Brigyn Haleliwia

Brigyn’s ‘Haleliwia’: Stori Tu ôl i’r Gân / Story Behind The Song

Mae’r gân ‘Haleliwia’ gan Brigyn yn dal lle arbennig yng nghalonnau llawer o Gymry, gydag alaw gofiadwy a geiriau ysbrydoledig sy’n annog gobaith. Ro’n i’n wrth fy modd pan gytunodd Ynyr ysgrifennu am brofiadau Brigyn o addasu cân enwog Leonard Cohen…
The song ‘Haleliwia’ by Brigyn holds a special place in the hearts of many Welsh people, with an unforgettable melody and lyrics that are both melancholy and uplifting. I was delighted when Ynyr agreed to write about his experience of adapting the Leonard Cohen song…

Brigyn- Ynyr ac Eurig RobertsMae Brigyn yn brodyr Ynyr ac Eurig Roberts o’r Eyri / Brigyn are brothers Ynyr and Eurig Roberts of Snowdonia.

Roedden ni, Brigyn, yn gwneud cyfres o gigs yn San Francisco ym mis Tachwedd 2005, ac yn ystod y daith roedd ein ffrind Nia, oedd yn chwarae piano a thelyn yn y grŵp, wedi sôn droeon ei bod wedi clywed bachgen yn canu'r gân mewn cyngerdd yn Nefyn, yn gynharach yn y flwyddyn.We, Brigyn, were doing a series of gigs in San Francisco in November 2005, and during the tour our friend Nia, who was playing piano and the harp for the group, regularly said that she had heard a boy singing the song in a concert in Nefyn, earlier in the year.
Yn ystod ein noson olaf yn San Francisco, tra roeddem yn cael bwyd ar ôl cyngerdd- dyma fersiwn Jeff Buckley o'r gân 'Hallelujah' yn cael ei chwarae ar y radio yn y tŷ, ac roedd pawb yn cytuno- dylwn ni recordio'r fersiwn Gymraeg newydd o 'Haleliwia' unwaith roeddem yn ôl yng Nghymru a chyn Nadolig 2005.During our last night in San Francisco, while we were having a meal after a concert- a version by Jeff Buckley of the song 'Hallelujah' was being played on the radio in the house, and everyone agreed- we should record a new Welsh version of 'Haleliwia' once we were back in Wales before Christmas 2005.
Roedd y geiriau wedi cael ei ysgrifennu gan Tony Llywelyn o Nefyn- wedi ei fab Ifan wirioni gyda fersiwn John Cale o'r gân yn y ffilm Shrek, ac Ifan a ganodd y gân yn wreiddiol yn y cyngerdd yn Llithfaen, y Llŷn, gyda ei chwaer Alaw yn cyfeilio. The words were written by Tony Llywelyn of Nefyn- his son Ifan was infatuated with the John Cale version in the film 'Shrek', and Ifan sang the song originally in a concert in Llithfaen, on the Llyn peninsula, with his sister Alaw accompanying on the piano.
Ar ôl gofyn i Tony am hawl i ganu a recordio'r gân- fe aethom i stiwdio Sain, yn Llandwrog, i recordio'r gân yn sydyn iawn, a gyrru MP3 y noson honno ar ebost i DJ Radio Cymru Daf Du, a diolch i'w ymateb o a nifer o bobl dros y byd... fe wnaeth o chwarae'r gân yn syth y noson honno, ac mae'r gân wedi cael ei chwarae yn gyson ar y radio a'r teledu ers Rhagfyr 2005!After asking Tony for the rights to record the song, we went to the Sain studio in Llandwrog, to record the song very quickly, and sent the MP3 that night by email to the Radio Cymru DJ Daf Du, and thanks to the response of many people across the world... the song has been played constantly on the radio and TV since December 2005!
Fe wnaethom ni werthu tua 4000 o gopïau o'r gân mewn pythefnos pan wnaethon ni ryddhau y gân hon ddiwedd Tachwedd 2008!
We sold about 4000 copies of the song within a fortnight when we released the song at the end of November 2008!
Felly, Tony Llywelyn, wnaeth sgwennu’r geiriau cyn 2005 am sefyllfa druenus y Dwyrain Canol, ac yr anghydfod rhwng pobl yno. Mae geiriau'r un mor bwysig heddiw dydyn?So, Tony Llywelyn, who wrote the words before 2005 about the depressing situation in the Middle East, and the dispute between people there. The words are still important today, are they not?
Mae'r geiriau yn drist, gan ei fod yn sôn am y rhyfel a'r trais ym Mhalestina. Mae'r cymal am ddynoliaeth yn 'dal i got' a gwylio pobl yn ymladd â'i gilydd yn drawiadol. Son am 'godi muriau' a 'chau y pyrth' hefyd yn nodi ein gwendid fel pobl i beidio bod yn gyfeillgar gyda'n cymdogion.The words are sad, and they mention the war and violence in Palestine. The clause about humanity is 'still got', and watching people fighting each other is saddening. Mentioning 'raising walls' and 'closing the gates' also points out our weaknesses, as people tend not to be friendly with their neighbours.
Ond, yn fy marn i, mae'n gân obeithiol...mae angen i'r bobl chwalu'r muriau rhyngddyn nhw a dysgu i gyd-fyw yn heddychlon. Rwy'n siŵr fod pobl yn hoffi'r gân Haleliwiau am y rhesymau hyn- bod rhaid i ni gael gobaith yn y byd rydyn ni'n byw ynddo.But, in my opinion, it is a hopeful song...people need to break the walls between them and learn to live together in peace. I'm sure that people like Haleliwia for these reasons- we have to have hope in the world that we live in.
Ein ffrind, Nia Williams, oedd yn teithio gyda ni yn San Francisco, wnaeth y trefniant cerddorol, ac mae'n bwysig clodfori ei gwaith hi yn llwyddiant y gân hon hefyd. Mae symlrwydd y trefniant yn amlwg wedi taro tant gyda phobl yng Nghymru a thu hwnt.Our friend, Nia Williams, who was travelling with us in San Francisco, did the musical accompaniment, and it's important to celebrate her work in the success of the song as well. The simplicity of the arrangement has hit a spot with people in Wales and beyond.
Fe gawson ni lawer o gyhoeddusrwydd pan wnaeth ein CD ni o'r Haleliwia gael ei ryddhau, gan fod y rhaglen X Factor wedi dewis mai dyna'r brif gân byddai'n cloi y gyfres yn 2008- a ddaeth i fod yn Rhif 1 yn siart y 'senglau' dros y Nadolig hefyd. We had lots of publicity when our CD Halalewia was released, when the programme X Factor chose it as the main song to close their series in 2008- and it went to Number 1 in the singles charts over Christmas as well.
Yn ogystal â hyn, roedd Leonard Cohen ar daith o amgylch Prydain ac Ewrop ac wrth gwrs Shrek yn un o brif ffilmiau BBC1 ar ddiwrnod Nadolig! Roedd yr Haleliwia ym mhobman yn ystod gaeaf 2008. Braf oedd cael bod yn rhan o'r cyfan a chael sêl bendith Leonar Cohen a'i gyhoeddwyr i ryddhau'r fersiwn arbennig hwn o'i gân eiconig!In addition, Leonard Cohen was on tour around Britain and Europe and of course Shrek was one of the main films on BBC1 on Christmas Day! Haleliwia was everywhere during winter 2008. It was great to be part of it all and to receive the blessing of Leonard Cohen's publishers to release this special version of this iconic song!
Mewn dwrn o ddur mae'r seren wen
Mae cysgod gwn tros Bethlehem
Dim angel gwyn yn canu Haleliwia.
Codi muriau, cau y pyrth
Troi eu cefn ar werth y wyrth
Mor ddu yw'r nos ar strydoedd Palesteina.

Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.

Mae weiran bigog gylch y crud
A chraith lle bu creawdwr byd
Mae gobaith yno'n wylo ar ei glinia'
A ninnau'n euog bob yr un
Yn dal ei gôt i wylio'r dyn
Yn chwalu pob un hoel o Haleliwia.

Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.

Mae'r nos yn ddu mae'r nos yn hir,
Ond mae na rai sy'n gweld y gwir
Yn gwybod fod y neges mwy na geiria'
Mai o'r tywyllwch ddaw y wawr
A miwsig ddaeth â'r muriau lawr
Daw awr i ninnau ganu Haleliwia.

Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.

Welsh lyrics: © Tony Llewelyn
The White Star in a fist of steel,
There's a shadow of a gun over Bethlehem,
No white angel singing Hallelujah.
Raising the walls, closing the doors,
Turning their backs on the value of the miracle,
The night's so dark on the streets of Palestine.

Hallelujah, Hallelujah, Hallelujah, Hallelujah.

There's a barb-wire circling the cradle,
And a scar where once was the world's creator,
Hope is weeping- on it's knees.
Guilty- each and every one of us,
Holding Mankind's coat-
While he destroys every trace of Hallelujah.

Hallelujah, Hallelujah, Hallelujah, Hallelujah.

The night is dark, The night is long,
Yet there are some that see the truth,
They know the message is more than words;
That from the darkness comes the dawn,
and the music brought the walls down.
There came the hour for us to sing, "Hallelujah."

Hallelujah, Hallelujah, Hallelujah, Hallelujah.

Yn fy marn i, mae’n gân obeithiol…mae angen i’r bobl chwalu’r muriau rhyngddyn nhw a dysgu i gyd-fyw yn heddychlon.

Mae’r caneon ac albymau Brign ar gael o brigyn.com / Brigyn’s songs and albums are available from brigyn.com ac ar iTunes:

Brigyn 4 album cover

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol