Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Yng Nghymru mae:
- Milltiroedd o wlad gefn brydferth
- Heolydd [simple_tooltip content=’winding’]troellog[/simple_tooltip]
- Fforestydd dwfn
- Digon o wynt
Ac wrth gwrs – mynyddoedd [simple_tooltip content=’splendid’]godidog[/simple_tooltip].
Felly, mae gweithgareddau mynyddig yn boblogaidd iawn yng Nghymru.
Y Bannau
Mae Bannau Bryncheiniog yn ardal [simple_tooltip content=’enormous’]enfawr[/simple_tooltip] yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’n ardal fynyddig gyda llawer o afonydd a llynnoedd.Mae’n bosibl gwneud llawer o weithgareddau gwahanol yn y Bannau.
- Mynydd-Fyrddio
Mae canolfan [simple_tooltip content=’mountain-boarding’]mynydd-fyrddio[/simple_tooltip] ym mhentref Penpont ger Aberhonddu
Mae mynydd-fyrddio yn debyg iawn i [simple_tooltip content=’snowboarding’]eirfyrddio[/simple_tooltip] ond heb yr eira wrth gwrs. Mae’r mynydd-fyrddwyr yn reidio ar draciau arbennig mewn coedydd, fforestydd ac ar y mynyddoedd. Maen nhw’n reidio ar fwrdd arbennig – tebyg i sglefrfwrdd.
- Marchogaeth
Os ydych chi’n hoffi marchogaeth ar y mynyddoedd, beth am [simple_tooltip content=’give a try’]roi cynnig ar[/simple_tooltip] deithio’r Bannau ar gefn ceffyl? Mae canolfan farchogaeth ym mhentref Capel y Ffin, Y Fenni.
- Seiclo
Gallwch chi seiclo ar lwybrau’r Bannau o sawl canolfan yn yr ardal. Yn yr haf ac ar wyliau’r banc, mae bws arbennig sy’n mynd â chi a’ch beiciau o Gaerdydd i ganol y Bannau. Gallwch chi seiclo yn ôl i Gaerdydd ar lwybr seiclo Afon Taf.
- Gwylio Adar
Mae llawer o adar gwahanol yn y Bannau fel yr [simple_tooltip content=’hawk’]hebog[/simple_tooltip], y [simple_tooltip content=’buzzard’]boncath[/simple_tooltip], y [simple_tooltip content=’grugiar = grouse (grug (heather) + iar (hen)’]grugiar[/simple_tooltip] a’r [simple_tooltip content=’red kite’]cudyll coch[/simple_tooltip]. Gallwch chi fod yn [simple_tooltip content=’falconer’]hebogydd[/simple_tooltip] am y diwrnod ar fferm Wern Ddu, Y Fenni. Yn y nos, mae pobl yn dod i’r Bannau i weld ystlum arbennig – yr [simple_tooltip content=’lesser horseshoe bat’]ystlum pedol lleiaf[/simple_tooltip]!!
- Archwilio Ogofau
Mae’r Bannau yn lle [simple_tooltip content=’ideal’]delfrydol[/simple_tooltip] i [simple_tooltip content=’caving’]archwilio ogofau[/simple_tooltip]. Yr ogof fwya poblogaidd ydy Porth Yr Ogof. Mae un deg pump gwahanol [simple_tooltip content=’mynedfa = entrance’]fynedfa[/simple_tooltip] i’r ogof gan gynnwys y fynedfa fwya yn Ne Cymru. Mae enwau [simple_tooltip content=’strange’]rhyfedd[/simple_tooltip] ar y llwybrau – ‘Worm Hole’, ‘Death Ledge’, ‘Rat Trap’,’Cork Screw’ heb anghofio’r ‘Letter Box’. Peidiwch â mentro os oes ofn lleoedd [simple_tooltip content=’restricted’]cyfyng[/simple_tooltip] arnoch chi!
- Paragleidio
Gyda’r mynyddoedd uchel a’r gwynt cryf, mae’r Bannau yn lle perffaith i baragleidio. Meddyliwch am hedfan [simple_tooltip content=’side by side’]ochr yn ochr[/simple_tooltip] a’r cudyll coch a’r hebog – WAW!!!!!
- Mynydda
Mae’n bosibl ymarfer ar gyfer teithio trwy fynyddoedd uchaf y byd yng nghanolfan Rhiw yr Hwch, Llanymddyfri.
- Campau dŵr
Mae sawl cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr yn y Bannau. Mae canŵio a chaiaco yn boblogaidd ar yr Afon Gwy. Os ydych chi’n hoffi gweithgareddau mwy tawel, beth am ddiwrnod ar [simple_tooltip content=’camlas = canal’]gamlas[/simple_tooltip] Sir Frycheiniog? Gallwch chi deithio’n hamddenol braf am dri deg milltir rhwng Aberhonddu a Phont-y-pŵl.
- Cerdded Trwy’r Ceunentydd
Dyma ffordd gyffrous i ddarganfod golygfeydd godidog y Bannau. Byddwch chi’n cerdded trwy afonydd a [simple_tooltip content=’rhaeadr = waterfall’]rhaeadrau[/simple_tooltip]’r ardal, dringo dros y creigiau, deifio i mewn i’r pyllau dŵr a chael lot lot o hwyl. Rhaid gwisgo helmed a siwt wlyb wrth gwrs!!
Ond beth allwch chi wneud yn y nos?
- Gwylio’r Sêr
Oeddech chi’n gwybod bod y Bannau yn [simple_tooltip content=’gwarchodfa = reserve (as in nature reserve)’]warchodfa[/simple_tooltip] awyr tywyll – yr un cyntaf yng Nghymru ac un o ychydig yn y byd? Ar noson glîr uwchben Bannau Brycheiniog, gallwch chi weld y [simple_tooltip content=’Milky Way’]Llwybr Llaethog[/simple_tooltip], llawer o’r prif [simple_tooltip content=’cytser = constellation’]gytserau[/simple_tooltip] ac hyd yn oed cawodydd meteor. Yn y Bannau, mae’r awyr tywyll gorau ym Mhrydain gyfan! Mae twristiaid awyr tywyll yn heidio i’r Bannau ers i’r ardal ennill ei statws fel Gwarchodfa Awyr Tywyll [simple_tooltip content=’rhyngwladol = international’]Ryngwladol[/simple_tooltip]. Gwyliwch y fideo:
Ie – Bannau Brycheiniog – y lle gorau i brofi gwyliau gwahanol.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.