Ask Dr Gramadeg: Ti & Chi

Pryd y dylwn i ddefnyddio Ti a phryd dylwn i ddefnyddio Chi?

Mae'r dau air hyn yn golygu you. Mae'r gair Ti yn ffurf anffurfiol, ac yn ffurf unigol, ac mae'n cael ei ddefnyddio gydag un person yn unig, e.e:

Sut wyt ti? - How are you? - pan fyddwch chi'n siarad â'ch cariad, ag aelod agos o'r teulu, â ffrind, â phlentyn, neu â chi.

When should I use Ti and when should I use Chi?

Both mean you. Ti is informal and singular you and is used with only one person, eg:

Sut wyt ti? – How are you? - to your partner, a close family member, a friend, a child or a dog.

Mae'r gair Chi yn ffurf ffurfiol, neu'n ffurf luosog, ac mae'n cael ei ddefnyddio pan fyddwch chi'n siarad â mwy nag un person, neu ag un person mewn sefyllfa ffurfiol, e.e:

Sut dych chi? – How are you? - pan fydwch chi'n siarad â'r bòs, â rhywun nad ydych chi'n ei nabod yn iawn, neu pan fyddwch chi'n cyfarch mwy nag un person.

Chi is formal or plural ‘you’ and is used when addressing more than one person or with one person in a formal situation. e.g:

Sut dych chi? – How are you? - to the boss, someone you don’t know well, addressing more than one person.


* Rhagor o enghreifftiau / More examples

1. Helo, 'nghariad, wyt ti'n teimlo'n well?
Hello, love, are you feeling better?

2. Hei, Dai bach! Ble wyt ti'n cuddio? Wyt ti yn y cwpwrdd 'to?
Hey, little Dai! Where are you hiding? Are you still in the cupboard?

3. O helo, Spot. Be' wyt ti wedi bod yn 'neud yn yr ardd?
O hello, Spot. What have you been doing in the garden?

4. P'nhawn da, Gladys, sut wyt ti, a sut mae pethau yn y siop ar hyn o bryd?
Good afternoon, Gladys, how are you, and how are things in the shop at the moment?

5. Helo 'na, Twm a Dic, beth fyddwch chi'n 'neud heddi'?
Hello there, Tom and Dick, what will you be doing today?

6. Fyddwch chi'n mynd i'r swyddfa yfory Mrs Jones?
Will you be going to the office tomorrow, Mrs Jones?

7. Bore da, syr, sut rydych chi heddiw?
Good morning, sir, how are you today?