Ask Dr Gramadeg: Y tri math o Yn / The three types of Yn

1) Yn sy'n golygu in yn Saesneg. Dyw hi ddim yn bosibl talfyrru'r gair hwn ac ysgrifennu 'n ar ôl llafariad, e.e:
Dw i’n byw yn Abertawe - I live in Swansea

1) Yn meaning in. This cannot be shortened to - ’n. e.g:
Dw i’n byw yn Abertawe. I live in Swansea

2) Yn sy'n cael ei ddefnyddio i gysylltu ffurfiau bod i weddill y frawddeg. Mae'n bosibl talfyrru'r gair hwn ac ysgrifennu 'n ar ôl llafariad, e.e:
Dw i’n mynd i’r dre - I'm going to town
Maen nhw’n siarad - They are talking
Bydd hi’n dwym - It'll be warm

2) Yn – used to join the verb bod to the rest of the sentence which can be shortened to ’n after a vowel, e.g:
Dw i’n mynd i’r dre
Maen nhw’n siarad
Bydd hi’n dwym.

Mae'r ffurf hon ar yn, sy'n cysylltu dwy ran brawddeg ('yn traethiadol'), yn achosi treigladd meddal mewn enwau, ac mewn ansoddeiriau, ond nid mewn berfenwau, e.e:
Dw i’n feddyg = I’m a doctor - meddyg (enw - noun) - t.m.
Dw i’n fwyn = I’m gentle - mwyn (ansoddair - adjective) - t.m.
Dw i’n mynd = I’m going - mynd (berfenw - verbnoun) - no t.m.

This joining yn causes a soft mutation (treglad meddal, t.m.) but not to verbs. eg:
Dw i’n feddyg = I’m a doctor - meddyg noun - t.m.
Dw i’n fwyn = I’m gentle - mwyn adjective - t.m.
Dw i’n mynd = I’m going - mynd verb - no t.m

3) Yn sy'n cael ei defnyddio i newid ansoddair yn adferf.
Geiriau sy'n disgrfio sut mae pethau'n digwydd yw adfefau, e.e. 'yn araf' ('slowly'). Mae'r ffurf hon ar 'yn' yn achosi i'r ansoddair dreiglo'n feddal, os bydd yn bosibl, e.e:
araf / slow (ansoddair) but yn araf / slowly (adferf)
gofalus / careful (ansoddair) but yn ofalus / carefully (adferf)

3) Yn used to change an adjective into an adverb + t.m.
These adverbs describe how something is done e.g. slowly. e.g:
araf (slow) adjective but yn araf = slowly (adverb)
gofalus (careful) adjective but yn ofalus = carefully (adverb)

Mwy o fanylion - Sut mae ansoddeiriau'n treiglo ar ôl 'yn traethiadol'

Mae'r geiriau hyn i gyd yn ansoddeiriau - mae'n nhw'n disgrifio sut mae rhywun yn edrych:
tal = tall
tew = fat
salw = ugly
byr = short
tenau = thin
pert = pretty

More detail- adjectives mutating after the linking 'n/yn

All the below are adjectives- they describe how a person looks:
tal = tall
tew = fat
salw = ugly
byr = short
tenau = thin
pert= pretty

Byddan nhw'n treiglo'n feddal ar ôl 'yn traethiadol' (‘n / yn), os bydd sain neilltuol ar ddechrau'r gair, sef 'p, t, c, b, d, g, m'. Eithriadau i'r rheol hon yw'r seiniau 'rh, ll'. Fydd y seiniau hyn ddim yn treiglo ar ôl 'yn traethiadol' (‘n / yn).

Er enghraifft, pan fydd yr ansoddair 'tal' yn dod ar ôl 'yn traethiadol' yn y frawddeg 'Mae e’n dal', yna bydd treiglad meddal, sef t > d.

Ar y llaw arall, ansoddair yw ‘salw’, ond fydd e ddim yn treiglo ar ôl 'yn traethiadol' gan mai'r sain 's' sydd ar ddechrau'r gair, a dyw'r sain 's' ddim yn treiglo.

Eto i gyd, dyw'r berfenw 'gwisgo' ('to wear') ddim yn treiglo ar ôl 'yn traethiadol', e.e.
Mae hi’n gwisgo = She is wearing / She wears

Mae hyn yn digwydd gan mai berfenw yw 'gwisgo' (hynny yw, gair sy'n disgrifio gweithred, neu air rydych chi'n gallu rhoi 'to' o'i flaen yn y Saesneg). Dyw berfenwau ddim yn treiglo ar ôl 'yn traethiadol'.

They will all take a soft mutation after - ‘n/yn, if they start with one the right letters (p, t, c, b, d, g, m). (rh and ll) are exceptions to the rule and do not mutate after ‘n/yn) e.g:
tal’ when it comes after 'n in the sentence (Mae e’n dal), takes a soft mutation t > d.

‘Salw’ is an adjective but cannot mutate as it does not start with one of the letters that can mutate.

Notice that the word ‘gwisgo’ (to wear) does not mutate after ’n/yn. e.g:
Mae hi’n gwisgo = She is wearing/ She wears

This is because it is a verb (an action word or a word you can put ‘to’ in front of). Verbs do not mutate after ’n/yn.

