Ar y dudalen hon, byddwn ni'n ystyried y treiglad meddal sy'n digwydd gydag enwau benywaidd.
y + cath > y gath the cat
* Os bydd ll neu rh ar ddechrau enw benywaidd unigol, fydd y seiniau hynny ddim yn treiglo ar ôl y fannod
y llaw the hand
y rhaff the rope
* Fydd enwau benywaidd lluosog ddim yn treiglo ar ôl y fannod
y cathod the cats
Fydd enwau gwrywaidd unigol ac enwau gwrywaidd lluosog ddim yn treiglo ar ôl y fannod, e.e:
y ci the dog
y cŵn the dogs
Bydd unrhyw ansoddair sy'n goleddfu enw benywaidd unigol yn treiglo''n feddal, e.e:
cath fawr a big cat
cath ddu a black cat
Bydd y rhifolion Un a Dwy yn achosi i enwau benywaidd unigol dreiglo'n feddal, e.e:
un gath one cat
dwy gath two cats
Bydd y rhifolyn Dau yn achosi i enwau gwrywaidd unigol dreiglo'n feddal, e.e:
dau gi two dogs
Bydd y rhifolyn Tri yn achosi i enwau gwrywaidd unigol dreiglo'n llaes, e.e:
tri chi three dogs
Dylech chi ddefnyddio enwau unigol gyda rhifolion. Edrychwch ar y dabl lle byddwn ni'n defnyddio'r gair 'Ci' (sy'n enw gwrywaidd), a'r gair Cath (sy'n enw benywaidd).
This page covers soft mutation with feminine singular nouns.
e.g. cath after y, y gath (the cat).
*Not feminine singular nouns beginning with ll and rh
e.g. y llaw (the hand), y rhaff (the rope).
*Not plural feminine nouns, e.g:
y cathod (the cats).
Masculine singular and plural nouns, no mutation after y, e.g:
y ci (the dog), y cŵn (the dogs).
Any adjective that describes a feminine singular noun will take a soft mutation, e.g:
cath fawr a big cat
cath ddu a black cat
Un and dwy cause a soft mutation to feminine nouns, e.g:
un gath, dwy gath.
Dau causes a soft mutation to masculine nouns, e.g:
dau gi
Tri causes an aspirate mutation, e.g:
tri chi
Singular nouns should be used with numbers. See table below where ‘ci’ is used as an example of a masculine noun, and ‘cath’ as an example of a feminine noun.
Masculine | Ci | Dim Treiglad Meddal | Feminine | Cath | Treiglad Meddal |
y | ci | bach | y* | gath | fach |
un | ci | du | un * | gath | ddu |
dau* | gi | mawr | dwy* | gath | fawr |
tri** | chi | diog | tair | cath | ddiog |
pedwar | ci | tew | pedair | cath | dew |
pum(p) | ci | cysglyd | pum(p) | cath | gysglyd |
dau* Treiglad meddal | dwy* Treiglad meddal | tri** Treiglad llaes |
Mae'n bosibl mai llawer o Gymry Cymraeg nad yndynt yn gwybod y 'rheolau' hyn. Byddan nhw'd dweud beth sy'n 'swnio'n gywir'. Fel rhywun sy wedu dysgu, byddwch chi'n gallu gwneud y ddau beth!
Many first language speakers don’t necessarily know the above rules but go by what sounds right. You can do both!
Gwrywaidd neu Fenywaidd?
Er mwyn dysgu beth yw cenedl rhyw enw, dylech chi ei ddysgu gan roi'r fannod o'i flaen, neu gan roi'r gair 'dwy / dau' o'i flaen. Er enghraifft, byddech chi'n gallu gwneud cardiau geirfa sy'n cynnwys pethau fel: y ci the dog, dau gi two dogs, y gath the cat, dwy gath two cats, tri mochyn bach three little pigs
Yn gyffredinol, bydd y terfyniadau canlynol yn dangos mai benywaidd yw enw
-ach, -aeth, -as, -eb, -ell, -en, -fa,-wraig, -es
cyfrinach secret
y gyfrinach fawr the big secret
gwybodaeth information
y wybodaeth the information
cymdeithas society
dwy gymdeithas fach two small societies
deiseb petition
y ddeiseb the petition
llinell line
y llinell the line
dwy linell felen two yellow lines
rhaglen programme
tair rhaglen deledu three T.V. programmes
swyddfa office
pedair swyddfa fawr four large offices
myfyrwraig student (benywaidd)
y fyfyrwraig ddeallus two intelligent students
ysgrifenyddes secretary (benywaidd)
yr ysgrifenyddes dda the good secretary
Masculine or Feminine?
The best way to learn whether words are masculine or feminine is to learn them with dau/dwy or ‘y’ or in a phrase, as they are encountered on the courses. If you make vocabulary cards you could write ‘y ci’/ the dog or ‘dau gi / two dogs or ‘y gath’ / ‘the cat’ or ‘tri mochyn bach’ / ‘three little pigs’ etc. rather than just ‘ci’ or ‘cath’ or ‘mochyn’.
