Business News Wales logo parallel.cymru

Business News Wales: Colofn Ddwyieithog / Bilingual Column

Yn Diweddariadau gan sefydliadau allweddol yng Nghymru/Ffurfiol

Fel busnes cyhoeddi Cymreig annibynnol, mae tîm Newyddion Busnes Cymru wedi dosbarthu dros 40,000 o holl straeon B2B y DU er 2012, i gyd ym marchnadoedd technoleg, adnoddau dynol a recriwtio. Mae Newyddion Busnes Cymru yn darparu llais i holl fusnesau Cymru, heb unrhyw safbwytiau gwleidyddol neu agenda olygyddol. Mewn colofn fisol newydd, cyflwynir rhai o’n heitemau mwyaf poblogaidd yn dwyieithog ar parallel.cymru.

As an independent Welsh publishing business, the team behind Business News Wales have distributed over 40,000 of the UK’s top B2B news stories since 2012, all within the technology, human resources and recruitment markets. Business News Wales provides a voice for all Welsh businesses, without political views or an editorial agenda. In a new monthly column, some of our most popular items are presented bilingually on parallel.cymru.

Dyfodol y Gymraeg ‘mewn Dwylo Da’ / The Future of Welsh is ‘in Good Hands’

Mae dyfodol yr iaith Gymraeg mewn dwylo da, mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, wedi dweud.The future of the Welsh language is in good hands, Minister for Welsh Language and Lifelong Learning Eluned Morgan has said.
Roedd y Gweinidog yn ymateb i ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18, a gyhoeddwyd heddiw. Dengys yr Arolwg bod mwy o bobl 16-24 oed yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg neu eu bod yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg nag unrhyw grŵp oedran arall.The Minister was responding to the results of National Survey for Wales 2017-18, published recently, which show that more 16-24 year olds say they can speak Welsh or have some Welsh speaking ability than any other age group.
Y Cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell wybodaeth ar gyfer y gyfran o bobl sy’n medru’r Gymraeg, ond defnyddir yr Arolwg Cenedlaethol i gadw llygad ar dueddiadau ymhlith oedolion rhwng pob Cyfrifiad. Mae’n holi cwestiynau am agweddau at yr iaith, hyder pobl yn ei defnyddio a gallu pobl i’w defnyddio.While the Census is the main source of information about the proportion of people who can speak Welsh the National Survey is used to monitor trends for adults between censuses and asks questions about confidence and attitudes towards the language as well as ability.
Roedd y Gweinidog yn croesawu’r ffaith bod 62% o’r bobl nad oeddent yn medru siarad Cymraeg yn dweud y byddent yn hoffi gallu ei siarad, a bod 85% o’r bobl oedd â pheth Cymraeg eisiau gallu ei siarad yn well.The Minister also welcomed the fact that that 62% of those who couldn’t speak Welsh would like to be able to speak it, and 85% of those with some ability in Welsh wanted to speak it better.
Dywedodd: “Mae’r Gymraeg yn eiddo i ni i gyd, y rhai ohonom sy’n rhugl ynddi, yn gallu ymdopi, y rhai sy’n dechrau dysgu’r iaith a’r rhai sydd ond yn gallu dweud “Iechyd Da” wrth fwynhau diod ar hyn o bryd. Mae’n newyddion gwych bod cymaint o bobl yn dymuno dysgu’r Gymraeg neu wella’u gallu yn y Gymraeg. Mae’n newyddion gwell fyth bod yr help sydd ei angen arnoch i wneud hynny ar gael i chi.She said: “The Welsh language belongs to all of us, whether we’re fluent speakers, can just get by, are starting to learn or can manage a “Iechyd Da” with a drink. It’s great news that so many people would like to learn or improve their Welsh and it’s even better news that the help you need is out there.
“O ran dysgu a gwella, mae yna rywbeth at ddant pawb, boed hynny yn gwrs ar-lein, sesiwn flasu, cwrs Clwb Cwtsh lle mae modd i chi ddysgu gyda’ch plant neu’ch wyrion, cyrsiau seiliedig ar waith neu’n gyrsiau sy’n arwain at gymwysterau ffurfiol. Mae cymaint o ffyrdd gwahanol i ddysgu ac rwyf am annog unrhyw un o’r 62% neu’r 85% yma i fynd ati i ddod o hyd i’r cwrs sy’n gweddu iddyn nhw ac i roi cynnig arni.”“When it comes to learning or improving, there is something for everybody, whether that’s an online course, a taster session, a Clwb Cwtsh course where you can learn alongside your children or grandchildren, work based courses or courses that lead to formal qualifications. There are so many different ways to learn and I would encourage anyone in that 62% or 85% to find the right course for them and to give Welsh a go.”
Nid yw’n syndod, mae’n siŵr, mai'r rhai sy'n gallu siarad Cymraeg yn rhugl a'r rhai sy'n defnyddio'r iaith yn ddyddiol yw'r rhai mwyaf hyderus yn ei siarad, tra bod y rhai sy'n llai rhugl neu nad ydynt yn siarad Cymraeg mor aml yn fwy tebygol o ddioddef diffyg hyder ac ofni cael eu barnu wrth siarad.The survey also revealed that, unsurprisingly, those who can speak Welsh fluently and those who use the language daily are the most confident when speaking, while those who are less fluent or who don’t speak Welsh as often are most likely to lack confidence as the main barrier to speaking the language.
Ychwanegodd y Gweinidog: “Mae’n rhaid defnyddio’r iaith yn gyson er mwyn ei dysgu, gwella a magu hyder. Rwyf am annog pawb sydd ag ychydig Gymraeg i’w defnyddio bob dydd er mwyn meithrin eu sgiliau a’u hyder. Mae gan y siaradwyr rhugl waith i’w wneud yn hyn o beth, boed hynny yn anffurfiol drwy annog ffrindiau sy’n ddysgwyr i ddefnyddio’u Cymraeg, neu trwy wirfoddoli gyda’r cynllun ‘Siarad’, sydd yn paru siaradwyr rhugl a dysgwyr am o leiaf 10 awr o sgwrsio dros beint neu goffi.The Minister added: “When it comes to languages, using them regularly is key to learning, improving and feeling confident so I would urge all those who have some Welsh to use the language every day to build their skills and confidence. Fluent Welsh speakers can also play their part, either informally by encouraging learners they know to use their Welsh or by volunteering for the ‘Siarad’ scheme, which pairs fluent speakers and learners for a minimum 10 hours of chatting over a coffee or a pint.
“Gyda chymaint o gyfleoedd i oedolion ddysgu, a'r iaith ar ei chryfaf ymhlith pobl ifanc 16-24 oed, mae dyfodol yr iaith mewn dwylo diogel.”“With so many opportunities for adults to learn and the language being strongest amongst 16-24 year olds, the future of the language is in good hands.”

