Hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg

Hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg / The history and development of the Welsh language

Er bod yr iaith wedi datblygu’n iaith leiafrifol heb unrhyw statws cyfreithiol ar droad y ganrif ddiwethaf, mae’r iaith Gymraeg yn chwarae rhan allweddol mewn busnes, gwasanaethau, addysg a diwylliant yng Nghymru. Yma’r trosolwg o’r hanes a datbygliadau…

Despite becoming the minority language of Wales with no legal status at the turn of the last century, the Welsh language now plays an important part in business, services, learning and the culture of Wales. Here’s an overview of the history and developments…

Hanes / History

Mae’r iaith Gymraeg yn un o ieithoedd hynaf Ewrop. Mae’n tarddu o adran Geltaidd ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Mae ei gwreiddiau yn y Frythoneg wedi i Rufain adael Prydain rhwng 400 a 700 OC. Roedd yn un o’r ieithoedd cyntaf erioed yn Ewrop i gael ei sgrifennu, oddeutu 590 OC. Yn ystod y cyfnod cynnar yma roedd yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad ar draws Prydain, gan gynnwys Strathclyde yn yr Alban. The Welsh language is one of the oldest languages in Europe. It came from a Celtic part of Indo-European languages, the Brittonic language of ancient Britain, after the withdrawal of Rome between 400 and 700 AD. At this stage Welsh was spoken in most of Britain, including Strathclyde in Scotland, and was one of the earliest written languages in Europe.
Yn 1536 fe benderfynodd Harri VIII uno Cymru a Lloegr drwy Ddeddf Uno. Roedd hyn yn golygu nad oedd modd defnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cyhoeddus nac yn y llysoedd wedi hynny. Er gwaethaf hyn cafodd y llyfr Cymraeg cyntaf erioed ei gyhoeddi yn 1546 gan Syr John Price a’i deitl oedd ‘Yny lhyvyr hwnn’. Mae copi o’r llyfr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth. Mae’n defnyddio arddull hynafol iawn sydd yn edrych yn od iawn heddiw. In 1536 Henry VIII decided to make Wales a part of England by passing the Act of Union. One of the outcomes of the Act was that Welsh could no longer be used in any official capacity or in court. Despite this Sir John Price published the first ever Welsh book in 1546 and it was called 'In this book' which are the first words in the book. There’s a copy of it at the National Library of Wales in Aberystwyth. It uses an ancient form of Welsh that seems very strange today.
Y tebygrwydd yw ni bod yn cymryd yn ganiataol bod y Beibl ar gael yn Gymraeg, ond cyn 1567 pryd y cyfieithwyd y Testament Newydd i’r Gymraeg gan William Salesbury, roedd y Beibl ar gael yn y Lladin a’r Saesneg yn unig. Yn ddiweddarach, yn 1588, cyfieithwyd yr holl Feibl i’r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan, mewn arddull sy’n debycach i’r un rydyn ni’n gyfarwydd â hi heddiw. Y Beibl oedd gwerslyfr addysg ein hysgolion a sail llenyddiaeth a barddoniaeth yng Nghymru.We probably take the availability of the Bible in Welsh for granted, but before 1567 the Bible was only available in Latin and English. It was then that William Salesbury translated the New Testament into Welsh. Later, in 1588, Bishop William Morgan translated the whole Bible into Welsh, using a modern form of written Welsh more similar to the Welsh we use today. It became the textbook for learning to read and write in our earliest schools and the basis of all literature and poetry in Wales.
