Yn Saesneg byddwn ni'n ffurfio lluosog y rhan fwyaf o enwau trwy ychwanegu'r terfyniad '-s'. Fodd bynnag, bydd pethau'n fwy cymhleth yn Gymraeg, gan fod llawer mwy o luosogion fel 'man > men / goose > geese / foot > feet', a llawer myw o derfyniadau lluosog hefyd.
Plurals in Welsh don't follow the simple rules of English. Notice the different types of plurals:
Lluosog mwyaf cyffredin, ychwanegu -au:
The most common, add -au:
cae caeau field fields
llwybr llwybrau path paths
Mewn llawer o luosogion, bydd llafariad yn newid yng nghanol y gair:
Some have an internal vowel change:
oen ŵyn lamb lambs
dafad defaid sheep sheep
iâr ieir chicken chickens
Bydd yn bosibl hepgor y terfyniad '-en / -yn' gan newid y llafaraid: 'e > a'
‘e’ changes to ‘a’ when ending dropped
deilen dail leaf leaves
aderyn adar bird birds
Bydd yn bosibl hepgor y terfyniad heb newid y llafaraid:
Some have the ending dropped:
coeden coed tree trees
Rywbryd, byddwn ni'n hepgor y terfyniad ac yn ychwanegu -au yn ei lle:
Some have the ending dropped and -au added!
blodyn blodau flower flowers
Nodwch: yn gyffredinol, gwrywaidd yw enwau sy'n terfynu mewn -yn, e.e:
Note that words ending in -yn are usually masculine, e.g:
blodyn (flower), pysgodyn (fish), aderyn (bird).
Nodwch: yn gyffredinol, benywaidd yw enwau sy'n terfynu mewn -en, e.e:
Note that words ending in -en are usually feminine, e.g:
coeden (tree), deilen (leaf), (bachgen - boy, is an important exception)
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Dyw'r plant lico chwarae yn y cae, ond ro'n ni'n arfer mwynhau bod mas yn y caeau
The children don't like playing in the field, but we always used to enjoy being out in the fields
2. Mae un llwybr yn arwain o'r pentre' i'r eglwys, ond mae llawer o lwybrau o'r garej i'r ddinas
There is one path leading from the village to the church, but there are lots of paths from the garage to the city
3. Roedd un oen yn sâl, ond roedd gweddill yr ŵyn yn iach
One lamb was ill but the rest of the lambs were healthy
4. Mae un ddafad yn wan, ond mae gweddill y defaid yn gryf
One sheep is weak, but the rest the sheep are strong
5. Ro'n nhw'n arfer cadw un iâr ond bellach mae 'da ni lawer o ieir
We used to keep one chicken, but now we have lots of chickens
6. Unwaith bydd un ddeilen wedi cwympo, bydd y dail i gyd yn disgyn
Once one leaf falls, all the leaves come down
7. Mae un aderyn yn 'neud nyth yn yr ardd heddi', ond roedd llawer o adar yno ddoe
There's one bird making a nest in the garden today, but there were lots of birds there yesterday
8. Plannon ni un goeden ac erbyn hyn mae llawer o goed yn y berllan
We planted one tree and by now there are lots of trees in the orchard
9. Mae un blodyn yn neis ond mae llawer o flodau'n hyfryd!
One flower is nice, but lots of flowers are lovely!
10. Mae 'da ni bysgodyn aur ar hyn o bryd ond roedd 'da ni lawer o bysgod yn y pwll
We have a goldfish at the moment, but we used to have lots of fish in the pool
11. Mae'r aderyn bach yn bwyta’r pysgodyn mawr
The small bird eats the big fish
12. Mae'r bachgen da'n chwarae gyda deilen werdd o'r goeden fawr
The good boy is playing with a green leaf from the big tree