Ask Dr Gramadeg: Cyflwyno Treigladau / Introducing Mutations

Llythyren / LetterTreiglad Meddal / Soft MutationTreiglad Trwynol / Nasal MutationTreiglad Llaes / Aspirate Mutation
PBMhPh
TDNhTh
CGNghCh
BFM
DDdN
G-Ng
MF
LlL
RhR

Rhai pethau sy'n achosi Treiglad Meddal

Some things that cause a Soft Mutation

1. Enwau benywaidd ar ôl y fannod ('the' - y, yr, 'r) - neu ar ôl un ('one')
e.e. y gath, un gath.

1. Feminine singular nouns after ‘the’ -y, yr, 'r or ‘one’ - un
e.g. y gath, un gath.

2. Pob enw sy'n gallu treiglo ar ôl dau/dwy e.e:
dwy gath, dau gi.

2. Any noun after dau/dwy, e.g:
dwy gath, dau gi.

3. Ansoddeiriau ar ôl enwau benywaidd unigol, e.e.
cath + du cath ddu (a black cat)
cath + mawr + du
cath fawr ddu (a big black cat)

3. Adjectives after feminine singular nouns, e.g.
cath + du cath ddu (a black cat)
cath + mawr + du
cath fawr ddu (a big black cat).

4. Berfau cryno ar ddechau cwestiynau, e.e.
Taloch chi > Daloch chi?

4. Short form verbs beginning a question:
e.g. Taloch chi > Daloch chi?

5. Berfau cryno mewn brawddegau negyddol (Nid P, T, C - gweler Treiglad Llaes isod), e.e.
Bwytodd e (He ate) > Fwytodd e ddim

5. Verbs beginning a negative (not P, T, C - see Tr. Llaes below):
e.g. Bwytodd e (He ate) > Fwytodd e ddim.

6. Enwau ac ansoddeiriau ar ôl 'yn traethodiadol' (hynny yw, ar ôl ffurfiau 'bod') e.e.
Mae Ffred yn dwp - Ffred is stupid (ansoddair yw 'twp').
Mae Ffred yn _ofalwr - Ffred is a caretaker (enw yw 'gofalwr').

*Dyw berfenwau ddim yn newid, e.e.
Mae Ffred yn mynd - Ffred is going (berfenw yw 'mynd')

6. Nouns and adjectives after ‘yn’ (used with ‘bod’) e.g:
Mae Ffred yn dwp - Ffred is stupid (adjective).
Mae Ffred yn _ofalwr - Ffred is a caretaker (noun).

*Verbs don’t change e.g:
Mae Ffred yn mynd. Ffred is going (going is a verb).

7. Ar ôl y rhagenwau meddiannol 'dy' ('your'), 'ei' ('his') e.e.
car > dy gar di (your car)
car > ei gar e (his car)

7. After posessive pronouns dy (your), ei (his) e.g:
car > dy gar di (your car)
car > ei gar e (his car).

8. Enwau sy'n wrthrych uniongyrchol i ferf gryno, e.e.
Darllenais i lyfr - I read a book
Gwelodd Bryn a Siân raglen - Bryn a Siân saw a programme
Ga’ i goffi? - May I have a coffee?

8. Nouns which are a direct object of a short form verb, e.g:
Darllenais i lyfr (I read a book)
Gwelodd Bryn a Siân raglen (Bryn a Siân saw a programme)
Ga’ i goffi? (May I have a coffee?)

9. Ar ôl rhai arddodiadau, sef:
i, o, am,
ar, at, dan,
hyd, wrth, heb,
t/drwy, dros, gan
.

9. After certain prepositions:
i, o, am,
ar, at, dan,
hyd, wrth, heb,
t/drwy, dros, gan.

10. Ar ôl ychydig eiriau gofynnol: Pwy? Pa? Beth? Faint? e.e.
Pa ddyn? - Which man?

10. After certain question words: Pwy? Pa? Beth? Faint?
e.g. Pa ddyn? Which man?

Dyma rai pethau sy'n achosi Treiglad Llaes

Some things that cause an Aspirate Mutation

1. Ar ôl ‘a’ sy'n golygu 'ac' ('and’), e.e:
ci a chath - cat and dog
papur a phensil - paper and pencil

1. After ‘a’ meaning ‘and’, e.g:
ci a chath (cat and dog),
papur a phensil (paper and pencil).

2. Ar ôl ‘ei’ sy'n golygu ‘her’ e.e.
pen > ei phen hi (her head)

2. After ‘ei’ meaning ‘her’:
e.g. pen > ei phen hi (her head).

3. Berfau cryno sy'n dechrau â P, T, C, mewn brawddeg negyddol, e.e.
Chysgais i ddim - I didn’t sleep
Phrynais i ddim - I didn’t buy
Thalais i ddim - I didn’t pay
*Mainly in written work

3. Verbs beginning a negative (starting with P, T, C ), e.g:
Chysgais i ddim. I didn’t sleep.
Phrynais i ddim. I didn’t buy.
Thalais i ddim. I didn’t pay.
*Mainly in written work.

