Bragdy'r Beirdd

Bragdy’r Beirdd: Nosweithiau barddoniaeth byw yng Nghaerdydd / Live poetry nights in Cardiff

Mae Bragdy’r Beirdd wedi bod yn cynnal nosweithiau poblogaidd ers 2011, lle mae beirdd yn perfformio eu gwaith i gynulleidfa Gymraeg Caerdydd. Yma, mae Osian Rhys Jones esbonio mwy…

The Poet’s Brewery have been holding popular evenings since 2011, where poets perform their work to the Welsh language community of Cardiff.  Here, Osian Rhys Jones explains more about it…

Beth sy’n digwydd mewn noson arferol?
Yn nosweithiau Bragdy’r Beirdd mae criw o feirdd yn darllen a pherfformio eu cerddi Cymraeg o flaen cynulleidfa. Gall y rhain fod yn gerddi doniol neu’n gerddi dwys. Yn aml iawn mae’r beirdd yn ymateb i faterion cyfoes a’r hyn sydd ar y newyddion. Ar hyn o bryd mae gweithgareddau yn ddigwydd ar y Columba Clwb.

Mae nifer o’r rhain yn rhan o griw sy’n cael eu galw yn ‘Beirdd y Bragdy’ – sef math o house band. Dros y blynyddoedd, mae criw ‘Beirdd y Bragdy’ wedi cynnwys beirdd cyffrous fel Rhys Iorwerth, Catrin Dafydd, Anni Llyn, Llyr Gwyn Lewis, Casia Wiliam, Gruffudd Owen, Gwennan Evans, Aron Pritchard, Gruffudd Antur ac Osian Rhys Jones.

Rydym ni hefyd yn gwahodd beirdd eraill i gymryd rhan fel gwesteion ac o bryd i’w gilydd byddwn ni’n gwahodd cerddorion neu fandiau i ganu caneuon i ni hefyd. Dros y blynyddoedd cawsom gwmni gwesteion fel Geraint Jarman, HMS Morris, Heather Jones, Ifor ap Glyn a llawer mwy.

Yn ystod y noson hefyd mae gwahoddiad i’r gynulleidfa gwblhau limrig. Ar ddiwedd y noson bydd beiriniadaeth ar y limrigau sy’n cael eu creu gan y gynulleidfa o’r meicroffon ar y darlleniad cyntaf – gan arwain at lot fawr o chwerthin!

Pam ddaeth y nosweithiau hyn i fod?
Dechreuodd y nosweithiau pan benderfynodd criw o feirdd ddod at ei gilydd i hybu barddoniaeth a chreu nosweithiau sy’n addas i’r criw o bobl ifanc – yn eu hugeiniau a’u tridegau (a rhai hyn wrth gwrs!) – sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

Roeddem yn gobeithio rhoi naws tanddaearol i’r nosweithiau yn ogystal ag awyrgylch anffurfiol lle mae’r gynulleidfa yn teimlo fod eu cyfraniad nhw i’r noson hefyd yn bwysig.

Roedd yn bwysig i ni hefyd ein bod yn cynnal y nosweithiau mewn llefydd anarferol, neu lla na byddai pobl fel arfer yn disgwyl clywed y Gymraeg – heb son am glywed barddoniaeth Gymraeg!

Roedd y nosweithiau cynnar yn cael eu cynnal yn y Rockin’ Chair, Glan yr Afon, Caerdydd, lle roedd bwyd caribïaidd a chaniau o Red Stripe yn cael eu gwerthu. Mae’r Rockin’ Chair wedi cau erbyn hyn, ac ers hynny rydym wedi cynnal nosweithiau yn Canton Sports Bar ac yn Columba Club ar Heol Llandaf.

Pwy ddylai ddod i Bragdy’r Beirdd?
Mae Bragdy’r Beirdd yn agored i unrhyw un sy’n awyddus i brofi naws unigryw noson o farddoniaeth, chwerthin a cherddoriaeth yn Gymraeg. Mae cerddi amrywiol yn cael eu perfformio, ond prin iawn yw cerddi tywyll ac astrus. Felly mae ychydig bach o bopeth i apelio at bawb.