Fe gafodd y Ddeddf Uno effaith niweidiol ar statws yr iaith Gymraeg ac i wneud pethau’n waeth fe sefydlwyd Comisiwn Brenhinol yn 1847 i archwilio safon addysg yng Nghymru. Yn ôl yr adroddiadau roedd addysg yng Nghymru’n fethiant a’r iaith Gymraeg yn “gwahardd plant rhag symud ymlaen yn y byd”. Mae’r Cymry Cymraeg yn dal i gredu bod yr adroddiadau hyn yn gyfrifol am ddirywiad yn nefnydd yr iaith ac yn cyfeirio atynt fel Brad y Llyfrau Gleision.As you can imagine, not only did the Act of Union have a devastating effect on the Welsh language, a Royal Commission set up in 1847 produced a damning report. It said that education in Wales was failing because of the continued use of the Welsh language that was preventing children from “getting on in the world”. The Welsh people felt very insulted by this report and labelled it The Treachery of the Blue Books.
Y fuan wedi hyn fe ddatblygwyd y ‘Welsh NOT’ sef label gwarth oedd yn cael ei orfodi ar unrhyw blentyn oedd yn siarad Cymraeg yn yr ysgol yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif.Soon afterwards the ‘Welsh NOT’ came into use as a shame plaque worn by children to discourage them from speaking Welsh in school right through the 19th and 20th centuries.
Fe gafodd y chwyldro diwydiannol effaith pellach ar yr iaith Gymraeg. Roedd yna dwf aruthrol mewn diwydiant cyfoes ac erbyn dechrau’r 20fed ganrif roedd cloddio am lo yn un o’r diwydiannau mwyaf. Roedd chwarter y gweithwyr yng Nghymru’n lowyr a’r mwyafrif o’r rheiny yn siaradwyr Cymraeg. Roeddent wedi ymfudo i gymoedd de Cymru o ogledd, canolbarth a gorllewin Cymru.The industrial revolution had a further impact on the Welsh language. There was acceleration in the growth of modern industry in the 19th century and by the beginning of the 20th century coal mining was one of the biggest industries. A quarter of the working population were coal miners and the majority of them were Welsh speakers. They had migrated to the South Wales valleys from north, mid and west Wales.
Yr un pryd cafodd datblygiad y rheilffyrdd a phapurau newydd effaith ar y newid. Roedd modd i bobl Cymru, cyn belled â’u bod yn deall Saesneg, ddarganfod beth oedd yn mynd ymlaen yn Ymerodraeth Prydain, gan fod y trenau yn dod â’r papurau o Lundain i Gymru. Saesneg oedd iaith cynnydd a datblygiad. Roedd cymunedau yn y cymoedd ar frig y newidiadau diwydiannol a chymdeithasol ac, o ganlyniad, fe ddechreuodd y Gymraeg syrthio y tu ôl i’r Saesneg.The spread of the railways and the rise of daily newspapers were also factors that affected the use of the language. Trains delivering London daily papers made it possible for a worker in the Valleys to find out the latest news from the British Empire as long as he, or she, could read English. English was often seen as the language of progress. Communities in the Valleys were at the forefront of industrial and social change and, as a result, Welsh began to lag behind English.
Yn ystod yr 20 mlynedd yn arwain at y Rhyfel Byd Cyntaf roedd cannoedd o ymfudwyr yn symud i’r ardaloedd glo. Erbyn diwedd y 1800au roedd yna gymaint o fewnfudwyr Saesneg eu hiaith wedi dod i Gymru, roeddent wedi newid siâp ieithyddol Cymru’n llwyr ac am byth. Isel, mae’r tabl yn dangos y nifer o siaradwyr Cymraeg yn parhau i leihau o 1901 ymlaen ac nid yw’r Gymraeg wedi adennill ei thir fel iaith y mwyafrif byth oddi ar hynny.During the 20 years leading up to World War One immigrants poured into the coal mining areas. This last tide of immigrants tipped the language balance of many communities in industrial South Wales and changed the linguistic shape of Wales forever. Below, the table shows the number of Welsh speakers continuing to decline since 1901 and it hasn’t been the majority language ever since.