Nouns with these endings are mostly feminine: -ach, -aeth, -as, -eb, -ell, -en, -fa,-wraig, -es,
e.g:
cyfrinach secret
y gyfrinach fawr the big secret
gwybodaeth information
y wybodaeth the information
cymdeithas society
dwy gymdeithas fach two small societies
deiseb petition
y ddeiseb the petition
llinell line
y llinell/dwy linell felen the line/two yellow lines
rhaglen programme
tair rhaglen deledu three T.V. programmes
swyddfa office
pedair swyddfa fawr four large offices
myfyrwraig student (fem.)
y fyfyrwraig ddeallus two intelligent students
ysgrifenyddes secretary (fem.)
yr ysgrifenyddes dda the good secretary
Yn gyffredinol, bydd yr holl derfyniadau eraill (yn cynnwys '-wr / -yn / -ydd') yn dangos mai gwrywaidd yw enw.
Dylech chi ddysgu beth yw cenedl pob gair (a beth yw lluosog pob gair hefyd) fel rhan o'i ystyr. Os byddwch chi'n gwybod pa eiriau sy'n fenywaidd, byddwch chi'n gallu dyfalu mai gwrywaidd yw'r gweddill.
*Eithriadau ydy'r geiriau – gwasanaeth (g), gwahaniaeth (g)
Most other types of endings are masculine, including -wr, -yn and -ydd and many others. All the feminine words in the course are marked with a (b) for benywaidd. It is best to learn which words are feminine and assume the rest are masculine. *Exceptions - gwasanaeth (m), gwahaniaeth (m).
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Wyt ti wedi ceisio mynd â'r gath am dro?
Have you tried to take the cat for a walk?
2. Ar yr un llaw dyn ni eisiau dod, ond ar y llaw arall dyn ni ddim yn gallu ffordio fe
On the one hand we want to come, but on the other hand, we can't afford it
3. Der(e) â'r rhaff, bydd rhaid i ni'i defnyddio hi!
Bring the rope, we'll have to use it!
4. O diar, mae'r cathod yn cymryd y lle drosodd!
O dear, the cats are taking the place over!
5. Mae'r ci yn y siop yn hapus ar ôl cael ei fwyd, ond mae'r cŵn draw fan'na yn cyfarth drwy'r amser
The dog in the shop is happy after having his food, but the dogs over there bark all the time
6. Mae cath fawr a chi bach 'da fy chwaer i
My sister has a big cat and a little dog
7. Roedd cath ddu a chrwban tew 'da dy ewythr, on'd oedd?
Your uncle had a black cat and a fat tortoise, didn't he?
8. Dw i wedi gweld un gath yn y tŷ, ond roedd dwy gath yn y stryd
I've seen one cat in the house, but there were two cats in the street
10. Fydd dau gi neu dri chrwban yno, pan fyddwn ni'n cyrraedd y parti?
Will there be two dogs or three tortoises there, when we get to the party?
11. Mae'r ci cysglyd yn cwrsio ar ôl y gath gyflym
The sleepy dog is chasing after the fast cat
12. Y drws nesa' mae un ci gwyn ac un gath wen
Next door there's one white dog and one white cat
13. Byddai'n well 'da fi ddau gi drwg na dwy gath dda
I'd prefer two bad dogs to two good cats
14. Dych chi wedi clywed y stori am y tri chi deallus a'r tair cath farus
Have you heard the story about the three clever dogs and the three greedy cats?
15. Yn ogystal â phedwar bachgen drewllyd, roedd pedair merch doniol
As well as four stinky boys, there were four funny girls
16. Ar y llwyfan roedd pum dyn diddorol a phum menyw ddifrifol
On the stage there were five interesting men and five serious women
17. Os byddwch chi'n ennill gwobr, peidiwch â rhannu'r gyfrinach fawr nes i chi fynd i'w chasglu hi
If you win a prize, don't share the big secret until you go to collect it
18. Dyw'r wybodaeth bwsig hon ddim yn gyfrinachol, mae hi ar gael i bawb yn rhad ac am ddim
This important information isn't confidential, it's available to all completely free
19. Doedd y gwasanaeth gwael ddim yn cyrraedd y safon o gwbl
The awful service wasn't of a good standard at all
20. 'Does dim gwahaniaeth mawr rhwng y ddau ymgeisydd
There's no great difference between the two candidates
21. Mae hi'n aelod o dair cymdeithas gyfrinachol, dw i'n credu
She's a member of three secret societies, I think
22. Fyddi di'n arwyddo'r deiseb yn erbyn mwy o linellau melyn?
Will you sign the petition against more yellow lines?
23. Byddan nwh'n rhoi dwy linell felen ar y stryd ar bwys ein tŷ ni
They'll be putting two yellow lines on the street by our house
24. Mae pedair rhaglen deledu am broblemau cymdeithasol ar y bocs heddi'
There are four T.V. programmes about social problems on the box tonight
25. Bydd y cwmni yn symud i dair swyddfa fach newydd yn fuan
The company will be moving to three small new offices soon
26. Y ddwy fyfyrwraig ddiddorol gurodd y tri myfyriwr diflas yn y cwis
The two interesting female students beat the three boring male students in the quiz
27. 'Naeth yr ysgrifenyddes brofiadol yr holl waith ar unwaith
The experienced secretary did all the work at once