Ffenestri- Electro Cymru

Electro-Cymru pioneers Ffenestri: Ail-ffurfio ar ôl 30 mlynedd / Reforming after 30 years

Mae’r Ffenstri yn grŵp o’r Wythdegau sydd yn ail-ffurfio am gigs unigryw gyda’r grwp Celwyddau ym mis Hydref eleni. Dyn ni’n siarad â’r allweddwr a chanwr Geraint i ffeindio mas mwy…

Ffenestri are a group from the Eighties who are re-forming for exclusive gigs with the group Lies in October. We talk with keyboardist and singer Geraint i find out more…

Felly Geraint. Gwnaethoch chi dechrau yn yr Wythdegau- sut gwneathoch chi cwrdd â'n gilydd?

Roedd Martyn Geraint, fi a Gareth Potter i gyd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen gyda’i gilydd. Fe wnaeth Ffenestri a Celwyddau gwrdd yng Ngŵyl Arall yng Nghaernarfon.
So Geraint. You started in the Eighties- how did you meet each other?

Martin Powell, myself and Gareth Potter were all in Rhydyfelin Comphrehensive School with each other. Then Ffenestri and Celwyddau met at the Another Festival in Caernarfon.
Pa fath o ganeon sydd gyda chi- eitemau newydd o gwbl?

Rydym yn ystyried caneuon newydd ar gyfer 2018 ond ar hyn o bryd mae’r set yn cynnwys yr hen ffefrynnau, megis Oes y Cyfrifiaduron, Cymru a Dawns yr Ysgyfarnog!
What sort of soungs do you have- any new items at all?

We are considering new songs for 2018 but at the moment the set includes the old favourites such as Age of the Computers, Wales and Dance of the Hares!
A pham ail-ffurfio nawr?

Cawsom wahoddiad gan drefnwyr Gŵyl Arall Caernarfon i ganu yn y sesiwn electronig ym mis Gorffennaf. Daeth hyn trwy law Nici Beech- un o’n ffans gorau ni o’r holl flynyddoedd yna yn ôl. Dywedodd Martyn fod hyn yn syniad da ac gwnes i gytuno. Mi ddywedodd Nici gan mai sesiwn electronig ydoedd mi fyddai’n braf i gael yr 'arloeswyr'!
And why re-form now?

We recived an invite from the organisers of Caernarfon's Another Festival to sing in an electronic session in July. It came through the hands Nici Beech- one of our best fans all those years back. Martyn thought it was a good idea and I agreed. Nici said that it would be great to have an electronic session from the 'pioneers'!

Dych chi'n canu mewn tri lleoliad. Beth sydd yn arbennig amdanyn nhw?

Y Ci a’r Piano, Caerfyrddin
Tafarn a chlwb nos newydd yn Heol Dŵr, Caerfyrddin, sydd â’r potensial i ddod yn lleoliad arbennig ar gyfer gigs Cymraeg yn y Sir. Mae ganddo capasiti am 240 o bobl ac mae modd gweld y llwyfan o’r ddau lawr.

Tŷ Tawe, Abertawe
Mae Tŷ Tawe yn dathlu 30 mlynedd o fodolaeth y mis Hydref yma. Mae’n arwyddocaol iawn fod Ffenestri yn canu eto fel rhan o’r dathliadau gan mai nhw oedd y grŵp wnaeth ganu yn y noson agoriadol ‘nôl ym mis Hydref 1987!

Noson Pedwar a Chwech, Clwb Canol Dre, Caernarfon
Mi fydd yn braf i gael y cyfle i ganu eto yng Nghaernarfon i ddiddanu’r gynulleidfa reolaidd sy’n mynychu’r nosweithiau poblogaidd Pedwar a Chwech.
You are playing in three venues. What is special about them?

The Pig and the Piano, Carmarthen
This is a new pub and club on Water Street, Carmarthen, which has a potential to become a special venue for Welsh gigs in the county. It has a capacity of 240 people and the stage can be seen from two floors.

Tŷ Tawe, Swansea
Tŷ Tawe is celebrating 30 years of existence this October. It is very significant that Ffenestri are singing there again as part of the celebrations as they were the group who sang at the opening night back in October 1987!

Evening Sixty-Four, central Caernarfon
It is great to have the opportunity to sing again in Caernarfon to regale the usual audience who attend popular evenings at Evening 64.
A oes mwy o Gigs ar y Gweill?

O ganlyniad i hyn, a’r diddordeb a grëwyd wrth i bobl glywed y newyddion yma fe ddaeth yna alwadau i ni ganu mewn llefydd eraill yng Nghymru- ac o hyn ddaeth y daith Electro Cymru. Rydym yn canu yng Nghlwb y Bont ym Mhontypridd ac mewn trafodaethau ar gyfer gigs yng Nghaerdydd a Gwent. Mae croeso i bobl gysylltu â ni trwy Facebook os oes awydd gan rywun i drefnu gig i ni.
And will there be any other Gigs at the Gweill (Pontardawe)?

As the result of this, and the interest shown by people who have heard the news, we have received calls for us to perform in other areas in Wales- and from this came the Electro Wales tour. We are singing in the Bridge Club in Pontyprodd and are in discussion regarding gigs in Cardiff and Gwent. People are welcome to contact us through Facebook if they want to organise gigs for us.

Nos Wener 20fed Hydref:
Y Ci a’r Piano, Caerfyrddin.
Nos Sadwrn 21ain Hydref:
Tŷ Tawe, Abertawe.
Nos Wener 27ain Hydref:
Noson Pedwar a Chwech, Clwb Canol Dre, Caernarfon.
Nos Sadwrn 11eg Tachwedd:
Clwb Ifor Bach, Caerdydd.

Mae’r mwy o wybodaeth am Ffenestri a Chelwyddau yma: facebook.com/Ffenestri a facebook.com/celwyddauband
More information about Ffenestri and Celwyddau is here: facebook.com/Ffenestri a facebook.com/celwyddauband

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol