Yn llythrennol – 'this place / that place' ('here / there') ar lafar in speech (ffurfiau wedi'u treiglo o man hyn/manna)
Literally - this place/that place (Here/there) in speech (mutated from man hyn/manna)
Fan hyn (by) here Fanna (by) there
Lan/lawr fan hyn up here/down (by) here Lan/lawr fanna up there/down (by) there
Draw fanna over (by) there
Byddwch chi'n clywed ‘by here / by there’ ar lafar yn Saesneg mewn rhai ardaloedd o Gymru. Efallai fod yr ymadroddion hyn wedi tarddu o'r rhai Cymraeg, sef, 'fan hyn / fan na'.
‘By here’ / ‘by there’ is used in some English dialects of Wales, probably from the two sounds used in Welsh, fan hyn / fan na.
other + noun = arall/eraill other/others - no noun = llall/lleill
y dyn arall the other man y llall the other (one)
y fenyw arall the other woman y llall the other (one)
y dynion eraill the other men y lleill the others/the other ones
y menywod eraill the other women y lleill the others/the other ones
Yn y dabl isod, dyna'r geiriau sy'n golygu this, that, these and those. Bydd rhaid defnyddio'r geiriau hyn pan fyddwn ni'n pwyntio at rywbeth, ac yn ei enwi fe ar yr un pryd, e.e:
In the table below the words for this, that, these and those are shown when the object/s in question are pointed to and named, e.g:
cwpan (cup) y cwpan (the cup) masculine noun
cyllell (knife) y gyllell (the knife) feminine noun
this/these | that/those | ||||||
Gwrywaidd / Masculine | y | cwpan | ’ma | y | cwpan | ’na | |
Benywaidd / Feminine | y | gyllell | ’ma | y | gyllell | ’na | |
Lluosog / Plural | y | cwpanau/cyllyll | ’ma | y | cwpanau/cyllyll | ’na |
Yn llythrennol byddwn ni'n cyfieithu'r ymadroddion hyn fel:
A literal translation of the above would be:
The cup/knife/cups/knives here
The cup/knife/cups/knives there
Fel arfer byddwn ni'n talfyrru yma / yna yn 'ma / 'na ar lafar.
Yma and yna or usually shortened to ’ma and ’na in speech.
* Dim ond enwau benywaidd unigol sy'n treiglo ar ôl y fannod ('the'). Dyw ffurfiau lluosog ddim yn treiglo hyd yn oed os benywaidd ydynt, e.e:
* Only femine singular words are mutated after y. Plurals are not mutated after y even if they are feminine, e.g:
Y gyllell ’ma y cyllyll ’ma y gadair ’na y cadeiriau ’na
This knife these knives that chair those chairs
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Mae'r ci fan hyn, wrth y drws
The dog's over here, by the door
2. Mae'r gath fanna, ar y gadair freichiau
The cat's over there, on the armchair
3. Mae'r 'sanau ar y llawr ar fy mwys i, lawr fan hyn
The socks are on the floor by me, down by here
4. Mae'r arian mewn jar yn y cwpwrdd, lan fan hyn
The money's in a jar in the cupboard, up here
5. Edrycha, mae'r gath lan fanna mewn coeden unwaith 'to!
Look, the cat's up by there in a tree once again!
6. Doi di o hyd i'r dogfennau lawr fanna yn y drôr isa'
You'll find the documents down there in the bottom drawer
7. Croeso i chi ddod draw fan hyn os bydd amser 'da chi
You're welcome to come over here if you have time
8. Falle byddwn ni'n mynd draw fanna i ymweld â nhw rywbryd
Perhaps we'll go over there to meet them sometime
9. Roedd y dyn arall yn cuddio yno drwy'r amser
The other man was hiding there all the time
10. Dyn ni'n gwybod am y ci cynta', ond be' am y llall?
We know about the first dog, but what about the other one?
11. Roedd Mam yn gweiddi'n uchel, ond roedd y fenyw arall yn dawel
Mum was shouting loudly, but the other woman was quiet
12. Dyn ni wedi gweld un gath, ond gawn ni weld y llall?
We've seen one cat, but can we see the other?
13. Roedd un dyn yn gorwedd ar y llawr, wrth i'r dynion eraill edrych arno fe
One man was lying on the floor, while the other men looked at him
14. Maen nhw'n lico'r llyfrau 'ma, ond dyn nhw ddim yn siŵr am y lleill
They like these books, but they're not sure about the others
15. Bydd y menywod eraill yn dal i weithio wrth i fi ddod â'r brechdanau
The other women will carry on working whilst I bring the sandwiches
16. Bydden nhw'n prynu'r cadeiriau 'na, ond fydden nhw ddim eisiau'r lleill
They would buy those chairs, but they wouldn't want the others
17. Mae'r bachgen ’ma'n dda iawn, ond mae'r llanc 'na'n ddrwg
This boy is very good but that lad is naughty
18. Roedd y ferch ’ma'n gweithio'n galed, wrth i'r fenyw 'na wylio
This girl was working hard, whilst that woman watched
19. Bydd y plant 'ma'n mwynhau'r cyngerdd ond sa i'n credu y bydd y cryts 'na'n hapus
These children will enjoy the concert, but I don't think those kids will be happy
20. Mae'r naill gath yn wyn, ond mae'r llall yn ddu
One cat is white, but the other is black
21. Byddai'r naill gi'n dda, tra byddai'r llall yn ddrwg
One dog would be good, while the other would be naughty