19011911192119311951196119711981199120012011
49.9%43.5%37.1%36.8% 28.9%26.0%20.8%18.9%18.5%20.8%19%
929,800977,400922,100909,300714,700656,000524,000508,200500,000582,400 562,000

Yr Ugeinfed Ganrif / Twentieth Century

O’r 1940au ymlaen, roedd llawer o bobl yn pryderu’n fawr y byddai’r iaith Gymraeg yn diflannu, ac felly fe aethant ati i ymgyrchu’n galed i adfywio’r iaith a cheisio adennill ei statws swyddogol. Roedd yna nifer o ddigwyddiadau allweddol a gyfrannodd at hyn:From about the 1940s some Welsh people were really worried that the language would disappear, so they campaigned hard to revive the Welsh language and to help it regain its official status so that it could be used freely. There were some key developments that contributed to an increase in the prestige of the Welsh language:
Am y tro cyntaf ers Deddf Uno 1536 fe gafodd yr iaith Gymraeg gydnabyddiaeth gan y Ddeddf Llysoedd Cymru yn 1942. Roedd y Ddeddf hon yn rhoi hawliau cyfyngedig i ddefnyddio’r Gymraeg mewn llysoedd barn.For the first time since the Act of Union in 1536, the Welsh language received recognition by the Welsh Courts Act in 1942. This act gave limited rights to use the Welsh language in a court of law.
Yn 1962 fe ddarlledwyd darlith flynyddol y BBC gan Saunders Lewis. Yn ei ddarllediad Tynged yr Iaith roedd yn annog pobl Cymru i wrthod llenwi ffurflenni, talu trethi a thrwyddedau os nad oeddent ar gael yn y Gymraeg. Gofynnodd iddynt hefyd ddefnyddio’r Gymraeg mor aml â phosib yn eu bywydau bob dydd ac mewn amgylchiadau swyddogol. In 1962 Saunders Lewis, the famous play writer, gave a BBC annual radio lecture called Tynged yr Iaith. He asked the people of Wales to refuse to complete forms, pay taxes or licences if they couldn’t do it through the medium of Welsh. He also asked them to use the language as often as possible in their daily lives and for official purposes.
Arweiniodd hyn at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr un flwyddyn. Dyma gymdeithas sydd wedi bod yn weithredol iawn yn brwydro dros hawliau i’r iaith Gymraeg. Bu llawer iawn o ymgyrchoedd a phrotestiadau mewn adeiladau’r llywodraeth ac yn dilyn hyn fe gafwyd Deddf yr Iaith Gymraeg yn 1967. Roedd y Ddeddf hon yn seiliedig ar Adroddiad Hughes Parry. Roedd yr Athro Syr David Hughes Parry yn wreiddiol o Lanaelhaearn yng ngogledd Cymru ac yn rhugl ei Gymraeg. Roedd yn Athro yn y Gyfraith Eingl yn yr LSE rhwng 1930 a 1958. This led to the formation of the Welsh Language Society in the same year. This is an association that has been extremely active in fighting for the rights of the Welsh language. Following extensive campaigning and protesting, the Welsh Language Act was passed in 1967. The Act was based on the Hughes Parry Report. Professor Sir David Hughes Parry, originally from Llanaelhaearn in north Wales and a fluent Welsh speaker, was the professor of English Law at the LSE between 1930 and 1959.
Wedi iddo ymddeol fe gadeiriodd bwyllgor oedd yn archwilio statws yr iaith Gymraeg rhwng 1963 a 1965. O ganlyniad i’w adroddiad fe gafwyd Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 a argymhellodd ddilysrwydd cyfartal i’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig, mewn llysoedd barn ac mewn gweinyddiaeth gyhoeddus yng Nghymru.After Hughes Parry's retirement he chaired the committee investigating the legal status of the Welsh language between 1963 and 1965. His report led to the passing of the Welsh Language Act of 1967 that advocated equal validity for Welsh in speech and in written documents, both in the courts and in public administration in Wales.
Dyma elfennau allweddol y Ddeddf:
• Yn y Cyflwyniad cydnabyddir yr egwyddor – ond nid yr hawl i wrthod – i ddefnyddio’r iaith ar lafar mewn achosion cyfreithiol (“it is proper that the Welsh language should be freely used by those who so desire in the hearing of legal proceedings in Wales”). Ond roedd rhaid i unrhyw un oedd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg roi rhybudd o flaen llaw i’r llys er mwyn gallu gwneud hynny.
• Roedd gan Weinidogion yr hawl i gyhoeddi adroddiadau yn y Gymraeg ond nid oedd dyletswydd arnynt i wneud hynny.
• Yn y bedwaredd adran dileuwyd statws Cymru fel rhan o Loegr, Deddf Cymru a Berwick 1746. Dyma gymal pwysicaf y Ddeddf efallai, er na chafodd lawer o sylw ar y pryd.
The key elements of the Act were:
• The preamble states that “it is proper that the Welsh language should be freely used by those who so desire in the hearing of legal proceedings in Wales”.