Mwy o fanylion - Pryd y dylen ni beidio â defnyddio 'yn'?

Fel arfer, rhaid defnyddio 'yn traethiadol' ar ôl ffurfiau 'bod' ('to be'), i gysylltu dwy ran y frawddeg at ei gilydd, e.e:
Dw i + yn + mynd i’r dre > Dw i’n mynd i’r dre.

Bod + yn + verbnoun/rest of sentence (I’m going to town).

Fodd bynnag, pan fyddwn ni'n dweud ble mae rhywun / rhywbeth, byddwn ni'n defnyddio 'yn' sy'n golygu 'in' ar ei ben ei hunan, ac nid 'yn' ('in') yn ogystal ag 'yn traethiadol', e.e:

Dw i yn y dre = I’m in town. (nid - Dw i’n yn y dre)

More detail- when not to use yn

An ‘yn’ or ’n is normally required, when using the verb ‘bod’ - to be, to join it to the rest of the sentence. e.g:
Dw i + yn + mynd i’r dre > Dw i’n mynd i’r dre.

Bod + yn + verb/rest of sentence (I’m going to town).

But when saying where something/someone is, no yn or ’n is required e.g.
Dw i yn y dre = I’m in town. (not - Dw i’n yn y dre)

Dyma rai arddodiadau ('prepositions') eraill sy'n dweud ble mae rhywun / rhywbeth:
ar = on
ar bwys = by
ar ben = on top of/at the end of
dan /o dan = under
draw fan’na = over there
drws nesa’ (i) = next door (to)
fan hyn = (by) here
fan’na = there
gyferbyn â = opposite
o flaen= in front of
tu ôl (i) = behind
tu fas (i) = outside
rhwng = between

Pan fyddwn ni'n dweud ble mae rhywun / rhywbeth, gan ddefnyddio arddodiad, fyddwn ni ddim yn defnyddio 'yn traethiadol' o gwbl, e.e:
Mae e ar y llawr = He/it is on the floor.
Maen nhw tu ôl i’r soffa = They’re behind the sofa.
Mae e fan hyn = It’s (by) here.

Arddodiadau yw 'yn' ('in'), 'ar' ('on'), 'tu ôl i' ('behind'), 'fan hyn' ('here') - maen nhw i gyd yn dweud ble mae rhywbeth / rhywun.

Here are some other words/phrases with which ‘yn’ would not be used, as they state where things are:
ar bwys = by
ar ben = on top of/at the end of
dan/o dan = under
draw fan’na = over there
drws nesa’ (i) = next door (to)
fan’na = there
gyferbyn â = opposite
o flaen= in front of
tu fa’s (i) = outside
rhwng = between

When we say where is someone/something, while using a prepositions, we don't use yn at all, eg:
Mae e ar y llawr = He/it is on the floor.
Maen nhw tu ôl i’r soffa = They’re behind the sofa.
Mae e fan hyn = It’s (by) here.

Yn (in), ar (on), tu ôl i (behind), fan hyn (here) - are all words saying where things are.

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Dw i'n byw yng Nghaerdydd nawr, ond ro'n i'n arfer byw yn Wrecsam
I live in Cardiff now, but I used to live in Wrexham

2. Dw i'n mynd i siopa nawr, ond dw i'n dod adre' am hanner dydd
I am going shopping now, but I am coming home at mid-day

3. Bydd hi'n bwrw glaw drwy gydol yr wythnos nesa' yn ôl rhagolygon y tywydd
It will be raining throughout next week according to the weather forecast

4. Mae e'n filfeddyg nawr ond roedd e'n arfer bod yn ddeintydd
He is a vet now but he used to be a dentist

5. Maen nhw'n barchus a thawel tan iddyn nhw dechrau gweiddi arnoch chi!
They are respectable and quiet until they start shouting at you!

6. Rydych chi'n mynd i'r sinema heno. Ro'ch chi'n ymweld â ffrindiau ddoe. Beth fyddwch chi'n ei 'neud yfory?
You are going to the cinema tonight. You were visiting friends yesterdasy. What will you be doing tomorrow?

7. Ro'n ni'n gyrru'n gyflym iawn pan ddigwyddodd y ddamwain, yn anffodus
We were driving very quickly when the accident happened, unfortunately

8. Mae'r siwt yn rhad ond dyw hi ddim yn ddu
The suit is cheap but it is not black

9. Mae'r fasged yn llawn o afalau gwyrdd
The basket is full of green apples

10. Bydda i'n mynd i'r gwely pan fyddi di'n dod yn ôl o'r gwaith!
I shall be going to bed when you come home from work!

11. Ro'n ni yn y ddinas ddoe, ond byddwn ni yn y tŷ yfory
We were in the city yesterday, but we shall be in the house tomorrow

12. Roedd y fasged frown dan y bwrdd gyda'r ci
The brown basket was under the table with the dog

13. Mae'r Eglwys Gadeiriol gyferbyn â'r garej enfawr
The Cathedral is opposite the enormous garage

14. Mae popeth fan'na ar y bwrdd o flaen y cwpwrdd ar bwys y tân
Everything is over there on the table in front of the cupboard by the fire