Duolingo- Celebrating 1 million users

Duolingo Welsh for English speakers: Dathlu 1 miliwn o ddefnyddwyr / Celebrating 1 million users

Mae’r cwrs Welsh for English Speakers ar Duolingo wedi cyrraedd miliwn o ddefnyddwyr ym mis Ebrill 2018, a dim ond ym mis Awst 2016 y cafodd ei lansio. Sut mae e wedi bod mor llwyddiannus? Mae Jonathan Perry, un o arweinwyr y cwrs, yn esbonio mwy…

The course Welsh for English Speakers on Duolingo has reached 1 million users in April 2018, but it was only launched in August 2016. How has it been so successful? Jonathan Perry, one of the course leaders, explains more…

Mae'r cwrs Welsh for English Speakers ar Duolingo wedi cyrraedd miliwn o ddefnyddwyr ym mis Ebrill 2018, a dim ond ym mis Awst 2016 y cafodd ei lansio. Sut mae e wedi bod mor llwyddiannus?
Mae llwyddiant y cwrs Duolingo oherwydd pa mor hawdd y mae ymuno a dysgu â’r ap neu’r wefan am ddim. Dim ond munud mae’n gymryd i ymuno â’r cwrs a 5 munud y dydd i ddefnyddio’r cwrs. Ble bynnag ydych chi, beth bynnag dych chi’n wneud, os oes 5 munud sbâr gyda chi mae’r ap ar y ffôn yn eich bag/poced, ar y tabled ar eich desg, ar y porwr ar eich cyfrifiadur. Mae e’n hawdd dysgu ar Duolingo.
Dych chi’n gosod eich targed eich hunan a gweithio at hynny bob dydd. Os dych chi’n cyrraedd eich targed dych chi’n ennill Lingots ac XP. Mae Duolingo wedi troi dysgu iaith yn gêm sy’n apelio at oedolion a phlant.
Efo 1,000 o bobl newydd yn ymuno â’r cwrs a 7,000 o bobl yn defnyddio’r cwrs bob dydd, mae’n amlwg bod y Gymraeg yn denu sylw mawr ledled y byd.
The course Welsh for English Speakers on Duolingo has reached 1 million users in April 2018, but it was only launched in August 2016. How has it been so successful?
The course’s success on Duolingo is down to how easy it is to join the course and learn Welsh on the app or website totally free. It only takes a minute to join the course and 5 minutes a day to use it. Wherever you are, whatever you’re doing, if you have a spare 5 minutes the app is on the phone in your bag/pocket, on the tablet at your desk, in the browser on your computer. It’s easy to learn on Duolingo.
You set your own target and work towards it every day. If you reach your target you win Lingots and XP. Duolingo has turned language learning into a game which appeals to both adults and children.
With 1,000 new people joining the course and 7,000 individuals using the course every day, it’s obvious that Welsh is attracting attention all over the world.
Beth sydd yn denu cymaint â hynny o bobl i’w ddefnyddio – beth dych chi’n ei gynnig sydd yn wahanol i gyrsiau eraill?
Yn wahanol i gyrsiau eraill, dim ond 5 munud bob dydd mae Duolingo’n gymryd ac mae’r cwrs cyfan am ddim.
Mae’r ap ar gael ar Android, iOS, Windows ac mae’r cwrs ar gael ar-lein ar duolingo.com.
Hefyd, mae’r ap yn erfyn da i addysgwyr. Mae’n bosib creu dosbarthiadau ar schools.duolingo.com, gosod gwaith cartref a dilyn cynnydd eich dysgwyr.
What attracts that amount of people to using it- what do you offer that is different to other courses?
Unlike other courses, it only takes 5 minutes a day to use Duolingo and the whole course is free.
The app is available on Android, iOS, Windows and the course is available on-line at duolingo.com.
The app is also a useful tool for educators. It’s possible to create classes at schools.duolingo.com, set homework and follow your students’ progress.
Pa fath o ddemograffig sydd gyda chi- ai pobl o’r tu fas i Gymru yn bennaf sydd yn ei ddefnyddio?
Mae 40% o’n dysgwyr yn y Deyrnas Unedig, 33-40% yn yr Unol Daleithiau a’r gweddill ledled y byd.
What sort of demographic do you have- is it mainly people outside of Wales that use it?
40% of our learners are in the United Kingdom, between 33-40% in the United States and the rest all over the world.
Mae'r cwrs wedi cael ei greu gan wirfoddolwyr yn unig. Pa fath o gefndir a phrofiad sydd gan eich cyfrannwyr?
Mae amrywiaeth o brofiad gyda ni ar y tîm ond y peth sy’n ein cysylltu ni i gyd yw gweledigaeth cael cwrs Cymraeg ar gael am ddim i bawb ledled y byd. Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n diwtoriaid Cymraeg i Oedolion profiadol ac yn dysgu’r Gymraeg i gannoedd o bobl bob wythnos mewn dosbarthiadau yn y gymuned.
Dyn ni’n defnyddio’r sgiliau sy gyda ni fel tîm i ddatblygu, cadw a hyrwyddo’r cwrs ar Duolingo’n wirfoddol yn ein hamser sbâr.
The course has been created by volunteers only. What sort of background and experience do your contributors have?
There is a variety of experience on the team but what connects us all is the vision of a Welsh course available to everyone anywhere in the world for free. Most of us are experienced Welsh for Adults tutors and teach hundreds of people each week in community-based classes.
We use our skills as a team to develop, maintain and promote the Duolingo course voluntarily in our spare time.