• The right to use Welsh orally in court proceedings in Wales, provided that the person who wishes to do so has notified the court in advance.
• The right for Ministers to provide Welsh versions of forms or wordings, but did not impose any obligation on them to do so.
• The final section repealed the provision of the Wales and Berwick Act 1746 that the term ‘England’ should include Wales. Although it wasn't realisd at the time, this is perhaps the most important clause of the Act.
Rhoddodd y Ddeddf hon yr iaith mor ddilys â Saesneg yng Nghymru mewn perthynas â materion cyfreithiol, ond ni roddodd statws swyddogol iddo. Gan nad oedd Deddf 1967 wedi gweithredu holl argymhellion Hughes Parry, roedd y llywodraeth o dan bwysau aruthrol i gryfhau’r mesur a roddwyd i’r iaith Gymraeg gan Ddeddf Llysoedd Cymru 1942 a Deddf yr Iaith Gymraeg 1967. This Act gave the language equal validity with English in Wales in respect of legal matters, but did not give it official status.
The 1967 Act did not implement all of the Hughes Parry recommendations and the government came under increasing political pressure to strengthen the measures given to the Welsh language by the Welsh Courts Act of 1942 and the Welsh Language Act of 1967.
O ganlyniad, gofynnwyd i’r Arglwydd Wyn Roberts, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, i archwilio’r mater ac i wneud argymhellion am yr hyn ddylid eu gwneud. Fe awgrymodd sefydlu Bwrdd Ymgynghorol ar gyfer yr Iaith Gymraeg ac yn 1988 sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Prif swydd y Bwrdd oedd hyrwyddo defnydd o’r iaith ym mhob agwedd o fywyd yng Nghymru. Fe wnaeth argymhellion i’r llywodraeth yn 1991 bod angen Deddf Iaith newydd, gan fod y Gymraeg ar Saesneg yn gyfartal ddilys a bod gan y cyhoedd yr hawl i gael gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog. Lord Wyn Roberts, the Secretary of State for Wales at the time, was asked to investigate the matter and make recommendations as to what action was needed. He recommended the establishment of an Advisory Welsh Language Board and in 1988 the Welsh Language Board was formed. Its main purpose was to promote and facilitate the use of Welsh in all aspects of life. It made recommendations to the government in 1991 that a new Welsh Language Act was needed because Welsh and English were equally valid and that the public had the right to bilingual public services.
Fe dderbyniodd y llywodraeth y dadleuon ac fe gafwyd Deddf Iaith newydd yn 1993. Dyma un o’r camau pwysicaf a mwyaf arwyddocaol yn hanes yr iaith Gymraeg, gan fod y ddeddf hon wedi gosod yr iaith ar yr un sylfaen â’r Saesneg ym mywyd cyhoeddus Cymru.Eventually the government accepted the Board’s argument for new legislation and the Welsh Language Act was passed in 1993. This was by far the most significant legislation to date because it meant that the Welsh language would have an equal basis to the English language in public life in Wales.
Mae’r Ddeddf yn golygu tri pheth:
• Mae’n disgwyl i wasanaethau cyhoeddus drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
• Mae’n rhoi hawl i siaradwyr Cymraeg siarad Cymraeg yn y llys.
• Sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg i oruchwylio gweithredu’r Ddeddf ac i hybu’r iaith yng Nghymru.
The Act specifies three things:
• It places a duty on all public bodies to treat Welsh and English on an equal basis, when providing services to the public in Wales.
• It gives Welsh speakers an absolute right to speak Welsh in court.
• It established the Welsh Language Board to oversee the delivery of these promises and to promote and facilitate the use of the Welsh language.
Ers sefydlu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 1999 mae’r iaith Gymraeg wedi cael rhagor o gydnabyddiaeth. Mae’r llywodraeth wedi cynhyrchu nifer o strategaethau a chynlluniau gweithredol i wella statws yr iaith Gymraeg. Mae’r rhain yn cynnwys:
• ‘Dyfodol Dwyieithog: A Bilingual Future’ yn 2002.
• ‘Iaith Pawb, Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog’ yn 2003.
• Yn 2009 fe ofynnodd Llywodraeth Cymru am yr hawl i gael pwerˆ i ffurfio deddfau ac yn 2010 fe gyhoeddwyd Mesur ar yr iaith Gymraeg. Ym mis Chwefror 2011 fe ddaeth y mesur yn gyfraith. Dyma beth mae’n ei olygu:
• Statws swyddogol i’r iaith Gymraeg
• Penodi Comisiynydd yr iaith Gymraeg
• Y rhyddid i siarad Cymraeg yng Nghymru.