Cerddoriaeth Gymraeg yn Derbyn Cymorth gan y Llywodraeth / Welsh Language Music Receives Government Aid

Mae gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo digidol newydd i wneud cerddoriaeth Gymraeg yn fwy amlwg ledled y byd wedi’i sefydlu ac wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.A new digital distribution and promotion service set up to raise the profile of Welsh language music around the world has received financial support from the Welsh Government.
Mae PYST Cyfyngedig wedi derbyn cyllid i helpu datblygiad angenrheidiol ei wasanaeth dosbarthu digidol. Hwn yw’r gwasanaeth cyntaf o’i fath i gael ei leoli yng Nghymru, sy’n gallu addasu sut mae’n gweithredu, yn enwedig ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.Funding has been awarded to PYST Cyfyngedig to aid the much needed growth of its digital distribution service, the first of its kind to be based in Wales and able to tailor services specifically for the Welsh Language music industry.
Bydd y gefnogaeth ariannol hefyd yn darpau gwasanaeth fydd yn gallu gyrru hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg trwy sianelau priodol a phoblogaidd i gynyddu ymwybyddiaeth a nifer y ffrydiau.The financial backing will also allow for a bespoke service that will be able to drive the promotion of Welsh language music through appropriate and popular channels to increase awareness and number of streams.
Yn ogystal, bydd yr arian yn creu rôl newydd, sef asiant bwcio cyntaf Cymru. Bydd y rôl yma’n llenwi bwlch o ran cynrychioli artistiaid i sicrhau mwy o gigiau o gwmpas y wlad a thu hwnt. Gobeithio y bydd y rôl yn sefydlu cylchdaith yng Nghymru ac yn annog cynnydd yn nifer yr hyrwyddwyr a lleoliadau yng Nghymru.In addition the money will create the role of the first ever booking agent for Wales. This role will fill a gap in representing artists to secure more gigs around the country and beyond. It is hoped the role can trigger the creation of a Welsh touring circuit and encourage growth in the number of promoters and venues in Wales.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas:Minister for Culture Tourism and Sport, Lord Elis-Thomas, said:
“Mae’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn tyfu’n gyflym, ac mae’n bwysig ein bod ni, fel Llywodraeth yn ymateb ac yn ceisio hybu hynny. “The Welsh music scene is growing quickly and it’s important that we as a Government react and seek to foster that.
“Gyda’r bartneriaeth yma rydyn ni’n cymryd camau i sicrhau bod cerddoriaeth Gymraeg ar gael yn hawdd, ac wedi’i hyrwyddo’n effeithiol, ar bob llwyfan digidol. Dyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn cynyddu poblogrwydd ac ymwybyddiaeth o artistiaid Cymraeg eu hiaith.“With this partnership we are taking steps to ensure Welsh language music is easily accessible and promoted well on all digital platforms. We hope this move will increase the awareness and popularity of Welsh language artists.
“Mae’r seiliau ar gyfer diwydiant cerddoriaeth llewyrchus yn eu lle, ac mae’n fraint fawr i allu annog hynny mewn unrhyw ffordd bosib.”“The foundations for a thriving music industry are in place and it’s a real privilege to be able to encourage that in any way possible.”
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan:Minister for Welsh Language and Lifelong Learning, Eluned Morgan, said:
“Mae Dydd Miwsig Cymru wedi dangos bod ‘na ddiddordeb mewn, a brwdfrydedd dros, gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru, yn y DU ac yn fyd eang. Ffordd ddelfrydol o gyflwyno pobl i’r iaith mewn sefyllfa gymdeithasol yw cerddoriaeth, ac o ddangos bod y Gymraeg yn iaith sy’n fyw ac yn ffynnu.“Dydd Miwsig Cymru has shown that there is interest in and an enthusiasm for Welsh language music in Wales, the UK and internationally. Music is an ideal way to introduce people to the language in a social setting and to show that Welsh is a language that is alive and thriving.
“Dw i wrth fy modd y bydd PYST yn ychwanegu at lwyddiant Dydd Miwsig Cymru ac yn gwneud i gerddoriaeth Gymraeg fod yn fwy hygyrch drwy gydol y flwyddyn. Bydd ein hymdrechion hefyd yn helpu i gyflawni’r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.“I am delighted that PYST will build on the success of Dydd Miwsig Cymru and make Welsh language music more accessible all year round. Our efforts here will also help to fulfill the target of reaching a million Welsh speakers by 2050.”
Dywedodd Alun Llwyd, cyd-Sylfaenydd PYST:Co-founder of PYST, Alun Llwyd, said:
“Ein nod yw i greu strwythur sy’n adlewyrchu bywiogrwydd ac egni’r sîn gerddoriaeth Gymraeg ac sy’n creu llwybr i ddatblygu twf fel bod labeli ac artistiaid nid yn unig yn sicrhau mwy o lwyddiant, ond hefyd yn lluosogi mewn niferoedd yn y dyfodol.”“Our aim is to create a structure that reflects the vibrancy and energy of the Welsh language music scene and carves a route to develop growth so that labels and artists not only achieve greater success but multiply in numbers for the future.
“Yn dilyn y gwaith cychwynnol a wnaethpwyd gan PYST, mae 2018 wedi geld cerddoriaeth Gymraeg yn pasio miliwn o ffrydiau ar ddarparwyr gwasanaeth digidol, sy’n enfawr i iaith leiafrifol – a bydd labeli Cymraeg yn gallu manteisio ar y llwyddiant cychwynnol hwnnw ar raddfa genedlaethol.”“Following the initial work undertaken by PYST, 2018 has seen Welsh language music pass a million streams on digital service providers which is huge for a minority language – and Welsh labels will now be able to exploit that initial success on a national scale.”
Dywedodd Gruffydd Wyn Owen, sefydlydd Libertino Records:Gruffydd Wyn Owen, founder of Libertino Records, said:
“Mae tyfiant PYST fel gwasanaeth cefnogi cynhwysfawr ar gyfer labeli ac artistiaid Cymraeg yn mynd i olygu gweledigaeth gydlynol i ddod â cherddoriaeth Gymraeg nid yn unig i lwyfan mwy yn y DU ond hefyd ar lwyfan byd eang.”“The growth of PYST as an all-encompassing support service for Welsh labels and artists will for the first time see a coherent outward looking vision to bring Welsh music not only to a bigger UK stage but also a global stage.”
Dywedodd Yws Gwynedd, rheolwr Recordiau Côsh:Yws Gwynedd, manager of Recordiau Côsh, said:
“Mae sefydlu PYST fel gwasanaeth hyrwyddo a dosbarthu digidol unigryw yng Nghymru yn gam enfawr ac hanfodol tuag at broffesiynoli ein tirwedd gerddorol gyfoes yng Nghymru.”“The establishment of PYST as a bespoke digital distribution and promotion service based in Wales is a huge and vital step towards the professionalisation of our contemporary music landscape in Wales.”

