Ask Dr Gramadeg: Fe / Hi, A / An, Yn / Mewn & Y / Yr / It, A / An, In & The

Fe/Hi = It

Nid oes un gair unigryw sy'n golygu 'it' yn Gymraeg. Rhaid defnyddio naill ai ‘e/fe’ neu ynteu ‘hi’ (yn llythrennol, rydyn ni'n dweud 'he' neu 'she'). Pan fyddwn ni'n siarad am y tywydd neu am yr amser, rhaid defnyddio 'hi', e.e:
Mae hi (It is..)
Roedd hi (It was..)
Bydd hi (It will be..)

Mae hi'n bwrw glaw - It's raining
Roedd hi'n naw o'r gloch - It was nine o'clock
Bydd hi'n braf yfory - It'll be fine tomorrow

Fe/Hi = It

There is no single word for ‘it’ in Welsh. Either ‘e/fe’ or ‘hi’ is used (literally he or she). For the weather and time, ‘hi’ is used for ‘it’, e.g:
Mae hi (It is..)
Roedd hi (It was..)
Bydd hi (It will be..)

Mae hi'n bwrw glaw - It's raining
Roedd hi'n naw o'r gloch - It was nine o'clock
Bydd hi'n braf yfory - It'll be fine tomorrow

Trefn geiriau

O ystyried y brawddegau Saesneg - 'It is cold, It was cold, It will be cold' – Rydyn ni'n gweld mai'r gair ‘it’ sy'n dod yn gyntaf (oni bai y byddwn ni'n newid trefn y brawddegau cadarnhaol i ofyn cwestiwn - wedyn byddwn ni'n dewud 'Is it? Was it? Will it be?'). Ond yn Gymraeg, trefn arferol y frawddeg yw hon: Y ferf sy'n dod yn gyntaf, ac wedyn gweddill y frawddeg, e.e:
Mae hi’n oer – Is it cold [Is it YN cold]
Roedd hi’n oer - It was cold [Was it YN cold]
Bydd hi’n oer - It will be cold [Will-be it YN cold]

Nid cwestiynau yw'r rhain, ond brawddegau cadarnhaol

Word order

In English - It is cold, It was cold, It will be cold – the ‘it’ comes first (unless you change the sentence to a question - Is it? Was it? Will it be?) But in Welsh the normal word order is verb first:
Mae hi’n oer – Is it cold
Roedd hi’n oer – Was it cold
Bydd hi’n oer - Will be it cold

These are not questions.

Ar lafar, mae'r gair 'hi' yn cael ei hepgor yn aml
Mae hi’n > Mae(hi)’n > Mae’n

Hefyd, a lafar, mae'r ‘R’ yn yr ymadrodd 'Roedd hi’n' yn cael ei hepgor yn aml hefyd:
Roedd hi'n > Oedd hi’n

Tôn y llais sy'n dangos a ydy brawddeg yn gwestiwn neu beidio

In speech the ‘hi’ in Mae hi’n > Mae(hi)’n > Mae’n and the ‘R’ in Roedd hi’n.. > oedd hi’n.. are often dropped. The tone of voice tells you whether ‘oedd hi’ is a question or not.

A / An ('Y Fannod Amhendant')

Nid oes 'bannod amhendant' ('a / an') yn Gymraeg.
afal - apple / an apple
dyn - man / a man

A / An (The indefinite article)

There is no indefinite article (a or an) in Welsh.
An apple - in Welsh = ‘afal’
A man = ‘dyn’.

Mewn & Yn ('In')

Mae'r gair ‘mewn’ yn golygu ‘in a/in an’ mewn cyd-destunau amhendant, e.e:
Mewn ysgol - in a school
Mewn swyddfa - in an office

Mae'r gair ‘yn’ yn golygu ‘in’ ac mae'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destunau pendant, e.e:
Yn yr ysgol - in the school [[ ond. hefyd, 'in school' ]]
Yn y swyddfa - in the office

Mewn & Yn

‘Mewn’ means ‘in a/in an’ and is indefinite e.g:
In a school = mewn ysgol
In an office = mewn swyddfa

‘Yn’ means ‘in’ and is definite, e.g:
In the school = yn yr ysgol
In the office = yn y swyddfa

Dydyn ni ddim yn gallu defnyddio'r gair 'mewn' gyda'r fannod ('the' - ‘y, yr, 'r').

Byddwn ni'n defnyddio 'yn' pan fyddwn ni'n sôn am beth ac arno enw pendant, e.e:
yn Ysbyty Singleton - in Singleton Hospital

Mewn can’t be used with ‘y’ or ‘yr’ - the.