Mae hyn yn gam mawr ymlaen ac yn mynd i gael effaith sylweddol ar y defnydd o’r iaith Gymraeg yng Nghymru.
Since the Welsh Assembly Government came into force in 1999 the Welsh language has had further recognition. Many strategies and action plans have been produced to improve the status and use of the Welsh language. These include:
• ‘Dyfodol Dwyieithog: A Bilingual Future’ in 2002.
• ‘Iaith Pawb’ (Everyone’s Language) in 2003 with a National Action Plan for a Bilingual Wales. It clearly shows the Welsh Government’s commitment to creating a bilingual Wales.
• In 2009 the Assembly Government sought primary lawmaking powers on Welsh language matters and in 2010 it published the Proposed Measure on the Welsh Language. In February 2011 the Measure became legislation. The Measure creates the following:
• Official status of the Welsh Language
• Appointment of a Welsh Language Commissioner
• The freedom to speak Welsh in Wales.

This has far reaching implications for everyone who lives and works in Wales and is viewed as a major step forward for the Welsh language.

Ystadegau / Statistics

Heddiw mae 575,730 o bobl yn siarad Cymraeg, sef 21% o’r boblogaeth. Nid dyma’r sefyllfa hanesyddol, gan fod y mwyafrif o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg yn ystod y 1800au. Yng Nghyfrifiad 1911 gwelwyd mai dim ond 977,366 o bobl oedd yn siarad yr iaith Gymraeg ac am y tro cyntaf erioed roedd yn iaith leiafrifol gyda dim ond 43.5% o’r boblogaeth yn ei siarad. Wedi hynny fe aeth pethau o ddrwg i waeth gyda gostyngiad sylweddol yn y niferoedd oedd yn siarad Cymraeg hyd at 1981.Today 575,730 people speak Welsh, that is 21% of the population. Until the end of the 1800s Welsh was the language spoken by the majority of people in Wales. The 1911 Census recorded that nearly 977,366 people spoke Welsh but at the same time it showed that for the first time ever the Welsh language had become the minority language, spoken by only 43.5% of the population. The number of Welsh speakers continued to decline until the 1980s.
Erbyn Cyfrifiad 2001 roedd y sefyllfa’n gwella gyda chynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg mewn 14 allan o 22 o siroedd Cymru. Yng Ngwynedd Canran o’r boblogaeth roedd y canran uchaf o 69% . Roedd Sir Gaerfyrddin ail gyda 77,000 o siaradwyr Cymraeg, sef 47.1% o’r boblogaeth.By the 2001 Census the situation was showing further signs of improvement with an increase in the number of Welsh speakers in 14 out of the 22 Welsh Speaking Percentage counties in Wales. Gwynedd had the highest percentage at 69% with of the population. Carmarthenshire was second with 77,000 Welsh speakers, 47.1% of the population.
Ond yng Nghaerdydd roedd y cynnydd mwyaf, sef 14,415 neu 4.4% o boblogaeth y ddinas. Ar draws Cymru roedd 582,368 neu 20.8% o bobl yn siarad Cymraeg yn 2001, cynnydd o 82,400 ers Cyfrifiad 1991.However, Cardiff had the highest increase in the number of speakers, with 14,415 representing 4.4% of Cardiff’s population. Overall there were 582,368 people or 20.8% of the population of Wales able to speak Welsh in 2001, an increase of 82,400 on the 1991 Census.
Fel llawer o wledydd ar draws y byd, roedd Cymru’n newid yn gyflym yn yr 20fed ganrif ac roedd y newidiadau hyn yn effeithio ar y niferoedd oedd yn siarad Cymraeg. Dyma rai o’r prif resymau:

• Ymfudo o ardaloedd gwledig i drefi a dinasoedd i chwilio am waith.
• Mewnfudiad o siaradwyr Saesneg i ardaloedd diwydiannol a gwledig.
• Y Saesneg yn cael ei hystyried yn iaith llwyddiant a busnes.
• Agweddau negyddol tuag at y Gymraeg gyda llawer yn ei hystyried yn iaith hen-ffasiwn a lleiafrifol.
• Cynnydd mewn newyddion a chyfryngau yn yr iaith Saesneg.
• Dirywiad yn rôl crefydd, yn arbennig y capel a oedd wedi bod yn ganolbwynt gweithgareddau Cymraeg i deuluoedd a chymunedau drwy’r cenedlaethau.
Like many countries across the world, Wales was changing rapidly in the 20th century, and these changes affected the number of people that spoke Welsh. Here are some of the main reasons for the changes:

• Migration from rural areas to towns and cities in search of work.
• The influx of English speakers to industrial and rural areas.
• The prominence of English as the ‘progressive’ language and the language of business.
• Negative attitudes towards the Welsh language with many regarding it as ‘old-fashioned’, backward looking and unimportant.
• An increase in English language news and media.
• A decline in the role of religion, particularly ‘chapel’ that had been the hub of Welsh activities in families and communities for generations.
Yn ychwanegol at hyn fe honnodd 215,292 o bobl fod ganddynt beth gwybodaeth o’r Gymraeg yng Nghyfrifiad 2001, sydd yn gwneud y cyfanswm yn 797,660 neu 28% o’r boblogaeth.In the 2001 Census another 215,292 people said that they had some knowledge of Welsh, bringing the total number with some knowledge of Welsh to 797,660 or 28.4% of the population.
Dadansoddiad yn ôl oedran

