Lynda Newcombe- Speak Welsh Outside Class

Lynda Pritchard Newcombe: Pam ysgrifennais i / Why I wrote ‘Speak Welsh Outside Class’

in Articles/Intermediate

Mae Lynda Pritchard Newcombe wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn, ac wedyn addysgu ieithoedd am 30 mlynedd. Yma, mae hi’n esbonio pam ysgrifennodd hi Speak Welsh Outside Class– llyfr mae miloedd o bobl wedi darllen a defnyddio i wella eu hyder yn yr iaith.
Lynda Pritchard Newcombe learnt Welsh as an adult, and then taught langauges for 30 years. Here, she explains why she wrote Speak Welsh Outside Class– a book that that thousands of people have read and used to improve their confidence in the language.

Mae llawer o ddysgwyr yn gwneud yn dda yn y dosbarth a hyd yn oed yn pasio arholiadau ond dydyn nhw ddim yn siarad yr iaith tu allan i’r dosbarth. Pam? Maen nhw’n gallu siarad ond does dim hyder gyda nhw. Mae rhai yn dweud, “Dw i’n rhewi pan wela i siaradwr Cymraeg. Mae eraill yn dweud, “Mae fy meddwl yn mynd yn wag a dydw i ddim yn gallu cofio dim byd.” Rhaid i ni atal hyn rhag digwydd. Many language learners do very well in class and even pass examinations but do not speak Welsh outside the classroom. Why is this? These learners do not lack ability but self-belief. Some say, “I freeze when I see a Welsh-speaker.” Others say, “My mind goes blank and I cannot remember anything.” We need to stop this happening.
Mae fy llyfr yn disgrifio sut i oresgyn pryder ac ennill hyder pan mae dysgwyr yn defnyddio Cymraeg. Mae llawer o lyfrau a CDs ar gael i helpu dysgu ond does dim llawer o lyfrau wedi cael eu cyhoeddi i roi cyngor i ddysgwyr ar sut i ddefnyddio’r iaith yn y gymuned. My book describes how to overcome anxiety and gain confidence when using Welsh. Books and CDs abound on how to learn Welsh – yet little has been published on using Welsh in the community.
Mae dysgu iaith yn wahanol i ddysgu pynciau eraill oherwydd mae dysgwyr ail iaith yn gallu teimlo’n fregus pan maen nhw’n rhoi ar waith y pethau maen nhw wedi amsugno yn y dosbarth. Dyna pam mae rhai dysgwyr yn gwneud yn arbennig o dda yn y dosbarth ond rhoi i fyny cyn iddyn nhw gael hwyl wrth siarad yn y gymuned. Bydd hyder dysgwyr yn tyfu wrth ddilyn fy awgrymiadau i pan maen nhw’n defnyddio’r iaith yn y tŷ, yn y gymuned a’r gweithle. Unlike most other learning, language learning can make a student feel exposed and vulnerable. It is so public to put into practice what a learner absorbed in the classroom. This is why many learners who do really well in class give up before the fun begins. With my tips learners will see their self-belief grow as they use Welsh in the home, the community and the workplace.
Nod y llyfr yw calonogi dysgwyr i sgwrsio gyda’r bobl ro’n nhw’n arfer osgoi. Dw i’n cynnig cyngor ar ddod dros bryder, cynnal cymhelliant a rheoli amser, dysgu geirfa, ynganu a goslef, amsugno ar y diwylliant, defnyddio’r rhyngrwyd ac adnoddau’r cyfryngau, cadw cyfnodolyn a dyddiadur ac yn hanfodol ymdopi gyda siaradwyr iaith gyntaf sy’n:
• siarad yn rhy gyflym.
• defnyddio tafodiaith a bratiaith.
• troi i’r Saesneg.
• chwerthin ar bennau dysgwyr neu drin nhw â distain.
• cywiro camgymeriadau bach yn aml.
The aim of the book is to get learners chatting to the people they used to avoid. I offer advice on handling anxiety, sustaining motivation, time management, building up vocabulary, pronunciation and intonation, imbibing the culture, using internet and media resources, keeping a journal and crucially dealing with fluent speakers who:
• speak too quickly
• use dialect and slang
• turn to English
• laugh at learners or treat them with disdain
