Dani Schlick Gwyl Ddewi Arall

Dani Schlick: Gŵyl Ddewi Arall yng Nghaernarfon / Gŵyl Ddewi Arall in Caernarfon

Mae’r Gŵyl Ddewi Arall yn benwythnos llawn dop o lenyddiaeth, cerddoriaeth a chelf yng Nghaernarfon i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a Chymreictod. Yma, mae Dani Schlick, ymgeisydd a gyrhaeddodd y rownd derfynol o’r gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2017, yn siarad am ei phrofiad o ymweld yna…

The Gŵyl Ddewi Arall (Another Festival) is a jam-packed weekend of literature, music and art in Caernarfon to celebrate St David’s Day and Welshness. Here, Dani Schlick, an applicant who reached the final round of the 2017 Learner of Year competition, speaks about her experience of visiting there…

Unwaith eto dôth ddydd Gŵyl Dewi i Gaernarfon. Mi ddôth â thywydd oer iawn eleni, ond unwaith eto dôth Ŵyl Ddewi Arall i Gaernarfon i roi croeso cynnes i bawb – pobl leol neu o bell i ffwrdd, Cymry Cymraeg a dysgwyr. Once again it was time for Gŵyl Ddewi Arall to come to Caernarfon. It brought cold weather this year, but again it came to Caernarfon to give a warm welcome to everybody – local people and people from far away, Welsh native speakers and learners.
Bob blwyddyn bydd sgyrsiau difyr, teithiau diddorol a nosweithiau hwyliog yn ystod Gŵyl Ddewi Arall. A phob blwyddyn rydw i’n edrych ymlaen at y penwythnos hwnnw.Every year it offers interesting talks and walks and entertaining evenings. And every year I am looking forward to that weekend.
Eleni es i i wrando ar Bob Morris, hanesydd o Benygroes ger Caernarfon, yn siarad am chwedl Madog a hanes John Evans Waunfawr. Mae gwybodaeth eang iawn o hanes Cymru gan Bob Morris. This year I went to listen to Bob Morris, a historian from Penygroes near Caernarfon, speaking about the legend of Madog and the story of John Evans Waunfawr. Bob Morris has such a wide knowledge of Welsh history.
Sgwrs ddiflas a sych am ffeithiau hanesyddol, dach chi’n meddwl? Naci, sgwrs hynod o ddiddorol a ddoniol am chwedl Tywysog Madog oedd yn darganfod America (wrth gwrs!) a John Evans Waunfawr oedd yn teithio drwy America gan chwilio am yr Indiaid Coch Cymraeg (wrth gwrs). Chafodd o mo hyd i’r Indiaid Coch Cymraeg- tybed ai chwedl oedd hyn? Beth bynnag, mae’r byd Cymraeg mor fach, hyd yn oed ar gyfandir mawr America.So, a boring talk about historic facts, you think? No, an absolutely interesting and funny talk about Prince Madog, who found America (of course!), and John Evans Waunfawr, who travelled through America looking for the Indians who were speaking Welsh (of course). He didn’t find them- I wonder if this was just a legend? Anyway, the Welsh world is small, even on the huge American continent.
Ar ôl gwrando ar Bob Morris yn siarad am chwedlau a hen hanes Cymru, caethon ni’r pleser mawr o wrando ar Dewi Llwyd yn siarad am ei waith fel cyflwynydd radio a theledu ac am ddigwyddiadau Cymru a’r byd heddiw. After Bob Morris’ talk about legends and old Welsh history, we had the big pleasure of listening to Dewi Llwyd talking about his work as a radio and TV presenter and about what is happening in Wales and in the world today.
Fel rhan o’i waith mae Dewi Llwyd yn teithio ledled Cymru ac i wledydd ar draws y byd i wneud yn siŵr y byddwn ni’n gwybod beth sydd yn ei ddigwydd. Rydw i’n nabod Dewi Llwyd o Radio Cymru gan fod i’n gwrando ar Post Prynhawn bob dydd ar y ffordd adra o’r gwaith.
