Kathryn Hurlock How the Welsh outside Wales kept St David’s day alive

Kathryn Hurlock: Sut mai’r Cymry tu allan i Gymru a gadwai Ŵyl Dewi Sant yn fyw / How the Welsh outside Wales kept St David’s Day alive

Bu cyfnod pan leihâi poblogaeth Dewi Sant yng Nghymru. Dim ond diolch i’r Cymry a oedd wedi gadael gwlad eu tadau yr adfywiwyd Gŵyl Dewi Sant. Yma, mae Kathryn Hurlock, Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Canoloesol, Manchester Metropolitan University, yn esbonio mwy…

There was a time when St David’s popularity waned in Wales, and it was only thanks to the Welsh who had left the land of their fathers that St David’s day was revived. Kathryn Hurlock, Senior Lecturer in Medieval History, Manchester Metropolitan University, explains more…

Ymddangosodd y fersiwn Saesneg o’r erthygl hon yn wreiddiol yn The Conversation, gyda chyfres o erthyglau sydd yn cynnwys Cymru yma.
The English version of this article originally appeared in The Conversation, with a series of articles that feature Wales here.

Ar y 1af o Fawrth, mae pobl yng Nghymru’n coffáu Dewi Sant ar gyfrif ei rôl fel nawddsant y wlad a’i gwerin. O Abertawe i Ynys Môn, mae’r Cymry’n defnyddio’r dydd i ddathlu eu diwylliant a’u hetifeddiaeth. Ond, bu cyfnod pan leihâi poblogaeth Dewi Sant yng Nghymru. Dim ond diolch i’r Cymry a oedd wedi gadael gwlad eu tadau yr adfywiwyd Gŵyl Dewi Sant.

Cadarnhawyd rôl Dewi Sant fel arweinydd y Cymry yn y 10fed ganrif, pan anogwyd y Cymry (yn ogystal â’r Albanwyr, y Gwyddelod, a’r Cernywiaid) i frwydro yn erbyn Athelstan, Brenin Lloegr, o dan nawdd ysbrydol Dewi. Y gerdd a ofynnai iddynt frwydro, sef Armes Prydein Vawr (the Great Prophecy of Britain), a ddatganai mai Dewi Sant oedd eu harweinydd, ac mai ei weddïau a helpai i drechu’r Saeson.

Atgyfnerthwyd ei fri yn y 1120au, pan ddatganodd y Pab o’r enw Calixtus yr 2ail y derbyniai’r pererinion a âi ddwywaith i eglwys gadeiriol Dewi Sant yn Sir Benfro, yr un wobr ysbrydol a dderbynient pe aent i Rufain unwaith. Nid estynnwyd yr anrhydedd hwn i’r un lle arall ym Mhrydain.

Daeth yr eglwys gadeiriol y safle bwysicaf i bererinion yng Nghymru, ac ymwelodd brenhinoedd Lloegr fel Harri’r 2ail ac Edward â’r lle. Yn y cyfamser, daeth Gŵyl Dewi Sant sef y 1af o Fawrth, y dyddiad pwysicaf yn y calendr addoli yng Nghymru. Pan ymgartrefai Cymry yn Iwerddon ar ôl iddi gael ei goresgyn ym 1169, dalient i ddefnyddio Gŵyl Dewi Sant i ddyddio eu dogfennau, mor gyffredin oedd hi.

Harri’r 7fed, brenin Tuduraidd cyntaf Lloegr a barchai Dewi Sant hefyd. Cafodd Harri ei eni yng Nghymru, ond fe’i magwyd yn bennaf ar herw yn Llydaw ac yn Ffrainc. Pan ddychwelodd i gipio’r goron oddi wrth Rhisiart y 3ydd ym 1485, galwodd ar y Cymry i fynd gyda fe, yn enw Duw ac yn enw Dewi Sant. Unwaith yr oedd wedi dod yn frenin, fe ddathlai Harri Ŵyl Dewi Sant gyda’r llys brenhinol bob blwyddyn.