Cynllun yn gosod gweledigaeth i’r Gymraeg fod ar gael yn hawdd ym myd technoleg / Plan sets out vision for Welsh to be readily available in technology

Siaradwyr Cymraeg yn gofyn i’w dyfeisiau clyfar reoli goleuadau’r tŷ, i anfon negeseuon neu i chwarae eu hoff gerddoriaeth yn Gymraeg - dyna un rhan o Gynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru a gyhoeddir heddiw.Welsh speakers asking their smart devices to turn on the lights, to send messages or to play their favourite music in Welsh - that’s one part of the vision outlined by the Welsh Government’s new Welsh Language Technology Action Plan published today.
Ymhlith nodau’r Cynllun mae datblygu technoleg lleferydd Cymraeg a fydd yn caniatáu creu fersiynau Cymraeg o gynorthwywyr personol digidol yn y dyfodol; datblygu deallusrwydd artiffisial fel bo peiriannau’n deall Cymraeg; a gwella cyfieithu â chymorth cyfrifiadur er mwyn sicrhau bod mwy o Gymraeg ar gael i’w darllen a’i chlywed.Developing Welsh Language speech technology that will allow Welsh language versions of digital personal assistants to be created in future; developing artificial intelligence in Welsh so that machines understand the language; and improving computer-assisted translation to ensure more Welsh is available are also aims of the plan.
Mae’r cynllun yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i blant, pobl ifanc ac oedolion gael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio technoleg yn Gymraeg—a hynny’n hawdd—mewn ysgolion, yn y gweithle ac yn y cartref.The plan sets out the Welsh Government’s vision for children, young people and adults to have more opportunities to use Welsh language technology, and to use it easily; in schools, in the workplace and at home.
Wrth gyhoeddi’r cynllun, dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: “Mae cynifer o bobl yn defnyddio technoleg ar gyfer cynifer o wahanol bethau yn eu bywydau. Ry’n ni am iddi fod mor hawdd ag sy’n bosibl iddyn nhw wneud hynny yn Gymraeg.Announcing the publication of the plan, Minister for Welsh Language and Lifelong Learning, Eluned Morgan said: “So many people use technology for so many different things in their lives. We want to make it as easy as possible for them to do this in Welsh.
“Dyma pam ry’n ni am i’r Gymraeg fod ar gael yn hawdd ar dechnoleg, heb i chi orfod gofyn amdani, boed hynny ar y cyfrifiadur, wrth ddefnyddio’ch ffôn neu’ch tabled. Ry’n ni eisiau i bobl fedru defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn hawdd yn eu bywydau cyfrifiadurol—yn y tŷ, yn yr ysgol, yn y gwaith neu wrth symud o le i le.“This is why we want Welsh language functionality to be readily available, without having to be requested, when it comes to technology, whether that is working on your computer, using your phone or tablet. We want people to be able to use Welsh and English easily in their virtual lives at home, in school, in work or on the move.
“Mae technoleg hefyd yn rhoi llawer o gyfleoedd i ni gynyddu ein defnydd o’r Gymraeg neu i’w dysgu, ond er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni sicrhau bod yr isadeiledd cywir yn ei lle. Mae technoleg yn symud yn gyflym. Mae angen i’r Gymraeg symud gyda’r dechnoleg. Dyna nod ein cynllun.”“Technology also provides many opportunities for us to increase our use of Welsh or to learn Welsh but to do this we need to have the correct infrastructure in place. Technology moves quickly. Welsh needs to move with technology. That is the aim of our Plan.”

A ddylai’ch Busnes chi Fabwysiadu Enw Parth yn Cynnwys .cymru neu .wales? / Should Your Business Adopt a .cymru or .wales Domain Name?

