Eisteddfods are held throughout Welsh-speaking comunities all around the world, and one of the longest-running and well-contested is that of Trevelin in Patagonia. Here Gwion of Ysgol y Cwm talks us through some of its competitions and traditions, and winning translation work by Alwen Green is presented.
Trevelin is a town in the Welsh settlement of Chubut of Patagonia; its name derives from the Welsh for ‘flour mill’.
Fe gychwynnodd y tymor newydd gyda llawer o gyffro, gan fod tri dosbarth a neuadd newydd yn barod i’w defnyddio, gan ddyblu maint yr ysgol! Mae’r gwaith yn parhau ar ddwy ystafell ddosbarth arall, a fydd yn agor yn fuan. Mae’r holl waith adeiladu yn dilyn yr holl waith caled gan aelodau Cymdeithas Gymreig Trevelin i werthu darnau o dir er mwyn ariannu’r prosiect. Mae’r ysgol yn ddiolchgar dros ben i’n holl ffrindiau o Gymru sydd wedi cyfrannu dros y blynyddoedd, ac sydd yn dal i gyfrannu hyd heddiw. Un o’n prif gymwynaswyr yw Cymdeithas Hoelion Wyth, sydd wedi casglu dros £15,000 hyd yn hyn drwy werthu gwin o’r Ariannin nol yng Nghymru a gweddill y DU. | The new school term started with much excitement, as three of the five brand new classrooms were ready for teaching, as well as the new school hall, doubling the size of the school! Work is still underway on the completion of the unfinished classrooms, but they should be ready soon. The new classrooms are the fruits of the labour of Trevelin Welsh Association, who have been busy selling plots of land to finance the building work. The school is also very grateful to our friends in Wales who’ve contributed over the years, and still continue to do so. One of our biggest benefactors from Wales are Cymdeithas Hoelion Wyth, who’ve so far raised more than £15,000 for the school by selling imported Argentine Malbec wine in Wales and the rest of the UK. |
Wedi llwyddiant gwin ‘Meibion y Mimosa’ y llynedd, bydd gwin arall ar gael i’w brynu yn fuan, sef gwin ‘Gwynt y Paith’. Bydd £2 o bob potel yn mynd tuag Ysgol y Cwm, ac mae cystadleuaeth yn cael ei gynnal i ddylunio clawr ar gyfer y gwin arbennig hwn. Mae’r holl fanylion ar gyfer y gystadleuaeth ar gael yma, felly os ydych chi’n gweld eich hun fel tipyn o arlunydd, rhowch gynnig arni! Mae ein gwefan hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth ar sut y gallech gyfrannu tuag at y gwaith adeiladu a thuag at gynnal a chadw’r ysgol o ddydd i ddydd. | Following the success of the ‘Meibion y Mimosa’ wine last year, another wine – ‘Gwynt y Paith’ - will shortly be available to buy. £2 from each bottle going towards the school, and a competition is being held to design a label for the bottle, so if you fancy yourself as a bit of an artist – or know anyone who does – get cracking! Details of the competition and prize can be found here. Our website also contains details of how you can help the school by donating towards the on-going building work and the day-to-day running of the school. |
Ar ddechrau’r tymor newydd daeth criw o athrawon newydd sbon i weithio gyda ni yn Ysgol y Cwm ac fe hoffwn ymestyn croeso cynnes i Gruff o Bwllheli, sydd wedi cymryd lle Athro Emyr eleni gyda’r Cyngor Prydeinig, ac hefyd i Sinead o Bontypridd, a fydd yn helpi drefnu digwyddiadau yn yr ysgol ac yn y gymuned, tan wyliau’r Gaeaf ym mis Gorffennaf. Croeso hefyd i Manon o Lanelli, a gyrhaeddodd yn ddiweddar i dreulio 3 mis yn gwirfoddoli yn yr ysgol. Mae’r ysgol hefyd wedi croesawu dwy ferch leol, sef Frances a Dana, a fydd yn gweithio fel cynorthwywyr iaith Gymraeg gyda’r ysgol. Mae’r ddwy ohonynt wedi bod yn dysgu Cymraeg gydag Ysgol Gymraeg yr Andes ers iddynt fod yn blant bach, ac maent bellach yn rhugl erbyn hyn. Byddent yn gweithio ar y cyd gyda gweddill y tîm dysgu Cymraeg yr ysgol, sef Gruff, Sinead, Nia, Jessica, Judith, Margarita, a Ximena. Croeso cynnes i bawb! | The new term brought with it a new group of teachers, and we would like to give a warm Trevelin welcome to Gruff from Pwllheli, who’s taken the place of Athro Emyr with the British Council this year, as well as to Sinead from Pontypridd, who’ll be helping to arrange activities and social events both here in the school in in the wider community, until the winter holiday in July. Welcome also to Manon from Llanelli, who’ll be spending three months volunteering at the school, as well as our two new Welsh language assistants, Frances and Dana. Both Frances and Dana started attending Ysgol Gymraeg yr Andes when they were in primary school, and by now both are fluent Welsh speakers. They will be working alongside the rest of the Welsh language teaching team at Ysgol y Cwm: Gruff, Sinead, Nia, Jessica, Margarita and Ximena. So, a warm welcome to everyone! |
Fel yr allwch ddychmygu, rydym wedi bod yn brysur iawn yma gyda gwahanol weithgareddau a digwyddiadau ers cychwyn y tymor newydd, gyda’r un cymysgedd lliwgar o ddiwylliannau Cymru a’r Ariannin! Nol ym mis Ebrill fe gynhaliwyd Parti Piws ar y cyd gydag ysgolion meithrin ledled Cymru, er mwyn dathlu pen-blwydd Dewin a’i gi ffyddlon Doti yn 10 oed. Cymeriadau’r Mudiad Ysgolion Meithrin ydi Dewin a Doti, ac mae’r ddau ohonynt yn boblogaidd iawn gyda phlant yr adran iau yn Ysgol y Cwm, a chafwyd diwrnod i’w gofio gyda phawb yn gwisgo piws! | As you can imagine, we’ve been very busy here with all sorts of activities and events since the beginning of term, with the same colourful mix of Welsh and Argentine cultures as always! In April we held a Parti Piws, alongside schools from all over Wales, to celebrate the 10th birthday of the Dewin and Doti, who are characters from the Mudiad Ysgolion Meithrin (Nursery School Movement). Both Dewin and his loyal dog Doti are very popular with the Ysgol y Cwm nursery children, and everyone had a fantastic time celebrating, dressed in purple! |
Cymeriad arall sydd yn hynod o boblogaidd yma yn Ysgol y Cwm yw Sali Mali, ac mae pawb yn edrych ymlaen yn arw at gael dathlu ei phen-blwydd yn 50 mis nesaf. Cadwch lygad allan am y lluniau ar ein tudalennau Facebook a Twitter! | Another popular character here at the school is Sali Mali, and everyone is looking forward to celebrating her 50th birthday next month. Keep an eye out for the pictures on our Facebook and Twitter pages! |
Mae plant blwyddyn tri wedi bod yn brysur yn ymarfer eu Cymraeg gydag ymwelwyr o Gymru drwy gydol y tymor newydd, ac wedi bod yn cymryd tyrnau i dywys unrhyw ymwelwyr o gwmpas yr ysgol – felly mae dyfodol tywyswyr twristiaid Trevelin mewn dwylo diogel! | The Year 3 children have been busy practicing their Welsh skills with visitors from Wales throughout the new term, taking turns to guide the visitors around the school – so the future of tourist guides in Trevelin is in safe hands! |
Roedd Eisteddfod Trevelin, a chafodd ei gynnal yn Ysgol y Rifleros unwaith eto eleni, yn llwyddiant enfawr unwaith yn rhagor. Yn ôl y traddodiad, cynhaliwyd diwrnod o gystadlu ar gyfer yr ysgolion ar y prynhawn Gwener, ac yn wir roedd gwledd o ddawnsio, canu ac adrodd, a oedd yn cynnwys criw cydadrodd Dosbarth 3 – Y chimangos - llawer o ddawnsio gwerin Gymreig ac Archentaidd, a hyd yn oed dawnsio llinell Americanaidd dan arweiniad un o rieni’r ysgol. Diolch o galon i bawb a gymerodd rhan. | The Trevelin Eisteddfod, held once again at the Rifleros’ School at the end of April, was a sweeping success for all involved. As is tradition, all the local schools competed on the Friday afternoon, and truly was a feast of song, dance and recital, which included the Year 3 cyd-adrodd (group recital) gang – The Chimangos – as well as lots of Welsh and Argentine folk dancing, and even an American Line Dancing ensemble, under the guidance of one of the school’s parents. |
Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn paratoi tuag at ddiwrnod Chwildro Mai, sy’n cael ei ddathlu’n flynyddol ar yr 25ain o Fai. Dyma’r dyddiad pan gychwynnodd yr Ariannin ar ei thaith i fod yn wlad annibynnol nol yn 1810. Bydd yr ysgol yn dathlu gyda seremoni arbennig yn y neuadd, gyda llond y lle o ddawnsio, canu a bwydydd traddodiadol, felly cadwch lygaid allan am y lluniau lliwgar yn y rhifyn nesaf! | Ysgol y Cwm is preparing to celebrate the May Revolution, which is celebrated annually on 25th of May. This is the date when Argentina started its march towards independence back in 1810. The school will celebrate with a feast of singing, dancing and traditional foods, so keep your eyes peeled for the photos in the next edition of the newsletter. |
Tan y tro nesaf felly! | Until the next time, then – hwyl fawr! |
Un o’n prif gymwynaswyr yw Cymdeithas Hoelion Wyth, sydd wedi casglu dros £15,000 hyd yn hyn drwy werthu gwin o’r Ariannin nol yng Nghymru a gweddill y DU
Un buen gesto de Dico Do | Tro Da Dico-Do |
Dico-do era un pollito negro con muy mala suerte. Siempre estaba metido en problemas. Ningún otro pollo podía jugar con él porque siempre hacía daño. Una vez fue a la laguna de los patos y casi se ahoga. Estuvo sentado al sol mucho rato esperando que sus plumas se sequen. | Cyw bach du oedd Dico-do a welsoch ´rioed un mwy anlwcus. ´Roedd mewn rhyw helbul byth a beunydd. ´Chai neb o´r cywion eraill chwarae ag o am ei fod yn gwneud rhyw ddrwg o hyd. Unwaith aeth at lyn yr hwyaid, a bu bron iawn iddo foddi. Bu yn eistedd yn hir yn yr haul yn aros i´w blu sychu. |
Se fue de paseo a ver a Pegi, el pony castaño. Pegi estaba comiendo de un balde. Dico saltó al fondo del balde y casi se lo come. | Aeth am dro i weld Pegi y poni brown. ´Roedd Pegi yn bwyta cinio o fwced. Neidiodd Dico i lawr i´r fwced a bu bron gael ei fwyta. |
Otras veces venía calladito a picar al gato cuando ésta dormía plácidamente. Luego corría a toda carrera a esconderse. | Dro arall byddai yn dod yn slei bach a phigo pwsi pan fyddai honno yn cysgu yn braf. Wedyn rhedai nerth ei draed i guddio. |