Fodd bynnag, yn ystod y Diwygiad yn yr 16eg ganrif, ymosodwyd ar Dewi Sant, ar ei gwlt, ac ar ei eglwys gadeiriol gan ddiwygwyr. Pan gafodd y Sais o’r enw William Barlow ei benodi’n Esgob Tyddewi ym 1536, aeth e â’i chreiriau oddi ar yr eglwys gadeiriol, a cheisiodd ail-leoli swyddfa’r esgob i Gaerfyrddin, tua 45 o filltiroedd i’r dwyrain. Ymhellach, ysgrifennodd Barlow at Thomas Cromwell, wedi’i wylltio gan y ffaith fod y Cymry’n meddwl mai Dewi oedd yn ddigon da i fod yn nawddsant.

Gwasgariad Cymreig
Prin yw’r dystiolaeth fod Dewi Sant yn cael ei addoli’n frwd fel nawddsant yng Nghymru yn ystod y ddwy ganrif a ddilynai. Cadwyd ei gof yn fyw, serch hynny, yn Lloegr, ond mewn ffurf wedi’i thrawsnewid cryn dipyn; ac roedd y llun newydd hwn yn hirbell o’i hen ddelwedd fel dyn sanctaidd.

Ddiwedd y 1590au, disgrifiodd llyfr wedi’i ysgrifennu gan Richard Johnson o Lundain Dewi fel mabsant Cymru. Ond fe’i dangosodd ef (ynghyd â’r nawddseintiau eraill yn y llyfr) fel dyn a ymgymerai ag anturiaethau rhyfedd, a oedd yn lladd angenfilod ac yn achub morwynion.

Erbyn y 18fed ganrif, yr oedd pobl yn dathlu Dewi Sant unwaith eto fel mabsant Cymru; ond mewn gwirionedd, dim ond diolch i’r Cymry a oedd wedi gadael y wlad y digwyddodd hyn. Codwyd diddordeb ym 1704 yn Nulyn gan gyhoeddi gwaith a ganai glodydd y sant. Yn nesaf, yn Llundain, y dathlai ‘Cymdeithas Anrhydeddus a Theyrngar yr Hen Frythoniaid’ trwy gyfrwng pregeth ar Ŵyl Dewi Sant. Fel hyn, hefyd, y dathlai’r Cymry yn Philadelphia, lle sefydlwyd y gymdeithas Gymreig ym 1729.

Er bod llawer o’r dathliadau hyn yn golygu canu a phregethu, ni fuodd y fath bethau’n rhan o bob achlysur. Ar ôl i’r Hen Frythoniaid ddatblygu i fod Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1751, cynhalient gyfarfodydd rheolaidd mewn tafarnau. Rhaid bod cyfarfodydd o’r fath wedi bod yn boblogaidd, gan mai erbyn 1762, Dewi Sant oedd yr unig fabsant ym Mhrydain y dathlwyd ei ddygwyl fel gŵyl gyhoeddus.

Y gydnabyddiaeth ffurfiol hon, ynghyd â dyrchafiad seintiau Lloegr, a helpodd Dewi Sant i ddod yn boblogaidd unwaith eto yng Nghymru. Yn ystod y 19edd ganrif, dathlwyd Gŵyl Dewi Sant trwy gyfrwng pregethu a gwledda yng Nghymru. Cysegrwyd sawl sefydliad addysg iddo, yn cynnwys Coleg Dewi Sant, prifysgol gyntaf Cymru, a sefydlwyd ym 1828 gan yr Esgob Burgess o Dyddewi.

Ym 1923 cafodd hanes bywyd canoloesol Dewi Sant ei gyfieithu o’r Lladin, a chyhoeddwyd ef yn y Saesneg am y tro cyntaf, ac wedyn ymddiddorai beirdd Cymraeg fel Saunders Lewis yn Dewi Sant fel noddwr Cymru. Darluniai Lewis Dewi fel dyn a gynorthwyai lowyr ym mhyllau glo Cymru. Mae Dewi wedi bod hefyd yn destun i gerfluniaeth fodern, a gwnaethpwyd cryn dipyn o ymdrech i adfer eglwys gadeiriol Tyddewi. Pan gynhyrchodd yr Eglwys yng Nghymru ei llyfr emynau cyntaf ym 1941, nid oedd ynddo lai na phum emyn i Dewi.

