Ask Dr Gramadeg: Atgrynhoi Adferfau / Recapping Adverbs

Mae adferfau (neu ymadroddion adferfol) yn rhoi rhagor o wybodaeth am weithredau - maen nhw'n dweud sut, pryd, lle, neu pam y bydd peth yn digwydd.

Er eghraifft: yn Saesneg byddwn ni'n gallu dweud She is running, neu She is running quickly. Y brawddeg olaf sy'n rhoi mwy o wybodaeth am sut y bydd y person yn rhedeg.

Yn Saesneg, byddwn ni'n ychwanegu'r terfyniad '-ly' at ansoddair i ffurfio adferf fel arfer, e.e:
slow > slowly    quick > quickly

Byddwcn ni'n gwneud yr un peth yn Gymraeg trwy roi 'yn adferfol' o flaen ansoddair, e..e

araf     >    yn araf
slow    >   slowly

clou / cyflym > yn glou / yn gyflym
quick   >   quickly

Adverbs or adverbial phrases give more information about verbs - how, when, where or why things are done.

For example, if you are running, an adverb could give more information about how you are running, e.g slowly or quickly.

In English, an - ly ending is often added to an adjective to make an adverb, e.g:
slow > slowly,  quick  >  quickly.

The same thing is achieved in Welsh by placing an ‘yn’ before an adjective, e.g:

araf                              >             slow
yn araf                        >             slowly

clou/cyflym                   >             quick
yn glou/gyflym             >             quickly

 

Bydd 'yn adferfol' yn achosi i sain gyntaf yr ansoddair dreiglo'n feddal os bydd yn bosibl, heblaw am y seinaiu 'll / rh' na fyddant yn treiglo, e.e.

Mae e’n mynd yn glou He is going quickly (treiglad meddal: 'c > g')

Mae hi’n siarad yn dda She speaks well (treiglad meddal: 'd > dd')

Mae hi’n cytuno’n llwyr She agrees entirely (dim treiglad meddal: 'll' sy'n aros)

So nhw’n dod ymlaen yn rhy dda They’re not getting on too well (dim treiglad meddal: 'rh' sy'n aros)

Yn yr enghreifftiau uchod rydyn ni wedi defnyddio adferfau dull ('adverbs of manner') i ddweud sut mae rhywbeth yn digwydd - 'yn glou / yn dda / yn llwyr / yn rhy dda' ('quickly / well / completely / too well').

Nesaf byddwn ni'n edrych ar enghreifftiau sy'n cynnwys 'adferfau amser' ('adverbs of time') i ddweud pryd mae rhywbeth yn digwydd, neu pa mor aml mae rhybwth yn digwydd. Edrychwch ar yr esiamplau isod.

This ‘yn’ causes a soft mutation, but not to words starting with ‘ll’ or ‘rh’.  e.g.

Mae e’n mynd yn glou                He is going quickly   (t.m.)

Mae hi’n siarad yn dda              She speaks well   (t.m.)

Mae hi’n cytuno’n llwyr                She agrees entirely  (dim t.m.)

So nhw’n dod ymlaen yn rhy dda  They’re not getting on too well  (dim t.m.)

The above examples are adverbs of manner, i.e. how things are done - slowly, quickly, happily etc.

Fel rheol, byddwn ni'n gweld treiglad meddal yn sain gyntaf yr adferf amser, os bydd yn bosibl, e.e.

pryd hynny         > bryd hynny      at that time/then
trwy’r amser       > drwy’r amser   all the time
pob dydd            > bob dydd          every day
gweithiau            > weithiau           sometimes
rhywbryd            > rywbryd            sometime
rhywbryd ’to       > rywbryd ’to      some other time

Below are examples of using adverbs of time/frequency, i.e. they tell us when or how often things are done.

