Ask Dr Gramadeg: Mynd ati o ddifrif gyda Lluosogion / Diving into Plurals

O ystyried ffurfio lluosog enwau, teg yw dweud fod y Gymraeg yn fwy cymhleth na'r rhan fwyaf o ieithoedd Ewropeaidd eraill. Gan amlaf, byddwn ni'n ffurfio lluosog gair drwy ychwanegu terfyniad i'r gair unigol. Mae tua 14 o derfyniadau lluosog, ond dim ond 10 ohonyn nhw y byddwn ni'n eu defnyddio'n aml.
Welsh is more complicated than most European languages when it comes to forming plurals.  The most common way to form a plural is to add an ending. There are about 14 endings, 10 of which are in common use.

Terfyniadau lluosog mwyaf cyffredin / Most commonly used plural endings

shop       >     shops                    siop           >    siopau*

colour      >    colours                   lliw            >     lliwiau

man         >    men                        dyn            >     dynion

programme >  programmes       rhaglen     >    rhaglenni*

manager   >    managers             rheolwr      >    rheolwyr

mountain   >    mountains              mynydd     >   mynyddoedd

cat             >     cats                        cath           >    cathod*

country      >     countries                gwlad       >    gwledydd*

partner      >     partners                  partner     >    partneriaid*

meaning    >     meanings               ystyr         >     ystyron

*au      Byddwn ni'n ynganu'r terfyniad '-au' fel ‘-e' (yn ne Cymru) / Pronounced as -‘e’.

* -i       Fel rheol, os byddwn ni'n ychwanegu'r terfuniad '-i' ar ôl 'n', wedyn bydd rhaid dyblu'r 'n', e.e. 'taflen + i > taflenni' ('leaflet > leaflets' yn Saesneg) / If the word ends in ‘n’, it is usually doubled - taflenni

*-od    Yn aml byddwn ni'n defnyddio'r terfyniad '-od' i ffurfio lluosog enwau sy'n perthyn i anifeiliaid, e.e. 'llewod' ('lions'), 'camelod' ('camels'). Ond, nodiwch hefyd, 'menyw > menywod' ('woman > women'), 'Gwyddel > Gwyddelod' ('Irish person > Irish people'). / Often used with animals e.g.  llewod - lions, camelod - camel(but note - menyw > menywod, Gwyddel > Gwyddelod).

* Yn aml bydd 'effeithiad' yn digwydd pan fyddwn ni'n ychwanegu terfuniad, e.e. 'gwlad > gwledydd ('land > lands') / Note - when an ending is added ‘a’ often changes to ‘e’, e.g:
gwlad > gwledydd.

* -iaid - Nodiwch y byddwn ni'n ynganu '-iaid' fel '-ied' / pronounced as -ied


Terfyniadau llai cyffredin / Lesser used endings

surgery   >   surgeries     meddygfa   >    meddygfeydd

nephew  >   nephews      nai               >     neiaint

girl         >    girls               merch         >     merched

finger     >    fingers          bys              >     bysedd

Mae'n bosibl ffurfio lluosogion trwy newid llafariad (neu lafariaid) yng nghanol enw (meddyliwch am 'man > men' yn Saesneg), e.e:
Plurals can also be formed by changing one or more vowels within the noun, like ‘man’ – ‘men’ in English, e.g:

car        >     cars               car        >     ceir

goat       >    goats             gafr       >     geifr

bone      >    bones            asgwrn  >    esgyrn

Hefyd, mae'n bosibl newid llafariad (neu lafariaid) mewnol ac ychwanegu terfyniad, e.e:
Or from a combination of an internal vowel change plus an ending, e.g:

garden   >   gardens         gardd    >    gerddi

son         >    sons              mab       >    meibion

Ar y llaw arall, gyda rhai geiriau, byddwn ni'n hepgor terfyniad i ffurfio'r lluosog (yn aml pan fyddwn ni'n sôn am 'grŵp' o bethau), e.e:
Or by dropping an ending, e.g:

tree     >    trees         coeden     >    coed

pig       >   pigs           mochyn     >   moch

 

Fel rheol, benywaidd yw geiriau sy'n terfynnu mewn '-en', ond gwrywaidd yw geiriau sy'n terfynnu mewn '-yn'.
Words ending in ‘-en’ are usually feminine.  Words ending in ‘-yn’ are usually masculine.

Cofiwch fod yn wastad 'eithriadau sy'n profi'r rheol', sef 'bachgen' ('boy', sy'n wrywaidd), a 'telyn' ('harp', sy'n fenywaidd).
Exceptions - bachgen (boy) which is masculine and telyn (harp) which is feminine.

Mae yna rai lluosogion afreolaidd hefyd.
There are a number of irregular plurals as well.

 

* Yn Gymraeg byddwn ni'n defnyddio lluosogion yn llai aml nag yn Saesneg, gan na fyddwn ni'n defnyddio ffurfiau lluosog ar ôl y rhifolion 1 - 10, e.e:
* Plurals are used less in Welsh than in English because they are not used with low numbers e.g:

Three sons       tri mab               (lit.  three son)

Four doors        pedwar drws   (lit.  four door)

Nine pigs          naw mochyn      (lit.  nine pig)  etc.