Heddiw, diolch yn rhannol i’r ffaith y goroesai dathlu Gŵyl Dewi Sant yn gynnar y tu allan i Gymru, caiff Gŵyl Dewi Sant ei dathlu’n eang yn ei famwlad unwaith eto. Ar ben hynny, mae’r Ŵyl yn mwynhau rhywfaint o atgyfodiad dramor. Er 2011, mae Los Angeles yn cynnal Gŵyl Dewi Sant, ac mae cymunedau Cymreig o Batagonia i Denver yn dathlu Dewi Sant fel nawddsant trwy ganu.

Heddiw, diolch yn rhannol i’r ffaith y goroesai dathlu Gŵyl Dewi Sant yn gynnar y tu allan i Gymru, caiff Gŵyl Dewi Sant ei dathlu’n eang yn ei famwlad unwaith eto.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Ar y 1af o Fawrth, mae pobl yng Nghymru’n coffáu Dewi Sant ar gyfrif ei rôl fel nawddsant y wlad a’i gwerin. O Abertawe i Ynys Môn, mae’r Cymry’n defnyddio’r dydd i ddathlu eu diwylliant a’u hetifeddiaeth. Ond, bu cyfnod pan leihâi poblogaeth Dewi Sant yng Nghymru. Dim ond diolch i’r Cymry a oedd wedi gadael gwlad eu tadau yr adfywiwyd Gŵyl Dewi Sant.On March 1st, St David is commemorated in Wales for his role as patron saint of the country and its people. From Abertawe to Ynys Môn, the Welsh use the day as one to celebrate their culture and heritage. But there was a time when St David’s popularity waned in Wales, and it was only thanks to the Welsh who had left the land of their fathers that St David’s day was revived.
Cadarnhawyd rôl Dewi Sant fel arweinydd y Cymry yn y 10fed ganrif, pan anogwyd y Cymry (yn ogystal â’r Albanwyr, y Gwyddelod, a’r Cernywiaid) i frwydro yn erbyn Athelstan, Brenin Lloegr, o dan nawdd ysbrydol Dewi. Y gerdd a ofynnai iddynt frwydro, sef Armes Prydein Vawr (the Great Prophecy of Britain), a ddatganai mai Dewi Sant oedd eu harweinydd, ac mai ei weddïau a helpai i drechu’r Saeson.St David’s role as leader of the Welsh was established in the 10th century when the Welsh (together with the Scots, Irish and Cornish) were urged to fight against Athelstan of England under the spiritual protection of David. The poem asking them to fight, Armes Prydein Vawr (the Great Prophecy of Britain), called St David their leader whose prayers would help defeat the English.
Atgyfnerthwyd ei fri yn y 1120au, pan ddatganodd y Pab o’r enw Calixtus yr 2ail y derbyniai’r pererinion a âi ddwywaith i eglwys gadeiriol Dewi Sant yn Sir Benfro, yr un wobr ysbrydol a dderbynient pe aent i Rufain unwaith. Nid estynnwyd yr anrhydedd hwn i’r un lle arall ym Mhrydain.His fame was reinforced in the 1120s when Pope Calixtus II declared that English pilgrims who went to St David’s cathedral in Pembrokeshire twice would have the same spiritual reward as if they went to Rome once. This honour was not extended to any other place in Britain.
Daeth yr eglwys gadeiriol y safle bwysicaf i bererinion yng Nghymru, ac ymwelodd brenhinoedd Lloegr fel Harri’r 2ail ac Edward â’r lle. Yn y cyfamser, daeth Gŵyl Dewi Sant sef y 1af o Fawrth, y dyddiad pwysicaf yn y calendr addoli yng Nghymru. Pan ymgartrefai Cymry yn Iwerddon ar ôl iddi gael ei goresgyn ym 1169, dalient i ddefnyddio Gŵyl Dewi Sant i ddyddio eu dogfennau, mor gyffredin oedd hi.The cathedral became Wales’ premiere pilgrimage site, visited by English kings like Henry II and Edward. Meanwhile St David’s day on March 1 became the most important date in the Welsh calendar of worship. It was so universal that when men from Wales settled in Ireland after its conquest in 1169, they still used St David’s day to date documents.
