Ask Dr Gramadeg- Analysing Calon Lan

Ask Dr Gramadeg: Dadansoddi’r gramadeg yn y gân ‘Calon Lân’ / Analysing the grammar in ‘Calon Lân’

Nid wy’n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na’i berlau mân:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.
I don’t ask for a luxurious life,
the world’s gold or its fine pearls:
I ask for a happy heart,
an honest heart, a pure heart.
Cytgan:
Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na’r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu-
Canu’r dydd a chanu’r nos.
Chorus:
A pure heart is full of goodness,
More lovely than the pretty lily:
Only a pure heart can sing –
Sing day and night.
Pe dymunwn olud bydol,
Hedyn buan ganddo sydd;
Golud calon lân, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd.
If I wished worldly wealth,
He has a swift seed;
The riches of a virtuous, pure heart,
Will be a perpetual profit.
Hwyr a bore fy nymuniad
Gwyd i’r nef ar edyn cân
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi i mi galon lân.
Late and early, my wish
Rise to heavan on the wing of song,
To God, for the sake of my Saviour,
Give me a pure heart.

Ask Dr Gramadeg

Calon (b) heart

Geiriau / ymadroddion defnyddiol wedi'u selio ar 'calon'
Diolch o galon     thank you very much
Codi calon           to cheer up
Digalon                downhearted/depressed

Glân 'clean', ond hefyd, 'pure/holy', e.e. Yr Ysbryd Glân – The Holy Spirit

Gair benywaidd yw 'calon'. Mae'r ansoddair ‘glân’ sy'n disgrifio 'calon' yn treiglo'n feddal – calon lân.

* Bydd ansoddeiriau sy'n disgrifio enwau benywaidd unigol yn treiglo'n feddal, fel mewn yr esiampl uchod. Ond, fydd ansoddeiriau sy'n disgrifio enwau benywaidd lluosog ddim yn treiglo'n feddal., e.e:

pure heart     calon lân
pure hearts   calonnau glân
a leafy tree     coeden ddeiliog
leafy trees      coed deiliog

* Bydd enwau benywaidd unigol yn treiglo'n feddal ar ôl y fannod ('the'). Fydd enwau benywaidd lluosog ddim yn treiglo'n feddal ar ôl y fannod, e.e:

Calon (b)       y galon (the heart)
Y calonnau    (the hearts)
Coeden (b)    y goeden (the tree)
Y coed            (the trees)

* Fydd enwau benywaidd unigol sy'n dechrau gyda 'rh / ll' ddim yn treiglo'n feddal ar ôl y fannod ('the'), e.e:

llinell (b)       y llinell
line                the line
rhaw (b)       y rhaw
shovel          the shovel

Calon (b) heart           

useful words/phrases based on calon:
Diolch o galon        thank you very much
Codi calon              to cheer up
Digalon                   downhearted/depressed

Glân   clean, but also pure/holy, e.g. Yr Ysbryd Glân - The Holy Spirit

Calon is a feminine noun.  The adjective that is used to describe it ‘glân’ takes a soft mutation - calon lân.

 *Adjectives that describe feminine singular nouns take a soft mutation, as the example above.  Plurals of feminine words do not take a soft mutation, e.g:

pure heart                    calon lân
pure hearts                 calonnau glân
a leafy tree                  coeden ddeiliog
leafy trees                   coed deiliog

 *Feminine singular nouns take a soft mutation after ‘the’.  Plural nouns do not. e.g:
Calon (b)          y galon (the heart)
Y calonnau      (the hearts)
Coeden (b)       y goeden (the tree)
Y coed             (the trees)

 * Feminine singular nouns that begin with the letters ‘ll’ and ‘rh’ do not take a soft mutation after ‘the’.  e.g:
llinell (b)         y llinell
line                 the line
rhaw (b)          y rhaw
shovel             the shovel

