Ask Dr Gramadeg: Ffurfio gorchmynion / Command Endings

Er mwyn ffurfio gorchmynion, byddwn ni'n ychwanegu terfyniadau at fôn y ferfenw, sydd yr un peth â bôn yr amser gorffennol. Mae'r terfyniad -a yn cyfeirio at 'ti', ac mae'r terfyniad -wch yn cyfeirio at 'chi'. Yn aml byddwn ni'n hepgor y terfyniad -a ar lafar. Yma, byddwn ni'n dangos hyn drwy ddefnyddio cromfachau, e.e. 'Gwisg(a) > Gwisg' ('Put on!').

The roots onto which the command endings (-a, ‘ti’ commands), (-wch, ‘chi’ commands) are placed, are the same as for the past tense.  The a ending for the ‘ti’ commands is often dropped in speech - shown by brackets e.g. Gwisg(a) > Gwisg - Put on!

Verb ending with...
Examples of verbs Root Commands
-io
-io Anghofio Anghofi- Anghofia/Anghofiwch
-io Ffonio Ffoni- Ffonia/Ffoniwch
-io Cofio Cofi- Cofia/Cofiwch
None
Gofyn Gofyn(n)- Gofynn(a)/Gofynnwch
Eistedd Eiste(dd)- Eistedd(a)/Eisteddwch
Edrych Edrych- Edrych(a)/Edrychwch
Darllen Darllen- Darllen(a)/Darllenwch
Vowels
-o Gwisgo Gwisg- Gwisg(a)/Gwisgwch
-u Tynnu Tynn- Tynn(a)/Tynnwch
-u Sychu Sych- Sych(a)/Sychwch
-u Talu Tal- Tal(a)/Talwch
-i Codi Cod- Cod(a)/Codwch
-a B(w)yta B(w)yt- B(w)yt(a)/B(w)ytwch
-ed/-eg
-ed Cerdded Cerdd- Cerdda/Cerddwch
-eg Rhedeg Rhed- Rhed(a)/Rhedwch
-ed Yfed Yf- Yf(a)/ Yfwch
-oi
-oi Rhoi Rho- Rho/Rhowch
-oi Troi Tro- Tro/Trowch
Other Dweud Dwed- Dwed / Dwedwch
Cau Cae- Caea / Caewch

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Anghofia am y gwylia, 'does dim digon o arian 'da ni!
Forget the holiday, we don't have enough money!

Anghofiwch am eich problemau i gyd am y penwythnos yn ein sba hyfryd!
Forget about all your problems for the weekend in our lovely spa!

2. Ffonia'r heddlu, Sandra, mae rhywun yn torri i mewn y drws nesa'!
Phone the police, Sandra, there's someone breaking in next door!

Ffoniwch yr ysgol, bawb, i gwyno am y cyngerdd ofnadw'!
Phone the school, everyone, to complain about the awful concert!

3. Cofia brynu bwyd am y ci pan fydda i bant, Ffred!
Remember to buy food for the dog when I'm off, Ffred!

Cofiwch, blant, am y cyngerdd fydd yn digwydd yma heno!
Remember, children, about the concert that's happening here tonight!

4. Gofynn(a) i'r prifathro, Ffred, am beth oedd yn digwydd yn y 'stafell staff!
Ask the headteacher, Ffred, about what was happening in the staff room!

Gofynnwch i'r disgyblion, syr, am ymarfer mwy y tro nesa'!
Ask the pupils, sir, to practise more next time!

5. Eistedd(a) yno, Sandra, ti 'di cael sioc enfawr!
Sit there, Sandra, you've had an enormous shock!

Eisteddwch yn dawel, rhieni, mae'r cyngerdd ar fin dechrau!
Sit quietly, parents, the concert's about to begin!

6. Darllen(a) bopeth yn y llythyr 'ma'n ofalus, Ffred!
Read everything in this letter carefully, Ffred!

Darllenwch eich rhaglenni, famau a thadau, i weld pwy fydd yn 'neud beth yn y cyngerdd heno!
Read your programs, mums and dads, to see who'll be doing what in the concert tonight!

