-wr > -wyr
rhyfelwr > rhyfelwyr
-wraig > -wragedd
rheolwraig > rheolwragedd
-ydd > -yddion
gwleidydd > gwleidyddion
a > ei
bardd > beirdd car > ceir
> -ydd
nant > nentydd gwlad > gwledydd
Bydd bron pob gair sy'n terfynu mewn -fa yn newid y terfyniad i -feydd, e.e:
Nearly every word ending in -fa changes to -feydd, e.g:
torf (b) > torfeydd
crowd > crowds
Enghreifftiau eraill Other examples
-fa > -feydd
golygfa golygfeydd view > views
amgueddfa amgueddfeydd museum > museums
swyddfa swyddfeydd office > offices
Fel arfer, byddwn ni'n pwysleisio'r sillaf olaf yn y ffurf luosog.
The emphasis is usually on the last syllable in the plural.
Yn aml, y bydd llawer o eiriau sy'n terfynu mewn '–yn (g)' neu '–en (b)' yn ffurfio'r lluosog trwy hepgor y terfyniad, e.e:
Many words ending in –yn (masculine) or –en (feminine) often form plurals by dropping the ending, e.g:
pysgodyn > pysgod fish > fish(es)
Enghreifftiau eraill
aderyn > adar bird > birds
coeden > coed tree > trees
atomfa nuclear power station atomfeydd
carw deer ceirw
bord table bordydd
derbynfa reception derbynfeydd
cadeirydd chair (person) cadeiryddion
rheolwr manager rheolwyr
pont bridge pontydd
llygoden mouse llygod
tarw bull teirw
mochyn pig moch
meddygfa surgery meddygfeydd
gwladgarwr patriot gwladgarwyr
Yn Gymraeg, mae cynifer o ffyrdd o ffurfio lluosog enwau. Fel dysgwr, sut y byddwch chi'n gwybod p'un yw p'un? Y ffordd orau o wneud hyn fydd dysgu'r lluosog tra byddwch chi'n dysgu'r gair unigol ei hun.
Because the Welsh system has so many ways of forming plurals, the best way of learning them is to do so as you go along. Look them up and learn them as soon as a new word is encountered in the singular.
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Mae cerflun y rhyfelwr anhysbus yn cynrychioli'r rhyfelwyr i gyd a fu farw mewn rhyfelau ledled y byd
The statue of the unknown warrior represents all the warriors who have died in wars around the world
2. Roedd un rheolwraig yn gweithio yn y ffatri, ond bellach mae llawer o reolwragedd yno
There was one manageress working in the factory, but now there are lots of manageresses there
3. Mae un gwleidydd wedi perswadio gweddill y gwleidyddion i bleidleisio yn erbyn y cynygiad
One politician has persuaded the rest of the politicians to vote against the motion
4. Mae bardd yn gallu dysgu trwy darllen gwaith beirdd eraill
A poet can learn by reading the work of other poets
5. Faint o geir sy 'da chi? Mae un car 'da ni ar hyn o bryd.
How many cars do you have? We have one car at the moment.
6. 'Does yr un nant yn rhedeg trwy'n fferm ni, ond mae llawer o nentydd yn yr ardal
There isn't a single stream running through our farm, but there are lots of strems in the area
7. Gwlad fach, hynafol yw Cymru, ymhlith gwledydd Ewrop oll
Wales is a small, ancient country, amongst all the countries of Europe
8. Roedd y dorf yng Nghaerdydd ddydd y gêm yn enfawr, ond mae'r torfeydd yn Llundain yn waeth
The crowd in Cardiff on the day of the game was huge, but the crowds in London are worse
9. Mae'r olygfa o'n bryn ni'n wych, ond mae'r golygfeydd o ben y mynydd yn well!
The view from our hill is great, but the views from the top of the mountain are better!
10. Mae amgueddfa ardderchog yn Sain Ffagan, a llawer o amgueddfeydd diddorol eraill dros y wlad hefyd
There is an excellent museum in St Fagans, and many other interesting museums across the country too
11. Pan ddechreuais i yn y swydd roedd un swyddfayn Wrecsam, ond bellach mae swyddfeydd ym mhob man
When I started in the job there was one office in Wrexham, but now there are offices everywhere
12. Mae un pysgodyn aur 'da ni mewn acwariwm yn y tŷ, ond mae llawer o bysgod yn y pwll yn yr ardd
We have one goldfish in an aquarium in the house, but there are lots of fish in the pond in the garden
13. Gwelon ni ddau aderyn yn 'neud nyth yn y coed ddoe, ond mae llawer mwy o adar yno heddi'
We saw two birds making a nest in the trees yesterday, but there are a lot more birds there today
14. Plannodd fy nhad-cu un goeden yn y berllan, ac erbyn hyn mae dwsinau o goed yn tyfu yno
My grandfather planted one tree in the orchard, and by now there are dozens of trees growing there
15. Roedd pobl yn arfer cwyno am yr atomfa newydd, ond nawr mae atomfeydd wedi ymddangos ym mhob man
People used to complain about the new nuclear power station, but now nuclear power stations have appeared everywhere
16. Dim ond un carw oedd yn byw yn y warchodfa, cyn iddyn nhw achub llawer mwy o geirw
There was only one deer living in the reserve, before they saved lots more deer
17. Ar ein fferm ni mae un tarw, ond ar fferm ein cymdogion mae mwy o deirw
On our farm there's one bull, but on our neighbours' farm there are more bulls
18. Yn y parti, bydd y rhan fwya' o'r bordydd yn y neuadd, ac un ford y tu mas
In the party, the majority of the tables will be in the hall, and one table outside
19. Rhaid i ni redeg y dderbynfa yn y sywddfa 'ma'n enwedig fel y derbynfeydd yn y swyddfeydd eraill
We must run the reception in this office exactly like the receptions in the other offices
20. Roedd yr hen gadeirydd yn ofnadw ond mae'r cadeiryddion newydd yn waeth byth!
The old chair-person was terrible, but the new chair-persons are worse than ever!
21. 'Doedd dim rheolwr 'da ni am sbel, ond mae llawer o rheolwyr wedi 'neud cais am y swydd yn ddiweddar
We didn't have a manager for a while, but lots of managers have applied for the job recently
22. Roedd un bont dros yr afon i ddechrau, ond erbyn 1970 roedd llawer o bontydd wedi ymddangos
There was one bridge over the river to start, but by 1970 lots of bridges had appeared
23. Gwelon nhw lygoden, ond maen nhw'n siŵr bod llawer o lygod yno
They saw a mouse, but they're sure that there are lots of mice there
24. Mae'n hewythr ni'n cadw un mochyn, ond mae degau o foch ar fferm Twm
Our uncle keeps a one pig, but there are tens of pigs on Twm's farm
25. Maen nhw wedi cloi'r meddygfa yn y dre', achos eu bod nhw'n honni bod gormod o feddygfeydd yn y ddinas
They've closed the surgery in the town, because they claim that there are too many surgeries in the city
26. Nage gwladgarwr mohono i, bu farw'r gwladgarwyr gwir i gyd amser maith yn ôl
I am not a patriot, all the true patriots died long ago