Pa nosweithiau sydd ar y gweill?
Ar nos Iau 7 Rhagfyr 2017 bydd y digwyddiad nesaf yn y Columba Club, Caerdydd. Y bardd gwadd fydd Dewi Prysor. Mae Dewi Prysor yn nofelydd ac yn fardd o fri – ac mae’n gwybod sut i gael pobl i chwerthin! Bydd Beirdd y Bragdy yno hefyd – a bydd cyfle i gystadlu yng nghystadleuaeth y limrig!

Gallwch weld llawer iawn o fideos o gerddi, a gweld manylion gigs y gorffennol ar wefan bragdyrbeirdd.com.
Mae Osian Rhys Jones yn un o sefydlwyr Bragdy’r Beirdd.

Mae Bragdy’r Beirdd yn agored i unrhyw un sy’n awyddus i brofi naws unigryw noson o farddoniaeth, chwerthin a cherddoriaeth yn Gymraeg.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Beth sy’n digwydd mewn noson arferol?
Yn nosweithiau Bragdy’r Beirdd mae criw o feirdd yn darllen a pherfformio eu cerddi Cymraeg o flaen cynulleidfa. Gall y rhain fod yn gerddi doniol neu’n gerddi dwys. Yn aml iawn mae’r beirdd yn ymateb i faterion cyfoes a’r hyn sydd ar y newyddion. Ar hyn o bryd mae gweithgareddau yn ddigwydd ar y Columba Clwb.
What happens on a typical night?
During the event, a group of poets will read and perform their Welsh poems in front of an audience. These can be light-hearted poems or more profound poems. Often, the poets are reacting to current affairs or any news. At the moment these events happen at the Columba Club in Cardiff.
Mae nifer o’r rhain yn rhan o griw sy’n cael eu galw yn ‘Beirdd y Bragdy’ - sef math o house band. Dros y blynyddoedd, mae criw ‘Beirdd y Bragdy’ wedi cynnwys beirdd cyffrous fel Rhys Iorwerth, Catrin Dafydd, Anni Llyn, Llyr Gwyn Lewis, Casia Wiliam, Gruffudd Owen, Gwennan Evans, Aron Pritchard, Gruffudd Antur ac Osian Rhys Jones. A number of these poets are part of what we call ‘Beirdd y Bragdy’ - a play on the term house poets. Over the years these have included exciting poets such as Rhys Iorwerth, Catrin Dafydd, Anni Llyn, Llyr Gwyn Lewis, Casia Wiliam, Gruffudd Owen, Gwennan Evans, Aron Pritchard, Gruffudd Antur ac Osian Rhys Jones.
Rydym ni hefyd yn gwahodd beirdd eraill i gymryd rhan fel gwesteion ac o bryd i’w gilydd byddwn ni’n gwahodd cerddorion neu fandiau i ganu caneuon i ni hefyd. Dros y blynyddoedd cawsom gwmni gwesteion fel Geraint Jarman, HMS Morris, Heather Jones, Ifor ap Glyn a llawer mwy.We also invite guest poets to take part every now and again and we even invite muscians or bands to sing for us also. Over the years we’ve had the company of Geraint Jarman, HMS Morris, Heather Jones, Ifor ap Glyn and many more.
Yn ystod y noson hefyd mae gwahoddiad i’r gynulleidfa gwblhau limrig. Ar ddiwedd y noson bydd beiriniadaeth ar y limrigau sy’n cael eu creu gan y gynulleidfa o’r meicroffon ar y darlleniad cyntaf - gan arwain at lot fawr o chwerthin!During the evening there is also a challenge for audience members to complete a limerick. At the end of the night the audience’s limericks are judged at first reading from the mic - leading to a lot of laughs!
Pam ddaeth y nosweithiau hyn i fod?
Dechreuodd y nosweithiau pan benderfynodd criw o feirdd ddod at ei gilydd i hybu barddoniaeth a chreu nosweithiau sy’n addas i’r criw o bobl ifanc - yn eu hugeiniau a’u tridegau (a rhai hyn wrth gwrs!) - sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.