• correct minor errors constantly.
Mae ynganu a goslef yn allweddol. Mae dysgwyr rhugl yn fwy tebygol i barhau siarad â’r dysgwyr sy’n ynganu yn dda. Mae camgymeriadau gramadegol a chamdreiglo yn hawdd i’w maddau ond dydy dysgwyr rhugl sy’n gwneud ymdrech fawr i ddilyn ynganu gwael ddim yn mynd i fwynhau sgwrs.Pronunciation and intonation are key. Fluent speakers are far more likely to carry on speaking Welsh to those who pronounce well. Grammar and mutation errors are easy to forgive but a fluent speaker straining to follow a learner’s poor pronunciation is unlikely to enjoy a chat.
Dw i wedi dysgu ieithoedd dros fwy na thri deg o flynyddoedd a dw i wedi sylwi bod llawer o fyfyrwyr yn disgwyl gormod. Wrth droi lan bob wythnos i ddosbarth am ddwy awr maen nhw’n meddwl byddan nhw’n rhugl mewn blwyddyn neu dddwy. Hollol anghywir! I have taught languages for over thirty years and have noticed that many students expect too much too quickly. By turning up each week at class for a couple of hours they think they will become fluent speakers in a year or so. Wrong!
Mae amynedd yn hanfodol yn ogystal â gwaith caled, ymarfer a chroen trwchus. Mae ar ddysgwyr angen ysbryd diymhongar yn y cyfnodau cynnar gan eu bod yn petruso wrth gynhyrchu geiriau yn mynegi eu hunain gan ddefnyddio patrymau llafar syml, bron fel iaith blant. Bydd dyfalbarhad yn sicrhau llwyddiant yn yr hirdymor.Patience is vital as is hard work, practice and a thick skin. Learners need a humble spirit in the early stages as they produce faltering utterances and express themselves using simple, almost childlike speech patterns. Perseverance will ensure success in the long term.
Wrth weithio ar ynganu a goslef o’r dechrau a chael geirfa eang bydd hyder yn tyfu. Bydd cywirdeb a meistroli gramadeg yn dilyn yn y dyfodol. Rhaid i ddysgwyr fod yn fodlon i swnio’n ffȏl weithiau a bodlon i chwerthin am eu camgymeriadau. Dim ond wrth wneud camgymeriadau byddan nhw’n gwella. By working on pronunciation and intonation from the start and building up a wide vocabulary confidence will grow. Accuracy and mastery of grammar will follow. Learners must be willing to sound foolish and be able to laugh at their errors as only by making mistakes will they progress.
Dw i’n pwysleisio pwysigrwydd ymarfer rheolaidd. Dw i’n hollol siwr bob unrhyw un gyda’r cymhelliant i ddysgu Cymraeg yn gallu cyfathrebu os oes bodlonrwydd i wneud ymdrech fawr a rhoi digon o amser i ddysgu ac ymarfer. Dw i’n defnyddio enghreifftiau o fyd chwaraeon, cerddoriaeth a gwyddbwyll i gefnogi fy marn. Dydw i ddim yn credu bod pobl sy’n ‘rubbish gydag ieithoedd’ neu ‘rhy dwp i siarad Cymraeg’ yn bodoli. I stress the importance of regular practice and emphasise that anyone motivated to learn to speak a second language can do so if they are willing and able to put in time and effort. Examples from the world of sport, music and chess support my argument. I don’t believe there are people who ‘are rubbish at languages’ or are ’too thick to speak Welsh.’
Dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim ‘yn anobeithiol gydag ieithoedd’. Maen nhw’n jyst rhoi i fyny yn rhy gyflym. Rhaid i ddysgwyr fod yn fodlon siarad, a rhoi i fyny’r syniad o fod yn berffaith, gwneud camgymeriadau – ond dal i siarad. Most people are not ‘useless’ at languages. They just give up too easily. Learners must be willing to keep talking, give up the idea of perfection, make mistakes – but keep talking.

Mae’r llyfr Speak Welsh Outside Class ar gael o Y Lolfa / Speak Welsh Outside Class is available from Y Lolfa.

Speak Welsh Outside Class gan Lynda Newcombe
Download article as a PDF