Wrth ddysgu iaith, mae'n bwysig iawn ei defnyddio hi, ond mae'n anodd i rai o ddefnyddwyr Duolingo fynd i ddosbarthiadau a gweithgareddau. Sut mae pobl sydd yn dysgu gyda chi yn defnyddio'r iaith?
Mae hyn yn her sy’n wynebu pob cwrs ar Duolingo. Ar y wefan, mae labordy Duolingo Events ar gael lle mae’n bosib sefydlu grŵp lleol a gwahodd i bobl ymuno â chi er mwyn ymarfer iaith. Does neb wedi dechrau un yn Gymraeg eto, ond mae’ hollol bosib y bydd hynny’n digwydd yn y flwyddyn nesaf.
I unrhyw ddefnyddiwr yng Nghymru, mae sawl digwyddiad Cefnogi Dysgwyr yn cael ei drefnu gan y canolfannau lleol ac os ydyn nhw am fynd i’r rhain, dylen nhw fynd i dysgucymraeg.cymru ac edrych ar dudalen eu canolfan leol.
Mae Dysgu Cymraeg Gwent yn cynnig dosbarthiadau Skype hefyd ac mae gyda ni sawl dysgwr/dysgwraig dramor sy’n cysylltu â thiwtor i ddysgu ac ymarfer eu Cymraeg yn rheolaidd.
Wrth gwrs, mae Cymru’n lle braf am wyliau a dw i’n siŵr y byddai croeso mawr i unrhyw un sy’n dysgu’r iaith ddod i ymweld â ni yma yng gwlad y gân.
When learning a language, it's very important to use it, but it's awkward for some Duolingo users to go to classes and events. How do people who are learning with you use the language?
This is a challenge facing every course on Duolingo. On the website, there is a lab called Duolingo Events where people can set up a local Group and invite people to practice a language. There aren’t any for Welsh yet but it’s very possible that this will happen in the next year.
For any users in Wales, many Learner Support events are organised by their local centres and if they’d like to attend any of these, they should go to learnwelsh.cymru and look at their local provider’s page.
Dysgu Cymraeg Gwent also offer Skype lessons and we have several learners living abroad who regularly Skype our tutors to learn and practice their Welsh.
Of course, Wales is a great holiday destination and I’m sure anyone learning the language would receive a great big welcome if they were to visit us here in the land of song.
Mae yna lawer o bobl sydd eisiau cynyddu nifer siaradwyr. Fel prosiect llwyddiannus dros ben, pa gyngor sydd gyda chi i sefydliadau eraill?
Peth pwysicaf yw defnyddio’r offer iawn i’ch cynulleidfa a bod yn hyblyg. Â Duolingo, dyn ni wedi gallu cyrraedd bedwar ban y byd mewn llai na 2 flynedd. Hefyd, mae’r ap yn teilwra’i hun i’ch dull dysgu personol wrth i chi ei ddefnyddio, po fwya dych chi’n ei ddefnyddio, y gorau mae’n eich nabod.
Mae’n hollbwysig bod ni yng Nghymru’n gwneud y Gymraeg yn hygyrch, hwyl a hawdd ei weld yn gyhoeddus. Â’r technoleg sydd ohoni, mae mynediad i’r Gymraeg a dysgu’r Gymraeg yn nwylo bron pawb ac mae’n rhaid i ni gymryd mantais o hynny er mwyn sicrhau bod ni’n cyrraedd y cynulleidfa mwyaf posib.
There are lots of people who want to increase the number of speakers. As a very successful project, what advice can you give to other organisations?
The most important thing is using the right tools for your audience and being flexible. With Duolingo, we’ve been able to reach around the world in less than 2 years. Also, the app tailors itself to your own learning style, the more you use it the better it knows you.
It’s vital that we in Wales make the Welsh language accessible, fun and publicly visible. With the technologies that exist, the Welsh language and a way to learn it is in nearly everyone’s hands and we must take advantage of that to ensure that we reach the widest possible audience.
Rwy’n dychmygu bod gyda chi gynlluniau i ymestyn beth mae Duolingo yn ei gynnig. Beth sy’n digwydd nesaf a sut all pobl gyfrannu?
Mae cynlluniau gyda ni a cham nesaf ein taith yw cydweithio â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i sicrhau bod ein cwrs ni’n cyd-fynd â’r cyrsiau newydd sbon fydd yn cael eu cyhoeddi dros y blynyddoedd nesaf a chysylltu ein hadnoddau er mwyn creu’r profiad dysgu gorau posib i bawb.
Hoffen ni weld mwy o athrawon a thiwtoriaid yn defnyddio Duolingo i greu dosbarthiadau eu hunain er mwyn cefnogi’u dysgwyr pa bynnag lefel y maen nhw.
Mae croeso i unrhyw un sydd gan ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu sy eisiau mwy o wybodaeth gysylltu â ni drwy dudalen y cwrs, neu ar Drydar @Welsh_Duolingo neu ar ein tudalen Facebook Duolingo Welsh Learners.
I can imagine that you have plans to extend what Duolingo offers. What is coming up and how can people contribute?
We have plans and the next step in our journey is to work with the National Learn Welsh Centre to ensure that our course works with the brand-new courses that will be released in the coming years and connect our resources in order create the best possible learning experience for everyone.
We’d like to see more teachers and tutors creating their own classrooms on Duolingo to support their learners whatever their level.
Anyone with interest in volunteering or just looking for more information is welcome to contact us through the course page, on Twitter @Welsh_Duolingo or on our Facebook page Duolingo Welsh Learners.

