Ask Dr Gramadeg: Wrth Fy Modd / Delighted

Ar ei ben ei hunan, mae'r ymadrodd wrth fy modd yn gallu golygu delighted neu in one’s element yn Saesneg. Edrychwch ar y dabl isod:
On its own, wrth fy modd can mean delighted or in one’s element, as in the below table:

Dw i wrth (f)y modd I’m delighted/in my element
Rwyt ti wrth dy fodd You’re delighted
Mae e  wrth ei fodd He’s delighted
Mae hi  wrth ei bodd She’s delighted
Dyn ni  wrth ein bodd We’re delighted
Dych chi  wrth eich bodd You’re delighted
Maen nhw  wrth eu bodd They’re delighted

Ond, os byddwch yn rhoi wrth yn modd o flaen yn traethiadol + berfenw bydd yr ystyr yn newid. Weydn bydd yr ymadrodd yn golygu to really like (doing something) neu to love (doing something), e.e:
Followed by yn and a verb-noun it can mean - to really like/love doing something, e.g:

Dw i wrth fy modd yn darllen             I really like reading

Dyn ni wrth ein bodd yn nofio             We love swimming

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

 

1. Fyddwn i fwynhau gwrando ar y cyngerdd? Byddwn i wrth fy modd!
Would I enjoy listening to the concert? I'd be in my element!

2. Roedd Ffred yn sôn am y sioe, ac yn dweud dy fod di wrth dy fodd
Ffred was talking about the show, and saying that you were delighted

3. Bydd e wrth ei fodd os byddwn ni'n canu'n dda
He’ll be delighted if we sing well

4. Roedd hi wrth ei bodd o weld y plant
She was delighted to see the children

5. Dyn ni wrth ein bodd o dalu am ginio
We’re delighted to pay for dinner

6. Ro'ch chi wedi bod wrth eich bodd yn ystod y ddrama, mae'n dweud
You had been in your element during the play, he says

7. Falle y byddan nhw wrth eu bodd os byddan nhw'n dawnsio'n dda
Perhaps they'll be delighted if they dance well

8. Mae Sandra wrth ei bodd o helpu Ffred i lwyddo yn yr arholiad
Sandra's delighted to help Ffred to succeed in the exam

9. Ro'n i wrth fy modd yn chwarae yn yr ardd pan o'n i'n blentyn, ond bellach mae'n well 'da fi ganu
I really liked playing in the garden when I was a child, but now I prefer singing

10. Dyn nhw wrth eu bodd yn nofio , ond ro'n nhw'n arfer dwlu ar sgio
They love swimming, but they used to love skiing