
Wrth ysgrifennu’r erthygl hon ac wrth ei chyfeithu i fy mamiaith Almaeneg, rydw i’n sylwi pa mor hir mae’r geiriau a’r brawddegau yn yr Almaeneg. O mam bach, mae’n wir! A hefyd rydw i’n sylwi ar batrymau a’r llif arbennig sydd yn y ieithoedd gwahanol, sydd yn gwneud pob iaith yn arbennig. A mae yna geiriau ac ymadroddion sydd ddim yn cyfieithu.While I am writing this article and translating it into German, my mother language, I notice how long the words and sentences are. Oh dear, it’s true! Also I notice the special patterns and flow that are in different languages, that make every language special. And there are words and idioms that just do not translate. Während ich diesen Artikel schreibe und in meine Muttersprache Deutsch übesetze, fällt mir auf, wie lang die deutschen Wörter und Sätze sind. Oh jeh, es ist also wahr! Außerdem fallen mir der besondere Fluß und die Muster auf, die es in verschiedenen Sprachen gibt, die jede Sprache besonders machen. Und es gibt Wörter und Redwendung, die man einfach nicht übersetzen kann.
“Cenedl heb iaith, cenedl heb galon”, meddan nwh. Mae yna galon fawr ym mhob iaith ac yn y bobl sydd yn ei siarad.“A nation without a language is a nation without a heart” they say. There is a lot of heart in every language and in the people who speak it.“Ein Volk ohne Sprache ist ein Volk ohne Herz” heißt es. Es ist eine Menge Herz in jeder Sprache und in den Menschen, die sie sprechen.

Mae dysgu iaith hefyd y golygu dysgu defodau a dysgu am enaid y bobl sydd yn siarad yr iaith.

Der Panther – Rainer Maria Rilke

Sein Blick ist vom Vorübergehen der Stäbe
So müd’ geworden, dass er nichts mehr hält,
Ihm ist, als ob es tausend Stäbe gäbe,
Unter hinter tausend Stäben keine Welt.

Der weiche Gang geschmeidig starker Schritte,
Der sich sich im allerkleinsten Kreise dreht,
Ist wie ein Tanz von Kraft um eine Mitte,
In der betäubt ein starker Wille steht.

Nur manchmal schiebt der Vorhang der Pupille
Sich lautlos auf. – Dann geht ein Bild hinein,
Geht durch der Glieder angespannte Stille –
Und hört im Herzen auf zu sein.

 

Llwytho i Lawr fel PDF

 

Dysgwyr y Flwyddyn 2017

]]>
Cath McGill: Asturias, Y Costa Verde / The Green Coast / La Costa Verde https://parallel.cymru/cath-mcgill-asturias/ Mon, 05 Feb 2018 12:26:19 +0000 http://parallel.cymru/?p=5784 Mae Cath wedi setlo yn yr ardal Asturias ar y Gogledd o Sbaen, ac mae hi’n hoffi ysgrifrennu yn y Gymraeg am ei bywyd yna. Yma, mae hi’n cyflwyno yr ardal, ond yn y tair iaith: Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg Castellano!
Cath has settled in the Asturias area of the north of Spain, and she likes to write in Welsh about her life there. Here, she introduces the area, but in the three languages: Welsh, English and Spanish Castellano!

Ers wyth mlynedd a mwy rwyf i wedi bod yn cadw blog AsturiasynGymraeg.wordpress.com,
blog sy'n cynnwys tipyn o bopeth: digwyddiadau bob dydd yn yr ardd a'r pentref, ryseitiau, teithiau cerdded, hanes a gwleidyddiaeth.
It's just over eight years since I began my blog AsturiasynGymraeg.wordpress.com.
The blog has a bit of everything, from everyday events in the garden and in the village to recipes, hill walks, history and even politics.
Hace 8 años empecé a escribir este blog
AsturiasynGymraeg.wordpress.com,
un blog con algo para todos, desde lo que pasa a diario en la huerta y el pueblo hasta recetas, rutas de senderismo, artículos sobre la historia o la política.
Penderfynais i ddechrau'r blog am ddau reswm. Roeddwn i eisiau cofnodi beth oedd yn digwydd, a beth oedd yn ddieithr, wrth fyw mewn lle newydd: a hefyd roeddwn yn teimlo bod angen cyfrannu at amrywiaeth testunau Cymraeg, ysgrifennu am bethau tu hwnt i'r ffin.I began writing a blog for two reasons. I wanted to make a record of what was happening, and especially what was different, about living in a new place; but I was also keen to contribute to expanding the range of written material in Welsh by writing about things beyond the borders.Los motivos eran dos: construirme un archivo del cotidiano, y del ajeno, de vivir en un sitio nuevo, y contribuir unos textos a la gama de obras en el idioma galés, añadiendo informes de fuera.
Asturias yw’r unig ran o Sbaen na fu erioed o dan reolaeth y Mwriaid yn ystod yr oesoedd canol. (Well imi ddweud fan hyn nad oedd Gwlad y Basgiaid bryd hynny yn cael ei chyfri’n rhan o Sbaen).Asturias is the only part of Spain that was never conquered by the Moors in the Middle Ages. (I'd better make it clear that at the time the Basque Country was not considered part of Spain).Solo Asturias escapó los conquistadores moros de la época medieval. (Hay que decir que entonces el País Vasco no se consideraba parte de España).
Erbyn heddiw mae'n un o 'gymunedau awtonomig' Sbaen, yn rheoli pethau fel addysg ac iechyd, ond gyda llai o hawliau na'r cymunedau mawr 'cenedlaethol' fel Catalwnia a Gwlad y Basg. Today it's one of the 'autonomous communities'. It has control of things like education and health, but fewer powers than the bigger 'national' communities like the Basque Country and Catalonia.Hoy día es una de las comunidades autónomas de España, con poderes en, por ejemplo, la enseñanza y la salud, pero menos que en otras comunidades más grandes como el Pais Vasco o Catalunya.
Daw’r enw Asturias o lwyth o bobl oedd yn byw yng ngogledd orllewin y penrhyn Iberaidd yn amser y Rhufeiniaid, yr Astures. The name Asturias comes from the Astures, a tribe who occupied the northwest of the Iberian peninsula at the time of the Romans. El nombre Asturias viene de los Astures, un tribu importante en el noroeste de la peninsula Ibérica en el tiempo de los romanos.
Ac mae ieithoedd hen diroedd yr Astures yn dal yn perthyn yn agos: Galiseg, sy’n cael ei chyfri’n iaith swyddogol yn rhanbarth Galisia, a’r hyn mae ieithwyr yn ei alw’n Astur-leones, sy’n cael ei siarad yn Asturias ac yng ngogledd talaith Leon.And the languages spoken today across the lands of the Astures are still closely related: Galician has co-official status in the community of Galicia, and Astur-leones is spoken in Asturias and the north of Leon.Y los idiomas de los terrenos de los Astures siguen pareciendose mucho, el gallego que es idioma co-oficial en Galicia, y el Astur-leonés de Asturias y el norte de León.
Wyddwn i ddim o hyn pan des i yma am y tro cyntaf gyda fy nhipyn Sbaeneg (Castellano), ond erbyn hyn rwy’n siŵr y byddai trigolion gweddill Sbaen yn gwybod yn iawn o ble daeth yr acen.I didn't know any of that when I came here with my few words of Spanish (Castellano), but by now I think anyone from further south would have no doubt about my accent.No sabía nada de todo eso cuando viné aquí con mis pocas palabras de Castellano. Pero ahora creo que los del sur del país sí reconoceran de donde es mi acento.