Tampoco Pero, el perro, era muy amigo del pollito negro. Dico venía con demasiada frecuencia a comer del plato de Pero. | ´Doedd Pero´r ci ychwaith, ddim yn ffrindiau mawr hefo´r cyw du. Doi Dico i fwyta o ddysgl Pero yn llawer rhy aml. |
Una mañana el perro corría al gato, ya que peleabana menudo, y el gato entró a la lechería seguido por Pero. | Un bore rhedai y ci ar ôl y gath, byddai´r ddau yn ffraeo o hyd, ac aeth pwsi i fewn i´r tŷ llaeth a Phero ar ei hôl. |
Allí estaba investigando Dico-do. Debido al susto, Minino encima de la jarra de leche la que se desparramó por todo el piso. Luego escapó y Pero lo siguió. Dico-do estaba parado a la puerta empapado. | Pwy oedd yno yn busnesa ond Dico-do. Yn ei braw neidiodd pws i ben jiwg yn llawn o laeth a cholli´r llefrith ar hyd y llawr. Yna rhuthrodd allan a Phero ar ei hôl. Wrth y drws safai Dico-do, yn wlyb swp. |
Pero lo miró. Tenía un aspecto lamentable, lamió la leche de sus plumas y el pollito se fue a un rincón abrigado a secarse. | Edrychodd Pero arno. ´Roedd golwg druenus ar y cyw bach du. Llyfodd Pero y llaeth i ffwrdd oddi ar ei blu ac aeth â´r cyw bach i gornel gynnes i sychu. |
Al día siguiente Pero se fue al bosque a perseguir un conejo y se divertió hasta que éste desapareció en un agujero. | ´Roedd Pero druan wedi colli´r ras a daeth adre yn ddigon diflas. Yn un peth ´roedd ei droed yn brifo, ac ´roedd yn raid iddo gerdded ar dair troed yn lle pedair. |
Pobre Pero había perdido la carrera y regresó de mal humor a casa. Por un lado le dolía la pata, y tenía que caminar con tres patas en vez de cuatro. Dico vió al perro acercarse lentamente y rengueando, debía estar atento por si Pero venía enojado, pero Pero no le prestó atención, él sólo miraba su pata. | Gwelodd Dico y ci yn dod tuag ato yn araf a chloff. ´Roedd yn raid iddo fod yn ofalus rhag ofn bod Pero yn flin, ond chymerodd Pero ddim sylw ohono, dim ond edrych ar ei droed. |
Dico se dio cuenta que el perro tenía algo en su pata y se arriesgó a acercarse. Estiró su pico y sacó una espina de la pata de Pero, y así se ganó un buen amigo de por vida. | Sylwodd Dico fod rhywbeth yn nhroed y ci a mentrodd yn nes. Estynnod ei big ymlaen a thynnu draenen o droed Pero, fel yr enillodd Dico-do ffrind da am weddill ei oes. |
As part of parallel.cymru publishing items from Patagonia, here is this summer’s news from Ysgol y Cwm in Trevelin…
Mae blwyddyn arall wedi dod i ben yma yn Ysgol y Cwm ac mae gwyliau’r haf wedi cyrraedd! Gyda bron i dri mis o wyliau, bydd cyfle i bawb wneud y mwyaf o’r tywydd braf gydag ymweliad i’r llyn neu i’r campo, i fwynhau asados blasus gyda ffrindiau a theulu. | Another school year has come to an end at Ysgol y Cwm and the summer holidays are well under way! With almost three months of summer holidays there will be ample opportunity to enjoy the fine weather with visits to the lake or the campo, to enjoy a tasty lamb asado with family and friends. |
Daeth y flwyddyn ysgol i derfyn gyda seremoni arbennig yn Neuadd y Dref ar gyfer graddedigion yr ysgol feithrin a fydd yn symud ymlaen i’w blwyddyn gyntaf yr Ysgol y Gynradd ym mis Mawrth. Fel rhan o’r dathliadau diwedd y flwyddyn, cynhaliwyd diwrnod arbennig gyda chyfle i’r plant ddangos eu doniau a’u talentau. Roedd yr ysgol dan ei sang gyda’r plant a’u teuluoedd, ac roedd yn ddiwrnod i’w gofio -felly llongyfarchiadau calonnog i bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol am flwyddyn wych arall! Ymlaen a 2019! | The school year finished with a special ceremony at the Town Hall for the nursery school graduates who will be starting their first years at Ysgol y Cwm primary school in March. As part of the end-of-year celebrations a special talent day was held, giving the children an opportunity for the children to show off their skills and talents. The school was filled to the brim with the children and their families and it was a day to remember -so a big llongyfarchiadau to everyone associated with the school on another fantastic year! Onwards with 2019! |
Pob blwyddyn, daw criw o 30 o blant yr Urdd draw i Batagonia am bythefnos, gan dreulio amser draw yn y Dyffryn ac yma yn yr Andes. Daeth y criw i ymweld ag Ysgol y Cwm nol ym mis Hydref, a chafwyd gwledd o ganu a dawnsio, ynghyd a thomen o hwyl a sbri wrth chwarae gemau a chwaraeon. Mae’r profiad o gael criw'r Urdd draw i Ysgol y Cwm wastad yn un gwerth chweil, ac yn gyfle gwych i’r ddau griw gwahanol o blant a phobl ifanc ddysgu mwy am eu gwahanol ddiwylliannau a chefndiroedd. | Every year a group of 30 young people visit Patagonia for two weeks with Urdd Gobaith Cymru, spending time both on the coast and here in the Andes. The group visited Ysgol y Cwm back in October and delighted the children with plenty of singing, dancing, games and sport. They also put on a wonderful concert at the Town Hall. Having the Urdd group come to Ysgol y Cwm is always a worthwhile experience , and a fantastic opportunity for both groups of children and young people to meet and learn about their respective cultures and backgrounds. |
Gyda thywydd braf tymor yr haf, roedd cyfle i’r plant fwynhau tripiau diwedd y flwyddyn i rai o’r atyniadau lleol. Ym mis Hydref, aeth criw o blant ar y trên bach, La Trochita, o Esquel i bentref brodorol Nahuel Pan, ble mae amgueddfa fechan, ynghyd a stondinau’n gwerthu tortas fritas a choripanes! | The fine weather brought an opportunity for the children to enjoy end-of-year trips to some local attractions. In October, a group visited the La Trochita steam train, which took them from Esquel to the nearby village of Nahuel Pan, where there is a small museum as well as stands selling choripanes and tortas fritas! |
Ac yn fwy diweddar ym mis Tachwedd ymwelodd blynyddoedd 1 a 2 a Pharc Cenedlaethol Los Alerces, ble cafodd y plant fwynhau picnic a gemau ar lannau Llyn Futalaufquen. Cafodd Blwyddyn 5 hefyd y profiad arbennig o fynd i wersylla yn fferm Margarita a Charli, tra bod Blynyddoedd 1 & 2 wedi mynd i wersylla yn y goedwig ar gyrion y dref! | And more recently in November, Years 1 and 2 visited Los Alerces National Park, where they enjoyed a picnic and games on the shores of Lago Futalaufquen. Year 5 also enjoyed the special experience of camping at Margarita and Charlie's farm, while Years 1 and 2 also went camping in the woods on the outskirts of town! |
Ar y 23ain o Dachwedd cawsom gyfle i ddalthu Dia del Musica - Diwrnod Cerddoriaeth – gyda chyngerdd arbennig yn Ysgol 37, sydd ar gyrion y dref. Daeth ysgolion y dref i gyd at eu gilydd i fwynhau cyngerdd gan yr athrawon cerdd, gan gynnwys ein athrawes ni, Maria. | On the 23rd of November we celebrated Dia del Musica – Music Day – with a special concert in School 37, on the outskirts of town. All the schoolchildren of the town came together to enjoy a concert led by the local music teachers, including Ysgol y Cwm’s own music teacher, Maria. |
Hoffai’r ysgol ddiolch i bawb a fynychodd y ffair wanwyn ac y ffair Nadolig eleni. Roedd llu o gynhyrchwyr lleol wedi gosod stondinau yn y ddwy ffair, gyda chynnyrch fel olew olewydd, jamiau a mel ar werthyn cael ei werthu ochr-yn-ochr a thegannau, dillad a phob mathau o nwyddau eraill. | The school would like to thank everyone who took part in both the spring fair and the Christmas fair this year, which were held to raise money for the school. Several local producers and artisans set up their stalls at both fairs, selling everything from olive oil and jams to toys and clothes. |
Y datblygiad mawr o ran yr adeilad newydd yw bod y wal sy’n gwahanu’r ddwy adran – y dosbarthiadau presennol a’r rhai Newydd - bellach wedi ei ddymchwel. Y camau nesaf fydd gosod y lloriau a’r nenfwd, ac fe fydd yr adeilad newydd yn barod – newyddion cyffrous iawn! Gellir gwylio fideo o’r wal yn cael ei ddymchwel fan hyn. | The big news regarding the ongoing building work is that the partition wall - which separated the current building and the brand-new classrooms and office - has now been demolished. The next steps will be to lay down the flooring tiles and to put the ceiling panels in place, and the new section will be ready – exciting news indeed! A video showing the partition wall being demolished can be viewed here. |
Gyda diwedd y flwyddyn daeth hi’n amser ffarwelio ag Emyr, a fu’n gweithio yn Ysgol y Cwm fel rhan o’i swydd gyda’r Cyngor Prydeinig. Hwyl fawr i ti Emyr a diolch am bopeth– ‘dyn ni’n edrych ymlaen at dy groesau nol rhywbryd! | The time came at the end of the term to farewell with our friend Emyr, who’d spent a year working at Ysgol y Cwm as part of his job with the British Council. Hasta luego Emyr and thank you for everything – we look forward to welcoming you back to Trevelin sometime! |
Rydym yn dal i chwilio am athro neu athrawes cynradd o Gymru ar gyfer 2019, felly os ydych chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod awydd her cysylltwch â ysgolycwm@hotmail.com! | We are still looking to recruit a teacher from Wales for 2019, so if you or someone you know would like to apply, email ysgolycwm@hotmail.com for more information. |
Os hoffech chi ein helpu i gyflogi athro neu athrawes drwy wneud cyfraniad tuag at gronfa’r ysgol, gallwch gysylltu gyda’r cyfeiriad e-bost uchod, neu ymweld â gwefan yr ysgol (www.ysgolycwm.com) am ragor o wybodaeth. | If you would like to help us employ a teacher for the coming year by making a contribution to the school fund, you can do so by contacting the above email address or by visiting our website (www.ysgolycwm.com). |
Bydd yr ysgol yn agor ei drysau yn barod am flwyddyn arall ym mis Mawrth – yn y cyfamser, Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd! | Ysgol y Cwm will re-open for a brand-new school year in March – in the meantime, Happy New Year to you all! |
Rydym yn dal i chwilio am athro neu athrawes cynradd o Gymru ar gyfer 2019, felly os ydych chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod awydd her cysylltwch â ysgolycwm@hotmail.com!
