Ask Dr Gramadeg: Ta Beth, Bron a Bron i Fi- Anyway, Almost, and I Almost

Ta beth

Dyma ymadrodd y bydd pobl yn ei ddefnyddio ar lafar, yn lle'r ymadrodd Beth bynnag, sy'n fwy ffurfiol.
Mae'n golygu Anyway, a byddwn ni gallu ei ddefnyddio wrth sgwrsio i newid y pwnc, neu i ddod â'r sgwrs i ben, e.e.

Ta beth, gwell i fi fynd nawr                Anyway, I’d better go now

Eto i gyd, mae'n gallu golygu Whatever, eg:

Ta beth (gw)nei di, paid mynd              Whatever you do, don’t go
Ta beth maen nhw’n anfon/hala...       Whatever they send…

Ta beth - Anyway

This is a colloquial expression used in everyday speech rather than the more formal ‘beth bynnag’. It can mean ‘anyway’ and may be used to change the subject or stop a conversation:

Ta beth, gwell i fi fynd nawr                Anyway, I’d better go now

Or it can mean whatever, e.g:

Ta beth (gw)nei di, paid mynd             Whatever you do, don’t go
Ta beth maen nhw’n anfon/hala          Whatever they send…

Ymadroddion Eraill

Ta (b)le           Wherever
Byddwn ni'n gallu defnyddio'r ymadrodd hwn yn lle'r ymadrodd mwy ffurfiol ‘Ble bynnag’

Ta faint           However much / However many / However long
Byddwn ni'n gallu defnyddio'r ymadrodd hwn yn lle'r ymadrodd mwy ffurfiol ‘Faint bynnag’

Ta pwy           Whoever
Byddwn ni'n gallu defnyddio'r ymadrodd hwn yn lle'r ymadrodd mwy ffurfiol 'Pwy bynnag’

Ta pryd          Whenever
Byddwn ni'n gallu defnyddio'r ymadrodd hwn yn lle'r ymadrodd mwy ffurfiol ‘Pryd bynnag’

Other expressions include:

Ta (b)le            whereever
rather than the more formal ‘ble bynnag’

Ta faint            however much/many/long
rather than the more formal faint bynnag

Ta pwy             whoever
rather than the more formal pwy bynnag

Ta pryd            whenever
rather than the more formal pryd bynnag

Ymadroddion yn cynnwys ‘Ar’

agor – to open       ar agor – open

Dw i’n agor y siop        I’m opening the shop/I open the shop
Mae’r siop ar agor        The shop is open

Phrases using ‘ar’

agor - to open              ar agor - open

Dw i’n agor y siop.        I’m opening the shop/I open the shop.
Mae’r siop ar agor.       The shop is open.

Bron

Bron â bod – Almost
Byddwn ni'n defnyddio 'Bron' i ateb cwestiwn neu ar ei ben ei hunan. e.e.

Person A: Wyt ti’n barod eto? Are you ready yet?
Person B: Bron â bod       Almost

Byddwn ni'n dweud 'Bron â' gyda berfau, a 'Bron yn' gydag ansoddeiriau ac enwau, e.e.

Bron â chysgu        Almost asleep (berf)
Bron yn barod        Almost ready (ansoddair)

Bron

Bron â bod - almost.  Used as an answer on its own,

Person A:  Wyt ti’n barod eto?      B:  Bron â bod.

Are you ready yet?          Almost.

Bron â chysgu - almost asleep
Bron yn barod - almost ready

 â with verbs, yn with adjectives and nouns.

 

Bron i fi - I almost

Bron i fi anghofio       I almost forgot
Bron i fi gwympo        I nearly fell

Byddwn ni'n defnyddio'r arddodiad 'i' er mwyn mynegi'r amser gorffennol gyda 'Bron' - yr un peth yn union ag y byddwn ni'n ei wneud gyda 'Cyn’ ac ‘Ar ôl’.

Bron i fi

Bron i fi anghofio        I almost forgot
Bron i fi gwympo        I nearly fell

The past tense is not used with ‘bron’, ‘i’ is used instead, as with ‘cyn’ and ‘ar ôl’.