Myra Awodey, Lead Community Specialist at Duolingo, played a key role in overseeing the Welsh course development and contributed:

Mae cyrraedd miliwn o ddysgwyr Cymraeg ar Duolingo yn garreg filltir arbennig, yn arbennig wrth gofio bod Llywodraeth Cymru wedi gosod ei darged, ddwy flynedd yn ôl, o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Reaching one million Welsh learners on Duolingo is an incredible milestone, especially given the fact that two years ago, the Welsh government announced its goal to reach one million speakers of the language by 2050.
Hyd yn oed cyn i ni ddechrau datblygu ein cwrs Cymraeg, roedden ni’n gweld llawer o alw am yr iaith. Roedden ni hyd yn oed wedi clywed yn uniongyrchol oddi wrth Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, ac eraill, a ysgrifennodd atom ni i sôn am bwysigrwydd amddiffyn a lledaenu’r iaith. Mae’n ein calonogi ni bod ein cwrs wedi rhoi cyfle i gymaint o bobl dros y byd i gyd i ddysgu’r iaith bwysig ac arbennig yma. Even before we began developing our Welsh course, we saw quite a lot of demand for the language. We even heard directly from Carwyn Jones, the First Minister of Wales, and others who wrote to us about the importance of preserving and spreading the language. It's very encouraging to know that our course has given so many people worldwide the opportunity to learn this important and special language.

Mae’n hollbwysig bod ni yng Nghymru’n gwneud y Gymraeg yn hygyrch, hwyl a hawdd ei weld yn gyhoeddus.

Dyma fideo dysgwr yn siarad Cymraeg ar ôl defnyddio Duolingo am ddim ond 3 wythnos:
Here’s a video of a learner speaking Welsh after learning on Duolingo for just 3 weeks:

 

duolingo.com/course/cy/en/Learn-Welsh-Online

Llwytho i Lawr fel PDF


Dysgu Cymraeg Ble a sut parallel.cymru / rhiannonart.co.uk

Y diweddaraf oddi wrth Dysgwyr