Er bod pedwar cyfrifiad wedi dangos gostyngiad yn y niferoedd oedd yn siarad Cymraeg, roedd yna gynnydd ymysg plant. Er enghraifft, rhwng 1981 a 1991, roedd canran y plant rhwng 5 a 9 oed oedd yn siarad Cymraeg wedi codi o 17.8% i 24.7%, ac ymysg plant rhwng 10 a 14 oed roedd wedi codi o 18.5% i 26.9%. Roedd hyn yn ddatblygiad pwysig iawn gan fod cynnydd ymysg y genhedlaeth iau yn argoeli gobaith i ddyfodol yr iaith Gymraeg.
Age analysis

In 1981, there was a glimmer of hope because despite the reduction in the overall number of Welsh speakers, the census recorded an increase in the number of children speaking Welsh. For example, between 1981 and 1991, the percentage of children aged 5-9 who spoke Welsh rose from 17.8% to 24.7%, and amongst young people aged 10-14 the percentage rose from 18.5% to 26.9%. This was a very important development because it represented a turning point in the future of the Welsh language. It meant that the use of the language was increasing amongst the younger generation, giving hope for its survival in the future.

Hanes Diweddar / Recent History

Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, wedi diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac yn trosglwyddo ei swyddogaethau i rôl newydd, sef Comisiynydd Iaith. Ei rôl yw'r sicrhau gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd a chynghori’r Llywodraeth, ac eraill, ynglynˆ â nifer helaeth o faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
The Welsh Language Board

The Welsh Language (Wales) Measure 2011 abolished the existing Welsh Language Board and transfered its functions to a new role, the Welsh Language Commissioner. His or her role is to ensure the delivery of Welsh language services to the public as well as advising the Government, and others, on a wide range of issues of interest to the language.
Yn ogystal, roedd Uned Iaith estynedig yn cael ei chreu o fewn Llywodraeth Cymru, sydd yn gallu gweithio gyda nifer helaeth o bartneriaid er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu. Fe wnaeth y Gweinidog Diwylliant hefyd, trwy’r Mesur Iaith, yn sefydlu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg er mwyn cynghori’r Llywodraeth ar ei strategaeth iaith. Mae hyn yn cryfhau statws y Gymraeg ymhellach ac yn cadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’w dyfodol.An extended Welsh Language Unit was established within the Welsh Government, which works with a large cross-section of partners, to help ensure that the Welsh language continues to thrive. The Heritage Minister also established a Welsh Language Partnership Council to advise the Government on its language strategy. This further strengthens the status of the Welsh language and confirms the support of the Welsh Government in securing its future.
Addysg

Agorodd yr ysgol breifat Gymraeg gyntaf yn Aberystwyth yn 1939. Erbyn 1947 roedd yr ysgol gynradd benodedig cyfrwng Cymraeg gyntaf dan reolaeth awdurdod addysg wedi ei hagor yn Llanelli ac erbyn 1956 fe agorwyd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yng Nglan Clwyd.
Education

The first private Welsh medium school was opened in Aberystwyth in 1939, followed by the first designated local authority maintained Welsh medium primary school in Llanelli in 1947. By 1956 the first secondary school had opened in Glan Clwyd.
Ers y cyfnod cynnar hwn mae niferoedd yr ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu oherwydd galw gan rieni. Mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi datblygu enw da am ragoriaeth mewn addysg ac erbyn hyn mae’r galw yn uwch na nifer y lleoedd sydd ar gael. Yn 2008/09 roedd yna 454 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a 55 o ysgolion uwchradd, gyda chyfanswm o 96,811 o ddisgyblion yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.Welsh medium education has developed a reputation for excellence in learning and is now in high demand. In fact, demand has always exceeded places. By 2008/09 there were 454 Welsh medium primary schools and 55 Welsh medium secondary schools, with a total of 96,811 pupils in Wales being taught through the medium of Welsh.
Pan lansiwyd y Cwricwlwm Cenedlaethol yn 1990 death y Gymraeg yn orfodol i bob disgybl hyd at 14 oed. Mae’r holl ddatblygiadau hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar y nifer o blant sy’n siarad Cymraeg. In 1990 the National Curriculum made Welsh a compulsory subject for all pupils up to the age of 14. All of these developments have had a positive impact on the number of children speaking Welsh.