Nid wy’n gofyn
Mae llawer o ffurviau gwahanol i berson cyntaf unigol y ferf 'bod' yn yr amser presennol yn Saesneg, e.e., 'I am/I am not/don’t'. Yr un peth sy'n wir yn Gymraeg hefyd. Mewn iaith lyneddol, bydd tuedd i hepgor y rhagenwau personol, sef ‘i,/fi, ti, e/fe, hi', ac ati. Dyma enghriafft o'r gân:

Nid wy’n gofyn < Nid wyf i’n gofyn. Mae'r rhannau sy wedi'u tanllinellu, wedi'u dileu. Sylwch y bydd y sain 'f' ar ddiwedd geiriau yn cael ei hepgor yn aml. Ar lafar bob dydd, bydden ni'n dweud:

Dw i ddim yn gofyn or Sa i’n gofynI am not asking…

Yma rydyn ni wedi defnyddio ‘ddim’ yn lle'r ffurf lenyddol ‘nid’.

gofyn wyf 'asking I am…'

wyf < yr wyf yn < rwy’n < wy’n

Dyma ffurf arall ar y person cyntaf unigol yn yr amser presennol 'bod', sef, 'I am', yn llawn – '(Yr) wyf (i)'.

Dyma restr lawn o'r ffurfiau i gyd sydd ar gael i olygu'r person cyntaf unigol yn amser presennol y ferf 'bod' - sef, 'I am'. Rydyn ni'n dangos y ffurf hiraf yn gyntaf (hynny yw, y ffurf fwyaf llenyddol, sy'n cael ei hysgrifennu gan amlaf), ac wedyn y ffurfiau byrraf (y rhai y bydd pobl yn eu defnyddio ar lafar gan amlaf). Rydyn ni wedi defnyddio'r ffurfiau hyn ar 'bod' gyda'r berfenw 'gofyn ('to ask'). Sylwch fod sillaf neu sain yn cael ei hepgor bob tro. Pob un o'r ffurfiau hyn sy'n golygu 'I ask / I am asking':

yr ydwyf (i)

Ffurfiau llythennol:

Yr ydwyf (i) yn gofyn    yr wyf (i) yn gofyn
Rydwyf (i) yn gofyn      rwyf yn gofyn
Rydw i’n gofyn               rwy’n gofyn

Ffurfiau ar lafar:
Dw i’n gofyn  (North Wales)
W i’n gofyn (South Wales)   wy’n gofyn (South Wales)

Ynganiad:
(ween govin) (oo-een govin)

Nid wy'n gofyn
There is a lot of variety in the use of the first person present tense, i.e. I am/I am not/don’t.  The tendency in the literary form is to leave out the personal pronouns, such as ‘i,/fi, ti, e/fe, hi, etc.  There is an example of this in the song:

 Nid wy'n gofyn < Nid wyf i’n gofyn.  The parts highlighted have been ommitted. ‘f’ at the end of words is often left out.  In everyday speech this would be:

 Dw i ddim yn gofyn or Sa i’n gofyn…  I am not asking…

ddim is used rather than the literary form, nid.

gofyn wyf   asking I am…

wyf < yr wyf yn  < rwy’n < wy’n

Another version of the 1st person present tense, i.e. I am. In full - (Yr) wyf (i).

Here is a list of all the possible forms of the 1st person of the verb ‘to be’ - I am, from the longest (most literary/written) form to the shortest forms(most used in speech), with the verb ‘gofyn’ - to ask.  A letter or syllable is dropped at each stage.  All have the meaning I ask/I am asking:

yr ydwyf (i)         

Literary:

Yr ydwyf (i) yn gofyn      yr wyf (i) yn gofyn
Rydwyf (i) yn gofyn      rwyf yn gofyn
Rydw i’n gofyn              rwy’n gofyn

Speech
Dw i’n gofyn (North Wales)
W i’n gofyn  (South Wales)     wy’n gofyn (South Wales)

Pronounced:
(ween govin)  (oo-een govin)

Daioni    da+ioni     goodness

Tecach yw nafairer is than…

Byddwch ni'n ychwanegu'r terfyniad -ach at ansoddeiriau byr i ffurfio'r radd gymharol, e.e:

tal >   talach
tall     taller
tew > tewach
fat      fatter

Pan fyddwch chi'n ychwanegu -ach at ansoddeiriau sy'n terfynu mewn b d g, bydd y saeiniau hyn yn caledu (bydd y newid hwn yn 'dadwneud treiglad meddal', fel petai). e.e:

gwlyb > gwlypach b > p
wet > wetter

drud > drutach d > t
expensive > expensiver (lit.)

teg > tecach g > c
fair > fairer

Daioni             da+ioni            goodness

Tecach yw na…          fairer is than…

The ending -ach may be added to short adjectives to make the comparative, e.g:
tal        >       talach
tall                 taller             
tew      >          tewach
fat                   fatter

When -ach is added to adjectives ending in b, d and g, the sound hardens.  It is like the reverse of a soft mutation, e.g:

gwlyb              >          gwlypach   b > p
wet                  >           wetter

drud                 >          drutach    d > t
expensive        >           expensiver (lit.)

teg                   >          tecach      g > c
 fair                   >          fairer

Y lili dlos   the fair/pretty lily

Ffurf fenywaidd ar tlws (pert yn Gymraeg, pretty yn Saesneg), yw tlos. Mae tlos yn treiglo'n feddal i roi dlos gan ei fod wastad yn dilyn gair benywaidd, e.e lili (b) > lili dlos. Dyma enghraifft arall:

gwyrdd – green (m)
gwerdd – green (f)
Plaid (b) Y Blaid Werdd The Green Party

Ddim yn aml o gwbl y bydd pobl yn defnyddio ffurfiau benywaidd ansoddeiriau fel 'tlos' (uchod) ar lafar. Ond, byddwn ni'n eu clywed rywbryd mewn ymadroddion wedi'u ffosileiddio, cerddi a chaneuon.

Hefyd, byddwn ni'n clywed lluosog ansoddeiriau mewn ymadroddion wedi'u ffosileiddio, e.e:

Mwyar duon            (black berries) (Lit. blacks berries)
Y crysau cochion    (the red shirts) (Lit. the reds shirts, i.e. Wales)

Y lili dlos                     the fair/pretty lily

tlos is the feminine form of ‘tlws’ - pert - pretty. ‘Tlos’ is mutated to ‘dlos’ because it always follows a feminine noun, e.g.  ‘lili (b) - lili dlos. Another example:
gwyrdd - green (m)
gwerdd - green (f)                 
Plaid (b)        Y Blaid Werdd The Green Party

Feminine forms of adjectives like the one above are very rarely used in everyday speech, but they are sometimes heard in fossilised phrases, poems and songs.

Some plural adjectives are heard in fossilised phrases, e.g:
Mwyar duon               (black berries) (Lit. blacks berries)
Y crysau cochion       (the red shirts)(Lit. the reds shirts, i.e. Wales)

Dim ond calon lân all ganu

(It’s) only a pure heart (which) can sing Dim ond calon lân (a) all ganu

Mae'r geiryn a wedi'i ddilyn gan dreiglad meddal yn golygu'r un peth â 'sy' ('who is / who are' yn yr amser presennol). Fodd bynnag, byddwn ni'n defnyddio 'a' guda berfau cryno (lle byddwn ni'n ychwanegu terfyniad at fôn y berf).

Yn aml, bydd y geiryn 'a' yn cael ei hepgor ar lafar, ac mae'n cael ei hepgor yn y gân hefyd.

Gall        trydydd person unigol y ferf 'gallu' yn yr amser presennol / dyfodol – is able to/can

A all       'which can..' Sylwch fod y geiryn a yn achosi treiglad meddal

Dim ond calon lân all ganu

(It’s) only a pure heart (which) can sing         Dim ond calon lân (a) all ganu

a followed by a soft mutation is the equivalent of ‘sy’ (who is/are  which is/are, used in the present tense), but is used with short form verbs (verbs with an ending added).

It is often omitted in speech, as it is in the song.

Gall                  Third person present/future of the verb ‘gallu’ - is able to/can

A all                 which can..     ‘a’ causes a soft mutation.


