Mentrau Iaith Logo

Chwe mis ym Mentrau Iaith Cymru / Six months in Mentrau Iaith Cymru

Mae’r Mentrau Iaith yn fudiadau cymunedol, gwirfoddol a deinamig sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Mentrau Iaith Cymru sy’n cefnogi eu gwaith yn genedlaethol i gynyddu’r defnydd o’r iaith yn ein cymunedau. Chwe mis yn ôl ymunodd ddwy Swyddog Datblygu newydd â thîm Mentrau Iaith Cymru. Dyma flas ar eu chwe mis cyntaf yn y swydd…

The Mentrau Iaith are community-based, voluntary and dynamic organisations who promote the Welsh language throughout Wales. Mentrau Iaith Cymru support their work nationally to increase the use of the language in our communities. Six months ago two new Development Officers joined the Mentrau Iaith Cymru team. Here is a taste of their first six months in the job…

Marged Rhys:

Wnes i ddechrau yn fy swydd fel Swyddog Datblygu, Mentrau Iaith Cymru, ym mis Mawrth ac mae’r chwe mis diwethaf wedi hedfan heibio! Yn ystod fy chwe mis dechreuol yn y swydd rwyf wedi dysgu pob math o bethau newydd, o drefnu digwyddiadau i gynnal cyfarfodydd- mae wedi bod yn gyfnod hynnod o gyffrous!I started in my job as a Development Officer, Mentrau Iaith Cymru, in March and the last six months have flown past! During my first six months in my job I have learnt all sorts of new things, from organising events to holding meetings- an extremely exciting time for me!
Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd cyd-drefnu stondin y Mentrau Iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda Menter Iaith Môn. Roedd yn gyfle i ni arddangos logo newydd Mentrau Iaith a nwyddau ac roedd y stondin yn edrych yn ddeniadol a lliwgar gyda chynulleidfa gyson yn dod i ddysgu mwy am waith y Mentrau Iaith.One of the highlights for me was co-organising a Mentrau Iaith stand in the National Eisteddfod with Menter Iaith Môn in Anglesey. It was an opportunity show the new Mentrau Iaith logo and merchandise and the stand was looking attractive and colourful with a a constant stream of visitors coming to learn about the Mentrau Iaith’s work.
Fy hoff ddatblygiad ers i mi ddechrau yw’r Grŵp Marchnata, grŵp o swyddogion y mentrau sydd â diddordeb mewn datblygu a dysgu yn y maes marchnata a chyfathrebu. Pwrpas y grŵp yw datblygu ymgyrchoedd cenedlaethol y Mentrau Iaith sy’n hyrwyddo’r rhwydwaith o 22 Menter Iaith. Ers i’r grŵp gyfarfod gyntaf ym mis Mehefin rydym wedi mynd ati i gynhyrchu Llyfryn ‘Haf o Gerddoriaeth Gymraeg’, Llawlyfr Marchnata a Chyfathrebu creu sgriptiau ar gyfer fideos hysbysebu’r Mentrau a rhannu syniadau ar gyfer ymgyrch Cymuned Fideo Cymraeg. Mae’r Grŵp yn rhan o wella ansawdd y rhwydwaith wrth i ni gyd geisio am farc ansawdd PQASSO – marc sy’n cydnabod safon mudiadau trydydd sector yn genedlaethol.My favourite development since I started is the Marketing Group, a group of officers with an interest in developing and learning in the marketing and communications field. The purpose of the group is to develop national campaigns for the Mentrau Iaith that promotes the network of 22 Mentrau Iaith. Since the group first met in June we have produced a booklet 'Summer of Welsh Music', a Marketing and Communications handbook, created scripts for videos to advertise the Mentrau and have shared ideas regarding a Welsh Video Community campaign. The Group is part of improving the quality of the network while we all aim towards receiving a PQASSO quality mark- a mark that recognises standards in the in the third sector nationally.
Rwy’n falch iawn o allu gweithio ar gyfer rhywbeth rwy’n credu’n fawr ynddo – cryfhau’r Gymraeg yn ein cymunedau dros Gymru ac rwyf wedi fy synnu ar ehangder ystod gwaith y Mentrau Iaith. Maent yn gweithio mor galed er lles y Gymraeg – gwych! Mae’r chwe mis diwethaf wedi bod yn hynod gyffrous a byrlymus ac rwy’n edrych ymlaen at beth ddaw nesaf!I'm very pleased to be able to work on behalf of something that I really believe in- strengthening the Welsh language in our communities across Wales and I'm surprised at the breadth of the work that Mentrau Iaith does. They work so hard for the benefit of the Welsh language- great! The last six months have been remarkably exciting and I'm looking forward to what comes next!