Sefydliadau Cymreig / Welsh Institutions

Yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf mae’r cyfryngau a diwylliant wedi gwneud cyfraniad sylweddol i statws yr iaith Gymraeg a’r defnydd ohoni. Dyma rai o’r datblygiadau allweddol sydd wedi cyfrannu at gryfhau’r iaith Gymraeg ac agweddau pobl tuag ati.You can now enjoy every aspect of media and culture in both English and Welsh. This has only happened in the last fifty years or so. Here are some of the key developments in this area:
Urdd Gobaith Cymru

Mae dros hanner y plant sy’n siarad Cymraeg yn aelodau o Urdd Gobaith Cymru. Un o fudiadau ieuenctid mwyaf Ewrop yw’r Urdd. Mae’n fudiad cyffrous a deinamig i blant a phobl ifanc ac mae ganddo 50,000 o aelodau. Mae’n darparu amrywiaeth o weithgareddau ar draws Cymru gyfan ac mae’n rhoi cyfle i ieuenctid Cymru fyw bywydau byrlymus trwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddysgu parchu ei gilydd a phobloedd y byd. Mae’r Urdd hefyd yn cynhyrchu nifer o gylchgronau mamiaith ac ail iaith i blant. Mae ganddo bedair canolfan breswyl ar draws Cymru ble mae modd i blant aros a mwynhau gweithgareddau awyr agored trwy gyfrwng y Gymraeg.
Urdd Gobaith Cymru

Over half the children who speak Welsh are members of Urdd Gobaith Cymru. This is Wales’s Welsh League of Youth and is one of Europe’s largest children and youth movements. It is an exciting, dynamic movement for children and young people with over 50,000 members. It organises a range of different activities across the country and gives young people in Wales the chance to use Welsh while learning to respect each other and people around the world. It has four residential centres across Wales where groups of children can stay and enjoy outdoor activities through the medium of Welsh.
Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal yn flynyddol ac mae’n fwrlwm o gystadlaethau’n amrywio o gerddoriaeth i ysgrifennu, llefaru, perfformio a chelf. Mae wedi bod yn sail i lawer o berfformwyr enwog byd-eang fel Ioan Gruffudd, Alex Jones a Cerys Matthews.The Urdd National Eisteddfod is held annually. It runs competitions in music, writing, reciting, performing arts and fine arts. It has been the training ground for many Welsh artists who are now world-renowned, such as Ioan Gruffudd, Alex Jones and Cerys Matthews.
Radio Cymru

Sefydlwyd Radio Cymru yn 1977 ac mae’n parhau i ddarlledu’n ddyddiol. Mae’n sianel radio sydd wedi ei neilltuo ar gyfer y Gymraeg ac mae’n darlledu cymysgedd o raglenni ar gyfer pobl o bob oed
Un o brif lwyddiannau Radio Cymru yw C2, sef sioe sy’n cyflwyno bandiau a cherddoriaeth ifanc bob nos.
Radio Cymru

Radio Cymru was established in 1977 and broadcasts a full range of programmes each day. It is a dedicated Welsh radio channel and provides an eclectic mix of programmes for people of all ages.
One of its successes in recent years has been the C2 show which features young bands and youth music every evening.
S4C- sianel deledu Gymraeg benodol

Rydym i gyd yn cymryd S4C yn ganiataol y dyddiau hyn, ond bu ymgyrchoedd caled gan ymgyrchwyr yr iaith yn ystod y 1970au. Roedd hyn mewn cyfnod yn arwain at Etholiad Cyffredinol 1979 ac fe addawodd y pleidiau Llafur a Cheidwadol y byddent yn sefydlu sianel Gymraeg i Gymru petaent yn cael eu hethol. Y Ceidwadwyr gafodd eu hethol ac fe wnaeth William Whitelow, y Gweinidog Cartref, ddatganiad bod y llywodraeth wedi penderfynu peidio â sefydlu sianel Gymraeg wedi’r cyfan.
S4C – a dedicated Welsh language TV channel