The phrases used are usually soft mutated if they start with the letters that can be mutated e.g.

pryd hynny                  >          bryd hynny                  at that time/then
trwy’r amser                >          drwy’r amser             all the time
pob dydd                     >          bob dydd                   every day
gweithiau                     >          weithiau                    sometimes
rhywbryd                     >          rywbryd                       sometime
rhywbryd ’to                >          rywbryd ’to                 some other time

Dylech chi sylwi ar y gwahaniaeth rhwng:

weithiau / ambell waith                  rywbryd
sometimes (now and again)                  sometime (not now – some other time)

Mewn gosodiad negyddol, bydd Byth yn golygu Never - fel arfer byddwn ni'n defnyddio Byth yn lle Ddim yn y cud-destun hwn, e.e:

Dw i ddim yn mynd y dyddiau ’ma   I don’t go these days
Dw i byth yn mynd y dyddiau ’ma     I never go these days

Notice the difference in meaning between:

weithiau/ambell waith   sometimes     (i.e. now and again)

rhywbryd                           sometime     (not now - some other time)

 

Bydda i’n mynd - Yr Amser Presennol Arferol (The Habitual Present Tense)

Byddwn ni'n gallu defnyddio Amser Dyfodol 'Bod' i fynegi y byddwn ni'n gwneud rhywbeth yn gyson, neu'n arferol. Er enghraifft, mae'r frawddeg 'Bydda i’n nofio' yn gallu golygu 'I will be swimming', ond hefyd, mae'n gally golygu 'I swim (regularly / habitually)', e.e.

Pryd dych chi’n nofio, fel arfer?              Dw i’n nofio bob dydd
When do you swim, usually?                 I swim every day

Pryd byddwch chi’n nofio, fel arfer?     Bydda i’n nofio bob dydd
When do you usually swim?                  I swim every day

Efallai y byddwch chi'n gweld yr Amser Presennol Arferol mewn arolygon neu mewn holiaduron.

Bydda i’n mynd

The future tense of ‘bod’ , ‘to be’ e.g.  Bydda i’n nofio - I will be swimming, can also be used to say that you do something habitually/regularly, instead of the present tense, e.g.

Pryd dych chi’n nofio, fel arfer?        Dw i’n nofio bob dydd
When do you swim, usually?           I swim every day

Pryd byddwch chi’n nofio, fel arfer?    Bydda i’n nofio bob dydd
When do you usually swim?                  I swim every day

You may see this tense used in this way in surveys and questionnaires.

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Dyn ni'n dwlu ar gerdded yn hamddenol drwy'r parc
We love walking leisurely through the park

2. Cyrhaeddon nhw'n glou, ond gadawon nhw'n gyflymach!
They arrived quickly, but they left quicker!

3. Gobeithio byddi di'n gweithio'n dda
I hope you'll work well

4. Ro'n ni wedi drysu'n llwyr gan yr holl gwestiynau yn y cwis
We were totally confused by all the questions in the quiz

5. Byddwch chi'n cofio'n rhy dda am y problemau yn yr ysgol
You'll remember (only) too well about the problems in the school

6. Dewch i weld yr ysgol, a bryd hynny byddwch chi'n deall popeth
Come to see the school and then you'll understand everything

7. Bydd y cŵn yn cyfarth drwy’r amser
The dogs bark all the time

8. Bob dydd bydda i'n mynd am dro cyn brecwast
Every day I go for a walk before breakfast

9. Weithiau, maen nhw'n lico mynd i fwydo'r anifeiliaid yn y parc
Sometimes, they like to go to feed the animals in the park

10. Byddwn ni'n dod i ymweld â chi rywbryd, dw i'n addo!
We'll come to visit you sometime, I promise

11. Falle byddet ti'n gallu'u gweld nhw rywbryd ’to
Perhaps you could see them some other time

12. Byddan nhw'n mynd i'r dafarn leol ambell waith ond ddim yn aml
They'll go to the local pub now and again but not often

13. Dwyt ti ddim yn dod i'r cwis yn aml y dyddiau ’ma
You don’t come to the quiz often these days

14. Dyw hi byth yn ymweld â mam-gu y dyddiau ’ma
She never visits grandma these days

15. Pryd mae e'n mynd i'r llyfrgell, fel arfer? Mae e’n myd yno bob dydd, a dweud y gwir.
When does he go to the library, usually? He goes there every day, to tell the truth

16. Pryd maen nhw'n chwarae sboncen, fel arfer? Maen nhw'n chwarae bob penwythnos, a bod yn onest
When do they play squash, usually? They play every weekend, to be honest

17. Pryd byddi di'n rhedeg lan y mynydd, fel arfer? Bydda i’n rhedeg yno bob hyn a hyn, mewn gwirionedd
When do you usually run up the mountain? I run there every now and then, in truth