Harri’r 7fed, brenin Tuduraidd cyntaf Lloegr a barchai Dewi Sant hefyd. Cafodd Harri ei eni yng Nghymru, ond fe’i magwyd yn bennaf ar herw yn Llydaw ac yn Ffrainc. Pan ddychwelodd i gipio’r goron oddi wrth Rhisiart y 3ydd ym 1485, galwodd ar y Cymry i fynd gyda fe, yn enw Duw ac yn enw Dewi Sant. Unwaith yr oedd wedi dod yn frenin, fe ddathlai Harri Ŵyl Dewi Sant gyda’r llys brenhinol bob blwyddyn.Henry VII, first of the Tudor kings of England, also revered St David. Born in Wales but largely brought up in exile in Brittany and France, when Henry returned to take the crown from Richard III in 1485, he called on the Welsh to go with him in the name of God and of St David. Once he was king, Henry celebrated St David’s day with the royal court each year.
Fodd bynnag, yn ystod y Diwygiad yn yr 16eg ganrif, ymosodwyd ar Dewi Sant, ar ei gwlt, ac ar ei eglwys gadeiriol gan ddiwygwyr. Pan gafodd y Sais o’r enw William Barlow ei benodi’n Esgob Tyddewi ym 1536, aeth e â'i chreiriau oddi ar yr eglwys gadeiriol, a cheisiodd ail-leoli swyddfa’r esgob i Gaerfyrddin, tua 45 o filltiroedd i’r dwyrain. Ymhellach, ysgrifennodd Barlow at Thomas Cromwell, wedi’i wylltio gan y ffaith fod y Cymry’n meddwl mai Dewi oedd yn ddigon da i fod yn nawddsant.However, during the 16th-century Reformation St David, his cult, and his cathedral came under attack from reformers. When Englishman William Barlow was appointed bishop of St David’s in 1536, he stripped the cathedral of its relics and tried to get the office of bishop moved around 45 miles east to Carmarthen. He also wrote to Thomas Cromwell, outraged that the Welsh thought David good enough to be a patron saint.
Gwasgariad Cymreig
Prin yw’r dystiolaeth fod Dewi Sant yn cael ei addoli’n frwd fel nawddsant yng Nghymru yn ystod y ddwy ganrif a ddilynai. Cadwyd ei gof yn fyw, serch hynny, yn Lloegr, ond mewn ffurf wedi’i thrawsnewid cryn dipyn; ac roedd y llun newydd hwn yn hirbell o’i hen ddelwedd fel dyn sanctaidd.
Welsh diaspora
There is little evidence that St David was enthusiastically worshipped as a patron saint in Wales in the following two centuries. His memory was kept alive, however, in England, though in a much altered form, that was far removed from his earlier image as a holy man.
Ddiwedd y 1590au, disgrifiodd llyfr wedi’i ysgrifennu gan Richard Johnson o Lundain Dewi fel mabsant Cymru. Ond fe’i dangosodd ef (ynghyd â’r nawddseintiau eraill yn y llyfr) fel dyn a ymgymerai ag anturiaethau rhyfedd, a oedd yn lladd angenfilod ac yn achub morwynion.In the late 1590s, a book, written by Londoner Richard Johnson, described David as patron of Wales, but showed him as a man who (along with the other patron saints in the book) went on fantastical adventures, killing monsters and rescuing ladies.
Erbyn y 18fed ganrif, yr oedd pobl yn dathlu Dewi Sant unwaith eto fel mabsant Cymru; ond mewn gwirionedd, dim ond diolch i’r Cymry a oedd wedi gadael y wlad y digwyddodd hyn. Codwyd diddordeb ym 1704 yn Nulyn gan gyhoeddi gwaith a ganai glodydd y sant. Yn nesaf, yn Llundain, y dathlai ‘Cymdeithas Anrhydeddus a Theyrngar yr Hen Frythoniaid’ trwy gyfrwng pregeth ar Ŵyl Dewi Sant. Fel hyn, hefyd, y dathlai’r Cymry yn Philadelphia, lle sefydlwyd y gymdeithas Gymreig ym 1729.By the 18th century, St David was again being celebrated as the patron saint of Wales, but only really thanks to the Welsh who had left the land. Interest began in 1704 in Dublin, with the publication of a work praising the saint, and was followed in London where the “Honourable and Loyal Society of the Antient Britons” celebrated with a sermon on St David’s day. So too did the Welsh of Philadelphia, where the Welsh society was founded in 1729.