Today we take S4C for granted, but it took a massive amount of campaigning by language activists during the 1970s to get it established. In 1979 there was a General Election and both the Conservative and Labour parties promised to establish a Welsh language channel if they were elected. The Conservatives won the election and the new Home Secretary, William Whitelaw, announced that the government had decided not to establish the Welsh-language channel after all.
O ganlyniad bu llawer iawn o ymgyrchu, protestio a thorri’r gyfraith, gan gynnwys gwrthod talu’r drwydded deledu. Yna cyhoeddodd Gwynfor Evans, aelod blaenllaw o Blaid Cymru, y byddai’n ymprydio hyd at farwolaeth oni bai bod y llywodraeth Geidwadol newydd yn cadw at yr addewid oedd yn ei maniffesto i sefydlu sianel Gymraeg annibynnol.As a result activists protested, campaigned and broke the law by refusing to pay their licence fees. The main campaigner, Gwynfor Evans, one of Plaid Cymru’s leading figures, threatened to go on hunger strike if Margaret Thatcher’s government refused to keep the promise made prior to the election.
Fe wthiodd hyn y llywodraeth i gadw at eu haddewid ac fe lansiwyd S4C yn 1982. Nawr, mae’n darlledu 115 awr o raglenni’r wythnos ac mae ganddi bresenoldeb mewn nifer fawr o ddigwyddiadau ar draws Cymru, gan gynnwys Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Sioe Môn a’r Eisteddfodau.
Mae’r rhaglenni yn cynnwys yr holl genres, gan gynnwys chwaraeon, drama, cerddoriaeth, ffeithiol, adloniant a digwyddiadau. Os wyt erioed wedi gwylio S4C yn ystod y dydd fe fyddi wedi gweld Cyw i blant meithrin a Stwnsh i blant 7 oed a hyn, ˆ ac yna’n hwyrach yn y dydd mae yna raglenni ar gyfer yr arddegau.
This forced the government to honour the promise and as a result S4C was launched on 1 November 1982. It now broadcasts over 115 hours a week of programmes. You will see the channel represented at many events across Wales such as the Royal Welsh Show in Llanelwedd, Sioe Môn and the Eisteddfodau. It offers programmes in almost every genre including sports, high quality drama, music, factual, entertainment and events. If you watch S4C during the day you will see Cyw for pre-school children, Stwnsh for children from the age of seven upwards and, later in the day, programmes for teenagers.
Ers ei dyddiau cynnar mae S4C wedi gwneud pob ymdrech posib i annog a helpu pobl i siarad Cymraeg. Mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol i adfywio’r iaith Gymraeg am dros 30 mlynedd. Mae wedi rhoi statws i’r iaith a dod â’r Gymraeg i aelwydydd Cymru, ac mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg.From its early days, S4C made every effort to help and encourage people to learn Welsh. It has made a considerable contribution to reviving the Welsh language over the last 30 years. It has given it status and brought Welsh directly into people’s homes, all leading to an increase in the number of Welsh speakers.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae pawb yng Nghymru a thu hwnt wedi clywed am Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae’n un o wyliau mawr y byd sydd yn cael ei chynnal yn flynyddol ym mis Awst bob blwyddyn ac sydd yn denu dros 160,000 o ymwelwyr. Credir i’r eisteddfod gyntaf erioed gael ei chynnal yn 1176 gan yr Arglwydd Rhys yng nghastell Aberteifi. Mae’r Eisteddfod yn teithio o le i le yng Nghymru ac mae’n cael ei chynnal mewn gwahanol leoliad bob blwyddyn, am yn ail yn y de a’r gogledd.
The National Eisteddfod of Wales

Everyone in Wales and beyond has heard of the National Eisteddfod of Wales. It is one of the great festivals of the world, held annually in August and attracting over 160,000 visitors every year. It is believed that the first ever Eisteddfod was established in 1176 by Lord Rhys at the castle in Cardigan. The Eisteddfod alternates between north and south Wales and is in a different location every year.
Mae’n lle gwych i siaradwyr Cymraeg gyfarfod, cymdeithasu a chael hwyl. Mae’r gweithgareddau a’r cystadlaethau yn gymysgedd gwych o lenyddiaeth, cerddoriaeth, dawns, llefaru, theatr, celfyddydau gweledol, gwyddoniaeth a thechnoleg a phob math o ddiwylliant Cymreig. Mae yna ddwy brif wobr i’w hennill yn flynyddol: cadeirio’r bardd a choroni’r bardd. Dyma ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod pryd mae un o’r enillwyr yn ennill cadair ar llall goron. Mae’r seremonïau yn cynnwys Gorsedd y Beirdd sydd yn gysylltiedig â’r Derwyddon Celtaidd.It is a great place for Welsh speakers to meet, socialise and have fun. It offers an eclectic mix of literature, music, dance, recitation, theatre, visual arts, science and technology, and all types of Welsh culture. There are several prestigious prizes to be won annually. The chairing and the crowning of the Bard are the most popular events in the Eisteddfod. The ceremonies involve the Gorsedd of the Bards that is linked to the Celtic Druids.
Yn ddiweddar mae’r Eisteddfod wedi creu ardal benodol o’r enw ‘Maes B’ ar gyfer ieuenctid ble mae modd i bobl ifanc fwynhau bandiau a pherfformiadau byw.
Mae’r Eisteddfod hefyd yn cynnig gwasanaeth ar gyfer y digymraeg fel bod modd i bawb fwynhau’r wyl.ˆ
In recent years the Eisteddfod has established a dedicated area for young people to socialise and enjoy live bands and performances.
The Eisteddfod provides services for non-Welsh speakers as well so that they can join in and enjoy the festival.

 Mae’r testun hwn wedi cael ei addasu o’r adnoddau Agored. This text has been adapted from Agored resources.

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Yr Iaith