Ask Dr Gramadeg: Yr Amser Gorffennol (Dod) / The Past Tense (Dod)

Unwaith eto, mae'r ferf 'dod' yn afreolaidd yn yr amser gorffennol. Mae 'dod' yn golygu 'to come' ond mae 'dod â' yn golygu 'to bring' (yn llythrennol, 'to come with').

This is another irregular verb in the past - ‘dod’, to come or with â - dod â - to bring (lit. to come with).

Sillafiad Ynganiad
Des i Des i
Dest ti Dest ti
Daeth e/hi Dâth e/hi
Daethon ni Dethon ni
Daethoch chi Dethoch chi
Daethon nhw Dethon nhw
Written Pronounced
Des i Des i
Dest ti Dest ti
Daeth e/hi Dâth e/hi
Daethon ni Dethon ni
Daethoch chi Dethoch chi
Daethon nhw Dethon nhw

Treigladau meddal am gwestiynau ac y negyddol:

Ddaethon nhw ’ma yn y car?       Ddaethon nhw ddim ’ma yn y car.
Did they come here in the car?    They didn’t come here in the car.

Soft mutation for questions and negatives: 

Ddaethon nhw ’ma yn y car?             Ddaethon nhw ddim ’ma yn y car.
Did they come here in the car?         They didn’t come here in the car.

Llawer o bobl na fyddant yn defnyddio'r treigladau ar lafar. Byddan nhw'n cyfleu cwestwin trwy ddefnyddio tôn y llais; a bydd y gair 'ddim' yn ddigon i gyfleu ystyr negyddol.

* Sut dest ti ’ma? - How did you ‘come’ here? (yn llythrennol)
Ond mae 'dod' yn cael ei ddefnyddio i olygu > How did you get here?

Many people don’t bother with these mutations in informal speech. The question tone in the voice is enough to convey a question and the ‘ddim’ is enough to convey a negative.

* Sut dest ti ’ma?     >  How did you ‘come’ here? (literally)
But used to mean  >  How did you get here?

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

 

1. Ddes i i'ch parti chi? Dw i ddim yn gallu cofio. Do, ond ro'ch chi'n cysgu drwy'r holl beth!
Did I come to your party? I can't remember. Yes, but you were sleeping through the whole thing!

2. Ddest ti 'ma i'r ysgol i weld y ddrama. Naddo, ddes i ddim. Collais i'r sioe o achos y tywydd!
Did you come here to the school to see the play? No, I didn't. I missed the show because of the weather!

3. Ddaeth e i ymweld â chi pan o'ch chi'n sâl? Naddo, ddaeth e ddim. Roedd e'n rhy brysur o lawer.
Did he come to visit you when you were ill? No, he disn't come. He was much too busy.

4. Ddaeth hi allan o'i 'stafell wely i gwrdd â nhw? Do, daeth hi allan, ond dim ond am bum munud!
Did she come out of her bedroom to meet them? Yes, she came out, but only for five minutes!

5. Ddaethon ni i'r un ddarlith ddiflas y llynedd? Do, daethon ni, ond cerddon ni allan ar ôl hanner awr!
Did we come to the same boring lecture last year? Yes, we came, but we walked out after half an hour!

6. Ddaethoch chi yma pan o'ch chi'n blant? Naddo, ddaethon ni ddim o gwbl. Ro'n ni'n byw yn rhywle arall.
Did you come here when you were children? No, we didn't come at all. We lived somewhere else.

7. Ddaethon nhw ’ma yn y car? Naddo. Ddaethon nhw ddim yn y car. Daethon nhw yn y bws.
Did they come here in the car? No. They didn’t come here in the car. They came on the bus.

8. Sut daethoch chi i'r cyngerdd yn y tywydd ofnadw'? Wel, ddaethon ni ddim yn y trên, ond daethon ni mewn cwch yn lle!
How did you get to the concert in the terrible weather? Well, we didn't get there on the train, but we got there in a boat instead!