Mae’r erthygl hon wedi cael eu cyfrannu gan Gwion Elis-Williams o’r Ysgol y Cwm.
This article has been contributed by Gwion Elis-Williams of Ysgol y Cwm.
]]>
As part of parallel.cymru publishing items from Patagonia, here is this spring’s news from Ysgol y Cwm in Trevelin…
Las Golondrinas llegaron a Cwm Hyfryd de a cientos, los Narcisos y los Tulipanes comenzaron a florecer en los alrededores de Trevelin, si llego la primavera. | Mae’r gwenoliaid wedi cyrraedd Cwm Hyfryd yn eu cannoedd ac mae’r cennin Pedr a’r tiwlipau wedi dechrau blodeuo o gwmpas Trevelin – do, mae ‘r gwanwyn wedi cyrraedd! | The swallows are back in their hundreds in the skies above Cwm Hyfryd and the tulips and daffodils have started to bloom around Trevelin – yes, spring has sprung! |
El día conmemorativo del desembarco, que se festeja anualmente el 28 de julio que nos recuerda el desembarco de los primeros galeses en el año 1865 hace mucho tiempo ya. Festejamos en la capilla Bethel un día lleno de canto, danza y con la actuación especial de los niños interpretando “Nel Fach y Bwcs” que relata la historia de una niña que navego a la colonia en 1870. | Mae Gŵyl y Glaniad – sy’n cael ei ddathlu’n flynyddol ar yr 28ain o Orffennaf i gofio’r dyddiad pan laniodd y Cymry cyntaf ym Mhorth Madryn yn 1865 - bellach yn teimlo’n hir iawn yn nol. Buom yn dathlu yng Nghapel Bethel gyda llond diwrnod o ganu, dawnsio ac actio, gyda’r plant hyn yn rhoi perfformiad arbennig allan o’r llyfr ‘Nel Fach y Bwcs’, sy’n olrhain hanes merch ifanc a hwyliodd i’r Wladfa yn 1870. Da iawn bawb! | It seems like a long time since we celebrated Gŵyl y Glaniad (the Festival of Landing), the annual celebration when we remember the Welsh pioneers who landed in Porth Madryn on the 28th of July 1865. We celebrated the day in Capel Bethel with lots of singing and dancing, and the older children put on a performance based on the book ‘Nel Fach y Bwcs’, about a young girl who sailed to Patagonia in 1870. A big ‘da iawn’ to everyone involved! |
En el mes de septiembre festejamos el Dia del Maestro (15/9) y el Dia del Estudiante (21/9), como parte del festejo los niños mostraron sus dones especiales de actuación, con canto, danza, acrobacia, tocar instrumentos, trucos en bicicleta y de vez en cuando un poco de magia.¡ Todos disfrutaron mucho! | Ym mis Medi buom yn dathlu Diwrnod yr Athrawon (Medi 15fed) a Diwrnod y Myfyrwyr (Medi 21ain), ac fel rhan o’r dathliadau cafodd y plant i gyd gyfle i ddangos eu doniau mewn sioe arbennig – gyda chanu, dawnsio, acrobat, sgiliau beic, chwarae offerynnau a hyd yn oed ychydig bach o hud a lledrith! Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr iawn. | In September we celebrated both the Day of the Teacher (15th) and the Day of the Student (21st) and as part of the celebrations the children had the opportunity to show off their talents in a talent show - there was singing, dancing, biking skills, playing musical instruments, acrobatics and even a little bit of magic on show! |
El mes de septiembre es el Mes Nacional de Respeto a la Naturaleza, y algunos alumnos estuvieron ocupados plantando árboles alrededor de Trevelin, y otros visitaron el vivero. Durante el mes los alumnos aprenderán a cuidar el medioambiente – una lección muy importante. | Roedd mis Medi yn Fis Cenedlaethol Parchu Natur, a bu rhai o’r disgyblion yn brysur yn plannu coed a phlanhigion o gwmpas Trevelin, ac eraill yn ymweld â vivero, neu ganolfan arddio. Trwy gydol y mis bu’r plant yn dysgu am warchod a gofalu am yr amgylchedd – gwers bwysig iawn yn wir! | September was also National Respect for Nature and the Environment month, and as part of the month’s activities some of the children got to plant trees and plants around the town centre, whilst other got to visit a vivero (a Spanish word for a plant nursery). Throughout the month the children learnt the importance of caring for nature and the environment – a very important lesson indeed! |
A los niños de Ysgol y Cwm les encanta mostrar su talento, a principio de este año la escuela fue muy afortunada de recibir una caja llena de instrumentos de todo tipo, de parte de Patagonia Instrument Project, beneficencia galesa que recibe instrumentos musicales y los reparte a los grupos de jóvenes y escuelas en Patagonia. Ysgol Y Cwm agradece a Catrin Finch, a Christopher Stock y a todos los asociados del proyecto. | Mae plant Ysgol y Cwm yn hoff iawn o berfformio, ac yn gynharach eleni roedd yr ysgol yn ddigon ffodus i gael derbyn llond cist o offerynnau o bob math oddi wrth y Patagonia Instrument Project, elusen yng Nghymru sy'n darparu offerynnau cerddorol ar gyfer grwpiau ieuenctid ac ysgolion ym Mhatagonia. Hoffai Ysgol y Cwm ddiolch felly i’n ffrindiau Catrin Finch a Christopher Stock ac i bawb arall sydd ynghlwm a phrosiect yr offerynnau. | The children at Ysgol y Cwm love performing and earlier this year the school was fortunate enough to receive a chest full of all kinds of different instruments, courtesy of The Patagonia Instrument Project, a charity in Wales which provides musical instruments for youth groups and schools in Patagonia. Ysgol y Cwm would therefore like to thank our friends in Wales, Catrin Finch and Christopher Stock, as well as everyone else involved with the instrument project. |
Otra organización que nos dio su apoyo es Cymdeithas yr Hoelion Wyth, quien estuvo muy comprometida recaudando fondos para la escuela, a través de la venta de vinos Malbec argentino en Gales (Vinos Hijos del Mimosa). Recientemente nos visitó parte de la organización para reforzar la relación e inaugurar la placa que muestra el apoyo a la escuela. Gracias de corazón a la organización Cymdeithas Hoelion Wyth - Trevelin espera darles la bienvenida en un futuro. | Mudiad arall sydd wedi bod yn gefnogol iawn ohonom yma yn Ysgol y Cwm yw Cymdeithas Hoelion Wyth. Mae’r gymdeithas wedi bod yn brysur iawn yn codi arian i’r ysgol drwy werthu gwin Malbec Archentaidd yng Nghymru (Gwin Meibion y Mimosa). Yn ddiweddar iawn bu criw o’r gymdeithas yn ymweld â ni yn ysgol er mwyn atgyfnerthu’r berthynas, ac i ddadorchuddio plac i nodi eu cefnogaeth o’r ysgol. Diolch o galon i Gymdeithas yr Hoelion Wyth – dyn ni’n edrych ymlaen at gael eich croesawu nôl i Drevelin yn y dyfodol. | Another organisation which has been very supportive of Ysgol y Cwm is Cymdeithas yr Hoelion Wyth, who’ve been busy selling Argentine wine (Meibion y Mimosa), with proceeds going towards the school. A group from the association recently visited us here in Trevelin to strengthen the relationship and to unveil a plaque commemorating their support for the school – so a big thank you to all at Cymdeithas yr Hoelion Wyth, we look forward to welcoming you back to the school soon. |
Nos gustaría también agradecer a los asociados de la Iglesia St. Michael’s de Talyllychau, que estuvieron apoyando a la escuela continuamente desde que uno de sus miembros nos visitó en 2016. | Hoffem hefyd estyn gair o ddiolch i bawb sydd ynghlwm ag Eglwys St. Michael’s yn Nhalyllychau, sydd wedi bod yn cefnogi’r ysgol yn gyson ers i un o’i haelodau ymweld â ni nol yn 2016. Diolch yn fawr iawn! | We would also like to thank everyone at St. Michael’s Church, Talyllychau, which has been supporting the school since 2016, when a member of the congregation visited Ysgol y Cwm. Diolch yn fawr iawn! |
Ysgol y Cwm espera contratar un profesor/a de primaria del país de Gales para 2019, entonces si usted o uno de ustedes conoce a alguien que quiera un desafío, ¿Por qué no ofrecerle? Hay más en nuestro sitio web, o se puede mandar un correo electrónico a ysgolycwm@hotmail.com. Fecha de cierre - 22.10.18. | Mae Ysgol y Cwm yn gobeithio cyflogi athro neu athrawes cynradd o Gymru ar gyfer 2019, felly os ydych chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod awydd her, beth roi cynnig arni?! Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ysgolycwm@hotmail.com. Dyddiad cau – 22.10.2018. | Ysgol y Cwm are hoping to employ a new primary school teacher (male or female) for 2019. If you, or anyone you know, fancies a new challenge, why not give it a go?! More details are available from our website, or by emailing ysgolycwm@hotmail.com. Closing date – 22.10.18. |
Para permitirnos contratar a un maestro por un año, buscamos a 20 personas de Gales para que donen £25 al mes. Para cada colaborador de Gales, habrá alguien de Trevelin que concuerde con la donación. Habrá una oportunidad para que los pares emparejados se unan y correspondan, fortaleciendo así los vínculos entre Gales y Patagonia. Para obtener más detalles, puede visitar nuestro sitio web www.ysgolycwm.com o enviar un correo electrónico a la dirección anterior. | Er mwyn ein galluogi i gyflogi rhywun, rydym yn chwilio am 20 person o Gymru i roi £25 y mis. Ar gyfer pob cyfrannwr o Gymru, bydd un o Drevelin yn rhoi’r un swm, ac felly bydd 20 pâr o gyfranwyr. Bydd cyfle wedyn i’r parau sydd wedi eu gefeillio gyfathrebu, gan atgyfnerthu’r berthynas rhwng Cymru a’r Wladfa. Am ragor o fanylion, ewch i’n gwefan www.ysgolycwm.com, neu e-bostiwch y cyfeiriad uchod. | To enable us to employ a teacher for a year, we’re looking for 20 people from Wales to donate £25 a month. For each contributor from Wales, there will be someone from Trevelin matching the donation. There will be an opportunity for the matched pairs to liaise and correspond, thereby strengthening the links between Wales and Patagonia. For more details, you can visit our website www.ysgolycwm.com or email the above address. |
Recuerde que se puede mantenerse al día con las últimas noticias de Ysgol y Cwm a través de nuestras páginas de Facebook y Twitter, así como nuestro sitio web. ¡Hasta el próximo entonces - tan y tro nesaf - chau! | Cofiwch y gallwch ddilyn holl hanes Ysgol y Cwm drwy ein tudalennau Facebook, Twitter a’n gwefan. Tan y tro nesaf felly – chau! | Remember that you can keep up to date with all the latest news from Ysgol y Cwm through our Facebook and Twitter pages, as well as our website. Until next then – chau! |
Er mwyn ein galluogi i gyflogi rhywun, rydym yn chwilio am 20 person o Gymru i roi £25 y mis. Ar gyfer pob cyfrannwr o Gymru, bydd un o Drevelin yn rhoi’r un swm, ac felly bydd 20 pâr o gyfranwyr.
