Ask Dr Gramadeg: Arall, Eraill, Y Llall & Y Lleill- Words for Other

Arall    = other (singular), e.e.      Y peth arall           the other thing           

Eraill   = other (plural), e.e.          Y pethau eraill      the other things  (ynganwch fel erill)

Y llall  = the other (one)

Y lleill = the others/other ones 

 

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Mae un ci'n cysgu ar y gadair, ac mae'r ci arall yn gorwedd yn yr ardd
One dog is sleeping in the chair, and the other dog is lying in the garden

2. Byddai un gadair yn ddefnyddiol yn y cyntedd, ond rhowch y gadair arall wrth y bwrdd
One chair would be useful in the hallway, but put the other chair by the table

3. Roedd un dyn yn gorwedd ar y llawr wrth i'r dynion eraill sefyll o'i gwmpas
One man was lying on the floor while the other men stood around him

4. Dylai un ferch aros yma, ond gall y merched eraill symud i mewn i'r neuadd
One girl should wait here, but the other girls gan move into the hall

5. Bydd un gath yn chwarae gyda phellen o edafedd, wrth i'r llall eistedd ar y bwrdd
One cat will play with a ball of wool whilst the other sits on the table

6. Byddai un mab yn rhedeg o gwmpas, ond byddai'r llall yn sefyll yn dawel
One son would run about, but the other one would stand quietly

7. Mae un ferch yn darllen llyfr, ond mae'r lleill yn ffraeo â'i gilydd
One daughter is reading a book, but the others are fighting with each other

8. Roedd un gweithiwr wedi cwyno, ond roedd y lleill yn hapus
One worker had complained, but the others were happy