Sosban Fach by ERM Williams, Carmarthenshire Museums Service Collection

Sosban Fach: Geiriau Cân / Lyrics

Sosban Fach yw un o’r caneuon gwerin Cymraeg mwyaf poblogaidd ac adnabyddus. Mae'n cael ei chanu gan gefnogwyr timau rygbi Llanelli a’r Sgarlets.

Sosbon Fach (Little Saucepan) is one of the most popular and recogniseable folk songs from Wales. In particular, it is sung by supporters of the Llanelli and Scarlets rugby teams.

Mae bys Meri-Ann wedi brifo,
A Dafydd y gwas ddim yn iach.
Mae'r baban yn y crud yn crio,
A'r gath wedi sgrapo Joni bach.
Sosban fach yn berwi ar y tân,
Sosban fawr yn berwi ar y llawr,
A'r gath wedi sgrapo Joni bach.
Mary-Ann has hurt her finger,
And David the servant is not well.
The baby in the cradle is crying,
And the cat has scratched little Johnny.
A little saucepan is boiling on the fire,
A big saucepan is boiling on the floor,
And the cat has scratched little Johnny.
Cytgan:
Dai bach y sowldiwr,
Dai bach y sowldiwr,
Dai bach y sowldiwr,
A chwt ei grys e mas.

Chorus:
Little Dai the soldier,
Little Dai the soldier,
Little Dai the soldier,
And his shirt tail is hanging out.
Mae bys Meri-Ann wedi gwella,
A Dafydd y gwas yn ei fedd;
Mae'r baban yn y crud wedi tyfu,
A'r gath wedi huno mewn hedd.
Sosban fach yn berwi ar y tân
Sosban fawr yn berwi ar y llawr
A'r gath wedi huno mewn hedd.
Mary-Ann's finger has got better,
And David the servant is in his grave;
The baby in the cradle has grown up,
And the cat is "asleep in peace".
A little saucepan is boiling on the fire,
A big saucepan is boiling on the floor,
And the cat is "asleep in peace".
Aeth hen Fari Jones i Ffair y Caerau
I brynu set o lestri de;
Ond mynd i'r ffos aeth Mari gyda'i llestri
Trwy yfed gormod lawer iawn o "de"
Sosban fach yn berwi ar y tân
Sosban fawr yn berwi ar y llawr
A'r gath wedi huno mewn hedd.
Old Mary Jones went to the fair in Caerau,
To buy a tea set;
But Mary and her teacups ended up in a ditch,
By drinking rather too much "tea".
A little saucepan is boiling on the fire,
A big saucepan is boiling on the floor,
And the cat is "asleep in peace".
en.wikipedia.org/wiki/Sosban_Fach

Cerys Matthews:


Only Boys Aloud:


Hanna Morgan:


About this site

Mae Parallel.cymru yn gylchgrawn arlein i roi llais i unrhyw un sydd yn gwneud pethau trwy Iaith y Nefoedd, ac i gyflwyno erthyglau, straeon, diwylliant Cymraeg a llyfrau i’r byd.

Parallel.cymru is an online magazine that gives a voice to anyone who is using the language of heaven, and to introduce articles, stories, Welsh culture and books to the world.

Mae pobl yn profi’r Gymraeg ar gontinwwm o alluoedd gwahanol, ond y ffordd draddodiadol o gynhyrchu deunydd yw mewn dull deuol. Trwy gyflwyno cynnwys unigryw ochr yn ochr, yn ‘paralel’, ac wedi’u graddoli yn ôl hyfedredd (Anffurfiol, Ffurfiol, Llenyddol), gall darllenwyr o bob gallu fwynhau darllen a sicrhau bod y Gymraeg yn hygyrch i bawb.

People experience Welsh on a continuum of abilities, but the traditional way of producing material is as binary Welsh or English. By presenting unique content side by side, in parallel, sequenced by level of proficiency (Informal, Formal, Literary), readers of all abilities can enjoy reading and ensure the language is accessible to all.

Articles By Month
Popular Resources

Ask Dr Gramadeg

Ffilmiau i Lawrlwytho

Geiriadur i Ddysgwyr Arlein

Llefydd i Siarad Cymraeg

Silff Llyfrau Digidol

Y diweddaraf oddi wrth Song Lyrics