Mae’r erthygl hon wedi cael eu cyfrannu gan Gwion Elis-Williams o’r Ysgol y Cwm.
This article has been contributed by Gwion Elis-Williams of Ysgol y Cwm.
]]>
As part of parallel.cymru publishing items from Patagonia, here is this summer’s news from Ysgol y Cwm in Trevelin, including building work, the Trevelin eisteddfod and a new arrival…
Las vacaciones de invierno llegaron después de otra temporada ocupada en Ysgol Y Cwm, con dos semanas de vacaciones para recargar las pilas y relajarse con un poco de sky y cabalgatas en las lomas de los alrededores de Cwm Hyfryd. | Mae gwyliau’r gaeaf wedi cyrraedd ar ôl tymor prysur arall yn Ysgol y Cwm, gyda phythefnos o wyliau i ymadfer ac ymlacio gydag ychydig o sgïo neu farchogaeth yn y bryniau o’n cwmpas ni fan hyn yng Nghwm Hyfryd. | The winter holidays are upon us after another busy term at Ysgol y Cwm, bringing with them a chance to recharge the batteries, perhaps with a little skiing or horse riding in the snowy hills around Cwm Hyfryd! |
Celebramos el Eisteddfod de Trevelin nuevamente en abril en la escuela de los Rifleros, y fue muy exitoso para Ysgol Y Cwm. Los niños compitieron en varias categorías, como por ejemplo: solistas en canto, canto coral, dúos, recitaciones, bandas de música, danza tradicional galesa, así como dibujo, pintura, diseño, no hay suficiente lugar para los certificados! | Cynhaliwyd eisteddfod Trevelin eleni nôl ym mis Ebrill yn Ysgol y Rifleros, ac roedd o’n un llwyddiannus dros ben i Ysgol y Cwm. Bu’r plant yn cystadlu mewn sawl categori, gan gynnwys canu unigol, canu mewn côr, parti deulais, adrodd, grŵp offerynnol a dawnsio gwerin, ynghyd a dylunio, paentio, arlunio a llenyddiaeth – mae prin digon o le i arddangos yr holl dystysgrifau! | The Trevelin eisteddfod was held back in April in the Rifleros’ School, and it was a particularly successful one for Ysgol y Cwm. The children competed in several categories, including singing solo, in a duet and in a choir, reciting poetry, instrumental groups, folk dancing, as well as drawing, painting and literature. There is hardly enough space on the classroom walls to display all the certificates! |
Todos los años el 29 de abril celebramos el día del animal en Argentina. Este año vino un amiguito peludo a saludarnos en la escuela – Pepito el perro, vino con su dueño, María la veterinaria, para enseñarles a los chicos como deberían cuidar a sus mascotas. | Bob blwyddyn, ar y 29ain o Ebrill, rydym yn dathlu Diwrnod yr Anifail yn yr Ariannin. Eleni, daeth ymwelydd bach blewog i ddweud helo wrthym yma yn yr Ysgol – Pepito y ci, a ddaeth gyda’i berchennog, Maria y milfeddyg, i ddysgu’r disgyblion am sut i ofalu am anifeiliaid anwes. | Each year, on the 29th of April, Argentina celebrates its Day of the Animal. This year, Ysgol y Cwm welcomed a very special and very furry little visitor – Pepito the dog, who came along to teach us a little about taking care of our pets, along with his owner, Maria the vet. |
También festejamos otras fechas importantes para la historia argentina durante el otoño, por ejemplo, la Revolución de Mayo, cuando Argentina comenzó su viaje a la independencia en 1810, también el Dia de la Independencia el 9 de julio, también el Dia de la Bandera 20 de julio recordando a Manuel Belgrano, su creador. Para los que participan en las fechas, dichos eventos son inolvidables. Fue muy divertido con actuaciones de danzas y cantos. | Buon ni hefyd yn dathlu llu o ddiwrnodau pwysig eraill yn hanes yr Ariannin yn ystod tymor yr hydref, gan gynnwys Diwrnod Chwyldro Mai (25ain o Fai) pan gychwynnodd yr Ariannin ar ei thaith tuag at annibyniaeth yn 1810, a Diwrnod Annibyniaeth (9fed o Orffennaf), pan gyhoeddwyd annibyniaeth o Sbaen yn 1816. Buon ni hefyd yn dathlu Diwrnod y Faner ar yr 20fed o Fehefin, i gofio am greawdwr y faner, Manuel Belgrano. Mae’r achlysuron hyn wastad yn ddiwrnodau i’w cofio ac eleni cawsom hwyl anferthol gyda pherfformiadau a llawer o ganu a dawnsio! | We also celebrated several other important days in Argentina’s history during the autumn, including May Revolution (25th of May), when Argentina began its path to independence in 1810; Independence Day (9th of July), when Argentina declared itself independent from Spain in 1816; and Flag Day (20th of June) in memory of Manuel Belgrano, creator of the Argentine flag. These events are always fun and memorable occasions at Ysgol y Cwm, with lots of singing, dancing and performances by the staff and the children! |
Por supuesto que lo especial de la escuela es que los niños también aprenden de la cultura y tradiciones galesas, además de las argentinas. Disfrutaron de la triste historia de la Princesa Gwenllïan, la fecha cuando se recuerda a esta princesa es el 12 junio. Las maestras hicieron una gran actuación y los niños se vistieron con trajes de la época. | Wrth gwrs, beth sydd yn arbennig am Ysgol y Cwm yw bod y plant i gyd yn cael dysgu am holl hanes, draddodiadau ac arferion Cymru, yn ogystal â rhai’r Ariannin. Roedd y plant wedi ymgolli’n llwyr yn stori’r dywysoges Gwenllïan ar Ddiwrnod Gwenllïan ar y 12fed o Fehefin. Roedd yr athrawon wedi rhoi perfformiad bendigedig, a’r plant i gyd wedi gwisgo mewn dillad o’r cyfnod! | Of course, what makes Ysgol y Cwm so special is that the children get to learn all about Wales’ history and traditions, as well as those of Argentina. The children were captivated by the story of Princess Gwenllian when we celebrated Diwrnod Gwenllian on the 12th of June – the teachers put on a show to remember, and the children all came dressed in medieval costumes! |
Luego de escuchar el mensaje de paz del Urdd en mayo, Ysgol Y Cwm tuvo la idea de filmar su propio mensaje de paz. Este video, y otros acompañados de algunas fotos se podrán encontrar en la página principal de Ysgol Y Cwm. | Yn dilyn Neges Heddwch yr Urdd eleni, a gyhoeddwyd nôl ym mis Mai, fe ffilmiodd y disgyblion eu neges fach eu hunain – mae’r fideo, ynghyd a llawer o fideos a lluniau eraill o’r disgyblion – i’w weld ar dudalen Facebook yr ysgol. | Following the Urdd’s Neges Heddwch (Message of Peace) broadcast back in May of this year, the pupils put together their own little video message – this, along with several other short videos and photos – can be viewed on our Facebook page. |
A la escuela le gustaría dar las gracias a todos aquellos y aquellas que colaboraron, con la recaudación de dinero para la afinación del piano, especialmente a Dwyryd Williams, Susan Alison Adams, John y Ireen Evans, que han estado muy ocupados en juntar dinero haciendo eventos y/o actividades a beneficio. El piano esta como nuevo y lo usamos todos los días. | Hoffai’r ysgol ddiolch i bawb a gyfrannodd at gronfa piano’r Ysgol, yn enwedig Dwyryd Williams, Susan Alison Adams a John ac Ireen Evans, sydd wedi bod yn weithgar iawn yn casglu arian i’r gronfa gyda gwahanol achlysuron a gweithgareddau. Mae’r piano nawr fel newydd, ac yn cael ei ddefnyddio’n ddyddiol! | The school would like to thank all of those involved with raising money for the school piano fund, especially Dwyryd Williams, Susan Alison Adams and John and Ireen Evans, who have been busy organising events and activities for the benefit of the school. The piano is now up and running, is as good as new and is played on a daily basis! |
Las construcciones van muy lentas por el frio del invierno, el techo fue colocado en la parte nueva de la escuela y la escuela parece gigante, las ventanas también fueron colocadas, en un futuro cercano se logrará empezar a terminar de construir las aulas. Además de las construcciones de la parte nueva de la escuela, ya fueron colocados los baños y duchas de la parte presente. El trabajo que llevamos a cabo depende del dinero de las donaciones de nuestros amigos en gales; por ello les damos las gracias desde nuestros corazones para todos los que contactaron y contribuyeron con esta causa. Si usted desea ayudar con nuestra escuela, los detalles podrá encontrarlos en la web (http://ysgolycwm.com/rhoi---donar---donate.html). | Er bod y gwaith adeiladau wedi arafu ychydig dros y gaeaf, mae’r to bellach wedi cael ei osod ar yr adeilad newydd, ac mae’r ysgol yn edrych yn anferth! Mae’r ffenestri hefyd wedi eu gosod, a chyn hir bydd y gwaith yn cychwyn ar gwblhau’r dosbarthiadau. Yn ogystal â’r adeilad newydd, mae toiledau a chawodydd wedi cael eu gosod yn yr ysgol bresennol. Mae’r gwaith adeiladu yma’n ddibynnol ar godi arian, ac mae rhoddion gan ein cyfeillion o Gymru yn hanfodol – felly diolch o galon unwaith yn rhagor i bawb sydd wedi cysylltu a chyfrannu. Os hoffech chi ein cynorthwyo, ceir manylion ar sut i wneud ar ein gwefan (http://ysgolycwm.com/rhoi---donar---donate.html). | Though the building work on the school has slowed a little over the winter months, a roof has now been placed on the new building and the school looks enormous! The windows have also been put in place, and all that remains is to finish off the interior of the classrooms and the headteacher’s office. The school toilets and showers have also been completed in the current building. All of this work is dependent of fundraising, and donations from our friends in Wales and beyond are essential – so a heartfelt thank you to everyone who’s been in touch and donated. For more information on how you can help Ysgol y Cwm, please visit our website (http://ysgolycwm.com/rhoi---donar---donate.html). |
