Ask Dr Gramadeg: Yn & Rhwng- In & Between

Dyma dabl sy'n dangos sut mae'r adroddiad yn yn rhedeg:
Here is the conjugated form of yn, meaning in:

Llafar              Ffurf lenyddol          Saesneg
Spoken           Literary form     

yno i                ynof                 in me  

ynot ti              ynot                 in you 

ynddo fe          ynddo             in him/it

ynddi hi           ynddi               in her/it           

ynon ni            ynom              in us                           

ynoch chi        ynoch             in you             

ynddyn nhw    ynddynt          in them           

Bydd treiglad trwynol ar ôl 'yn', e.e: ‘yng ngwaelod hen Sir Aberteifi’
There is a treiglad trwynol ar ôl ‘yn’, e.g:  ‘yng ngwaelod hen Sir Aberteifi’

Defnyddir yr arddodiad (preposition) ‘yn’ gyda’r berfau isod:

 credu yn                to believe in                 e.e.      Sa i’n credu yn Nuw.

gafael yn               to get hold of/grasp     e.e       Rhaid i ti afael yn fy llaw.

cydio yn                to get hold of/grasp     e.e.      Cydia ddwylo! Rhaid i ti gydio yn fy llaw!

ymddiried yn         to trust (in)                   e.e       Dylech chi ymddiried yno i.

galw yn                 to call at                       e.e.      Bydda i’n galw yn y siop ar y ffordd adref.

 

Rhwng, meaning between     

Llafar                   Llenyddol              Saesneg
rhyngo i                   rhyngof                between me
rhyngot ti                 rhyngot                between you
rhyngddo fe             rhyngddo             between him/it
rhyngddi  hi             rhyngddi               between her/it
rhyngon ni               rhyngom              between us
rhyngoch chi           rhyngoch              between you
rhyngddyn nhw       rhyngddynt           between them

Does dim treiglad ar ôl rhwng, e.e:
Mae e rhwng Llandysul a Chastell Newydd Emlyn.
It’s between Llandysul and Chastell Newydd Emlyn.

O wel, rhyngddo fe a’i gawl!
Oh well, that’s up to him!/ on his own head be it   (Literally, between him and his soup!)

Does dim lot o Gymraeg rhyngddyn nhw.                                           Rhyngot ti a fi
They don’t get on. (Lit. There’s not a lot of Welsh between them).     Between you and me

Sylwch nad oes angen yn/’n gydag arddodiaid, e.e:
Mae e _ rhwng Abertawe a Llandeilo.

Mae hi _ yn y tŷ.

Yn aml, defnyddir ‘dd’ gyda phob person ar lafar, e.e. rhyngddo i, rhyngddot ti, ayyb.

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Dylech ymddiried ynof
> Dylech chi ymddiried yno i
You should trust in me

2. Nid wyf yn dymuno gafael ynot!
> Sa i eisiau gafael ynot ti!
I don't want to grab hold of you!

3. Yr oedd y ci wedi bwyta popeth yn y cwpwrdd ac nid oedd dim ar ôl ynddo
> Roedd y ci 'di bwyta popeth yn y cwpwrdd a 'doedd dim byd ar ôl ynddo fe
The dog had eaten everything in the cupboard, and there was nothing left in it

4. Gwleidyddiaeth! Nid wyf yn credu ynddi o gwbl!
> Gwleidyddiaeth! Sa i'n credu ynddi hi o gwbl!
Politics! I don't believe in it at all!

5. Nid yw'n deall yr hyn yr wyt ti'n gweld ynom
> Dyw hi ddim yn deall beth rwyt ti'n gweld ynon ni
She doesn't understand what you see in us

6. A fyddant yn ymddiried ynoch?
> Fyddan nhw'n ymddiried ynoch chi?
Will they trust you?

7. Ysbrydion? Nid ydym yn credu ynddynt!
> Ysbrydion? Dyn ni ddim yn cedu ynddyn nhw!
Ghosts? We don't believe in them!

8. So ni'n credu yn y bwgan dan y gwely
We don't believe in the bogey-man under the bed

9. Roedd rhaid i'r plant afael yn nwylo'u Dad
The children had to grab onto their Dad's hands

10. Cydiwch yn y ceffylau bach, blant, byddwn ni'n mynd o gwmpas mewn munud!
Hold onto the merry-go-round, children, we'll be going round in a minute!

11. Bydd rhaid i chi ymddiried ynddi hi!
You'll have to trust her!

12. Bydden ni wastad yn galw yn y siop i brynu llosin
We would always call in the shop to buy sweets

13. Yr oedd yn eistedd rhyngof a'r prifathro
> Roedd e'n eistedd rhyngo i a'r prifathro
He was sitting between me and the head-teacher

14. Rhyngot a phawb eraill, nid wyf yn gallu ymdopi!
> Rhyngot ti a phawb eraill, sa i'n gallu ymdopi!
What with you and everyone else, I can't cope!

15. Byddaf yn sefyll rhyngddo a'r maer
> Bydda i'n sefyll rhyngddo fe a'r maer
I'll be standing between him and the mayor

16. Rhyngddi a'i gŵr yr oedd llawer o bobl
> Rhyngddi hi a'i gŵr roedd llawer o bobl
Between her and her husband there were lots of people

17. Paid â dod rhyngom a'n ffawd!
> Paid dod rhyngon ni a'n ffawd ni!
Don't come between us and our fate!

18. Y mae cryn wahaniaeth rhyngoch a'ch brawd
> Mae cryn wahaniaeth rhyngoch chi a'ch brawd chi
There's quite a difference between you and your brother

19. Nid oes llawer rhyngddynt o ran deallusrwydd
> 'Sdim llawer rhyngddyn nhw o ran deallusrwydd
There's not a lot between them when it comes to intelligence

20. Mae Clatter rhwng Carno a Chaersws
Clatter is between Carno and Chaersws

21. A, dw i'n gweld. Dyna fel y mae hi, wel, rhyngddot ti a'th gawl!
Ah, I see. That's how it is, well, on your head be it!

22. Ar ôl iddo fe fynd bant i'r brifysgol, doedd dim lot o Gymraeg rhyngon ni
After he went off to university, we didn't get on very well

23. Rhyngoch chi a fi a'r wal, mae llawer o broblemau yn y ffatri
Between you, me, and the gatepost, there are lots of problems in the factory

24. Mae Pencoed rhwng Sarn a Phontyclun
Pencoed is between Sarn and Pontyclun

25. Mae Spot y ci yn ei gwt
Spot the dog is in his kennel