Dyn go ddifrif ydy o ar y radio, person sydd yn cyflwyno’r newyddion a’r digwyddiadau mewn ffordd wrthrychol a theg.
Part of Dewi Llwyd’s work is travelling across Wales and to countries all over the world to make sure we get to know what is happening. I know Dewi Llwyd from Radio Cymru, because I listen to Post Prynhawn every day on my way home from work. He is a serious person on the radio, somebody who will present the news and events in an objective and fair way.
Am syndod gweld yr un dyn yn rhoi sgwrs i ni mewn ffordd hollol hamddenol a ddigrif! Mi gaethon ni gipolwg bach o’i waith cyflwyno’r rhaglen Pawb a’i Farn. Ac wrth gwrs siaradodd o am ei waith ysgrifennu ei lyfr cyntaf o’r un enw. Ces i gymaint o hwyl gwrando ar y straeon difyr iawn- well i mi ddechrau darllen y llyfr rŵan!What a surprise to see this same man giving a talk being completely relaxed and funny! He gave us a glance of his work presenting the programme Pawb a’i Farn. And of course he spoke about his work writing his first book bearing the same title. I had so much fun listening to his entertaining stories- I’d better start reading the book now!
Ac am hwyl gaethon ni yn y nos! Roedd sesiwn “Mezze a chwis” ymlaen yn y bwyty Groegaidd “Ouzo ac Olewydd”. Mae’r sesiwn yn gyfle da i gael sgwrs efo pob math o bobl ddiddorol, gan drafod cwestiynau’r cwis heriol. Mae ambell i wydriad o win Groegaiddyn helpu efo hyn, gyda llaw. A’r bwyd? Am flasus!And what fun the night was! The “Mezze and Quiz” session in the Greek restaurant “Ouzo and Olives” is a great chance to chat with all sorts of interesting people, while discussing the questions of the rather challenging quiz. A glass or two of Greek wine help, by the way. And the food? Delicious!
Rydw i’n mwynhau Gŵyl Ddewi Arall achos mae hi’n cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau difyr i bawb. Fel dysgwraig Gymraeg mae’n fraint werthfawr i mi gael cymryd rhan mewn digwyddiadau Cymraeg, cael bod yn rhan o ddiwylliant Gymraeg a Chymreig. Rydw i’n medru dilyn sgyrsiau mor ddiddorol ym mamiaith y siaradwyr a chael eu hiwmor a’u straeon. Felly, amdani i ddysgu Cymraeg! A daliwch ati!I enjoy Gŵyl Ddewi Arall because it offers a variety of interesting events for everybody. As a Welsh learner it is a great privilege for me to take part in Welsh language events, to be part of the Welsh speaking culture of Wales. I can follow fascinating talks in the speakers’ mother tongue getting their humour and stories.
So, go for it and learn Welsh! And keep at it!

Mae’r Gŵyl Ddewi Arall yn cael eu rhedeg gan y tîm sydd yn rhedeg Gŵyl Arall (twitter.com/GwylArall), gŵyl enfawr yng Nghaernarfon pob mis Gorffennaf.

Gŵyl Ddewi Arall is run by the same team that runs Gŵyl Arall (twitter.com/GwylArall), an enormous festival in Caernarfon every July.

Yn y lluniau isod, mae e grŵp gyda Rhys Mwyn, darlith gan Bob Morris ac wedyn sgwrs a chynulleidfa gyda Dewi Llwyd.
In the pictures below, there is a group with Rhys Mwyn, a lecture by Bob Morris and then a chat and audience with Dewi Llwyd.

Gŵyl Ddewi Arall- Rhys Mwyn

Gŵyl Ddewi Arall- Bob Morris

Gŵyl Ddewi Arall- Dewi Llwyd

Gŵyl Ddewi Arall- Dewi Llwyd

 

Llwytho i Lawr fel PDF

 

Dysgwyr y Flwyddyn 2017

Y diweddaraf oddi wrth Dysgwyr