Ask Dr Gramadeg: Cip arall ar yr amser dyfodol / Taking a look at the Future tense again

Dyma esiampl o sut mae defnyddio 'bod' yn yr amser dyfodol:

If it’s fine > If it will be fine >  Os bydd hi’n braf

A dyma esiampl o sut mae defnyddio 'mynd' yn yr amser dyfodol:

If I go > If I will go > Os af i

Byddwn ni'n gallu uno cymalau'n cynnwys 'bod', e.e:

Dw i’n credu (y) bydda i’n mynd – 'I think (that) I will be going'

As with ‘bod’ in the future:

If it’s fine   -   If it will be fine (in Welsh)    -   Os bydd hi’n braf

If I go         -    If I will go         (in Welsh)    -   Os af i  etc.

Hefyd, byddwn ni'n gallu uno cymalau'n cynnwys berfau eraill, e.e.

Dw i’n credu (yr) af i – I think (that) I will go

Yma byddwn ni'n defnyddio 'yr' gan fod 'af i’ yn dechrau gyda llafariad

Fel rheol fyddwn ni ddim yn dweud ‘y’ na ‘yr’ ar lafar

Dyma esiampl o sut mae defnyddio 'Os' gyda 'bod' yn y dyfodol:

Beth os na fydd e’n mynd? – What if he doesn’t go?

We can combine clauses that include 'bod':-

Dw i’n credu (y) bydda i’n mynd  -  I think (that) I will be going

Dw i’n credu (yr) af i  -   I think (that) I will go  

(yr - because ‘af i’ starts with a vowel)

Neither ‘y’ nor ‘yr’ - ‘that’ are usually pronounced in speech.

Hefyd, byddwn ni'n gallu defnyddio 'Os' gyda berfau eraill yn y dyfodol:

Beth os nad aiff e? – What if he doesn’t go?

Yma byddwn ni'n defnyddio 'nad' gan fod 'af i’ yn dechrau gyda llafariad

A(f) i â fe – 'I will take it' ('mynd + â' = 'to take')

As with ‘bod’ in the future:-

Beth os na fydd e’n mynd?   -   What if he doesn’t go?

Beth os nad aiff e?                -   What if he doesn’t go?

 (nad - because ‘af i’ starts with a vowel)

A(f) i â fe  -  I will take it (mynd + â = to take)

 

Dyfodol ‘mynd’
a(f) i I’ll go
ei di you’ll go
aiff e / hi he / she’ll go
aiff Ffred / Sandra Ffred / Sandra will go
awn ni we’ll go
ewch chi you’ll go
ân nhw they’ll go

 

Gofyn cwestiwn - Dim ond defnyddio tôn llais

e.e. Awn ni? – Shall we go?

Defnyddio'r Negyddol - Rhaid ychwanegu 'Ddim'

e.e. Awn ni ddim – We won’t go

Os byddwch chi'n dysgu amser dyfodol y ferf afreolaidd 'mynd', wedyn byddwch chi wedi dusgu amser dyfodol y ddwy ferf afreolaidd eraill ('cael' a 'gwneud'); mae 'dod' yn yhcydig wahanol.

Asking a Question:    Just tone of voice

e.g.  Awn ni?       -       Shall we go?

Using the Negative:    Add ‘ddim’

e.g. Awn ni ddim      -     We won’t go

If you learn the future tense of the irregular verb ‘mynd’ you will have learned the endings for two of the other irregular verbs in the future (‘dod’ is slightly different).

Mynd (Gw)neud Cael
(will go) (will do / make) (will have / get)
a(f) i (Gw)na(f) i Ga(f) i
ei di (Gw)nei di Gei di
aiff e / hi (Gw)naiff e / hi Gaiff e / hi
awn ni (Gw)nawn ni Gawn ni
ewch chi (Gw)newch chi Gewch chi
ân nhw (Gw)nân nhw Gân nhw

Er mwyn ffurfio amser dyfodol berfau rheolaidd byddwch chi'n ychwanegu terfyniadau sy'n debyg iawn i'r rhai y byddwch chi'n eu defnyddio i ffurfio amser dyfodol berfau afreolaidd.

e.e. ‘gweld’ – bôn (yr un peth â'r amser gorffennol – ‘gwel-')

Ychwanegwch: -a i, -i di, -iff e/hi, -wn ni, -wch chi, -an nhw

Gwela i             - I will see
Gweli di            - You will see
Gweliff e/hi      - He/she will see
Gwelwn ni        - We’ll see
Gwelwch chi    - You’ll see
Gwelan nhw      - They’ll see

The endings for the regular verbs in the future tense are also very similar to the irregular future endings.

e.g. ‘gweld’ - root (same as past tense - ‘gwel’),

add: -a i, -i di, -iff e/hi, -wn ni, -wch chi, -an nhw.

I will see                      -           Gwela i
You will see                 -           Gweli di
He/she will see           -          Gweliff e/hi
We’ll see                     -           Gwelwn ni
You’ll see                    -           Gwelwch chi
They’ll see                   -           Gwelan nhw

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

 

1. Bydd hi'n aros yn y tŷ os bydd hi’n rhy dwym
She'll be staying in the house if it's too warm

2. Fyddwn ni ddim yn mynd i'r parti os bydd hi'n bwrw eira
We won't be going to the party if it's snowing

3. Fydda i ddim yn gallu gweithio os bydd e'n canu!
I won't be able to work if he's singing!

4. Os do' i i'r parti, bydda i'n dod â chyri malwod
If I come to the party, I'll bring snail curry

5. Os ei di i'r cyngerdd, byddi di'n gweld y plant
If you go to the concert, you'll see the children

6. Os 'naiff e frecwast, bydd rhaid i ni fynd at y meddyg!
If he makes breakfast, we'll have to go to the doctor!

7. Os caiff hi hwyl, bydd hi'n dechrau canu'n uchel
If she has fun, she'll start singing out loud

8. Os down ni gyda chi, byddan nhw'n rhedeg bant
If we come with you, they'll run off

9. Os ewch chi i'r ysgol, bydd y plant yn hapus
If you go to the school, the children will be happy

10. Os 'nân nhw'r gwaith, bydda i'n talu'r ffi lawn
If they do the work, I'll pay the full fee

11. Mae hi’n credu (y) byddi di’n dod
She thinks (that) you'll be coming

12. Gobeithio (y) byddan nhw'n gorffen y gwaith mewn pryd
I hope (that) they'll finish the work in time

13. Dw i'n siŵr (y) byddwn ni'n dod i'r parti
I'm sure (that) we'll be coming to the party

14. Bydda i'n rhedeg yn y parc os bydd hi’n heulog
I'll be running in the park if it's sunny

15. Bydd e'n prynu caws os bydd e'n mynd i'r siop
Bydd e'n prynu caws os aiff e i'r siop
He'll buy cheese if he goes to the shop

16. Byddwn ni'n gadael yn syth os bydd hi'n dod
Byddwn ni'n gadael yn syth os daw hi
We'll leave at once if she comes

17. Os 'nawn ni ginio, byddi di'n gallu golchi'r llestri
If we make the dinner, you can wash the dishes

18. Os cân nhw hwyl, byddan nhw'n dechrau ffraeo
If they have fun, they'll start fighting

19. Mae'n nhw'n meddwl (yr) aiff hi
They think (that) she will go

20. Dw i ddim yn credu (y) down ni
I don't believe (that) we will come

21. Wrth gwrs (y) cewch chi hwyl
Of course (that) you'll have fun

22. Falle (y) 'nân nhw frecwast
Maybe (that) they'll make breakfast

23. Beth os na fydda i'n dod?
What if I don't come?

24. Beth os nad ewch chi?
What if you don't go?

25. Beth os na chân nhw hwyl?
What if they don't have fun?

26. Beth am y caws? Awn ni â fe i'r parti
What about the chese? We'll take it to the party

27. Beth am Ffred a Sandra? Do' i â nhw yn ôl wedyn
What about Ffred and Sandra? I'll bring them back afterwards

 


 

Ask Dr Gramadeg Future Tense Again