7. Gwisg(a) dy 'sgidiau, Ffred, cyn mynd mas yn yr eira!
Put on your shoes, Ffred, before going out in the snow!

Gwisgwch eich dillad gorau chi heno, blant, mae'r cyngerdd yn bwysig iawn!
Wear your best clothes tonight, children, the concert is very important!

8. Tynn(a) dy 'sanau, Sandra, a'u llosg nhw! Maen nhw'n drewi!
Take off your socks, Sandra, and burn them! They're stinking!

Tynnwch arian allan o'r banc yn y ddinas, bois, cyn mynd i'r dre', maen nhw wedi cael gwared o'r holl beiriannau yno!
Take money out of the bank in the city, boys, before going to the town, they've got rid of all the machines there!

9. Sych(a) dy ddwylo cyn darllen y llythyr!
Dry your hands before reading the letter!

Sychwch eich traed, blant, pan fyddwch chi'n dod yn ôl o'r maes chwarae!
Dry your feet, children, when you come back from the playing-field!

10. Tal(a)'r bil, Sandra, 'does dim arian 'da fi!
Pay the bill, Sandra, I don't have any money!

Dic a Hari - talwch am y pysgod a 'sglods pan fyddwch chi wedi mynd i'r banc!
Dic and Hari - pay for the fish and chips when you've been to the bank!

11. Cod(a) fwy o duniau o fwyd ci yn yr archfarchnad, Ffred, paid â gadael i Spot starfo!
Pick up more tins of dog-food in the supermarket, Ffred, don't let Spot starve!

Codwch yn gynharach yn y bore, plant, os byddwch chi eisiau llwyddo!
Get up earlier in the morning, children, if you want to succeed!

12. Bwyt(a) dy fwyd ci di, Spot, neu bydd Sandra yn grac iawn!
Eat your dog-food, Spot, or Sandra will be very cross!

Bwytwch y pigoglys, blant, ac wedyn byddwch chi'n gallu cael yr hufen iâ!
Eat the spinach, children, and then you will be able to have the ice-cream!

13. Cerdda ar hyd y Stryd Fawr, ac wedyn tro i'r dde ar ôl y garej gyferbyn â'r Eglwys Gadeiriol!
Walk along the High Street, and then turn to the right after the garage opposite the Cathedral!

14. Rhed(a), Spot, dere 'ma boi, mae tun o fwyd ci blasus iawn yn aros amdanat ti!
Run, Spot, come here, boy, there's a tin of very tasty dog food waiting for you!

Rhedwch o gwmpas ar y maes chwarae bob dydd ar ôl yr ysgol, blant, mae'n ymarfer corff gwych!
Run about on the playing field every day after school, children, it's excellent physical exercise!

15. Yf(a) dy beint, Ffred, brysia di, dw i eisiau cael un arall!
Drink your pint, Ffred, hurry up, I want to have another one!

Yfwch y llaeth, blant, a byddwch chi'n tyfu lan'n gryf a iach!
Drink the milk, children, and you'll grow up strong and healthy!

16. Rho'r holl duniau yn y cwpwrdd, Ffred, ar ôl mynd i siopa!
Put all the tins in the cupboard, Ffred, after going shopping!

Rhowch y tuniau 'na yn y fasget, syr, os gwelwch yn dda!
Put those tins in the basket, sir, please!

17. Tro i'r chwith ar ôl pasio'r eglwys ar y dde!
Turn to the left after passing the church on the right!

Trowch yn ôl, chi ill dau, neu byddwch chi'n achosi problem anfawr!
Turn back, you two, or you'll cause an enormous problem!

18. Dwed wrtha i, Sandra, beth oedd yn digwydd yn yr ysgol ofnadw' 'na ddoe?
Tell me, Sandra, what was happening in that awful school yesterday?

Dwedwch i'ch ffrindiau oll am y cyngerdd fydd yn digywdd yma'n fuan!
Tell all your friends about the concert that'll be happening here soon!

19. Caea'r drws, Ffred, neu bydd Spot y ci yn dianc unwaith 'to!
Close the door, Ffred, or Spot the dog will escape once again!

Caewch eich llyfrau, blant, mae'n amser i'r cyngerdd ddechrau!
Close your books, children, it's time for the concert to start!