Algunas personas de nuestro personal se tomaron un tiempo fuera de la escuela en este momento. La directora del nivel inicial Erica, se encuentra en una estadía de seis meses en gales para estudiar el idioma y la cultura galesa, ella está teniendo un tiempo maravilloso. Su esposo Alejandro está viajando alrededor de gales cantando, vayan a verlos si tienen la oportunidad. En el Eisteddfod Nacional de gales que se encuentra en Caerdydd, encontrarán el estan de Cymdeithas Cymru- Ariannin donde podrán aprender más sobre la escuela y la Patagonia. | Mae ambell i aelod o staff yn cael amser i ffwrdd o’r Ysgol ar hyn y bryd. Mae prifathrawes yr ysgol gynradd, Erica, yn treulio 6 mis yng Nghymru yn ymdrochi yn ei hiaith a’i diwylliant, ac yn cael amser gwerth chweil! Mae ei gwr, Alejandro, yn teithio o gwmpas Cymru’n canu – ewch i’w weld os cewch gyfle! Bydd cyfle hefyd i ddysgu mwy am Ysgol y Cwm, a phopeth i’w wneud a’r Wladfa, yn stondin Cymdeithas Cymru-Ariannin drwy gydol yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni. | The school is currently without two members of staff. Erica, head of the kindergarten, is currently spending 6 months in Wales, immersing in the culture and the language, and having a wonderful time! Her husband, the singer-songwriter Alejandro Jones, is touring Wales with his guitar – definitely worth a listen if he’s in your area! You can also learn more about Ysgol y Cwm, and y Wladfa in general, by visiting Cymdeithas Cymru- Ariannin’s stand at the National Eisteddfod in Cardiff during the first week of August. |
Otra de las personas que se encuentra fuera en este momento es la profesora Nia que se encuentra en maternidad, luego del nacimiento de Celyn Mai. Felicitaciones y le damos la bienvenida a Celyn. | Un arall sydd wedi cymryd amser i ffwrdd yw Seño Nia, sydd ar gyfnod mamolaeth yn dilyn genedigaeth Celyn Mai – llongyfarchiadau mawr iawn, a chroeso i Celyn fach! | Another one taking time off is Seño Nia, who is currently on maternity leave having just given birth to Celyn Mai – hearty congratulations and welcome little Celyn! |
Esperamos que vuelvan pronto a la escuela. | Dyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r ddwy ohonoch nôl cyn bo hir. | We look forward to welcoming Nia and Erica back soon. |
Estas son las noticias más recientes de Ysgol Y Cwm. Acuérdense de seguirnos en: Facebook, Twitter y en nuestra página principal www.ysgolycwm.com para ver todas las noticias recientes. Nos veremos otra vez en tres meses luego del verano. | A dyna’r diweddaraf o Ysgol y Cwm. Cofiwch ddilyn ein tudalen Facebook, Twitter a’n gwefan, www.ysgolycwm.com am yr holl newyddion diweddaf, ac fe welwn ni chi eto ymhen rhyw 3 mis, pan fydd yr haf yr y ffordd! | And that’s the latest from Ysgol y Cwm! Remember, you can keep updated by following us on Facebook, Twitter and on our website, www.ysgolycwm.com. See you in three months, by which time summer will be on the way for us here in Patagonia! |
|
|
|
|
Beth sydd yn arbennig am Ysgol y Cwm yw bod y plant i gyd yn cael dysgu am holl hanes, draddodiadau ac arferion Cymru, yn ogystal â rhai’r Ariannin.
Mae’r erthygl hon wedi cael eu cyfrannu gan Gwion Elis-Williams o’r Ysgol y Cwm.
This article has been contributed by Gwion Elis-Williams of Ysgol y Cwm.
Caeth y cyfieithiad Sbaeneg eu creu gan Hevin Green a Dianne Green o’r Ysgol Gymraeg yr Andes.
The Spanish translation was created by Hevin Green and Dianne Green of Ysgol Gymraeg yr Andes.
Eisteddfods are held throughout Welsh-speaking comunities all around the world, and one of the longest-running and well-contested is that of Trevelin in Patagonia. Here Gwion of Ysgol y Cwm talks us through some of its competitions and traditions, and winning translation work by Alwen Green is presented.
Trevelin is a town in the Welsh settlement of Chubut of Patagonia; its name derives from the Welsh for ‘flour mill’.
Cynhaliwyd Eisteddfod Trevelin – neu Eisteddfod Bro Hydref fel y mae hefyd yn cael ei hadnabod – am y tro cyntaf yn 1922, ond oherwydd amryw o resymau, ni ddechreuwyd dathlu’r ŵyl yn flynyddol tan 1977, pan ddaeth grŵp o ffrindiau a chymdogion at ei gilydd gyda’r bwriad o’i atgyfodi. Pwyllgor yr Eisteddfod a Chymdeithas Gymreig Bro Hydref sy’n trefnu’r ŵyl, a llynedd bu’r Eisteddfod yn dathlu 40 o flynyddoedd ers ail-sefydlu’r ŵyl fel dathliad blynyddol. | The Trevelin Eisteddfod – or the October Regional Eisteddfod as it is also known – was held for the first time in 1922, but for a variety of reasons, the festival did not begin to be celebrated annually until 1977, when a group of friends and neighbours came together with the aim of reviving it. The festival is organised by the Eisteddfod Council and the October Regional Welsh Society, and last year the Eisteddfod celebrated its fortieth anniversary since being re-established as an annual event. |
Eleni, cynhaliwyd yr ŵyl ar yr 27ain a 28ain o Ebrill, yn neuadd newydd Ysgol 57, sef Ysgol y Rifleros. Dyma’r tro cyntaf iddi gael ei chynnal yma. Dros y blynyddoedd mae’r Eisteddfod wedi cael ei chynnal mewn sawl safle gwahanol o gwmpas Trevelin, gan gynnwys Neuadd Derfel Roberts (Neuadd y Dref), ac yn Neuadd Chwaraeon Clwb Fontana. Y gobaith yn y pendraw yw cael cartref parhaol i’r Eisteddfod mewn neuadd sydd eto i’w hadeiladu, yn Ysgol y Cwm, sef yr Ysgol Gymraeg newydd a agorwyd ei drysau yn 2016. | This year the festival was being held on the 27th and 28th of April, in a new hall in School 57, the Rifleros School. This is the first time it has been held here. In the course of the years the Eisteddfod has been held in many different places around Trevelin, including Derfel Roberts Hall (the Town Hall), and in the Fontana Sports Club Hall. The hope is that in the long run the Eisteddfod will get a permanent home in a new hall that is still to be built, in Ysgol y Cwm, that is, the new Welsh School which opened its doors in 2016. |
Yn draddodiadol, mae’r Eisteddfod wedi ei rhannu dros ddau ddiwrnod, gyda’r ysgolion meithrin a chynradd yn cystadlu ar y dydd Gwener, a’r ysgolion uwchradd a’r oedolion yn cystadlu ar y Sadwrn. | Traditionally, the Eisteddfod has been held over two days, with schools for primary age children being held on the Friday and schools for secondary age children and adults being held on the Saturday. |
Fel Eisteddfodau eraill Y Wladfa, mae Eisteddfod Trevelin yn plethu diwylliannau Cymru a’r Ariannin, ac mae’r Gymraeg yn rhannu llwyfan gyda Sbaeneg fel prif ieithoedd y cystadlu. Eleni, bu 138 o wahanol gystadlaethau, gan gynnwys adrodd a barddoni yn y ddwy iaith, canu, coginio, ffotograffiaeth a dawnsio. | As with Patagonia’s other Eisteddfods, the Trevelin Eisteddofd interweaves the cultures of Wales and Argentina, and Welsh shares the stage with Spanish as the main languages of the competition. This year, there were 138 different competitions, including recitation and the composing of poetry in the two languages, singing, cooking, photography and dancing |
Ynghyd â dawnsio gwerin draddodiadol Gymreig, mae cystadlaethau hefyd ar gael ar gyfer dawnsiau traddodiadol o’r Ariannin, fel y Tango neu’r Chamamé. Yn union fel Eisteddfodau yng Nghymru, mae seremoni coroni a seremoni cadeirio i’w cael, gyda’r gadair yn cael ei rhoi i’r bardd gorau yn y Gymraeg, a’r goron i’r bardd gorau yn yr iaith Sbaeneg. | Along with traditional Welsh folk dancing there are also competitions for traditional Argentinan dances, such as the Tango or Chamamé. Just as with Eisteddfods in Wales, crowning and chairing ceremonies are held, with the chair being given to the best poet in the Welsh language and the crown to the best poet in the Spanish. |
Mae’r gystadleuaeth cyfieithu yn un sy’n codi’r cythraul cystadlu bob blwyddyn. Mae wedi ei rhannu rhwng dysgwyr a siaradwyr lefel uwch, a chaiff ymgeiswyr gyfieithu o’r Sbaeneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Sbaeneg. Mae’r darnau sydd i’w cyfieithu yn cael eu dethol o wahanol ffynonellau, p’un ai’n nofel, yn waith ffeithiol neu’n llyfryn addysgiadol. Y bwriad yw herio’r ymgeiswyr gydag iaith a all fod yn ddieithr neu’n neilltuol, megis tafodiaith neu iaith dechnegol. | The translation competition is one that is contested particularly fiercely each year. It is divided into learners and higher level speakers, and the competitors translate from Spanish into Welsh or from Welsh into Spanish. The pieces to be translated are chosen from a variety of sources, whether it be from a novel, a factual work or an educational text. The aim is to challenge the competitors with language that may be exotic or unfamiliar, such as dialect or technical language. |
Un sydd wedi cael peth llwyddiant yn y gystadleuaeth dros y blynyddoedd yw Alwen Green o Drevelin. Magwyd Alwen ar aelwyd Gymraeg ac mae hi’n gystadleuydd brwd yn Eisteddfodau’r Wladfa, yn mwynhau adrodd a chydadrodd, ynghyd a chystadlu yn yr adran lenyddol. | Someone who has had a good deal of success in the competition over the years is Alwen Green of Trevelin. Alwen was brought up in a Welsh-speaking home and is a keen competitor in the Wladfa Eisteddfods, enjoying both individual and group recitation as well as taking part in the literary section. |
Eleni, daeth Alwen yn ail am gyfieithu darn allan o’r nofel ‘Stormydd Cariad’ gan Ann Rhys i’r Sbaeneg, ac hefyd yn gadradd ail (gyda Cristina Jones o Esquel) am gyfieithu darn o’r llyfryn addysgiadol ‘Chubut, Para Naturaleza’ i’r Gymraeg. Dyma’r ddau ddarn a gyfieithwyd gan Alwen. English versions created by David Sutton. | This year, Alwen came second for translating an extract from the novel ‘Stormydd Cariad’ (Love’s Tempests) by Ann Rhys into Spanish and also came second (with Cristina Jones of Esquel) for translating an extract from the educational booklet ‘Chubut, Para Naturaleza) into Welsh. Here are the two pieces translated by Alwen. Fersiynau Saesneg wedi'u creu gan David Sutton. |
Fel Eisteddfodau eraill Y Wladfa, mae Eisteddfod Trevelin yn plethu diwylliannau Cymru a’r Ariannin, ac mae’r Gymraeg yn rhannu llwyfan gyda Sbaeneg fel prif ieithoedd y cystadlu.