‘Yn’ is also used for ‘in’ if the thing being talked about is named, e.g. in Singleton Hospital - yn Ysbyty Singleton.

Er enghraifft:
mewn tŷ - in a house OND yn y tŷ - in the house

Pan fydd y gair 'yn' yn golygu 'in', ni fydd yn cael ei dalfyrru, hyd yn oed os bydd yn dilyn llafariad, e.e:
Dw i yn y dre - I’m in the town > I'm in town

Mae'r gair 'yn' yn cael ei defnyddio gyda'r fannod, a hefyd gyda lleoedd pendant, e.e:
Yn y pentre - in the village
Yn Llanelli - in Llanelli
Yn ysbyty Treforys - in Morriston Hospital

Yn Saesneg, os byddwn ni'n dweud 'In the middle of town', ysytr llawn yr ymadrodd yw 'In the middle of the town.'

Er mwyn cyfieithu ymadrodd fel hyn i'r Gymraeg: Rhaid i ni hepgor y gair 'the' ar ddechrau'r ymadrodd, a rhaid i ni ddileu pob un o'r geiriau 'of', e.e.

In the middle of the town > in middle the town > yng nghanol y dre.

For example:
In a house > mewn tŷ, but in the house > yn y tŷ.
‘Yn’ meaning ‘in’ cannot be shortened to ’n, even if it comes after a vowel, e.g:
Dw i yn y dre. (I’m in town). (‘in town’ is ‘in the town’ > yn y dre, in Welsh)

‘Yn’ is used with ‘the’, and with named places, eg:
In the village = yn y pentre
In Llanelli = yn Llanelli
In Morriston Hospital = yn ysbyty Treforys

In the middle of town > in the middle of the town (in full).

Take away the first ‘the’ and the ‘of’ in these type of phrases to get the Welsh. e.g:
In the middle of the town > in middle the town > yng nghanol y dre.

Y/Yr (Y Fannod / The Definite Article)

Y geiriau 'y' ac 'yr' fel ei gilydd sy'n golygu ‘the’:

‘Y’ sy'n cael ei defnyddio o flaen cytseiniau, e.e.
Y car - the car
Y siop - the shop
Y dre - the town

‘Yr’ sy'n cael ei defnyddio o flaen llafariaid ('a, e, i, o, u, w, y') ac o flaen ‘h', e.e:
Yr afal = the apple
Yr oren = the orange
Yr ysgol = the school
Yr haf = the summer

Y/Yr (The Definite Article)

Both y and yr mean ‘the’:

‘y’ is used before consonants e.g:
Y car
Y siop
Y dre

‘yr’ is used before vowels (a, e, i, o, u, w, y) and ‘h’, eg:
Yr afal = the apple
Yr oren = the orange
Yr ysgol = the school
Yr haf = the summer

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Mae hi'n eithriadol o wlyb yr wythnos 'ma
It is exceptionally wet this week

2. Roedd hi'n boeth ofnadw' yn haf 1976
It was terribly hot in the summer of 1976

3. Bydd hi'n braf yn Ffrainc pan fyddwn ni'n cyrraedd yno
It will be fine in France when we get there

4. Mae hi'n ddigon oer i sythu brain
It's cold enough to freeze brass monkeys

5. Roedd hi'n dri o'r gloch yn y bore pan orffennodd y parti!
It was three o'clock in the morning when the party finished!

6. Bydd hi'n dwym iawn yng Nghymru yn y dyfodol os bydd y sefyllfa sydd ohoni'n parhau
It will be very warm in Wales in the future if the current situation persists

7. Mae merch mewn siop yn rhywle yn y dre' yn bwyta'r holl afalau
There is a girl in a shop somewhere in the town eating all the apples

8. Mewn hen chwedleuon, bydd pobl yn aml yn newid yn anifeiliaid
In old tales, people often turn into animals

9. Roedd y prifathro yn yr ysgol yng nghanol y ddinas yn dwyn arian oddi ar y disgyblion
The headmaster in the school in the middle of the city was stealing money from the pupils

10. Yn Eglwys Dewi Sant yng Ngors mae gwasanaeth bob dydd o'r wythnos
In Saint David's Church in Gors there is a service every day of the week

11. Cyrhaeddodd yr arwr yr harbwr yn yr haf yn y bad bach gyda'r gath ddu a'r ci wyn
The hero reached the harbour in the summer in the small boat with the black cat and the white dog