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Diolch o galon am eich cymorth chi, dw i'n ei werthfawrogi'n fawr iawn
Thank you very much for your help, I appreciate it very much

2. Bydd y brechdanau caws a'r gwin coch yn helpu i godi dy galon di
The cheese sandwiches and the red wine will help to cheer you up

3. Ro'n ni'n ddigalon pan gollon ni'r gêm ddiweddara'
We were downhearted when we lost the last game

4. Yr Ysbryd Glân yw un o'r tri pherson yn y Drindod
The Holy Spirit is one of the three persons in the Trinity

5. Mae dod o hyd i galon lân yn peth anodd yn y byd sydd ohoni
Finding a pure heart is a difficult thing in today's world

6. Oes calonnau glân i'w cael ym myd gwleidyddiaeth heddi'?
Are there any pure hearts to be had in the world of politics today?

7. Mae cath dew'n byw y drws nesa', ond roedd llawer o gathod tew yn arfer byw yno
There's a fat cat living next door, but lots of fat cats used to live there

8. Y galon yw'r organ sy'n pwmpio gwaed o gwmpas y corff
The heart is the organ that pumps blood around the body

9. Mae’r calonnau sy'n perthyn i drychfilod yn syml iawn
The hearts that insects have are very simple

10. Mae'r gath fawr yn swnllyd ond mae'r cathod bach yn dawel
The big cat is noisy, but the small cats are quiet

10. Paid parcio ar y llinell felen!
Don't park on the yellow line!

11. Dewch â'r rhaw a'r rhaff, byddwn ni'n eu defnyddio nhw!
Bring the shovel and the rope, we'll be using them!

12. Nid wyf yn dywedyd celwydd wrthych
> Nid wyf fi’n dweud celwydd wrthych
> Nid wy’n dweud celwydd wyrthych chi
> Dw i ddim yn dweud celwydd wrthoch chi
> Sa i’n dweud celwydd wrthoch chi
I'm not lying to you

13. Yr ydwyf yn dod â'r caws glas
> Yr wyf fi'n dod â'r caws glas
> Rydwyf yn dod â'r caws glas
> Rydwyf fi'n dod â'r caws glas
> Rwyf yn dod â'r caws glas
> Rwyf fi'n dod â'r caws glas
> Rydw i’n dod â'r caws glas
> Rwy’n dod â'r caws glas
> Dw i’n dod â'r caws glas
> Wi’n dod â'r caws glas
> W i’n dod â'r caws glas
> Wy’n dod â'r caws glas
I'm bringing the blue cheese

14. 'Dysg, Dawn, Daioni' yw arwyddair ysgol yr Olchfa yn Abertawe
'Learning, Talent, Goodness' is the motto of Olchfa school in Swansea

15. Tecach yw gonestrwydd na chyfoeth
Honesty is fairer than wealth

16. Mae Dad yn dal, ond mae Wncwl yn dalach
Dad is tall, but Uncle is taller

17. Mae'r ci'n dew, ond mae'r gath yn dewach
The cat is fat, but the dog is fatter

18. Mae'r Alban yn wlyb, ond mae Cymru'n wlypach
Scotland is wet, but Wales is wetter

19. Mae caws glas yn ddrud, ond mae cyri malwod yn ddrutach
Blue cheese is expensive, but snail curry is more expensive

20. Yn y fâs, mae rhosyn dlws, ceian dlos, a rhai tegeirianau tlosion
In the vase, there's a pretty rose, a fair carnation, and some lovely orchids

21. Roedd y flanced werdd ar y gwely gwyrdd
The green blanket was on the green bed

22. Roedd y Crysau Cochion a'r Adar Gleision yn casglu mwyar duon i godi arian
The Red Shirts and the Bluebirds were collecting blackberries to raise money

23. Dim ond y tîm gorau (a) all lwyddo i ennill y cwpan yn y cynghrair
Only the best time can succeed in winning the cup in the league

 


 

Y diweddaraf oddi wrth Ask Dr Gramadeg