Y Costa Verde, yr Arfordir Glas, yw'r enw arall ar y lle. Wrth gyfieithu verde yn 'glas', rwy’n golygu lliw dail a phorfa, nid lliw’r awyr a’r môr. Daw'r enw hwn yn sgil y glaw, sydd yn cynhyrchu'r llystyfiant ysblennydd. Mae twristiaid yn dianc o ffwrnes Madrid a chanol y wlad yn yr haf er mwyn teimlo awel niwlog a thymheredd yw Asturias.The other name for the region is the Costa Verde, the Green Coast. The reason is not hard to find: it's the rain, which drives the luxuriant growth of trees and grass. Our tourists come from the furnace of Madrid and central Spain to cool off in the mists and lower temperatures of Asturias.La Costa Verde, la costa de la lluvia, los árboles, la hierba, incluso la selva. Aquí vienen los veraneantes de los fogones de Madrid y de la meseta para disfrutarse de las nieblas asturianas y sus temperaturas suaves.
Saif ein pentref ni ar yr arfordir, rhyw 2km o'r môr a'r un faint o res fwyaf gogleddol y mynyddoedd. Mae mynyddoedd y Cordillera Cantábrica yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin, mewn sawl rhes baralel a'i gilydd, yn codi'n uwch wrth fynd tua'r de ac yna'n disgyn i lwyfandir (Meseta) ganol Sbaen sydd rhyw 800m uwchlaw'r môr. Our village is on the coast, about 2km from the sea and the same from the first, most northerly, range of mountains. The Cordillera Cantábrica runs east-west, in several parallel ranges rising in height towards the south before dipping to the meseta plateaus of the centre, which are about 800m above sea level.El pueblo está en el litoral, a 2km del mar y la misma distancia de la montañas mas norteñas. La Cordillera Cantábrica corre este-oeste, en sierras paralelas, más hacia el sur más altas, hasta que la tierra baja otra vez a la meseta con sus 800m de altitud.
Tir gwartheg godro, cig eidion a chig moch yw dwyrain Asturias. Mae'r caeau'n fach ac yn aml yn serth; lle mae tir gwastad bydd ein cymdogion yn plannu perllannau neu'n tyfu india corn i fwydo'r da byw.The east of Asturias is dairy country, with beef cattle and pigs as well. The fields are small and often steep; on the flatter areas our neighbours plant orchards or grow maize for the cattle.Tierra de vacas de leche, tierra de reses de ternera, tierra de cerdos: así es el oriente de Asturias. Las fincas son pequeñas y empinadas. Donde hay llaneras, mis vecinos plantan pumaradas o maíz para los animales.
Afalau seidr yw prif gynnyrch y berllan, a seidr yw prif ddiod feddwol Asturias, yn enwedig yn ystod yr haf. Ac yn y lluarth, yr ardd lysiau? Fabes. Y gair yn ddigon tebyg i'r ffa Cymraeg, ond mae rhain yn enfawr, yn wyn, ac yn cael eu gwerthu wedi'u sychu am €13 y cilo.Most of the orchards produce cider apples; cider is the main alcoholic drink, especially in the summer. And in the vegetable garden? Fabes. Beans. The word is similar to the Welsh ffa, but these are enormous, white beans which sell dried for €13 a kilo.Las pumeradas producen manzanas de sidra: la sidra es la bebida alcohólica del verano asturiano. Y en la huerta? Fabes. Fabes grandes, blancas, que se venden a 13€ el kilo.
Mae trigolion Asturias hefyd yn dwlu ar bysgod a bwyd môr: er bod gyda nhw 200km o arfordir wrth ochr rhai o'r mannau pysgota gorau yn Ewrop, dyw e ddim yn ddigon. Mae llawer yn cael ei fewnforio, yn enwedig o'r Alban ac Iwerddon. The people of Asturias are mad about fish and seafood. Despite having 200km of coastline alongside some of the best fishing grounds in Europe, there's never enough. Lorryloads are imported, mainly from Ireland and Scotland.Los asturianos comen cada vez más pescado y mariscos. Hay aquí 200km de costa, y zonas de pescar entre los mejores de Europa, pero tampoco es suficiente. Los camiones de Irlanda y de Escocia traen toneladas de importación.
Gobeithio'ch bod chi wedi mwynhau'r cyflwyniad cryno hwn i ardal gudd.I hope you've enjoyed this short introduction to Asturias, a secret part of Spain. Espero que os gustó leer esta breve presentación sobre Asturias, una región escondida.

Wrth gyfieithu verde yn ‘glas’, rwy’n golygu lliw dail a phorfa, nid lliw’r awyr a’r môr.

AsturiasynGymraeg.wordpress.com / CathAguamia

Llwytho i Lawr fel PDF

]]>