4. Ar ôl ‘na’ sy'n golygu ‘than’, e.e:
Mae coffi’n well na the.

4. After ‘na’ meaning ‘than’, e.g:
Mae coffi’n well na the - Coffee is better than tea.

5. Ar ôl y geiriau: tri, chwe(ch), gyda, â, tua, e.e:
tri chant
chwe chant
tua phump.

5. After the words: tri, chwe(ch), gyda, â, tua, e.g:
tri chant - three hundred
chwe chant - six hundred
tua phump - about five.

Dyma rai pethau sy'n achosi Treiglad Trwynol

Some things that cause a Nasal Mutation

1. Pan fydd gair yn dilyn 'yn' yn golygu 'mewn'. Noder bod y gair 'yn' yn newid hefyd, e.e:

1. When a word follows 'yn' meaning 'in'. Note that the word 'yn' changes too, e.g:

yn + Pontardawe > ym Mhontardawe
yn + Treforest > yn Nhreforest
yn + Caerdydd > yng Nghaerdydd
yn + Bannau Brycheiniog > ym Mannau Brycheiniog
yn + Dolgellau > yn Nolgellau
yn + Gwent > yng Ngwent

in Pontardawe
in Morriston
in Cardiff
in the Brecon Beacons
in Dolgellau
in Gwent

2. Pan fydd gair yn dilyn y rhagenw 'fy', e.e:

2. When a word follows the pronoun 'fy' ('my'), e.g:

fy + pensil > fy mhensil
fy + tref > fy nhref
fy + car > fy nghar
fy + bocs > fy mocs
fy + desg > fy nesg
fy + gwallt > fy ngwallt

my pensil
my town
my car
my box
my desk
my hair

3. Pan fydd geiriau fel 'blynedd, blwydd (oed), diwrnod' yn dilyn 'pum, saith, wyth, naw, deng (deg), deuddeng (deuddeg), pymtheng (pymtheg), deunaw, ugain, can (cant)', e.e:

3. When words like 'blynedd, blwydd (oed), diwrnod' ('year(s)', 'year(s) (of age), day') follow 'pum, saith, wyth, naw, deng (deg), deuddeng (deuddeg), pymtheng (pymtheg), deunaw, ugain, can (cant)' ('five, seven, eight, nine, ten, twelve, fifteen, eighteen, twenty, hundred'), e.g.

pump + blynedd > pum mlynedd
saith + bynedd > saith mlynedd
wyth + blynedd > wyth mlynedd
naw + bynedd > naw mlynedd
deg + blynedd > deng mlynedd
deuddeg + blynedd > deuddeng mlynedd
pymtheg + blynedd > pymtheng mlynedd
deunaw + blynedd > deunaw mlynedd
ugain + blynedd > ugain mlynedd
cant + blynedd > can mlynedd
Noder: Weithiau, bydd pobl yn dweud 'chwe mlynedd' ac 'wyth blynedd'.

five years
seven years
eight years
nine years
ten years
twelve years
fifteen tears
eighteen years
twenty years
a hundred years
Note: Sometimes, people say 'chwe mlynedd' ('six years') and 'wyth blynedd' ('eight years').

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

 

Chwiliwch am bob treiglad yn y brawddegau canlynol a cheisiwch esbonio pam mae e wedi digwydd

Search for every mutation in the following sesntences and try to explain why it has occurred

1. Mae hi'n gweithio i brifysgol yng Ngogledd Cymru ar ei phen ei hunan ers pum mlynedd
She has been working for a University in North Wales on her own for five years

2. Darllenais i lyfr o gerddi yng Nghaerffili a cherddais i'r castell
I read a book of poems in Caerphilly. and I walked to the castle

3. Thalais i ddim tua phum punt am frechdanau pan oedd fy nghar wedi torri i lawr yng Nghernyw
I did not pay about five pounds for sandwiches when my car had broken down in Cornwall

4. Cafodd dri chant o bobl eu gwenwyno gan gemegion yn Nulyn ddoe
Three hundred people were poisoned by chemicals in Dublin yesterday

5. Brynon nhw eu bwyd wrth grwydro o gwmpas yn yr archfachnad fach dan Bont y Brenin heb fynd i'r siop leol?
Did they buy their food whilst wandering about in the little supermarket under King's Bridge without going to the local shop?

6. Roedd dros dri chant o ferched o'r ysgol leol yn mynd i astudio gwyddoniaeth yn y Brifysgol
Over three hundred girls from the local school were going to study science in University

7. Bydd yn rhaid i fi fynd at ddeintydd newydd ar frys yfory, mae'r ddannoedd ofnadw' arna i!
I shall have to go to a new dentist in a hurry tomorrow, I have awful toothache!

8. Torron nhw'r lawnt hyd waelod yr hen faes chwarae y dydd o'r blaen
They cut the lawn up to the bottom of the old playing-field the other day

Ask Dr Gramadeg Mutations

Ask Dr Gramadeg Treiglad Meddal