Un bore, tua phythefnos yn ddiweddarach, pan oedd Harri ar ei ffordd i lawr i´r traeth gwelodd Julie Dannington yn brysio i gyfeiriad siop y pentref. | Una mañana, casi dos semanas más tarde, cuando Harri bajaba a la playa vió a Julie Dannington apresurarse al negocio del pueblo. | One morning, almost a fortnight later, Harry was on his way down to the beach when he saw Julie Dannington hurrying in the direction of the village shop. |
Ew, roedd hi´n ddel, bron yn ddigon del iddo anghofio popeth am Margied. Roedd o´n teimlo´n sicr, rywsut, na fyddai hon yn ceisio´i gadw rhag mynd allan ar y môr. Roedd hi´n treulio cymaint o´i hamser ar y traeth ac yn nofio yn y môr. | Mmmm, era hermosa, casi tan bella como para olvidarse por completo de Margied. Se sentía casi seguro que ella no lo detendría de salir al mar. | Oh, but she was pretty, amost pretty enough to make him forget all about Marged. Somehow he felt sure that she would not try to stop him going out to sea. |
Mae´n siŵr y byddai hi´n fwy na pharod i ddod allan am dro yn y Cadwaladr. Roedd Harri ar dân eisiau mynd i siarad â hi, ond byddai´n rhaid iddo fod yn ofalus. Doedd arno fo ddim eisiau i Margied ddod i glywed ei fod o a Julie yn ffrindiau. Penderfynodd ei dilyn hi i lawr i siop y pentref. | Ella se pasaba tanto tiempo en la playa y nadando en el mar. Seguramente estaría más que contenta de salir a dar una vuelta en Cadwaladr. Harri estaba desesperado por hablarle pero tendría que andar con cuidado. No quería que Margied se enterara de su amistad con Julie. Decidió seguirla hasta el negocio del pueblo. | She spent so much of her time on the beach and swimming in the sea. She would surely be more than ready to come out for a trip in the Cadwaladr. Harry was desperate to talk to her but he would have to be careful. He did not want Marged finding out that he and Julie were friends. He decided to follow her down to the village shop. |
Erbyn i Harri gyrraedd y siop, roedd Julie a Karen yn sgwrsio´n brysur. Trodd Harri ei gefn ar y ddwy gan gymryd arno ei fod yn edrych ar y cylchgronau ar silff wrth y drws. | Para cuando llegó al lugar, Julie y Karen hablaban animosamente. Harri les dio la espalada a las dos demostrando interés por las revistas que estaban sobre un estante al lado de la puerta. | By the time Harry reached the shop, Julie and Karen were having a lively conversation. Harry turned his back on the pair, pretending to be looking at the magazines on the shelf by the door. |
Clywodd Julie´n dweud ei bod hi am fynd i´r traeth y prynhawn hwnnw, a gwenodd. Roedd o mor brysur yn ceisio penderfynu beth roedd o am ddweud wrth Julie fel na sylwodd fod Karen wedi gofyn cwestiwn iddo. | Sonrió cuando escuchó a Julie decir que iría a la playa esa tarde. Estaba tan ocupado pensando qué le diría a Julie que no notó que Karen le había hecho una pregunta. | He heard Julie say that she would be going to the beach that afternoon, and smiled. He was so busy trying to decide what he was going to say to Julie that he did not notice that Karen had asked him a question. |
Las tradiciones mapuches: "Camaruco o Nguillatún"(Pag.79 El tiempo y el espacio. Camaruco o Nguillatún. Chubut Pura Naturaleza 4° grado Educación Primaria) | Traducción al galés: | Traditions of the Mapuches: Camaruco or Nguillatún |
Camaruco o Nguillatún: es la máxima ceremonia religiosa y popular de los mapuches. Se practica desde tiempos remotos y generalmente tiene una duración de tres o cuatro días. Está presidida por el jefe camaruquero, cuyo cargo es hereditario. Reunidos en un espacio circular mirando hacia el este, en una zona próxima a algún mallín, se arman los toldos. | Camaruco neu Nguillatún: yw seremoni crefyddol mwyaf pwysig y mapuches sydd yn digwydd ers amser maith yn ôl, ac fel rheol mae’n para am 3 neu 4 diwrnod. Y pennaeth sy’n cyflwyno, a mae hyn yn mynd o dâd y fab. Maent yn adeiladu eu tentiau yn gylch ac yn edrych tua´r dwyrain yn ymyl ffynnon neu ar dir corsiog. | The Mapuches’ most important religious ceremony is Camaruco or Nguillatún: it has been taking place since time immemorial and generally last for three or four days. It is presided over by the Camaruco chieftain, a title handed down from father to son. Tents are erected in a circle, looking towards the east, beside a spring or at the edge of marshy ground. |
La forma de realización de los camarucos cambia según las comunidades donde se realizan, variando la cantidad de pihuinchenes y los sacrificios, como así también la cantidad de vueltas e integrantes, aunque en todas las ceremonias el número par es importante. | Defnyddir wahanol maint o pihuichens a nifer yr anifeiliad a aberthir gan phob cymuned, a hefyd nifer yr aelodau a'r cylchau ond mae y rhif pâr yn bwysig. | The form of the ceremony differs according to the community in which it is held, with variations in the number of ‘pihuinchenes’ and the sacrifices, as well as in the number of participants and tent circles, although in all the ceremonies an even number is important. |
Generalmente, en el centro, los cuatro jóvenes pihuichen, dos varones y dos mujeres, montados en briosos caballos, bailan y guían a los asistentes, mientras ejecutan los instrumentos musicales. El altar o rehue es el lugar sagrado donde se pide a Futachao o Nguenechén por buen tiempo, buena hacienda, buena salud y larga vida. | Fel arfer, mae pedwar pihuichen ifanc, dwy ferch a dau fachgen, ar gefn ceffylau egniol, yn dawnsio ac yn arwain y seremoni tra yn chware offerynnau cerddorol. | Generally there are four young ‘pihuinchenes’, that is, two boys and two girls, mounted on spirited horses, who dance and lead the cermeony while playing musical instruments. |
Allí flamean la bandera argentina y la mapuche-tehuelche. Las rogativas son pronunciadas por ancianos prestigiosos al mismo tiempo que ofrecen la sangre y el corazón de los corderos recién sacrificados. En tanto, la concurrencia los acompaña con aclamaciones y bailes. | Y rehue neu allor yw’r lle cysegredig , ble gofynent i Futachao neu Gnuenechén am dywydd brâf, cynnyrch da, iechyd da a bywyd hir. Gweler faner yr Ariannin a faner y Mapuche-Tehuelche yn chwifio. Y Pennaeth breintiedig sy’n gwneud y ceisiadau tra yn offrymu gwaed a chalonnau yr wyn newydd eu lladd. A´r crowd yn bloeddio a dawnsio. | The consecrated place is the ‘rehue’ or altar, where the deity Futachao or Nguenechén is asked for fine weather, good crops, good health and long life. The flag of Argentina and the flag of the Mapuche-Tehuelche are on display. It is the appointed chieftain who makes the requests, while offering the blood and hearts of newly-killed lambs. And the crowd shout and dance. |
El culto reitera el número cuatro, considerado como número sagrado: formados de a cuatro dan cuatro vueltas a caballo alrededor de los toldos girando en círculos, dando cuatro gritos, en cuatro carreras rectas hacia la salida del sol. | Mae’r tyrfa yn ail ddweud y rhif pedwar, sy’n cael ei ystyried yn rhif cysegredig: mae pedwar ffurf pedwar, pedwar tro ar gefn ceffyl o gwmpas y toldos neu´r tentiau mewn cylch, yn bloeddio pedair gwaith, a phedair ras am gyfeiriad yr haul. | The crowd repeat the number four, which is considered to be the sacred number: there are then four turns round the circle of tents, shouting four times, and four races in the direction of the sun. |
El Nguillatún generalmente finaliza con la reconciliación e iniciación de nuevas amistades. En la actualidad, la bandera creada por Julio Antieco, está presente en las rogativas. | Daw’r Nguillatún i derfyn gyda chydnabyddiaeth a dechre ffrindiau newydd. Erbyn hyn, mae faner Julio Antieco yn bresennol yn y ceisiadau. | Nguillatún comes to an end with reconciliation and the start of new friendships. At this point, the Mapuche flag created by Julio Antieco is included in the requests. |
![]() Dawnswyr gwerin bach Ysgol y Cwm yn cystadlu yn yr Eisteddfod eleni. Iago, Aixa, Ambar ac Ailen o Ysgol Gymraeg yr Andes wedi eu llwyddiant yn Eisteddfod Trevelin. | ![]() |
As part of a new series of items from Patagonia, here is this summer’s news from Ysgol y Cwm in Trevelin, including new teachers and a new piano…