Yn Gymraeg, mae cynifer o ffyrdd o ffurfio lluosog enwau. Fel dysgwr, sut y byddwch chi'n gwybod p'un yw p'un? Y ffordd orau o wneud hyn bydd dysgu'r lluosog tra byddwch chi'n dysgu'r gair unigol ei hun. Yr yn peth sy'n wir am ddysgu cenedl yr enw ('the gender of the noun') hefyd.

Because the Welsh system has so many ways of forming plurals, the best way of learning them is to do so as you go along.  Look them up and learn them as soon as a new word is encountered in the singular.

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

 

1. Mae un siop yn dda ond byddai llawer o siopau'n well
One shop is good, but lots of shops would be better

2. Glas yw fy hoff liw, ond dw i'n lico lliwiau eraill hefyd
Blue is my favourite colour, but I like other colours too

3. I ddechrau roedd un dyn yno, ond weydn cyrhaeddodd torf o ddynion
To start with there was one man there, but then a crowd of men arrived

4. Mwynhaodd hi'r rhaglen gynta', a bellach mae hi wedi gwylio'r rhaglenni i gyd
She enjoyed the first programme, and now she's watched all the programmes

5. 'Sgrifennwn ni'r daflen hawdd, ond bydd rhaid i chi 'neud y taflenni eraill
We'll write the easy leaflet, but you'll need to do the other leaflets

6. Roedd arnon ni angen un rheolwr newydd, ond maen nhw wedi cyflogi llawer o reolwyr
We needed one new manager, but they've employed lots of managers

7. Gallen ni ddringo un mynydd, ond nage llawer o fynyddoedd!
We could climb one mountain, but not lots of mountains!

8. Es i i ddewis un gath yn y ganolfan achub, ond des i 'nôl gyda llawer o gathod
I went to choose one cat in the rescue centre, but I came back with lots of cats

9. Roedd un llew a pum camel yn y seintwar natur, ond nawr mae mwy o lewod na chamelod
There was one lion and five camels in the nature reserve, but now there are more lions than camels

10. Gadawodd un fenyw'r sioe, ac yn y pendraw roedd y menywod i gyd wedi mynd
One woman left the show, and in the end all the women had gone

11. Ro'n i'n arfer nabod dim ond un Gwyddel, ond dyn ni'n nabod llawer o Wyddelod bellach achos ein bod ni wedi mynd ar wyliau yn Nulyn
We used to know only one Irish person, but we know lots of Irish people now because we've been on holiday in Dublin

12. Dyn ni ddim yn bwyta cyri malwod yn y wlad 'ma, ond sa i'n gwybod am wledydd eraill
We don't eat snail curry in this country, but I don't know about other countries

13. Ym myd busnes, mae'n haws gweithio gydag un partner na ffraeo gyda llawer o bartneriaid
In the world of business, it's easier to work with one partner that fight with lots of partners

14. Beth yw ystyr y gair 'ma? Wel, mae'n gymhleth ac mae llawer o ystyron.
What's the meaning of this word? Well, it's complicated and there are lots of meanings.

15. Byddan nhw'n cau'r hen feddygfa yn y dre', ond agor meddygfeydd newydd yn y ddinas yn ei lle
They'll be closing the old surgery in the town, but opening new surgeries in the city instead

16. Roedd un nai 'da fi, ond ar ôl i'm chwaer ddwyn bachgen bach arall, mae 'da fi neiaint!
I had one nephew, but after my sister had another little boy, I have nephews!

18. Roedd un ferch yn mynychu'r dosbarth karate, ond yn ddiweddar mae llawer o ferched wedi ymuno
There was one girl attending the karate class, but recently lots of girls have joined

19. Mae brifo un bys yn anffodus, byddai brifo'ch bysedd oll yn ofnadw'!
Hurting one finger is unfortunate, hurting all your fingers would be awful!

20. 'Does digon o le i un car, heb sôn am y nifer o geir sy'n ymddangos bob dydd
There's not enough room for one car, not to mention the number of cars that appear every day

21. Roedd cadw un afr yn hwyl, ond licen ni gael llawer o eifr
Keeping one goat was fun, but we'd like to have lots of goats

22. Torrodd e asgwrn yn y ddamwain, ond torrodd hi esgyrn yn y fraich a'r goes
He broke a bone in the accident, but she broke bones in the arm and the leg

23. Mae'r plant yn lico chwarae yn yr ardd, ond mae'n well 'da nhw fynd i'r gerddi yn y parc
The children like playing in the garden, but they prefer going to the gardens in the park

23. 'Does dim mab 'da ni, ond mae llawer o feibion 'da'r rhieni eraill
We don't have a son, but the other parents have lots of sons

24. Plannon nhw un goeden yn y berllan, ond bellach mae llawer o goed
They planted one tree in the orchard, but now there are lots of trees

25. Mae un mochyn bach yn giwt, ond mae torllwyth o foch yn giwtach
One little pig is cute, but a litter of pigs is cuter

26. Mae tair merch a dau fab 'da chi, on'd oes?
You have three daughters and two sons, don't you?

27. Mae pum 'stafell wely yn y tŷ newydd
There are five bedrooms in the new house

28. Wyt ti'n gyfarwydd â'r stori am y tri mochyn bach?
Are you familiar with the story about the three little pigs?