Why were these poetry nights started?
These nights started when a group of poets came together to promote poetry and create an event suitable for young people - in their twenties and thirties (and older of course!) - who live and work in Cardiff.
Roeddem yn gobeithio rhoi naws tanddaearol i’r nosweithiau yn ogystal ag awyrgylch anffurfiol lle mae’r gynulleidfa yn teimlo fod eu cyfraniad nhw i’r noson hefyd yn bwysig.We hoped to give the events an underground feel as well as an informal atmosphere where the audience feel that their participation in the evening is also important.
Roedd yn bwysig i ni hefyd ein bod yn cynnal y nosweithiau mewn llefydd anarferol, neu lla na byddai pobl fel arfer yn disgwyl clywed y Gymraeg - heb son am glywed barddoniaeth Gymraeg!It was important for us to put these events on in unusual places, where people might not expect to hear the Welsh language - never mind Welsh language poetry!
Roedd y nosweithiau cynnar yn cael eu cynnal yn y Rockin’ Chair, Glan yr Afon, Caerdydd, lle roedd bwyd caribïaidd a chaniau o Red Stripe yn cael eu gwerthu. Mae’r Rockin’ Chair wedi cau erbyn hyn, ac ers hynny rydym wedi cynnal nosweithiau yn Canton Sports Bar ac yn Columba Club ar Heol Llandaf.These early events were held at the Rockin’ Chair in Riverside, where Carribean food and cans of Red Stripe were served. Rockin’ Chair is closed now, and since then we have held Bragdy’r Beirdd at Canton Sports Bar ad Columba Club on Llandaff Road.
Pwy ddylai ddod i Bragdy’r Beirdd?
Mae Bragdy’r Beirdd yn agored i unrhyw un sy’n awyddus i brofi naws unigryw noson o farddoniaeth, chwerthin a cherddoriaeth yn Gymraeg.
Who should come to Bragdy’r Beirdd?
Bragdy’r Beirdd is open to anyone who is keen to experience the unique atmosphere of poetry, laughter and music in Welsh.
Mae cerddi amrywiol yn cael eu perfformio, ond prin iawn yw cerddi tywyll ac astrus. Felly mae ychydig bach o bopeth i apelio at bawb. Various poems are performed, but there are very few dark or difficult poems. There should be something to appeal to everyone.
Pa nosweithiau sydd ar y gweill?
Ar nos Iau 7 Rhagfyr 2017 bydd y digwyddiad nesaf yn y Columba Club, Caerdydd. Y bardd gwadd fydd Dewi Prysor. Mae Dewi Prysor yn nofelydd ac yn fardd o fri - ac mae’n gwybod sut i gael pobl i chwerthin! Bydd Beirdd y Bragdy yno hefyd - a bydd cyfle i gystadlu yng nghystadleuaeth y limrig!
What events are coming up?
The next event will be held at the Columba Club on Thursday 7 December 2017. The invited poet will be Dewi Prysor. Dewi is a renowned novelist and poet who knows how to make people laugh! Beirdd y Bragdy will also be there - and there will be the opportunity to compete is the limerick competition!
Gallwch weld llawer iawn o fideos o gerddi, a gweld manylion gigs y gorffennol ar wefan bragdyrbeirdd.com.
Mae Osian Rhys Jones yn un o sefydlwyr Bragdy’r Beirdd.
You can see various videos of poems and see details of gigs on our website bragdyrbeirdd.com.
Osian Rhys Jones is one of the founders of Bragdy’r Beirdd.

bragdyrbeirdd.com / BragdyrBeirdd

 

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Cyflwyno Barddoniaeth