Annwyl Ffrindiau, Mae hi’n flwyddyn ysgol newydd sbon yma yn Ysgol y Cwm ac, fel arfer, mae llond buarth o newyddion! Daeth 2017 i derfyn gyda seremoni graddio’r ysgol yn Neuadd y Dref, gyda disgyblion yr ysgol feithrin yn symud ymlaen i’r ysgol gynradd yma yn Ysgol y Cwm. Ynghyd a’r wynebau cyfarwydd sydd wedi dod yn ôl eleni wrth iddynt barhau ar eu taith gydag Ysgol y Cwm, mae 30 o ddisgyblion newydd sbon wedi ymuno a ni, sy’n golygu bod 80 o ddisgyblion bellach yn mynychu’r ysgol. | Dear Friends, It’s a brand-new school year for us here at Ysgol y Cwm and, as usual, there is lots of news to share! We waved farewell to 2017 with a graduation ceremony at Salon Central, the Town Hall, where the kindergarten pupils graduated to the first year of primary school at Ysgol y Cwm. Along with the many familiar faces who’ve returned to continue their journey with Ysgol y Cwm, there are many fresh faces – 30 to be exact, bringing the total of pupils at Ysgol y Cwm to 80. We keep on growing! |
Mae yno wynebau newydd i’w gweld ymhlith y staff hefyd, ac rydym eisoes wedi ymestyn croeso cynnes i Emyr Evans o Fancffosfelen, ac i Judith Elis o Drevelin. Bydd Emyr yn gweithio yn Ysgol y Cwm eleni fel rhan o’i swydd gyda’r Cyngor Prydeinig, tra bod Judith yn mynd i fod yn gweithio yn y boreau gyda Blwyddyn 1. Croeso cynnes i’r ddau! | There are also new faces to be seen amongst the staff, with the addition of Emyr Evans from Bancffosfelen and Judith Elis, from Trevelin. Emyr will be working with us this year as part of his role working for the British Council. He will also be teaching adults, as well as helping to organise social events. Judith will be working during the mornings with the primary school children. A big welcome to both! |
Fel y gwyddoch, bu’r ysgol yn chwilio am athro neu athrawes arall o Gymru i ymuno gyda ni yn 2018, a’r newyddion da ydy bod Nia Jones am aros gyda’r ysgol am drydedd flwyddyn. Bu Nia yn swyddog gyda’r Cyngor Prydeinig yn dysgu Cymraeg yma yn yr Andes am ddwy flynedd, ac mae pawb yn hapus ei bod wedi dod yn ôl i weithio yn Ysgol y Cwm! | As you know, Ysgol y Cwm had been hoping to employ a teacher from Wales for 2018 and had been fundraising to this end. The good news is that Nia Jones will be staying on for another year to work at Ysgol y Cwm, having spent the previous two years working for the British Council teaching Welsh in Esquel and Trevelin. We are all very happy that Nia has come back to work at Ysgol y Cwm! |
Bu’r adeiladwyr yn gweithio’n galed iawn dros y gwyliau haf i godi’r adeilad newydd sydd y tu ôl i’r ysgol bresennol. Er bod cryn dipyn o waith i’w wneud eto cyn y bydd wedi ei gwblhau, mae’n adeilad sylweddol sydd bron yn dyblu maint yr ysgol. Yn y pendraw, bydd yr adeilad yn gartref i’r ysgol gynradd, gyda dosbarthiadau helaeth a swyddfa newydd i’r brifathrawes. Bydd yno hefyd ddigon o le i’r plant gael chwarae dan do, pan nad yw’r tywydd yn caniatáu mynd allan i chwarae. | The builders have been working tirelessly throughout the summer holidays on the new building, which stands behind the current school. Although there is still a considerable amount of work left to do, the structure has begun to take shape and has doubled the size of the school. The new building will eventually house the primary school, with spacious classrooms and an office for the headteacher. There will also be ample room for the children to play on rainy days. |
Mae Trevelin ar ei gorau dros y gwanwyn a’r haf, ac fe groesawyd nifer o ymwelwyr o Gymru. Mae’r ysgol yn atyniad difyr i’r Cymry sy’n mentro draw dros yr Iwerydd, ac rydym ni wrth ein boddau’n rhoi croeso a rhannu hanes yr ysgol gyda phwy bynnag sydd am ddod i ymweld – cysylltwch dros e-bost neu ein tudalen Facebook os ydych chi am alw heibio i ddweud helo! | Trevelin is at its glorious best in spring and summer, attracting visitors from Wales and elsewhere. The school is an interesting attraction for our friends from Wales, and we love being able to share our amazing story with whoever wants to come along to say hello. If you are planning a visit to Trevelin and would like to pop by to see us here at Ysgol y Cwm, feel free to get in touch through our e-mail address or Facebook page! |
Rhoddwyd piano i’r ysgol dros y gwyliau haf yn anrheg gan deulu Lidia a Victor Williams o Drevelin - diolch yn fawr iawn i deulu Williams am eu haelioni! Bydd y piano’n ganolbwynt gwych ar gyfer cyngherddau’r ysgol, a bydd hefyd yn hynod ddefnyddiol o ddydd i ddydd – yn enwedig gan fod Emyr yr athro newydd yn bianydd o fri! Mae’r piano mewn angen o ychydig o waith cynnal a chadw cyn y bydd yn barod i ddiddanu pawb yma yn Ysgol y Cwm, ac felly rydym wedi sefydlu cronfa fach i dalu am y gwaith o’i adfer a’i diwnio, sy’n dod at $ARG18,000 (£630). Os hoffech chi gyfrannu at Gronfa Piano Ysgol y Cwm, ewch at ein gwefan ysgolycwm.com, ble ceir manylion cyfrif banc yr ysgol (gan roi ‘Cronfa Piano’r Ysgol fel cyfeirnod). | A piano was generously donated to the school over the summer, courtesy of Lidia and Victor Williams and family – so a huge ‘diolch yn fawr’ to them for their generosity! The piano will provide a fantastic focal point for future school concerts, and it will also be of great use on a day-to-day basis, as Emyr the new teacher loves to strike a tune! The piano will have to undergo some maintenance and tuning before it can make its debut, and so we have set up a small fund to raise ARG$18,000 (£630) to cover the costs. If you would like to contribute to Ysgol y Cwm’s Piano Fund, please visit our website ysgolycwm.com, where you’ll find details of the school’s bank account (please note the reference as ‘School Piano Fund’). |
Ynghyd a chronfa ar gyfer y piano, rydym hefyd yn dibynnu ar ein ffrindiau o Gymru am gefnogaeth yn yr hir dymor. Mae’n parhau i fod yn hynod bwysig i ni yma yn Ysgol y Cwm, er mwyn cynnal yr ysgol o ddydd-i-ddydd, a hefyd cynllunio ar gyfer y dyfodol. Fe hoffai’r ysgol ddiolch unwaith eto i bawb sydd yn neu sydd wedi cyfrannu yn barod. Mae ffurflen archeb banc misol ar ein gwefan os hoffech chi gyfrannu fel hyn. | Along with our fund for the piano, the school is also dependent on our friends in Wales and the rest of the UK for long-term support. This support continues to be of the utmost importance to us here at Ysgol y Cwm, both as a way of securing the day-to-day running of the school and to help us plan for the future. The school would again like to thank all of those who have contributed and who continue to do so for their support. Diolch yn fawr iawn! If you are interested in supporting the school on a long-term basis, there is a downloadable standing order form on our website. |
Ni fu seibiant o’r ymdrechion codi arian yma yn Nhrevelin dros gyfnod y Nadolig, gyda sgons a jam blasus Margarita yn helpu i gyfrannu tuag at gyflogau’r athrawon dros y gwyliau haf. Gwerthwyd sawl Sdormi (masgot swyddogol Ysgol y Cwm) hefyd! | Fundraising here in Trevelin continued over the Christmas period, with Margarita’s tasty scones and jam helping to raise a contribution to the teachers’ wages over the holidays. Several cuddly toys of Stormi, the official school mascot, were also sold! |
Mae Eisteddfod Trevelin yn prysur agosáu (Ebrill 27 a 28) ac mae Marilyn a Maria'r athrawesau cerdd wedi bod yn brysur yn ymarfer canu ‘Bwrw Glaw yn Sobor Iawn’ ac ‘Y Siani Flewog’ gyda’r plant, tra bod yr athrawon dosbarth wedi bod yn mynd dros ‘Dau Gi Bach’ ac ‘Ar Lan y Môr’ ar gyfer yr adrodd. Bydd y paent a’r pensiliau lliw hefyd yn cael eu cymryd allan o’r cwpwrdd – felly pob lwc i bawb sy’n cystadlu! | The Trevelin Eisteddfod is fast approaching (April 27 & 28) and Marilyn and Maria the music teachers have been busy practicing singing ‘Bwrw Glaw yn Sobor Iawn’ and ‘Y Siani Flewog’ with the children, who’ve also been busy learning to recite ‘Dau Gi Bach’ and ‘Ar Lan y Môr’. The coloured pencils and the paint pots have also been taken out of the cupboard – so good luck to everyone who’s taking part! |
Cewch holl hanes yr Eisteddfod – a mwy! – yn y rhifyn nesaf, pan fydd gaeaf oer Patagonia wedi ein cyrraedd! Tan bryd hynny felly – hwyl fawr ac hasta luego! | You’ll hear all about the Eisteddfod – and more! – in our next newsletter, by which time it’ll be midwinter here in Patagonia. Hasta luego a tan y tro nesaf! |
Cofion cynnes oddi wrth bawb yn Ysgol y Cwm. | Warm regards from everyone in Ysgol y Cwm. |
|
|
|
|
Mae’r erthygl hon wedi cael eu cyfrannu gan Gwion Elis-Williams o’r Ysgol y Cwm.
This article has been contributed by Gwion Elis-Williams of Ysgol y Cwm.
Ysgol y Cwm is a new bilingual Welsh-Spanish school in the Andes, Patagonia. Here is what they have been doing over the spring term…
Mae’r tywydd yn poethi ac mae Sion Corn ar ei ffordd, a chyn hir bydd y gwyliau haf wedi cyrraedd gan ddod a terfyn i dymor arall yn Ysgol y Cwm. Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur ond hefyd yn un llwyddiannus iawn, gyda´r plant yn ffynnu wrth iddynt gymryd rhan mewn seremonïau, digwyddiadau ac eisteddfodau di-ri. Rydym yn edrych ymlaen yn barod at y tymor nesaf ym mis Mawrth 2018, pan fyddwn yn croesawu rhagor o ddisgyblion – bydd hyn yn golygu y bydd dros 90 o blant yn mynychu Ysgol y Cwm. | The weather is warming and it’s almost the summer holidays, which means that Father Christmas is coming, along with the end of another term. It’s been a busy but successful year for the school and it’s been wonderful seeing the children flourish over the year as they participated in a variety of ceremonies, events and eisteddfodau. We’re already looking forward to the start of the new term in March 2018, by which time the school will have more than 90 pupils. |
Croesawom y gwanwyn nol ym mis Medi gyda ffiesta lliwgar ym Mhlasa Fontana yng nghanol y dref, gyda´r plant yn dod at ei gilydd gydag ysgolion eraill i baentio blodau lliwgar ar y strydoedd o gwmpas y sgwâr. Wedi gaeaf hir, oer, roedd pawb yn edrych ymlaen at gael mynd ar y tripiau ysgol. Cawsom gyfle i ymweld â fferm bysgod Nant Fach ar gyrion Trevelin, ac roedd cael gweld sut yr oedd y brithyll yn cael eu magu yn brofiad newydd sbon i ddisgyblion blwyddyn 1. | The start of spring was welcomed with a colourful fiesta, when the children of Ysgol y Cwm got together with other schools to decorate Trevelin’s central plaza with giant paintings of wildflowers. After a long, cold, winter everyone was looking forward to spring and, in particular, the return of school trips. The first trip of the spring was a day out at the Nant Fach fish farm on the outskirts of Trevelin, and it didn’t disappoint - the children of Year 1 were enthralled to see the various stages of trout farming! |
Gyda Medi’n dod i ben cawsom ymweliad gan ein ffrindiau o Goleg Camwy draw yn y Gaiman. Daw criw o Goleg Camwy draw i’r Andes bob blwyddyn, ac eleni fe gawsom sioe bypedau ganddynt- Y Tri Mochyn Bach. Roedd y sioe yn wych, ac roedd y plant a’r athrawon wrth eu boddau- bu llawer iawn o weiddi a chwerthin! Wedi’r sioe bypedau, fe berfformiodd y criw ddawns werin Gymreig, ynghyd a dawns y Chacarera. | Towards the end of September we received a visit from our friends in Coleg Camwy, Gaiman. Every year, the college arranges a trip over to the Andes and this year they treated us to a puppet show- The Three Little Pigs. It was a fantastic show, with children and teachers alike roaring with laughter! After the puppet show, the college performed a Welsh Dawns Werin, as well as a traditional Chacarera dance. |
Ar Hydref y 12fed bûm yn dathlu Diwrnod Amrywiaeth Diwylliannol. Roedd y plant wedi dod ag eitemau mewn i’w harddangos fel rhan o’r dathliadau - roedd y rhain yn cynnwys het sombrero o Fecsico, Cilt lliwgar o’r Alban, blanced frodorol o’r Ariannin ynghyd a gwisg draddodiadol Gymreig. Cafodd y plant hefyd gyfle ddysgu pob mathau o ganeuon o wledydd eraill, fel De Affrica a Siapan, gyda Maria, yr athrawes gerdd. | On the 12th of October we celebrated Cultural Diversity Day. The children had brought in various items from different cultures all over the world, including a Mexican sombrero, a Scottish kilt, as well as an indigenous Argentine blanket and, of course, a traditional Welsh dress. There was also an opportunity to sing songs from other countries, such as Japan and South Africa, with the music teacher, Maria. |
Bu rhagor o ganu yn ystod ymweliad criw'r Urdd. Mae criw o bobl ifanc yn dod draw o Gymru gyda’r Urdd bob blwyddyn, ac fe fuon nhw draw yn Ysol y Cwm yn ein diddanu gyda straeon a chaneuon. Roedd y criw hefyd wedi dod a llawer iawn o lyfrau, defnyddiau ysgrifennu a theganau gyda hwy, ac roedd un ohonynt, sef Elen Haf Roach, hefyd wedi llwyddo i godi £200 i’r ysgol, felly diolch yn fawr iawn i griw'r Urdd! Bu’r criw hefyd yn ymweld â’r dyffryn, ble buont yn cymryd rhan yn Eisteddfod y Wladfa. | There was more singing at the school during this year’s Urdd visit. Each year a group of young people come to Patagonia with the Urdd Organisation, to visit the Welsh communities. During their time at Ysgol y Cwm, they entertained the children with songs and stories. They had also brought with them a heap of books, stationery and toys, and one of the group, Elen Haf Roach, had succeeded in raising £200 for the school, so a big ‘diolch yn fawr iawn’ to the Urdd gang! The group also visited Gaiman and Trelew, where they took part in the Chubut Eisteddfod. |
Roedd yr Eisteddfod arbennig iawn i un o athrawon yr ysgol, sef Jessica Jones, am ei bod wedi ennill medel Dysgwr y Flwyddyn 2017. Rhoddwyd y wobr eleni fel rhan o ddathliadau 20 mlynedd o’r Cynllun Dysgu Cymraeg yn y Wladfa, ac roedd canmoliaeth fawr i Jessica am ei holl waith gydag Ysgol Gymraeg yr Andes, y criw dawnsio gwerin ac Ysgol y Cwm dros y blynyddoedd. Llongyfarchiadau Jessica! Yn 2018 bydd y Cynllun yn croesawu athro newydd i’r Andes, sef Emyr Evans – mae pawb yn Ysgol y Cwm yn edrych ymlaen at ei groesawu! | The Eisteddfod was particularly special for one of Ysgol y Cwm’s teachers, Jessica Jones, who was awarded the Welsh Learner of the Year Medal. This year’s prize was awarded as part of the celebrations of the 20th anniversary of the Welsh Language Project in Patagonia. Jessica was praised for all of her hard work with Ysgol Gymraeg yr Andes, the Dawnsio Gwerin group as well as Ysgol y Cwm. Llongyfarchiadau Jessica! In 2018 the Project will welcome a new teacher to the Andes, Emyr Evans. Everyone at Ysgol y Cwm is looking forward to working with him! |
Dechreuodd mis Tachwedd gydag ymweliad gan yr artist tecstiliau Cefyn Burgess, a ddaeth gyda offer arlunio i’r plant yn anrheg – diolch Cefyn! Ar y 10fed o Dachwedd bûm yn dathlu Diwrnod y Traddodiadau. Roedd yn ddiwrnod bendigedig, gyda chyfle i’r plant a’r rhieni fwynhau eu hunain gydag adloniant a digwyddiadau awyr-agored Archentaidd, ar fferm Margarita a Charlie. Cafodd y plant hefyd gyfle i wneud ffrindiau a phlant o ysgolion eraill mewn diwrnod chwaraeon yn ysgol y Parc Cenedlaethol. Da ydi’r haf! Yn fwy diweddar bu’r Ysgol hefyd yn cymryd rhan yn yr orymdaith i ddathlu pen-blwydd y dref. | November began with a visit from the textile artist, Cefyn Burgess, who brought a gift of painting materials for the children – diolch Cefyn! On the 10th we celebrated the Day of the Traditions, with a day out for the teachers, the children and their families at the farm of Margarita and Charlie. It was a wonderful day, giving the children and their parents an opportunity to enjoy themselves on Margarita and Charlie’s farm with entertainments and Argentinian outdoor activities. Later on the children also had the opportunity to make friends with children from other schools in a sports day held at the National Park school. At the end of November we also took part in the parade to celebrate Trevelin’s birthday. |
Mae’r gwaith o adeiladu’r dosbarthiadau newydd wedi dod yn ei flaen dros y misoedd diwethaf. Nol ym mis Hydref fe osodwyd y sylfaen goncrit, ac erbyn hyn mae´r waliau allanol a’r stafelloedd mewnol i gyd wedi eu hadeiladu, a chyn hir, fe fydd yn amser codi’r to. Y gobaith ydy cael y dosbarthiadau newydd yn barod erbyn i’r tymor newydd gychwyn ym mis Mawrth 2018, ac ar hyn bryd mae pethe’n edrych yn gadarnhaol. | The building work on the new classrooms has continued steadily over the past few months. The concrete foundation was laid in October, and by now the external walls as well as the internal classroom walls have been erected, and before long it will be time to put the roof up. The hope is that the new classrooms will be ready by the start of the new term in March 2018, and as of now things are looking positive |
Fel arfer, mae’r ysgol wedi bod yn brysur yn ceisio codi arian er mwyn sicrhau bod cyflogau’n cael eu talu, a bod popeth yn rhedeg yn llyfn! Dros y misoedd diwethaf, cynhaliwyd dwy ffair ddillad, arwerthiant canelonis, arwerthiant cyw iâr a salad, a digwyddiad mate bingo. Mae’r ysgol hefyd wedi croesawu masgot newydd sydd ar gael i’w brynu fel swfenîr yn yr ysgol, ac wedi meddwl yn ofalus fe benderfynodd y plant ar yr enw Sdormi. Felly croeso Sdormi! Trwy gydol y flwyddyn rydym wedi llwyddo i godi dros ARG$80,000 (£4000), arian sy’n hanfodol i’n galluogi i barhau i weithredu. Ar ben yr arian hyn, mae’r ysgol yr un mor ddibynnol ag erioed ar y rhoddion sy’n dod gan ein ffrindiau acw yng Nghymru, ac rydym yn ddiolchgar dros ben i bawb sydd yn cyfrannu. | As per usual, Ysgol y Cwm has been busy with its continual fundraising efforts, in order to make sure that wages are paid, and that the school runs as smoothly as possible! Over the past few months, the school has held two clothes fairs, a cannelloni sale, two chicken and salad stands at different events, as well as a mate bingo event. We also have a new mascot, which can be bought as a souvenir from the school. After careful deliberation, the children decided on Sdormi as a name. So, welcome Sdormi! Over the course of the year the school has managed to raise over ARG$80,000 (£4000), essential funds which keep the school going from day-to-day. On top of this, we also receive donations from our friends in Wales- we are as dependent as ever on this income, and we are extremely grateful to all of those who contribute. |
Gyda’r Nadolig ar y ffordd, cofiwch y gallwch hefyd helpu Ysgol y Cwm drwy brynu ein llyfr coginio Amser Coginio – A Cocinar!. Mae ar gael mewn siopau lyfrau ac o wefan atebol.com. Mae Siop y Pethe yn Aberystwyth hefyd yn gwerthu copïau o ‘Cyflafan yn Nyffryn y Merthyron’, sydd hefyd yn codi arian i’r ysgol. | With Christmas around the corner, remember that you can also help Ysgol y Cwm by buying a copy of our cookbook, Amser Coginio – A Cocinar!, which is available from atebol.com, as well as from Welsh language bookshops. Siop y Pethe in Aberystwyth also sell copies of ‘Massacre in the Valley of the Martyrs’, the proceeds of which go the school. |
Y cwbl sydd yn weddill felly yw dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd! Cofiwch ddilyn ein tudalen Facebook, Twitter ac ein gwefan am yr holl newyddion diweddaraf. Tan y tro nesaf- hwyl fawr! | All that remains is to wish you all a very Merry Christmas and a Happy New Year! Remember that you can follow our Facebook page, Twitter and gwefan for the latest news. Until next time- goodbye! |
Mae’r erthygl hon wedi cael eu cyfrannu gan Gwion Elis-Williams o’r Ysgol y Cwm.
This article has been contributed by Gwion Elis-Williams of Ysgol y Cwm.