O ystyried ffurfio lluosog enwau, teg yw dweud fod y Gymraeg yn fwy cymhleth na’r rhan fwyaf o ieithoedd Ewropeaidd eraill. Gan amlaf, byddwn ni’n ffurfio lluosog gair drwy ychwanegu terfyniad i’r gair unigol. Mae tua 14 o derfyniadau lluosog, ond dim ond 10 ohonyn nhw y byddwn ni’n eu defnyddio’n aml.
Welsh is more complicated than most European languages when it comes to forming plurals.  The most common way to form a plural is to add an ending. There are about 14 endings, 10 of which are in common use.

Terfyniadau lluosog mwyaf cyffredin / Most commonly used plural endings

shop       >     shops                    siop           >    siopau*

colour      >    colours                   lliw            >     lliwiau

man         >    men                        dyn            >     dynion

programme >  programmes       rhaglen     >    rhaglenni*

manager   >    managers             rheolwr      >    rheolwyr

mountain   >    mountains              mynydd     >   mynyddoedd

cat             >     cats                        cath           >    cathod*

country      >     countries                gwlad       >    gwledydd*

partner      >     partners                  partner     >    partneriaid*

meaning    >     meanings               ystyr         >     ystyron

*au      Byddwn ni’n ynganu’r terfyniad ‘-au’ fel ‘-e’ (yn ne Cymru) / Pronounced as -‘e’.

* -i       Fel rheol, os byddwn ni’n ychwanegu’r terfuniad ‘-i’ ar ôl ‘n’, wedyn bydd rhaid dyblu’r ‘n’, e.e. ‘taflen + i > taflenni’ (‘leaflet > leaflets’ yn Saesneg) / If the word ends in ‘n’, it is usually doubled – taflenni

*-od    Yn aml byddwn ni’n defnyddio’r terfyniad ‘-od’ i ffurfio lluosog enwau sy’n perthyn i anifeiliaid, e.e. ‘llewod’ (‘lions’), ‘camelod’ (‘camels’). Ond, nodiwch hefyd, ‘menyw > menywod’ (‘woman > women’), ‘Gwyddel > Gwyddelod’ (‘Irish person > Irish people’). / Often used with animals e.g.  llewod lions, camelod camel(but note – menyw > menywod, Gwyddel > Gwyddelod).

* Yn aml bydd ‘effeithiad’ yn digwydd pan fyddwn ni’n ychwanegu terfuniad, e.e. ‘gwlad > gwledydd (‘land > lands’) / Note – when an ending is added ‘a’ often changes to ‘e’, e.g:
gwlad > gwledydd.

* -iaid – Nodiwch y byddwn ni’n ynganu ‘-iaid’ fel ‘-ied‘ / pronounced asied


Terfyniadau llai cyffredin / Lesser used endings

surgery   >   surgeries     meddygfa   >    meddygfeydd

nephew  >   nephews      nai               >     neiaint

girl         >    girls               merch         >     merched

finger     >    fingers          bys              >     bysedd

Mae’n bosibl ffurfio lluosogion trwy newid llafariad (neu lafariaid) yng nghanol enw (meddyliwch am ‘man > men’ yn Saesneg), e.e:
Plurals can also be formed by changing one or more vowels within the noun, like ‘man’ – ‘men’ in English, e.g:

car        >     cars               car        >     ceir

goat       >    goats             gafr       >     geifr

bone      >    bones            asgwrn  >    esgyrn

Hefyd, mae’n bosibl newid llafariad (neu lafariaid) mewnol ac ychwanegu terfyniad, e.e:
Or from a combination of an internal vowel change plus an ending, e.g:

garden   >   gardens         gardd    >    gerddi

son         >    sons              mab       >    meibion

Ar y llaw arall, gyda rhai geiriau, byddwn ni’n hepgor terfyniad i ffurfio’r lluosog (yn aml pan fyddwn ni’n sôn am ‘grŵp’ o bethau), e.e:
Or by dropping an ending, e.g:

tree     >    trees         coeden     >    coed

pig       >   pigs           mochyn     >   moch

 

Fel rheol, benywaidd yw geiriau sy’n terfynnu mewn ‘-en’, ond gwrywaidd yw geiriau sy’n terfynnu mewn ‘-yn’.
Words ending in ‘-en’ are usually feminine.  Words ending in ‘-yn’ are usually masculine.

Cofiwch fod yn wastad ‘eithriadau sy’n profi’r rheol’, sef ‘bachgen’ (‘boy’, sy’n wrywaidd), a ‘telyn’ (‘harp’, sy’n fenywaidd).
Exceptions – bachgen (boy) which is masculine and telyn (harp) which is feminine.

Mae yna rai lluosogion afreolaidd hefyd.
There are a number of irregular plurals as well.

 

* Yn Gymraeg byddwn ni’n defnyddio lluosogion yn llai aml nag yn Saesneg, gan na fyddwn ni’n defnyddio ffurfiau lluosog ar ôl y rhifolion 1 – 10, e.e:
* Plurals are used less in Welsh than in English because they are not used with low numbers e.g:

Three sons       tri mab               (lit.  three son)

Four doors        pedwar drws   (lit.  four door)

Nine pigs          naw mochyn      (lit.  nine pig)  etc.

Yn Gymraeg, mae cynifer o ffyrdd o ffurfio lluosog enwau. Fel dysgwr, sut y byddwch chi’n gwybod p’un yw p’un? Y ffordd orau o wneud hyn bydd dysgu’r lluosog tra byddwch chi’n dysgu’r gair unigol ei hun. Yr yn peth sy’n wir am ddysgu cenedl yr enw (‘the gender of the noun’) hefyd.

Because the Welsh system has so many ways of forming plurals, the best way of learning them is to do so as you go along.  Look them up and learn them as soon as a new word is encountered in the singular.