Rwy’n falch iawn o allu gweithio ar gyfer rhywbeth rwy’n credu’n fawr ynddo – cryfhau’r Gymraeg yn ein cymunedau dros Gymru ac rwyf wedi fy synnu ar ehangder ystod gwaith y Mentrau Iaith.

Tîm Mentrau Iaith Cymru- Iwan, Marged a Heledd:

Tîm Mentrau Iaith

Heledd ap Gwynfor:

Mae’r tomen waith sydd wedi’i gyflwyno i mi yn ystod fy chwe mis cyntaf yn gweithio gyda Mentrau Iaith Cymru wedi fy synnu. Doeddwn i ddim yn ymwybodol cymaint o waith oedd y Mentrau Iaith yn unigol yn eu gwneud yn genedlaethol, heb sôn am waith tîm mor fychan â Mentrau Iaith Cymru o gydlynu a chyd weithio rhwng y 22 Menter Iaith sydd yn bodoli! The workload that I've been presented with during my first six months with Mentrau Iaith Cymru has taken me by surprise. I wasn't aware how much work the individual Mentrau Iaith have been doing nationally, without mentioning the work that the tiny team at Mentrau Iaith Cymru does, co-ordinating and facilitating between the 22 Menter Iaith that exist!
Mae bod yn drefnus yn holl bwysig – un o’r pethau bum ynghlwm ag ef o fewn fy wythnos cyntaf yn gweithio o’m swyddfa yng Nghaerfyrddin, oedd trefnu cynhadledd i holl brif swyddogion y Mentrau! Ystyriais y cyfle hwn o allu dod i gwrdd â phrif swyddogion y Mentrau o’r dechrau’n deg, fel un positif. Da o beth oedd trefnu ar gyfer pawb eu llety, bwyd, diddan ynghyd â siaradwyr gwadd a chynnal cyfarfodydd. Roedd gallu ymdrochi i’r graddau yma yn syth bín, yn blaeniaru’r tir ar gyfer yr hyn oedd i ddod yn sicr! Being organised is crucial- one of the things I was involved with in my first week working in my office in Carmarthen was organising a conference for all the Mentrau Iaith Chief Officers! I considered this opportunity to meet the Mentrau chief officers as a positive and good start. I enjoyed arranging everyone's accommodation, food, entertainment as well as guest speakers and hold meetings. Being thrown in at the deep end straight away definitely prepared me for what was to come!
Uchafbwynt ein gwaith fel tîm bychan y Mentrau Iaith Cymru oedd y Digwyddiad Cenedlaethol – cyfle i holl staff y 22 Menter Iaith ddod at ei gilydd am ddiwrnod llawn o gyflwyniadau diddorol, sgwrsio, rhyngweithio, gan ddysgu wrth ein gilydd a rhannu syniadau a gwybodaeth. Mae’r holl gyfarfodydd rydym wedi eu trefnu rhwng y prif swyddogion a chyfarfodydd rhwng y swyddogion maes, oll wedi helpu i greu perthynas dda rhwng swyddogion Mentrau Iaith Cymru a’r Mentrau’n unigol, gan ei gwneud hi dipyn yn haws trefnu digwyddiad ar raddfa mor fawr. Mawr obeithiwn y bydd y berthynas sefydlog yma yn parhau gan ddatblygu ymhellach.A highlight of our work as a small team at Mentrau Iaith Cymru was our National Event - an opportunity for all staff of the 22 Mentrau Iaith to join together for a full day of interesting presentations, conversations, networking, learning from each other and sharing ideas and information. All the meetings that we have arranged between the Chief Officers and between field officers has helped to create good relationships between Mentrau Iaith Cymru officers and officers at the individual Mentrau Iaith, making it easier to organise an event on such a large scale. We strongly hope that this stable relationship will continue to develop further.
Rwy’n ei theimlo’n fraint cael gweithio gyda’r Mentrau Iaith, ac er mai tîm bach yw tîm Mentrau Iaith Cymru mae ein rhwydwaith yn enfawr, a’r gefnogaeth ganddynt yn cael ei werthfawrogi’n fawr!I feel privileged to work with the Mentrau Iaith and although Mentrau Iaith Cymru is a small team our network is enormous, and their suport is greatly appreciated!

Rwy’n ei theimlo’n fraint cael gweithio gyda’r Mentrau Iaith.

mentrauiaith.cymru / mentrauiaith

Y stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn a’r Digwyddiad Genedlaethol:
The stand at the National Eisteddfod Anglesey and the National Event:

Menter Iaith Eisteddfod 2017

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Erthyglau