Er bod llawer o’r dathliadau hyn yn golygu canu a phregethu, ni fuodd y fath bethau’n rhan o bob achlysur. Ar ôl i’r Hen Frythoniaid ddatblygu i fod Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1751, cynhalient gyfarfodydd rheolaidd mewn tafarnau. Rhaid bod cyfarfodydd o’r fath wedi bod yn boblogaidd, gan mai erbyn 1762, Dewi Sant oedd yr unig fabsant ym Mhrydain y dathlwyd ei ddygwyl fel gŵyl gyhoeddus.Though many of these celebrations involved singing and sermons, not all did. When the Antient Britons developed into the Honourable Society of the Cymmrodorion in 1751, they held their regular meetings in taverns. Such meetings must have been popular, as by 1762, St David was the only patron saint in Britain whose day was a public holiday.
Y gydnabyddiaeth ffurfiol hon, ynghyd â dyrchafiad seintiau Lloegr, a helpodd Dewi Sant i ddod yn boblogaidd unwaith eto yng Nghymru. Yn ystod y 19edd ganrif, dathlwyd Gŵyl Dewi Sant trwy gyfrwng pregethu a gwledda yng Nghymru. Cysegrwyd sawl sefydliad addysg iddo, yn cynnwys Coleg Dewi Sant, prifysgol gyntaf Cymru, a sefydlwyd ym 1828 gan yr Esgob Burgess o Dyddewi.This formal recognition, coupled with the elevation of saints of England, helped St David find popularity once again in Wales. In the 19th century, St David’s day was celebrated with sermons and dinners in Wales. A number of educational establishments were dedicated to him, including St David’s College, Wales’ first university founded in 1828 by Bishop Burgess of St David’s.
Ym 1923 cafodd hanes bywyd canoloesol Dewi Sant ei gyfieithu o’r Lladin, a chyhoeddwyd ef yn y Saesneg am y tro cyntaf, ac wedyn ymddiddorai beirdd Cymraeg fel Saunders Lewis yn Dewi Sant fel noddwr Cymru. Darluniai Lewis Dewi fel dyn a gynorthwyai lowyr ym mhyllau glo Cymru. Mae Dewi wedi bod hefyd yn destun i gerfluniaeth fodern, a gwnaethpwyd cryn dipyn o ymdrech i adfer eglwys gadeiriol Tyddewi. Pan gynhyrchodd yr Eglwys yng Nghymru ei llyfr emynau cyntaf ym 1941, nid oedd ynddo lai na phum emyn i Dewi.In 1923, the story of St David’s medieval life was translated from Latin and published in English for the first time, and Welsh poets like Saunders Lewis took an interest in St David as Welsh patron. Lewis portrayed David as a man who aided miners in the coalmines of Wales. He was also the subject of modern sculpture, and considerable effort was put into restoring the cathedral of St David’s. When the Church of Wales produced its first hymnbook in 1941, no fewer than five of the hymns were to David.
Heddiw, diolch yn rhannol i’r ffaith y goroesai dathlu Gŵyl Dewi Sant yn gynnar y tu allan i Gymru, caiff Gŵyl Dewi Sant ei dathlu’n eang yn ei famwlad unwaith eto. Ar ben hynny, mae’r Ŵyl yn mwynhau rhywfaint o atgyfodiad dramor. Er 2011, mae Los Angeles yn cynnal Gŵyl Dewi Sant, ac mae cymunedau Cymreig o Batagonia i Denver yn dathlu Dewi Sant fel nawddsant trwy ganu.Today, thanks in part to the early survival of St David’s day celebrations outside Wales, St David’s day is once again celebrated widely in his homeland. It is also enjoying something of a resurgence overseas. Since 2011, Los Angeles has hosted a St David’s day festival, and Welsh communities from Patagonia to Denver fittingly celebrate St David as patron saint with song.

Mae Patrick Jemmer wedi creu’r fersiwn Cymraeg i parallel.cymru / Patrick Jemmer has created the Welsh version for parallel.cymru

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Addysgwyr yn Esbonio