Er i’r enwau parth Cymreig yma, sy’n rhoi hwb arbennig i’n gwlad, gael eu lansio yn 2015, maen nhw wedi bod yn cynrychioli hunaniaeth Gymreig, diwylliant, ac iaith, gyda mwy na 21,000 o barthau .cymru wedi’u cofrestru hyd yn hyn. Mae cyfraddau adnewyddu uchel o tua 85% yn tystio i ba mor awyddus y mae pobl i gadw parth .cymru neu .wales fel rhan allweddol o’u hunaniaeth ar-lein.Since these distinctly patriotic Welsh domain names were launched in 2015 they have been representing Welsh identity, culture and language with more than 21,000 .cymru and .wales domains registered to date. High renewal rates of around 85% per cent are testament to people’s eagerness to keep a .cymru or .wales domain as key part of their online identity.
Trwy ddefnyddio parth .cymru neu .wales gallwch roi gwybod i’ch marchnad am ble dych chi’n gweithio. Y ffordd berffaith o ddangos i’r byd fod eich busnes yn falch o’i dreftadaeth Gymreig.Utilising a .cymru or .wales domain lets your target market know where you are based and is the perfect way to show the world that your business is proud of its Welsh heritage.
Mae cyfeiriad gwe cofiadwy yn golygu y bydd yn haws i’ch cwsmeriaid ddod o hyd i’ch busnes ar-lein. Mae’n bosib y bydd hyn yn arwain at fwy o werthiant yng Nghymru ac ar draws y DU … ac ymhellach i ffwrdd hyd yn oed!A memorable Welsh web address means it is easier for customers to find your business online. This has the potential to lead to more sales both within Wales and across the UK… even further afield!
Mae rhai o gwmnïau mwyaf sefydlog Cymru wedi dewis cefnogi Cymru ar-lein, yn cynnwys Ffederasiwn y Busnesau Bach, Undeb Rygbi Cymru, Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Siocled Cymraeg NomNom, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Distyllfa Penderyn. O ganlyniad, mae llawer ohonyn nhw wedi dathlu cynnydd mewn ymgysylltiad ymwelwyr a gwelliant mewn traffig gwefan.Some of Wales’ most established companies have chosen to fly the Welsh flag online, including The Federation of Small Businesses, Welsh Rugby Union, Welsh Government, Sport Wales, The Football Association of Wales, NomNom Welsh chocolate, the National Museum Wales and Penderyn Distillery. As a result, many have celebrated an increase in visitor engagement and an improvement in website traffic.
Soniodd Stephen Davies, Prif Weithredwr Distyllfa Penderyn, am sut benderfynon nhw ddewis parth .wales i’w gwefan. Dywedodd mai’r cysylltiad gyda threftadaeth Penderyn sy’n gyfrifol:Stephen Davies, Chief Executive of Penderyn Distillery, spoke of the decision behind adopting a .wales domain for their website and said that it stems from Penderyn’s heritage:
“Gwraidd popeth yw cynhyrchu gwirodydd o safon fyd-eang. I wneud hynny, rhaid adrodd stori ddilys, wych. Byddwn ni’n sôn am Gymru wrth drafod Penderyn. Am fythau a chwedlau Cymru; am yr hanes a’r diwylliant cyfoethog sydd gyda ni. Rydyn ni’n cynrychioli gwirod ardderchog. Mae meddu ar barth .wales yn ychwanegu at hyn. Rydym eisiau i bawb wybod ein bod ni’n gwmni balch o Gymru, a dyn ni eisiau apelio at bobl yng Nghymru a ledled y byd. Ond bydd yn rhaid i’r neges gyrraedd pedwar ban y byd. Mae defnyddio parth .wales ar-lein yn helpu i gyfleu o ble rydyn ni’n dod. Mae bod yng Nghymru yn rhan bwysig iawn o’r stori yna i ni.”He said: “It’s all about producing world class spirits. To do that, you have to tell a great authentic story. We talk about Wales when we talk about Penderyn. We talk about myths and legends of Wales; about the history and the rich culture we have. We have a great spirit. Having a .wales domain is an extension of this. In Wales, we want everyone to know that we are a proud Welsh company and we want to appeal to people in Wales and around the globe. But the message has got to have international reach. Having a .wales presence online helps to convey where we are from. Being in Wales is a really important part of that story for us.”
Dylai busnesau sydd eisiau gadael i’w marchnad wybod ble maen nhw wedi’u lleoli, a’u bod nhw’n falch o ddod o Gymru, ac sy’n ystyried mabwysiadu parth .cymru a .wales, ymweld ag ourhomeonline.wales neu eincartrefarlein.cymru.Businesses that wish to let their market know where they are based and that they are proud to be Welsh and are considering adopting a .cymru and .wales domain, should visit ourhomeonline.wales/promotion and eincartrefarlein.cymru/cynnig to take advantage of this special promotion.

businessnewswales.com / WalesBusiness / business-news-wales

Business News Wales logo